English
Rhestru pob cofnod yn ôl:

Casgliad o gyfweliadau a ffotograffau a gofnodwyd gan Archif Menywod Cymru yn 2013-14

Rhestru pob cofnod yn ôl:
Chwilio
Chwilio uwch

Pori'r cyfweliadau


Trefnwyd yn ôl enw'r ffatri

Burlington Gloves, Trefforest

VSE047 Hilary Adams, Burlington Gloves, Trefforest;Ffatri KLG (Kenelm Lee Guinness), Trefforest

Gadawodd Hilary yr ysgol yn 15 oed a dechrau yn Burlington’s yn 1953. Gweithiai yn yr adran ffabrigau; roedden nhw’n gwneud menig lledr a diwydiannol hefyd. Deuai bysys â’r gweithwyr i holl ffatrïoedd y stad. Gwnaent waith ar dasg, gwrando ar 'Housewives’ Choice' ac roedd rhai yn gweithio gartref. Blinodd yno ar ôl tua 9 mlynedd ac aeth i ffatri KLG i wneud plygiau tanio. Smith’s Industries oedd yn rhedeg hon - cwmni teuluol da yn talu tal salwch ac yn rhoi gwyliau ychwanegol ar ôl deng mlynedd. Cymerodd Ford’s y ffatri drosodd a dyblodd y gyflog - cawson nhw gyflog cyfartal. Gweithiodd am 10 mlynedd i KLG a 44 mewn ffatrïoedd. Noda’r bywyd cymdeithasol.

Burry Son & Company Ltd, Trefforest

VSE034 Shirley Smith, Burlington, Caerffili;Burry Son & Company Ltd, Trefforest

Bu Shirley mewn coleg masnachol cyn gadael yn 17 oed. Yna gweithiodd mewn siop cyn symud i Burry’s yn 1957 (tan 1982) - ffatri decstilau a hithau’n deipydd llaw-fer yn y swyddfa. Roedd peiriant hynafol yno i gyfrif y cyflogau. Mae’n trafod ei chyflog a chyflog un oruchwylwraig - yn gyfartal â’r dynion. Roedd hi’n swnllyd iawn ar lawr y ffatri a’r gweithwyr ar eu traed drwy’r dydd. Roedd yr amodau’n wael yn y swyddfa a’r ffatri yn boeth drwy’r flwyddyn. Mae’n enwi’r ffatrïoedd oedd ar agor ar Stad Trefforest yn y cyfnod hwn. Bu farw’r bos yn sydyn a chymerwyd y ffatri drosodd gan Burlington’s Gloves. Cafodd ei diswyddo yn 1989.
Mae rhan o'r cyfweliad hwn ar gael fel ffeil sain

Calsonic Kansei, Felin-foel, Llanelli

VSW069 Carol Price, Calsonic Kansei, Felin-foel, Llanelli;Llanelli Radiators, Felin-foel, Llanelli;Morris Motors, Felin-foel, Llanelli

Roedd Carol yn 16 oed pan ddechreuodd weithio yn Morris Motors, Felin-foel, Llanelli yn 1966. Enillai 6 yr wythnos a theimlai ei bod yn filiwnydd. Gweithiodd yn y ffatri am 37 mlynedd nes ei bod yn 53 mlwydd oed. Ar y dechrau gweithiai ar lawr y ffatri yn cydosod rheiddiaduron copr-pres ar gyfer ceir Mini, Maxi a Marina. Pan adawodd yn 2003 roedd yn profi systemau oeri olew ceir Audi i gwmni Calconic Kansei. Gweithiodd Carol yn yr un ffatri i Morris Motors, Llanelli Radiators (1987) a Calsonic Kansei (1989-)
Llawr ffatri Moris Motors yn dangos cydosod rheiddiaduron copr-pres; tua 1970. Mae Carol Price yn yr ail res mewn sbectol.
Gweithwyr ar lawr ffatri Morris Motors yn cydosod rheiddiaduron.
Gweithwyr ar lawr ffatri Morris Motors yn cydosod rheiddiaduron.
Parti gadael un o'r gweithwyr yn Morris Motors yn yr wythdegau. Ar flaen y llun gwelwn jig - ci'r copr-pres ei osod yn hwn i greu rheiddiadur. 
 
Gweithwyr yn gweithio system newydd o gydosod yn ffatri cwmni Calsonic Kansei yn 1995; gweler yr hetiau Jac yr Undeb i goffu hanner canmlwyddiant ers diwedd yr Ail Ryfel Byd. 
Carol Price yn profi oerydd olew y car Audi mewn rhan wahanol o ffatri Calsonic Kansei yn 2003. Os byddai'r profwr yn troi'n las golygai fod yr oerydd wedi pasio'r prawf.

Cardwells, Llanbedr Pont Steffan

VSW011 Augusta Davies, Cardwells, Llanbedr Pont Steffan;Slimma-Dewhirst, Llanbedr Pont Steffan

Gadawodd Augusta yr ysgol yn 16 oed (1961), bu'n glanhau a phriododd a chael plentyn, cyn dechrau yn Cardwells' yn 1965. Bu yno am 2 flynedd cyn cael plentyn arall a mynd nôl i Slimma (1976-2002). Teimlodd hiraeth ar ôl y merched. Yn Slimma pawb â thargedi ac roedden nhw'n tsiecio bob dwy awr. Dim undeb yn Cardwells' ond un yn Slimma. Erbyn y diwedd lot o fois ifanc o'r ysgol yn 'machinists' yno - tynnu'u coesau. Canu gyda'r miwsig o'r radio. Dim amser i siarad. Trafod newid o dalu arian i dalu trwy'r banc. Tripiau o'r ddwy ffatri, Parti Nadolig a chael twrci a gwin fel bonws yn Slimma. Prynu 'seconds'. Bu creche gan Slimma - ar y bws i Aberteifi (c. 1990??) Bu hi yn ffatrïoedd Llanymddyfri ac Abertawe hefyd. Gadawodd am fod 'arthritis' arni.
Augusta Davies gyda gweithwyr Cardwell's, Llambed, ar noson allan

VSW010 Phyllis Eldrige & Olga Thomas, Cardwells, Llanbedr Pont Steffan;Cardwells, Machynlleth

Gadawodd Phyllis yr ysgol yn 16 (c.1959) ac arhosodd gartre ar y fferm am 3 blynedd cyn gweld hysbyseb yn y papur am 'machinist' yn Cardwells' .Bws yn mynd â nhw i Fachynlleth. Lodgins yno. Gadawodd Olga yn 15 oed (1959), bu mewn ffatri pacio wyau yna i Cardwells' Machynlleth. Teithio ar y trên hefyd. £4 yr wythnos + lodgins + teithio. Yno am flwyddyn yn aros i ffatri Llambed gael ei gorffen. Ffatri Llambed ar gau am wythnosau yn 1963 achos yr eira - dim tal. Merched o'r pentrefi o gwmpas. Ffrogiau menywod roedden nhw'n eu gwneud fwyaf. Dim cofio undeb - 'grin and bear it'. Cael yr 'off-cuts'. Nodwydd trwy'r bys. Gwaith 'skilled' V smwddio. Cymraeg oedd yr iaith fwya. Gadael pan oedden nhw'n disgwyl babi. Phyllis wedi prynu peiriant a gwnïo gartre. Boddhad o weld dilledyn roedden nhw wedi'i wneud am rywun.

Cardwells, Machynlleth

VSW010 Phyllis Eldrige & Olga Thomas, Cardwells, Llanbedr Pont Steffan;Cardwells, Machynlleth

Gadawodd Phyllis yr ysgol yn 16 (c.1959) ac arhosodd gartre ar y fferm am 3 blynedd cyn gweld hysbyseb yn y papur am 'machinist' yn Cardwells' .Bws yn mynd â nhw i Fachynlleth. Lodgins yno. Gadawodd Olga yn 15 oed (1959), bu mewn ffatri pacio wyau yna i Cardwells' Machynlleth. Teithio ar y trên hefyd. £4 yr wythnos + lodgins + teithio. Yno am flwyddyn yn aros i ffatri Llambed gael ei gorffen. Ffatri Llambed ar gau am wythnosau yn 1963 achos yr eira - dim tal. Merched o'r pentrefi o gwmpas. Ffrogiau menywod roedden nhw'n eu gwneud fwyaf. Dim cofio undeb - 'grin and bear it'. Cael yr 'off-cuts'. Nodwydd trwy'r bys. Gwaith 'skilled' V smwddio. Cymraeg oedd yr iaith fwya. Gadael pan oedden nhw'n disgwyl babi. Phyllis wedi prynu peiriant a gwnïo gartre. Boddhad o weld dilledyn roedden nhw wedi'i wneud am rywun.

Chard's, Llundain

VSE025 Mair Richards, Forma, Merthyr;Kayser Bondor, Merthyr;Courtaulds, Merthyr;Chard's, Llundain;AB Metals, Abercynon;Barton's, Merthyr

Gadawodd Mair yr ysgol ramadeg oherwydd salwch ei thad, yn 15½ oed, gweithiodd yn W.H. Smiths cyn ymuno â Kayser Bondor tua 1952. Roedd ei mam yn gwrthwynebu iddi weithio mewn ffatri. Mae’n disgrifio’r cyfweliad, y ffatri lân - amseru mynd i’r toiledau; torri allan â llaw - lliwiau a meintiau gwahanol; cynhyrchu bras a pheisiau mewn archebion enfawr; pwysigrwydd KB i Ferthyr. Yn Nowlais ( 1960 ymlaen) roedden nhw’n gwneud sanau sidan a dillad eraill. Cofia godi arian yn y ffatri wedi trychineb Aberfan. Noda ddathliadau’r Nadolig; y raddfa dâl; undebau; un streic am dâl a sut roedd Courtaulds yn eu trin. Sonia am ddamweiniau gyda’r cyllyll torri allan. Doedd hi ddim yn hoffi gweithio’n A.B. Metals - budr a merched gwahanol. Dychwelodd i KB a phan gaeodd honno aeth i Barton’s ac yna Forma - lle bu’n goruchwylio’r ystafell dorri allan. Gorffennodd yno yn 1995.

Christie and Tyler's, Glyncorrwg

VSE055 Caroline Isina Aylward, Louis Edwards, Maesteg;Christie and Tyler's, Glyncorrwg

Gadawodd Caroline yr ysgol yn 15oed (1952) a dechrau yn Louis Edwards. Gweithiodd yno nes iddi gael ei mab -1959. Cyn iddi ddechrau yno roedden nhw’n gwneud iwnifformau’r fyddin ond bu hi’n gwneud ffrogiau min nos a llawer i M&S. Roedd yn gwnïo coleri yn bennaf. Disgrifia gynllun y ffatri. Y cydbwysedd dynion / menywod. Dim siarad. Dawnsio. Manteision y ffatri - prynu ffrogiau â namau arnynt. Perthyn i’r 'Garment Workers’ Union' a thalu ffioedd ddydd Gwener. Llafur caled. Amser a symud ar steiliau newydd - prisio’r gwaith. Nodwyddau mewn bysedd. Daliodd ei sgert mewn peiriant - felly cawsant oferôls i’w gwisgo. Bu’n chwarae pêl-rwyd ar ôl gwaith ambell dro. Dychwelodd am gwpwl o flynyddoedd (tua 1967-9) - ffatri hapusach. Y tro cyntaf roedd y gweithlu’n anniddig. Bu’n gweithio hefyd mewn ffatrïoedd dodrefn - Colonial/ Christie Tyler yn rhan-amser pan oedd ei mab yn fach. Defnydd mwy trwchus ond arian da. Y gwnïo’n haws - ddim mor ffyslyd. Disgrifia’r prosesau. Symud i Drefforest (1980s?) pan oedd prinder gwaith yng Nglyncorrwg. Yr un cwmni ond enwau gwahanol ar y ffatrïoedd. Gofynnwyd iddi weithio gyda chynllunydd fel 'machinist' yn datblygu dodrefn. Gwnâi waith preifat i un o’r dynion yn y ffatri. Yn ddiweddarach caeodd y ffatri yng Nglyncorrwg ac aethant i Bendragon ym Mhen-y-bont. Cafodd ei diswyddo ac aeth i weithio i’r Gwasanaethau Cymdeithasol.

Christie-Tyler, Penybont

VSE043 Anita Rebecca Jeffery, Christie-Tyler, Penybont;Polikoffs, Treorci

Disgrifia Anita fyw mewn pre-ffab, gadael yr ysgol yn 15 oed (1954) a dechrau fel 'machinist' yn Polikoff’s. Gwneud dillad i’r fyddin a.y.b. a dillad gwely. Ei job gyntaf - gwneud balog trowseri. Stigma gyda gwaith ffatri. Gwaith ar dasg a chyrraedd targedi. Dyrchafiad i beiriant Pfaff mawr. Cerddoriaeth, canu a chwifio. Defod pan oedd priodas - cribo’r gwallt am yn ôl, sebon siwgr a sialc a rhoi mewn tryc i fynd i adran y dynion. Gwynt llygod mawr - Pawb allan. Pla o chwilod du. Derbyn gweithiwr hoyw. Mantais - siwtiau rhatach a dillad gwely. Dwyn siwtiau! Yn Christie-Tyler roedd yn aelod o’r National Union of Furniture Trade Operatives. Yn Poliakoff’s - anghydfod am amser a symud. Bu hi’n gynrychiolydd undeb - yn sefyll dros y merched. Nhw a ni. Dyrchafu menywod cegog i’w cael ar ochr y rheolwyr. Rolyrs o sbwliau cotwm a sgarff. Damwain ddifrifol gyda 'presser' a nodwydd trwy fysedd. Effaith hir dymor ar ei choesau a’i golwg. Gadawodd pan oedd yn feichiog - 1961. Dechreuodd gwyliau a thâl yn yr 1950au hwyr. Dawnsfeydd yng nghantîn Polikoff’s gyda bandiau byw a dim alcohol. Miss Polikoff - enillodd hi tua 1957. Dychwelodd i waith ffatri yn 1969/70 fel 'machinist' yn gwneud clustogwaith. Symudodd y ffatri o Ben-y-bont i Talbot Green. Bu yno 12mlynedd. Gwaith ar dasg a rhai gweithwyr barus. Stori am y fodrwy ddyweddïo - gonestrwydd. Balchder “Roeddwn i’n weithgynhyrchydd”.Chwarae tric - y peiriannau i gyd yn chwythu. Rhoi cyfeiriadau ym mhocedi iwnifform yr Awyrlu.
Mae rhan o'r cyfweliad hwn ar gael fel ffeil sain
Anita Jeffery (ail o'r chwith) yn dod yn ail yng nghystadleuaeth 'Miss Polikoff'

Clifford Williams, Tredegar

VSE002 Sonia Gould, Smith's, Rhymni;Clifford Williams, Tredegar;Denex, Tredegar;Harvey's, Tredegar

Roedd tad (trydanwr) a mam ('machinist') Sonia yn gweithio yn Denex. Cael pre-ffab ger y ffatri i fyw ynddo. Gadawodd hi’r ysgol yn 15 oed (1956), roedd ei thad wedi’i dysgu i ddefnyddio’r peiriannau ar foreau Sadwrn. Cafodd swydd yn y ffatri ond gwrthwynebodd yr Undeb - roedd y ffatri’n diswyddo gweithwyr. Aeth adre ond nôl yno mewn 6 wythnos. Llawer o streiciau ac un cloi allan. Yfed ar y Nadolig ac addurniadau. Dechreuodd ar wneud clytiau, ymlaen i dyllau botymau. Gwneud dillad plant > yna Harvey’s, cotiau dyffl> yna a Clifford Wiilaims and Son. Gweithio yn Smiths, Rhymni ond rhy strict. Denex- gweithwyr yn dwyn darnau o siacedi i wnïo pilyn gartre a riliau cotwm. Llawer o fflwff yno. Radio a chwaraewr recordiau a chanu. Os yn priodi eich clymu at eich peiriant. Cwlwm fel chwiorydd rhyngddynt. Tyllu ei chlustiau yn y toiled. Gadawodd pan yn feichiog. Gallai wneud pob tasg yno. Roedd torri â’r gyllell fawr yn beryglus - gwaith dyn. Bywyd cymdeithasol: dawnsfeydd, cinio ’r plant a charnifal - fflôt 'Rag Trade', a gwneud sioe. Undeb y Tailor and Garment Workers - bathodyn â siswrn arno. Ysmygu’n eistedd yn y toiled. Nodwydd trwy ei bys. Gweithiodd ei mam tan yn 80 oed yn Denex ac wedyn LCR Components. Aduniad merched Denex- cwtsho. Ysgrifennu ‘I Love Elvis’ lawr coes trowsus.

Administration