English
Rhestru pob cofnod yn ôl:

Casgliad o gyfweliadau a ffotograffau a gofnodwyd gan Archif Menywod Cymru yn 2013-14

Rhestru pob cofnod yn ôl:
Chwilio
Chwilio uwch

Cyfweliad ar Hap

VN040 Margaret Humphreys, Laura Ashley, Y Drenewydd;Laura Ashley, Carno

Mae Margaret o Fetws y Coed yn wreiddiol a bu'n cadw gwely a brecwast yno cyn symud i Garno. Roedd y gŵr yn dod o Garno felly roedd o'n nabod Meirion Rowlands, y 'managing director' yn Laura Ashley, a chawson nhw air efo fo, yn deud bod nhw'n symud ac yn tybio a oedd gwaith iddi yn y ffatri. Dywedodd Margaret ei bod hi'n ddiawledig mynd i mewn i ffatri. “Oedd o ddim yn ddiawledig, ond do, fues i dipyn, cofiwch, yn dod i arfer. Oedd na gymaint yn y ffactri i nabod pawb. Un person on i, ynde, a pawb arall yn nabod un yn syth, fel 'tai, 'Oh, new girl working today, she's from Carno,' ond roedd rhaid i mi nabod pawb ond oedd?, mi gymerodd amser, cofiwch. Do, dipyn. Ac i ddeud y gwir, o bob tŷ, rhywun yn gweithio yn Ashleys, ylwch, gŵr a gwraig a phlant os oedden nhw wedi tyfu i fyny.” Roedd plant ganddi hi a chafodd hi oriau o naw tan dri. Swydd ar yr 'overlocker' oedd ei gwaith cyntaf yn Laura Ashley, er bod ganddi ddim syniad sut i ddefnyddio'r peiriant hwnnw. Wnaethon nhw roi hyfforddiant o chwe wythnos iddi ond mewn chwe wythnos roeddech chi'n gwybod dipyn, meddai. Yn ddiweddarach daeth yn oruchwylwraig pan symudodd y ffatri i'r Drenewydd a newid i gynhyrchu ffabrigau dodrefnu meddal. Ymddeolodd hi yn 60 oed ond aeth yn ôl am ychydig o flynyddoedd, nid ar y peiriannau, ond yn gwneud pethau eraill fel gwasanaeth cwsmeriaid tan iddi ymddeol yn 1999.
Mae rhan o'r cyfweliad hwn ar gael fel ffeil sain
Darllenwch gyfieithiad Saesneg o'r clip sain hwn

Administration