English
Rhestru pob cofnod yn ôl:

Casgliad o gyfweliadau a ffotograffau a gofnodwyd gan Archif Menywod Cymru yn 2013-14

Rhestru pob cofnod yn ôl:
Chwilio
Chwilio uwch

Pori'r cyfweliadau


Trefnwyd yn ôl enw'r ffatri

Anglo-Celtic Watch Co. Ltd. (inc. Smith's Industries ac Ingersoll aka 'Tic Toc'), Ystradgynlais

VSW015 Meriel Leyden, Anglo-Celtic Watch Co. Ltd. (inc. Smith's Industries ac Ingersoll aka 'Tic Toc'), Ystradgynlais

Gadawodd Meriel yr ysgol yn bymtheg oed. Bu’n gweithio mewn siop cyn cael gwaith yn Ffatri Tic Toc. Bu yno o 1955 tan 1980, pan gaeodd y ffatri. Roedd yn rhaid cael prawf llygaid gan fod y gwaith gwneud watshys yn fân iawn. Roedd yn ffatri gartrefol Gymraeg. Doedden nhw ddim yn cael siarad wrth weithio, ond roedden nhw’n canu. Sonia am yr undeb a mynd ar streic oherwydd y gwres a’r oriau hir. Disgrifia bryfocio’r dynion adeg y Nadolig a’r prentisiaid newydd; cystadleuaeth Miss Tic Toc a chymdeithasu.
Taith Ffatri Smith's Industries, o bosib i AberhondduDathliad 'stop fortnight' yn Smith's IndustriesOffer gwaith Meriel Leyden, gefel fach, sgriwdreifer,  gwydr llygad ac olwyn cydbwyseddMeriel yn derbyn ei wats ar ôl 25 mlynedd o wasanaeth oddi wrth Mr Boult, y Rheolwr Gyfarwyddwr

VSW001 Moira Morris, Anglo-Celtic Watch Co. Ltd. (inc. Smith's Industries ac Ingersoll aka 'Tic Toc'), Ystradgynlais;Ffatri Geir, Cae'r Bont

Dechreuodd Moira yn ffatri Tic Toc ar ôl gadael yr ysgol yn 15 oed (?1963). Ffatri Gymraeg iawn. Noda’r hyfforddiant; canu ar y gwaith; dal yr ‘eyeglass’ yn y llygad; targedi; a‘r straen ar y llygad i wneud wats menyw. Gadawodd i gael y plant (c.1970) ond dychwelodd i weithio ar watshys poced dynion. Yna bu’n gwneud clociau ceir yn Enfield. Yn Tic Toc - doedd dim llwch a gwisgent esgidiau rwber. Dynion oedd ar ‘inspection’ a bechgyn oedd yn brentisiaid. Sonia am chwarae triciau ar ferched a bechgyn oedd yn priodi ac ar ferched newydd, gwisgo rolyrs i fynd allan nos Wener. Dyma ‘yr ysgol ore’. Roedd Clwb yn trefnu tripiau, partïon Nadolig i’r plant, a chystadleuaeth Miss Tic Toc. Glanhau popeth pan fyddai’r rheolwr yn dod o amgylch. Symudodd i ffatri clociau ceir yng Nghae’r Bont wedyn (?1985) - gwaith mwy brwnt. Bu hi yno 28 mlynedd.
Mae rhan o'r cyfweliad hwn ar gael fel ffeil sain
Darllenwch gyfieithiad Saesneg o'r clip sain hwn

Anglomac, Penybont

VSE060 Rosalind Catton, Revlon, Maesteg;New Stylo, Penybont;Anglomac, Penybont

Gadawodd Rosalind yr ysgol yn 15oed (1958) a dechreuodd yn fuan yn Ffatri Anglomac, a oedd yn gwneud cotiau glaw. Roedd yn yr ystafell dorri - tan ei bod yn 18 dim ond gosod y defnydd allan y câi’i wneud. Roedd y torwyr i gyd yn fenywod. Caeodd y ffatri ar ôl tua blwyddyn ac aeth hi i’r ffatri esgidiau. Cred bod stigma mewn bod yn ferch ffatri. Gallai’r gyllell dorri fod yn beryglus. Mantais - prynu cotiau glaw a chael riliau cotwm. Yn New Stylo byddai’n addurno’r esgidiau gan ddefnyddio peiriant styffylu i osod yr addurn. Bu yno am flwyddyn. Ffatri fwy a mwy o gyfleusterau. Yn ddiweddarach ar ôl cael y plant aeth i Ffatri Revlon (tua 1969) ar y shifft mamau - 10-2 o'r gloch. Gwaith cyflym iawn ac anniddorol. Un dasg oedd rhoi top potel arno a’i tharo â gordd. Diddiwedd ac roedd yn rhaid i rywun gymryd ei lle petai eisiau mynd i’r toiled. Siaradai rhai o’r menywod hŷn lawer am bethau rhywiol. Gweithiodd yno’n ysbeidiol am gyfnod.

Attwood and Sawyer, Porthcawl

VSE005 Ann Owen, Attwood and Sawyer, Porthcawl

Gadawodd Ann yr ysgol yn 15 (1961) (dioddef o rhiwmatoid) a gweithiodd yn Woolworth’s cyn cael merch a thrïo am swydd yn Attwood’s. Cynigiwyd gwaith sodro iddi. Blwyddyn o hyfforddiant. Roeddent yn gwneud tlysau. Manylion y grefft. Cannoedd o gynlluniau - e.e. plu Cymreig. Ystafell haenellu. Gwneud clustdlysau Lady Diana, a mwclis Elizabeth Taylor a Pink Panther. Y prosesau gwahanol. Streic y glowyr - 1970au torri’r trydan a’r ffatri mewn anhrefn. Gorfod gweithio’r nos i wneud yr archebion a chael tâl. Wnaeth yr undeb ddim ei helpu. Roedd hi'n mwynhau hyfforddi eraill. Gweithio gyda phlwm - pothelli gwyn ar ei llaw- fflwcs heb ei wanedu. Asbestos hefyd - rhwygwyd e allan yn sydyn. Peiriant datseimio yn gollwng nwyon. Dim mygydau. Gwisgent oferôls ag A&S arnynt. Cafodd arthritis rhiwmatoid tra yno - i’r ysbyty a rhaid gadael. Câi rhai goruchwylwragedd eu bwlio i adael. Gweithiodd yno am 27 mlynedd (1969-97). Bu ganddi ail swyddi hefyd (caffes a chlybiau) i gynnal ei merch. Recordiau a chanu. Disgrifia’r tlysau gwahanol - mwclis Concorde; tiaras, crisialau Swarovski. Talai’r bosys am barti Nadolig a bocs o siocledi. Rafflo’r tlysau. Gweithiodd ar brosesau gwahanol - roedd sodro yn waith creadigol, yn gofyn am sgil.

Austin Taylor, Bethesda

VN053 Dilys Pritchard, Austin Taylor, Bethesda;Ferranti, Bangor

Gweithiodd Dilys yn Woolworth's am bedair blynedd ar ôl gadael yr ysgol. Symudodd hi i Ferranti's pan oedd tua 19 oed, yn 1961-1962, ond dim ond am chwe mis yn unig y bu yno, cyn newid i Austin Taylors, lle daeth hi yn un o'r 'gweithwyr allweddol' - yn dysgu sut i reoli pobl a rhoi hyfforddiant iddynt ar yr hyn yr oedd y ffatri yn ei gynhyrchu. Mae'n cofio un ferch yn dal ei gwallt yn y peiriant. Roedd Dilys yn gyflym i ddiffodd y peiriant ac roedd rhaid iddynt dorri rhan o'i gwallt i'w chael hi'n rhydd. Ar ôl wyth mlynedd yno, aeth hi'n sal a dywedodd y ffatri wrthi y byddai'n rhaid mynd i dribiwnal i gael ei swydd yn ôl, felly heb undeb i'w helpu hi, collodd hi ei swydd yn 1970.

AustinTaylor, Bethesda

VN054 Sandra Owen, AustinTaylor, Bethesda;High Speed Plastics, Llandygái

Yn syth ar ol gadael yr ysgol, yn 1970, aeth Sandra i'r ffatri blastig i wneud 'sun visors' a chaniau dŵr. Roedden nhw ar 'time and motion' ac roedd y cyflog yn dibynnu ar faint o’r 'sun visors' oedden nhw'n ei wneud. Ar ôl dwy flynedd, cafodd hi waith yn Austin Taylors, Bethesda, lle roedd hi'n gallu cerdded i'r gwaith. Roedd yr ail ffatri yn cynyrchu pethau electronig ac roedd hi ar y peiriannau: "Ar ôl cyrraedd landiodd hi yn y mashîn siop ‘ a rhyw anfarth o fashîn fawr. Mi oedd golwg y mashîn yn ddigon ar wneud neb redag allan oddi yna. Ond mi oedd ‘na ddynion yn gweithio yn y mashîn siop, ac yn dysgu ni. A fi oedd yr unig un, geithon ni’n gwahanu i gyd i wahanol adranna yn y ffatri. Ymhen dau, dri dirwnod on i ‘di dod yn real boi ar y mashîn ac on i’n ddigon hapus." Roedd y gweithwyr yn gweithio 56 awr yr wythnos weithiau er mwyn cyrraedd eu targedau. Wedyn, daeth Sandra yn oruchwylwraig. Gadawodd hi yn 1998 pan oedd y ffatri yn cau a dechreuodd hi ei busnes ei hun, yn darparu cywion ieir i gigyddion led led Cymru .

Avana Bakery, Caerdydd

VSE021 Doreen Lawson, Ffatri Sigarau JR Freeman, Caerdydd;Elkes Biscuits, Caerdydd;Avana Bakery, Caerdydd

Gadawodd Doreen yr ysgol yn 15oed (1955) a gweithiodd yng nghaffe Littlewood’s cyn mynd i Avana’s (1958). Bu’n rhoi cnau ar gacennau Dundee - gwisgo oferôls a thwrban. Newid swyddi ond anodd cadw i fyny â’r felt gynhyrchu. Ar ddydd Sadwrn gwisgai rolyrs o dan y twrban - dweud wrthi am eu tynnu. Arwain y drygioni. Siarad am y gweithwyr tramor yn y ffatri. Canu gyda’r radio. Cacennau i M&S. Dawnsio a sglefr-rolio yng Nghaerdydd. Drygioni: cael ei herio i fynd lawr y felt gynhyrchu i’r bae llwytho; clymu careiau sgidiau. Y dynion oedd yn gweithio’r ffyrnau. Gwnaethon nhw gacen ben-blwydd 21 oed iddi yno. Gadawodd i briodi. Arhosodd 2 fis yn ffatri Lyonite, Treganna, yn gwneud blychau miwsig, ond gwynt glud. Yna bu mewn londris am fisoedd ac yna i Freeman’s tua 1965-6. Gweithio ar yr hopran . Rhoi’r ddeilen olaf ar y sigâr. Yna’n feichiog a gadael (1968). Os yn hwyr collai ei pheiriant. Mae mewn rhaglen ddogfen am hyfforddiant yn y ffatri sigâr. Wedyn bu mewn bwyty am 21 mlynedd. Bu yn Elke’s Biscuits am tua 8 mis rhwng Avana a Freeman’s. Ceisiodd arwain streic yno oherwydd y gwres. Yn Arana collodd person ei fys mewn peiriant ond rhoddwyd e’n ôl yn ei le. Mwynhaodd yn y ffatrïoedd.

Avon Inflatables, Dafen

VSW050 Beryl Jones, Avon Inflatables, Dafen;Hodges, Fforestfach

Dechreuodd Beryl yn ffatri Hodges yn 1960/1 (tan 1964) ar ôl gadael yr ysgol yn 15. Cnociodd ar ddrws y ffatri gyntaf y daeth ati. Roedd yn gwneud siwtiau dynion: dynion yn torri mas a merched yn gwnïo. Yn y 'cutting room' y bu hi. Sonia am bwysigrwydd undebaeth yn y ddwy ffatri; rhoi ei chyflog i’w mam; merched Abertawe; y 'monkey parade'. Ar ôl priodi a magu’r plant aeth i weithio i Avon Inflatables yn 1980 yn gwneud dinghies. Disgrifia wynt y gliw yno a chŵyn am ei bod yn siarad Cymraeg. Dysgu am fywyd mewn ffatri. Gadawodd yn 1990.

Barton's, Merthyr

VSE025 Mair Richards, Forma, Merthyr;Kayser Bondor, Merthyr;Courtaulds, Merthyr;Chard's, Llundain;AB Metals, Abercynon;Barton's, Merthyr

Gadawodd Mair yr ysgol ramadeg oherwydd salwch ei thad, yn 15½ oed, gweithiodd yn W.H. Smiths cyn ymuno â Kayser Bondor tua 1952. Roedd ei mam yn gwrthwynebu iddi weithio mewn ffatri. Mae’n disgrifio’r cyfweliad, y ffatri lân - amseru mynd i’r toiledau; torri allan â llaw - lliwiau a meintiau gwahanol; cynhyrchu bras a pheisiau mewn archebion enfawr; pwysigrwydd KB i Ferthyr. Yn Nowlais ( 1960 ymlaen) roedden nhw’n gwneud sanau sidan a dillad eraill. Cofia godi arian yn y ffatri wedi trychineb Aberfan. Noda ddathliadau’r Nadolig; y raddfa dâl; undebau; un streic am dâl a sut roedd Courtaulds yn eu trin. Sonia am ddamweiniau gyda’r cyllyll torri allan. Doedd hi ddim yn hoffi gweithio’n A.B. Metals - budr a merched gwahanol. Dychwelodd i KB a phan gaeodd honno aeth i Barton’s ac yna Forma - lle bu’n goruchwylio’r ystafell dorri allan. Gorffennodd yno yn 1995.

Berlei Bras, Dowlais

VSE015 Luana Dee, Sobells, Aberdâr;TBS South Wales Ltd, Merthyr;NATO clothing factory, Rhymni;Guest Keen and Nettlefold (GKN), Merthyr;Thorns, Merthyr;Berlei Bras, Dowlais;Lines (Triang), Merthyr

Mae Luana yn sôn am ei chefndir teuluol lliwgar a dychwelyd i Ferthyr o dramor. Gadawodd yr ysgol yn 15 oed (1967) ac yn fuan wedyn dechreuodd weithio yn Berlei Bras fel 'machinist' (2 flynedd). Cymysgedd o ferched swil a chryf yno. Peiriannau gwych Almaenig Pfaff. Sioeau ffasiwn gyda’r cyflogeion yn modelu dillad isaf. Gwaith ar dasg - talu am bob bra. Taflu’r 'seconds' mewn biniau - trwsio a ddim yn ennill cyflog wedyn. Ei golwg yn dda ac roedd yn gyflym -felly ei rhoi ar y bras duon. Gwaith mwy anodd a cholli arian. Cafodd ei symud i’w stopio rhag creu trwbwl. Rhaid gofyn i fynd i’r toiled a’r oruchwylwraig yn curo’r drws. Yn cael eu gwylio drwy’r amser. Diswyddo - ansawdd ei gwaith? Neu rhy fyrbwyll? Yn syth i swydd arall. Yn BB roedd y sioeau ffasiwn ar lawr y ffatri - cystadleuaeth Miss Berlei Bra? Disgrifia’r ffatri. Ensyniadau rhywiol yn gyffredin. Dawnsfeydd Nadolig a thripiau. Nesaf - i ffatri Triang - gwnïo clustogwaith trwm (arhosodd 1 flwyddyn). Cael hwyl gyda bois y ffatri ym Mharc Cyfarthfa ar bnawniau Gwener. Deuai rhai dynion â lluniau pornograffig i’r ffatri - agoriad llygad. Gadael oherwydd dim dyfodol yno. Ymlaen i Thorn’s yn gwneud ffilamentau bylbiau golau. Disgrifia’r broses. Siapaneaid yn cymryd drosodd - mwy o straen ac arhosodd lai na blwyddyn. Symud i ffatri yn gwneud dillad diwydiannol i NATO - gwnïo trwm, mwy o ddynoliaeth yma. Yn ffatri TSB roedden nhw’n gwneud cabinetiau ffeilio ac roedd yn cyfathrebu’n dda gyda'i chydweithwyr. Roedd hi yn y swyddfa nawr. Dim ond am wythnosau y bu hi’n Sobell’s - lle enfawr, diwydiannol ac estron.
Mae rhan o'r cyfweliad hwn ar gael fel ffeil sain

Administration