English
Rhestru pob cofnod yn ôl:

Casgliad o gyfweliadau a ffotograffau a gofnodwyd gan Archif Menywod Cymru yn 2013-14

Rhestru pob cofnod yn ôl:
Chwilio
Chwilio uwch

Pori'r cyfweliadau


Trefnwyd yn ôl enw'r ffatri

Berleis, Pontardawe

VSW030 Di-enw, Berleis, Pontardawe;Anglo-Celtic Watch Co. Ltd. (inc. Smith's Industries ac Ingersoll aka 'Tic Toc'), Ystradgynlais;Economics, Pontardawe

Disgrifia y siaradwraig ei magwraeth. Gadawodd yr ysgol i weithio yn Woolworths’ cyn symud i ffatri Tic Toc (c. 1958), lle'r oedd yn ennill ‘lot o arian’. Gadawodd pan oedd yn feichiog (c. 1965). Pan oedd y plant yn fach dechreuodd yn ffatri Economics yn gwneud drymiau i waith y Mond (c.1970-1). Roedd hwn yn waith budr dan amodau swnllyd a gwael. Symudodd i weithio yng nghantîn Berlei’s (c.1971-81) a daeth yn rheolwraig yno. Disgrifia brynu bras am chwe cheiniog, amseru mynd i’r toiledau, ‘talwyr da’, undebaeth, cerddoriaeth, a thrip ar y trên i Lundain gyda ffatri Merthyr. Pan gaeodd y ffatri aeth yn ôl i Tic Toc (gwaith Rover) (1983-90). Daeth yn oruchwylwraig yno a gwnaeth radd mewn rheoli busnes.

Bernard and Lakin, Aberpennar

VSE064 Martha Irene Lewis (Rene), Bernard and Lakin, Aberpennar;Alexon Steinberg, Trefforest

Gadawodd Irene yr ysgol yn 14oed (1941) ac arhosodd gartref yn helpu ei mam am 4 blynedd cyn dechrau yn Ffatri Steinberg yn 1946 (ffatri newydd). Gweithiai ar y botymau - ar gyfer sgerti a siwtiau. Arferai fodelu’r dillad ar gyfer y rheolwr. Âi llawer o’r dillad i America - roeddent yn ddillad drud. Ar ddydd Sadyrnau caent ddiwrnodau agored - gallai pobl ddod i brynu dillad eilradd. Cafodd ei chwaer chwalfa nerfol tra roedd yn gweithio yno ond rhoddwyd job ysgafn iddi nes ei bod yn well (arhosodd yno am 50 mlynedd arall a chafodd wats aur!) Cerddoriaeth a chanu. Doedd hi ddim yn gallu fforddio dillad y ffatri. Roedd y ffatri yn sych oherwydd y dwst o’r dillad. Roedd yn boeth oherwydd eu bod yn gwneud dillad gaeaf trwm yn yr haf. Arhosodd yno tan 1952 a gadawodd pan oedd yn feichiog. Ar ddechrau’r 1960au aeth i weithio mewn ffatri ddillad arall - Bernard and Lakin. Bu yno am tua 3 blynedd.

Bernard Wardell, Caernarfon

VN007 Dafydd Llewelyn, Compactau James Kaylor, Caernarfon;Bernard Wardell, Caernarfon

Dechreuodd Dafydd fel prentis 'tool setter' yn ffatri compactau Kaylor ar ôl gadael yr ysgol yn bymtheg oed. Roedd am fod yn yrrwr a dim ond am flwyddyn y bu'n y ffatri cyn cael swydd ar fan y Co-op. Prif waith Dafydd yn y ffatri oedd mynd rownd i newid tŵls ar y 'presses', a gwthio'r compactau i mewn i dwnnel lle roedd gwres yn mynd arnyn nhw, a phethau eraill fel 'maintenance', ond 'tool setter' oedd o i fod. Doedd o ddim yn hoffi'r swydd achos y ffordd roedden nhw'n trin pobl, yn enwedig y ddau fforman, ond dywedodd bod y genod yn grêt. Pan oedd yn cerdded lawr trwy'r mashîns roedd y merched yn tynnu ei goes a gweiddi “Ti isio 'thrill'?” a fo yn bymtheg oed! Roedd yn sôn am fynd i'r cantîn, a bod dynes neis yn gadael iddo dalu yfory os nag oedd digon o bres gynno fo. Dim pryd o fwyd oedden nhw'n ei serfio yno, ond snacs. Ac roedd rhai o'r merched hŷn yn edrych ar ei ôl o, er bod nhw'n deud pethau bach gwirion pan oedd yn pasio heibio, cael hwyl, wincio a phethau. Bu'n gweithio mewn ffatri arall, Bernard Wardell, ar ôl gadael Kaylors am gyfnod byr, ond gwaith gyrru oedd ei brif waith trwy gydol ei oes.
Y Ffatri Gompactau, tu mewn, gyda merched yn gweithio, 1950auY Ffatri Gompactau, tu mewn, 1950au

Birmingham Small Arms, Dowlais

VSE028 Marion Blanche Jones, Hoover, Merthyr;Teddington Aircraft, Merthyr;Birmingham Small Arms, Dowlais;AB Metals, Abercynon;Kayser Bondor, Merthyr

Gadawodd Marion yr ysgol tua16 oed (1951) a dechreuodd yn Kayser Bondor - tan 1958. Teimla iddi gael ei gyrru o un man i’r llall yno, felly gadawodd. Gan nad oedd ganddi swydd barhaol yno roedd yn anodd ennill arian da. Canu a chwifio i’r hoff ganeuon. Symudodd i AB Metals - yn gwneud tiwnwyr teledu. Cafodd ei diswyddo ar ol 2-3 years - caeodd yr uned deledu. Yn Kayser Bondor deuai adre’n crio am nad oedd yn ennill llawer. Roedd wrth ei bodd yn AB Metals. Rhoddai ei holl bae i’w mam nes iddi farw (1960). Yn nesaf bu yn BSA yn gwneud darnau o ynnau - caeodd o fewn blwyddyn. Yna yn Teddington’s yn gwneud darnau ar gyfer awyrennau. Glanhau coiliau dan chwyddwydr. Yna aeth i Hoover’s yn 1963. £10 yr wythnos a bonysau bob wythnos, mis a Nadolig. Yna dechreuodd mater cydraddoldeb. Roedd hi’n aelod o undeb ac yn 'shop steward.' Gweithiai ar y bagiau gwaredu newydd. Wedi pasio Deddf Tâl Cyfartal,1970 - aeth y dynion yn chwerw. Gwyddai’r menywod bod merched Ford’s (Dagenham) yn cael tâl cyfartal. Cysyllton nhw ag Ann Clwyd am gyngor. Aethant ar y rheolwyr ond dwedodd y 'convenor' nad oedden nhw’n gwneud yr un gwaith â’r dynion. Y dynion ar streic ond bu'n rhaid ildio. - drwg deimlad am flynyddoedd. Nid brwydr yn erbyn y cwmni ond yn erbyn yr undeb. Disgrifia newid yn y peiriannau. Tua 7000 o gyflogeion yn nhair ffatri Merthyr. Hoover yn cydnabod gwasanaeth 5,10,15,20 and 25 mlynedd - mwclis. Disgowntiau da i staff. Blynyddoedd o draul ar ei chorff. Swnllyd ac iawndal. Digwyddiadau gan yr adrannau gwahanol - ond newid pan gymerodd cwmnïau eraill drosodd. Gadawodd yn 1992 ar ôl 29 mlynedd.
Marion Jones (ar y chwith) a chydweithwraig yn Hoover, 1960au cynnarBarbara Vaughan yn y gwaith yn Hoover, 1960au cynnar

British industrial Solvents, Port Talbot

VSE056 Betty Gwendoline Metcalfe, British industrial Solvents, Port Talbot

Tra roedd yn ddisgybl yn Ysgol Ramadeg Pen-y-bont pasiodd Betty 13 Lefel O ac aros ymlaen i wneud Lefel A, ond yna penderfynodd adael (1950) ac aeth am gyfweliad yn ei gwisg ysgol i’r Ffatri Carbid, a oedd yn cynhyrchu nwy asetylen. Gweithiai yn y Labordy yn profi cerrig calch lleol a.y.y.b. Mae’n disgrifio’r dwst, peryglon gweithio gydag asid nitrig, merched garw; cyrsiau’r coleg technegol; anghyfartaledd y cyflogau; bonysau gwych; problemau gydag acne; y nyrs a’r damweiniau; a’r cantîn cymorthdaledig. Gadawodd pan oedd yn disgwyl ei merch yn 1960. Dychwelodd I helpu cau’r ffatri yn 1965/6. Roedd y gwmnïaeth yno fel teulu.

British Nylon Spinners, Pont-y-Pŵl

VSE084 Julie Moore, British Nylon Spinners, Pont-y-Pŵl

Julie Moore (enw priod Julie Watkins) Clerc yn y Swyddfa Beiriannau yn yr Adran heolaeth ar Gynhyrchu yn ffatri British Nylon Spinners, Pont-y-pŵl, c. 1955-61. Gadawodd y ffatri i fynd allan i Tripoli gyda'i gŵr a oedd yn yr Heddlu Milwrol.
Julie Moore gyda dwy ffrind yn nir ffatri British Nylon Spinners  
Gweithwyr Rheoli Cynhyrchu yn ffatri BNS, mae Julie Moore yn sefyll ar y dde pellach
Julie Moore gyda dwy ffrind yn nir ffatri Brtish Nylon Spinners, busus yn y cefndir, a oedd am ddim ar gyfer staff 
Staff yr Adran Rheoli Cynhyrchu, wedi'i tynnu yn y dathliad gorffen (gweler ethygl Signpost, VSE084.6) 1961 
Erthygl 1 o'r Signpost, papur wythnosol British Nylon Spinners, dydd Iau 8 Mehefin, 1961, Four Girls with a lilt in their Voices am y gwrp canu The Librettis.
Erthygl 2 o'r Signpost, gyda nifer o luniau o staff BNS staff. Mae ffoto 1 ydy Mrs Julie Watkins (Julie Moore) (Clerc y Swyddfa Peiriannau) yn derbyn mwclis am wasanaeth chwe mlynedd yn  BNS. Roedd hi'n mynd i  Tripoli gyda'i gwr, a oedd yn yr Heddlu Milwrol.

British Nylon Spinners, Pontypŵl

VSE050 Audrey Gray, Johnson & Johnson, Pengam;British Nylon Spinners, Pontypŵl

Gadawodd Audrey yr ysgol ramadeg (disgrifia’i phrofiadau yn fanwl) yn 17 oed (1953/4) ac er bod bwriad iddi fynd i brifysgol gadawodd priodasau ei brodyr ei mam yn ddi-incwm, ac aeth i weithio yn labordy BNS., yn profi edafedd am ludedd a.y.y.b. Cadw cofnodion a glanhau popeth gyda’r nos. Noda weithio gyda baddonau asbestos a ffyrnau nwyon wrth ddisgrifio’r prosesau. Profi deunyddiau crai hefyd e.e. dŵr a glo. Doedd merched ddim yn gweithio ar y shifft nos. Roedd yn deall y broses gynhyrchu. Noda nad oedd labordai mewn ysgolion i ferched. Nifer o gemegau gwenwynig a pheryglus. Gwisgent gotiau terylen, menig dau gryfder - un o rwber, gorchudd llygaid yn orfodol ar gyfer rhai jobs. Cafodd un ddamwain - berwodd fflasg a saethodd toddiant i’w hwyneb - cymorth cyntaf, nyrsys ac ysbyty. Un streic oherwydd y gwres a’r peiriant awyru wedi torri. Bywyd cymdeithasol gyda gweithwyr y lab. yn bennaf. Clybiau gwahanol - tennis, tennis bwrdd, canŵio a.y.b. Gerddi hardd yno. Basged londri ar gyfer y cotiau lab a ‘r dwsteri. Talu’n fisol. Caent gyfranddaliadau a phensiynau. System shifft saith niwrnod. Perthynai i undeb yr ASTMS- Assoc. of Technical and Management ? Gydag awtomasiwn daeth diswyddiadau. Disgrifia’r clybiau cymdeithasol gwych a’r digwyddiadau. Dawns Nadolig - cyfrifoldeb un shifft, fel set ffilm. Arhosodd yno am 12-3 blynedd ac yna aeth i Johnson’s yn rheoli ansawdd am rai blynyddoedd. Roedd y ffatri’n cynhyrchu 'j cloths'.
Audrey Gray yn labordy British Nylon Spinners  yn derbyn anrheg ffarwel, diwedd y 1960auAudrey Gray yn gweithio yn labordy Johnson and Johnson, Pengam

VSE009 Sheila Hughes, British Nylon Spinners, Pontypŵl

Gadawodd Sheila yr ysgol ramadeg yn 16 oed (1953) a dechrau yn British Nylon Spinners (Courtaulds) - 4000-5000 yn gweithio yno. Ffatri newydd (1947-) ac yn datblygu. Dechreuodd yn y labordy brofi ffisegol. Swnllyd iawn - darllen gwefusau. Disgrifia’r prosesau. Yn y labordy byddai’n mynd o gwmpas y ffatri gyda ‘Albert’, peiriant i brofi tymheredd a lleithder. Hefyd yn gwau paneli i brofi’r lliwurau. Hefyd profi faint o gordeddu yn y neilon a’i gryfder. Chwilio am feiau - slybiau. Felly roedd yn ganolfan reoli i tsiecio bod y peiriannau yn gweithio’n iawn. Roedd y ffatri yn cynhyrchu deunydd crai nid y cynnyrch gorffenedig. Doedden nhw ddim yn hoffi menywod yn gweithio shifft nos. Galw’r dynion yn y labordy yn ‘y merched’! Llif cyson o fysys. Hyfforddiant trwy osmosis. Yn raddol gweithiodd ei hun i fyny yn bennaeth adran. Gweithio yn yr adran datblygu tecstilau - yn profi dillad hyd at eu dinistrio - 'bri-nylon'. Anfonwyd cynorthwywyr labordy i ffatri Doncaster - cafodd yr hofrennydd ddamwain ddifrifol. Cynnal arddangosfa i hybu’r ffatri. Enillion - dau bâr o sanau neilon y flwyddyn. Perygl - aeth gwallt un ferch i’r peiriant. Caniatáu 10 munud yn y toiled i dwtio’ch hun. Graddau o gantinau. Roedd hi’n aelod o staff. Un bywyd cymdeithasol hir: tŷ clwb, dawnsfa; lle saethu; jiwdo; cyngherddau gyda bandiau mawr a ffilmiau, partïon. Y Frenhines yn ymweld. Byth yn 'bored' - canu. Gadawodd pan yn feichiog - 1967. ICI bellach yn rhedeg y lle - ddim yr un fath. Yn ddiweddarach bu’n ymchwilydd marchnad - 23 mlynedd. Roedd mewn ffilm hyfforddi yn y 1960au. Cylchlythyr y cwmni - 'The Signpost'.
Mae rhan o'r cyfweliad hwn ar gael fel ffeil sain

BSA Tools, Caerdydd

VSE061 Gwynedd Lingard, BSA Tools, Caerdydd

Gadawodd Gwynedd yr ysgol ramadeg yn 16 oed (ansicr) (1950) i ddilyn ei breuddwyd o fod yn gymnast. Cafodd ei dewis i dîm gemau Olympaidd 1952. Sonia am ymateb ei hardal - baneri a chasglu arian ar y strydoedd. Bu’n gweithio yn Boots’ Chemist ond wnaen nhw ddim caniatáu amser i ffwrdd iddi felly aeth i weithio i swyddfa BSA Tools, oedd yn gwneud offer gwyddonol a microsgopau. Rhoddon nhw amser i ffwrdd iddi â thâl. Gwnaeth ei thad drawst cydbwyso iddi yn eu lolfa! Noda ei bod yn gorfod mynd â’i chwponau bwyd ei hun pan âi i ffwrdd i ymarfer yn 1952. Roedd dogni dillad hefyd o hyd ac roedd y wisg swyddogol yn ddrud. Byddai’r dynion ar lawr y ffatri’n chwibanu arni pan âi i lawr yno. Roedd hi’n glerc rheoli defnyddiau, yn tsiecio’r storfeydd a chadw’r llyfrau. Doedd y dynion ddim yn gas ond byddent yn ei ‘phoenydio’. Disgrifia ddamwain angheuol yn y ffwrnes yno. Adeilad diflas - sŵn ac arogl. Gadawodd yn 19 oed (1954) - roedd yn disgwyl. Cafodd ddamwain ar y ffordd i’r gwaith - aeth y bos â hi i’r ysbyty. Pan ddechreuodd dyn ei phoeni (y tu allan i’r gwaith) rhoddodd y bos stop arno. Roedd ei thad yn nofiwr da a’i mam yn rhedwraig wych ac yn chwarae pêl-fas dros Gripoly Mill, er nad oedd yn gweithio yno. Yn ddiweddarach aeth yn ôl i weithio, i’r Bwrdd Nwy (1972 tan 1992). Mae’n siarad am y gemau yn Helsinki a bod yn hyfforddwraig gymnasteg ryngwladol.

Burlington, Caerffili

VSE034 Shirley Smith, Burlington, Caerffili;Burry Son & Company Ltd, Trefforest

Bu Shirley mewn coleg masnachol cyn gadael yn 17 oed. Yna gweithiodd mewn siop cyn symud i Burry’s yn 1957 (tan 1982) - ffatri decstilau a hithau’n deipydd llaw-fer yn y swyddfa. Roedd peiriant hynafol yno i gyfrif y cyflogau. Mae’n trafod ei chyflog a chyflog un oruchwylwraig - yn gyfartal â’r dynion. Roedd hi’n swnllyd iawn ar lawr y ffatri a’r gweithwyr ar eu traed drwy’r dydd. Roedd yr amodau’n wael yn y swyddfa a’r ffatri yn boeth drwy’r flwyddyn. Mae’n enwi’r ffatrïoedd oedd ar agor ar Stad Trefforest yn y cyfnod hwn. Bu farw’r bos yn sydyn a chymerwyd y ffatri drosodd gan Burlington’s Gloves. Cafodd ei diswyddo yn 1989.
Mae rhan o'r cyfweliad hwn ar gael fel ffeil sain

Administration