English
Rhestru pob cofnod yn ôl:

Casgliad o gyfweliadau a ffotograffau a gofnodwyd gan Archif Menywod Cymru yn 2013-14

Rhestru pob cofnod yn ôl:
Chwilio
Chwilio uwch

Pori'r cyfweliadau


Trefnwyd yn ôl enw'r ffatri

Kayser Bondor, Merthyr

VSE024 Irene Hughes, Kayser Bondor, Merthyr

Gadawodd Irene yr ysgol yn 16oed (1949) a dechreuodd yn Kayser Bondor ar Fawrth 9fed.Bu’n gweithio yn yr adran strapiau am 25 mlynedd ac yna ar y turn yn torri. Roedd yn bwydo dau beiriant ar yr un pryd. Yna cai’r strapiau eu torri ac yna aent at y bwclerwyr. Newidiwyd y rhain i strapiau rhuban wedyn. Byddai’n mynd â gwaith adre bob nos. ‘Chinese labour’! Roedd y rhai'n gwneud y dillad yn ennill mwy. Byddai’n rhoi ei holl arian i’w mam. Roedd siop yno yn gwerthu nwyddau NQP ('Not Quite Perfect'). Bu ar streic am dâl ac yn picedu - yn coginio dros dân coed y tu allan. Nodwyddau trwy ei llaw - ac i’r ysbyty, cafodd lawfeddygaeth i’w cael allan. Collodd dop ei bawd hefyd - ei bwytho nôl a chael £200 o iawndal. Collodd un ferch ei gwallt - moel. Yn y cantîn, chwaraeid yr un gerddoriaeth bob dydd: ‘Itsy bitsy’ ac ar y wal roedd slogan ‘Output is the main key to prosperity’! Cafodd tinnitus oherwydd y sŵn. Byddent yn ffraeo gyda’r dynion am beidio â thynnu’u pwysau. Caent hwyl am ben y bechgyn o’r fyddin yn dysgu gwnïo. Seiclo i’r gwaith. Gweithiodd yn Kayser Bondor ym Merthyr a Dowlais. Clybiau hoci a phêl-droed. Cyngherddau Nadolig hyfryd. Clybiau 10 a 21 mlynedd. Yn y clwb 21 mlynedd cafodd 21 gini a phrynodd wats aur Rotari. Cafodd wn-nos a negligé hefyd am beidio â cholli gwaith. Aduniad. Cafodd ei diswyddo yn 51 oed (1984).

VSE028 Marion Blanche Jones, Hoover, Merthyr;Teddington Aircraft, Merthyr;Birmingham Small Arms, Dowlais;AB Metals, Abercynon;Kayser Bondor, Merthyr

Gadawodd Marion yr ysgol tua16 oed (1951) a dechreuodd yn Kayser Bondor - tan 1958. Teimla iddi gael ei gyrru o un man i’r llall yno, felly gadawodd. Gan nad oedd ganddi swydd barhaol yno roedd yn anodd ennill arian da. Canu a chwifio i’r hoff ganeuon. Symudodd i AB Metals - yn gwneud tiwnwyr teledu. Cafodd ei diswyddo ar ol 2-3 years - caeodd yr uned deledu. Yn Kayser Bondor deuai adre’n crio am nad oedd yn ennill llawer. Roedd wrth ei bodd yn AB Metals. Rhoddai ei holl bae i’w mam nes iddi farw (1960). Yn nesaf bu yn BSA yn gwneud darnau o ynnau - caeodd o fewn blwyddyn. Yna yn Teddington’s yn gwneud darnau ar gyfer awyrennau. Glanhau coiliau dan chwyddwydr. Yna aeth i Hoover’s yn 1963. £10 yr wythnos a bonysau bob wythnos, mis a Nadolig. Yna dechreuodd mater cydraddoldeb. Roedd hi’n aelod o undeb ac yn 'shop steward.' Gweithiai ar y bagiau gwaredu newydd. Wedi pasio Deddf Tâl Cyfartal,1970 - aeth y dynion yn chwerw. Gwyddai’r menywod bod merched Ford’s (Dagenham) yn cael tâl cyfartal. Cysyllton nhw ag Ann Clwyd am gyngor. Aethant ar y rheolwyr ond dwedodd y 'convenor' nad oedden nhw’n gwneud yr un gwaith â’r dynion. Y dynion ar streic ond bu'n rhaid ildio. - drwg deimlad am flynyddoedd. Nid brwydr yn erbyn y cwmni ond yn erbyn yr undeb. Disgrifia newid yn y peiriannau. Tua 7000 o gyflogeion yn nhair ffatri Merthyr. Hoover yn cydnabod gwasanaeth 5,10,15,20 and 25 mlynedd - mwclis. Disgowntiau da i staff. Blynyddoedd o draul ar ei chorff. Swnllyd ac iawndal. Digwyddiadau gan yr adrannau gwahanol - ond newid pan gymerodd cwmnïau eraill drosodd. Gadawodd yn 1992 ar ôl 29 mlynedd.
Marion Jones (ar y chwith) a chydweithwraig yn Hoover, 1960au cynnarBarbara Vaughan yn y gwaith yn Hoover, 1960au cynnar

VSE069 Kath Mathias, AB Metals, Abercynon;Kayser Bondor, Merthyr;Pentrebach polish factory, Merthyr

Gadawodd Kathleen yr ysgol yn 15oed (1955) a dechrau yn y swyddfa yn y ffatri gwneud polish - bu yno 9 mis. Roedd yn dywyll a diflas felly symudodd i ffatri Kayser Bondor. Gweithiai yn y swyddfa 'ticketograph' - telid y cyflogau yn ôl y tocynnau a gesglid. Yna aeth ar gwrs comptomedr a symud i’r adran gyflogau. Eglura’r comptomedr. Talodd y cwmni am y cwrs. Symudodd y ffatri i Ddowlais. Bws am ddim adre. Daeth yn oruchwylwraig (1960). Tan ei bod yn 18 oed cymerai ei mam ei holl bae (arian poced yn unig) ond yna aeth ar fwyd a llety. Mynd i ddawnsio. Gadawodd am Lundain (chwe mis) ond dychwelodd i Ffatri AB Metals, ac yna i Kayser Bondor (adran gyfrifon) eto ac yna cafodd fabi. Os oeddech chi’n gyflym ac yn gywir gallech ennill llawer o arian yn KB. Stori am ei modryb a’i dallineb ac yn prynu tafarn gyda’r arian enillodd hi. Roedd y rhai ar lawr y ffatri’n ennill mwy na merched y swyddfa. Enillai’r dynion fwy na’r merched. Fel goruchwylwraig byddai’n archebu’r arian cyflog - e.e. hyn o hyn o bapurau £1. Gweithien nhw’r system Kalamazoo. Trafferth am oferôls staff y swyddfa. Gweithio blwyddyn cyn bod hawl i gael tâl gwyliau. Noda lle bu ar wyliau - o Blackpool i’r Eidal. Dawns Nadolig yn Neuadd y Ddinas Caerdydd - gyda thrên arbennig. Bu yn gweithio yn ffatrïoedd eraill KB hefyd e.e. yn Brighton - math o brofiad gwaith. Bu’n gweithio hefyd mewn ffatri dillad wedi’u gwau yng Nghaerlŷr am 5 mlynedd a bu’n rhedeg tafarn hefyd.

VSE025 Mair Richards, Forma, Merthyr;Kayser Bondor, Merthyr;Courtaulds, Merthyr;Chard's, Llundain;AB Metals, Abercynon;Barton's, Merthyr

Gadawodd Mair yr ysgol ramadeg oherwydd salwch ei thad, yn 15½ oed, gweithiodd yn W.H. Smiths cyn ymuno â Kayser Bondor tua 1952. Roedd ei mam yn gwrthwynebu iddi weithio mewn ffatri. Mae’n disgrifio’r cyfweliad, y ffatri lân - amseru mynd i’r toiledau; torri allan â llaw - lliwiau a meintiau gwahanol; cynhyrchu bras a pheisiau mewn archebion enfawr; pwysigrwydd KB i Ferthyr. Yn Nowlais ( 1960 ymlaen) roedden nhw’n gwneud sanau sidan a dillad eraill. Cofia godi arian yn y ffatri wedi trychineb Aberfan. Noda ddathliadau’r Nadolig; y raddfa dâl; undebau; un streic am dâl a sut roedd Courtaulds yn eu trin. Sonia am ddamweiniau gyda’r cyllyll torri allan. Doedd hi ddim yn hoffi gweithio’n A.B. Metals - budr a merched gwahanol. Dychwelodd i KB a phan gaeodd honno aeth i Barton’s ac yna Forma - lle bu’n goruchwylio’r ystafell dorri allan. Gorffennodd yno yn 1995.

VSE062 Edith Williams, OP Chocolates, Merthyr;Kayser Bondor, Merthyr

Gadawodd Edith yr ysgol yn 14+oed (1946) a dechrau yn Ffatri Kayser Bondor, yn sodli sanau. Gwaith ar dasg. Aeth i Balas ? Buckingham (San Steffan) i geisio cadw’r ffatri ar agor yn 1977. Roedd yn ferch yr undeb ('Hosiery Workers’ Union') - cafwyd llawer o anghydfodau am arian a byddai’n rhaid iddi hi negydu rhwng y ddwy ochr. Cymerwyd y ffatri drosodd gan Courtaulds - yr ysgrifen ar y mur. Aeth hi i OP Chocolates yna yn gwneud peli caws a’u rhoi mewn tuniau. Dywed stori am lastig ei throwser yn torri a gorfod aros i rywun ddod i gymryd ei lle ar y llinell gynhyrchu. Gweithiodd yno am 6½ mlynedd. Yn Kayser Bondor byddai’r dynion yn gweithio ar shifftiau ond nid y menywod. Cyfleusterau chwaraeon: tennis bwrdd a thennis. Dawnsfeydd Nadolig yn Neuadd y Ddinas, Caerdydd. Côr y ffatri. Roedd gwnïo semau mewn sanau yn waith crefftus.

VSE030 Maureen Williams, Kayser Bondor, Merthyr

Gadawodd Maureen yr ysgol ramadeg yn 15 oed (1950) a mynd i’r coleg technegol, yna i weithio i fasnachwr glo a chafodd brofiad helaeth o waith yno. Symudodd i adran gyflogau Kayser Bondor a hyfforddi i ddefnyddio 'comptometer'. Talu merched ar waith ar dasg. Cadw manylion pob un ar gerdyn. Tua 1,000 o gyflogeion ac roedd hi’n gyfrifol am gofnodion 200 yr wythnos. Defnyddio System Kalamazoo. Gweithiodd yno am 9 mlynedd a bu yn yr adran gyfrifon hefyd, ac yna’n oruchwylwraig. Symudodd y cynhyrchu i Ddowlais – bu yno am 1 flwyddyn cyn mynd yn feichiog. Câi cyflogau staff eu cadw’n gyfrinachol. Byddai eitemau 'Not Quite Perfect' a gwastraff yn cael eu gwerthu yn siop y ffatri. Roedd dillad isaf y ffatri yn fendigedig. Hi oedd yn cadw cyfrifon y siop hefyd. Casglent docynnau oddi wrth y merched ar lawr y ffatri - cerdyn cofnod personol. Gwnïo dillad duon yn cael eu prisio yn uchel. Câi’r clerc fonws am weinyddu ffioedd yr undeb. Roedd cyfleusterau ar wahân yn y cantîn a’r toiledau i’r goruchwylwyr. Talu ar ddydd Gwener a gweithio’n hwyr ar nos Iau. Dawnsfeydd - rhwng ffatrïoedd. Gweithiodd am fis yn Hoover’s - llawer mwy strict yn yr adran gyflogau. Naw mlynedd yn ddiweddarach, tua 1969, aeth i TBS - doedd dim cyfrifianellau yno! Bu yno am 25 mlynedd. Gwnâi’r costio, y cyflogau a’r cyfrifon.

VSE022 Margaret Anne Amblin (nee Williams), Thorns, Merthyr;Kayser Bondor, Merthyr

Gadawodd Anne yr ysgol yn 16 oed (1957) ac aeth yn syth i Kayser Bondor - yn gwneud dillad isaf. Roedd ysgol hyfforddi yno - dysgu gweithio’r peiriannau a’u glanhau. Lle pert i weithio ynddo. Ei pheiriant ei hun - agorai’r bwndel a thynnu’r tocyn, gwnïo ac yna ail-glymu’r bwndel. Gwaith ar dasg. Gweithiodd yno nes geni’i mab cyntaf 1966. Aeth yn rhan amser yn ddiweddarach. Roedd M&S yn mynnu safon. Glân iawn. Byddai’r merched yn gwneud sioeau ffasiwn - o’r dillad isaf. Prynu dillad ar gerdyn yn siopau Merthyr. Byddai’r goruchwylwragedd a’r rheolwyr yn eu gwylio. Canu - roc a rôl a jeifio. Un 'machinist' gwrywaidd - tynnu ei goes. Bywyd cymdeithasol - dawnsfeydd. Mae’n sôn am offer newydd yn y cartref. Doedd ei hewyrth ddim yn fodlon i’w wraig ddefnyddio’r peiriant golchi hebddo fe. Digwyddiadau rhyng-ffatri ym Merthyr. Aeth ar ei thrip cyntaf dramor i’r Eidal gyda ffrindiau tua 1958-9. Yn ystod ei hyfforddiant byddent yn mynd allan i wneud ymarferion cadw’n heini. Y ffatri yn symud i Ddowlais. Gadawodd yno tua 1968/9. Pan oedd y plant yn hŷn aeth i ffatri Thorn’s - shifft gyda’r nos, yn gwneud bylbiau golau. Llwytho bylbiau i dyllau yn y felt gynhyrchu. Bu’n gweithio yno hefyd ar shift ran amser yn y dydd.

Lastex Yarn and Lactron Threads (LYLT), Rhigos, Hirwaun estate

VSE082 Mary Patricia (Pat) Howells, Dunlop, Rhigos, Stad Hirwaun;Lastex Yarn and Lactron Threads (LYLT), Rhigos, Hirwaun estate

Cofia Pat ei gwaith ar Stad Ddiwydiannol Rhigos a sut yr oedd ei thad yn beiriannydd yn ffatri Dunlop's yno. Gadawodd yr Ysgol yn bymtheg oed i weithio yn Dunlop's hefyd lle'r oedd yn trimio matresi a chlustogau a.y.b. Byddai'n rhoi ei phecyn pai i'w mam. Fel teulu, roeddent yn byw mewn t? a adeiladwyd ar gyfer gweithwyr y stad. Doedd y gweithwyr ddim yn siarad dim ond gweithio, gweithio, gweithio. Yna symudodd i ffatri Lastex Yarns and Lactron Threads (LYLT) - gwell rhagolygon gyrfa. Daeth yn oruchwylwraig ac yna'r fforman Mae'n cofio colli top ei bys yn Dunlop's. Fel goruchwylwraig roedd yn delio a phroblemau personol, e.e. beichiogrwydd. Roedden nhw'n defnyddio llawer o sialc Ffrengig yr oedd yn rhaid ei chwythu oddi ar eu hoferôls. Caent wrando ar y radio am awr y dydd. Clwb Chwaraeon a chymdeithasol - roedden hi'n chwarae pêl-rwyd a gwneud saethyddiaeth. At hyn roedd dramâu yn y cantîn. Roedd cystadleuaeth Miss Dunlop bob blwyddyn. Priododd löwr a gadawodd y ffatri pan oedd yn disgwyl babi.
Gwqeithwyr Dunlop yn y canteen 1950au. Siaradwraig: Pat Howells, ail o'r chwith, arolygyddCystadleuaeth harddwch Dunlop, 1950au - Pat Howells ail o'r ddeMiss Dunlop 1957. Cystadlaeuaeth yng Nghantn Dunlop. Pat Howells 4ydd o'r ddeCystadleuwyr Miss Dunlop 1957. Pat Howells 4ydd o'r chwith

Laura Ashley, Carno

VN041 Glenys Hughes, Laura Ashley, Carno;Laura Ashley, Y Drenewydd;Universal Shirt Co., Y Drenewydd

Gadawodd Glenys yr ysgol cyn ei phen-blwydd yn 15 oed a dechreuodd weithio mewn ffatri wnïo yn y Drenewydd. Roedd hi'n dal i fyw gartref. Nid oedd hi wedi bod yn gwnïo cyn hynny a chafodd hyfforddiant pan ddechreuodd hi, ac roedd hi'n hoffi'r gwaith. Enw'r ffatri oedd yr Universal Shirt Company. Roedd hi yno am bum mlynedd cyn gadael i weithio yn Laura Ashley yng Ngharno yn 1967. Dechreuodd yn Nhŷ Brith, ffatri wreiddiol yng Ngharno. Roedd y lle yn neis meddai, ac nid oedd llawer o ferched yno ar y pryd. Roedd yn fach o'i gymharu â'r ffatri yn y Drenewydd, a oedd yn enfawr. Ei chyflog yn Laura Ashley oedd £9, 17 a 6d. Felly yr oedd 10s o wahaniaeth, a oedd yn llawer bryd hynny. Dechreuodd ar lieiniau sychu llestri a ffedogau, ac nid yw'n credu eu bod yn gwneud dillad ar y pryd. O ddydd i ddydd, roedd toriad yn y bore ac unwaith eto yn y prynhawn, a hanner awr i ginio. Roedd cantîn bach ar gyfer te a choffi a âi â'i brechdanau ei hun i mewn. Yn aml, ai'r gweithwyr allan i fwyta eu cinio. Roedd Glenys yn gyrru i'r gwaith. Yn ddiweddarach daeth yn oruchwylwraig ac yn gweithio allan gyfraddau 'piecework' y peirianwyr. Cymerodd dâl diswyddo cyn oedran ymddeol ac aeth i weithio mewn ffatri wnïo arall yn y Drenewydd, hyd nes iddi ymddeol yn 65 oed yn 1998.

VN040 Margaret Humphreys, Laura Ashley, Y Drenewydd;Laura Ashley, Carno

Mae Margaret o Fetws y Coed yn wreiddiol a bu'n cadw gwely a brecwast yno cyn symud i Garno. Roedd y gŵr yn dod o Garno felly roedd o'n nabod Meirion Rowlands, y 'managing director' yn Laura Ashley, a chawson nhw air efo fo, yn deud bod nhw'n symud ac yn tybio a oedd gwaith iddi yn y ffatri. Dywedodd Margaret ei bod hi'n ddiawledig mynd i mewn i ffatri. “Oedd o ddim yn ddiawledig, ond do, fues i dipyn, cofiwch, yn dod i arfer. Oedd na gymaint yn y ffactri i nabod pawb. Un person on i, ynde, a pawb arall yn nabod un yn syth, fel 'tai, 'Oh, new girl working today, she's from Carno,' ond roedd rhaid i mi nabod pawb ond oedd?, mi gymerodd amser, cofiwch. Do, dipyn. Ac i ddeud y gwir, o bob tŷ, rhywun yn gweithio yn Ashleys, ylwch, gŵr a gwraig a phlant os oedden nhw wedi tyfu i fyny.” Roedd plant ganddi hi a chafodd hi oriau o naw tan dri. Swydd ar yr 'overlocker' oedd ei gwaith cyntaf yn Laura Ashley, er bod ganddi ddim syniad sut i ddefnyddio'r peiriant hwnnw. Wnaethon nhw roi hyfforddiant o chwe wythnos iddi ond mewn chwe wythnos roeddech chi'n gwybod dipyn, meddai. Yn ddiweddarach daeth yn oruchwylwraig pan symudodd y ffatri i'r Drenewydd a newid i gynhyrchu ffabrigau dodrefnu meddal. Ymddeolodd hi yn 60 oed ond aeth yn ôl am ychydig o flynyddoedd, nid ar y peiriannau, ond yn gwneud pethau eraill fel gwasanaeth cwsmeriaid tan iddi ymddeol yn 1999.
Mae rhan o'r cyfweliad hwn ar gael fel ffeil sain
Darllenwch gyfieithiad Saesneg o'r clip sain hwn

Administration