Trefnwyd yn ôl enw'r cywelai
VSE039 Di-enw, Fram Filters, Treforest Trading Estate
Gweithiodd y siaradwraig yn Fram Filters am dri mis yn 1968, cyn dechrau ei gyrfa nyrsio. Fel disgybl ysgol ramadeg doedd nyrsio ddim yn cael ei ystyried yn yrfa addas iddi. Gweithiodd yn yr haf - yn gwneud bolltau a wasieri and yn llenwi hopran â gronynnau plastig. At hyn roedd yn arolygu’r wasieri. Teimla fod eu sbectolau yn llesteirio’r menywod hŷn. Roedd hi a’i ffrind yn iau ac yn gweithio’n gyflymach, gan ennill gwell bonysau. Fflyrtan gyda’r bechgyn - edrych i fyny eu sgerti mini gyda drychau pan oedden nhw’n rhoi’r plastig yn yr hopran. Newidion nhw ddull y gwaith - gan gyflymu’r broses - hyn yn creu tensiynau. Sefyll ar gadair yn troi - dim iechyd a diogelwch. Strict iawn am gymryd egwyl. Rhoddodd bersbectif ar fyd gwaith iddi. Profiad da.
VSE035 Di-enw, Sidroy Mills, Y Barri
Y teulu Feltz (Iddewon) oedd perchen y ffatri. Roedd yn cynhyrchu dillad isaf, blowsys a dillad nos. Enillodd y cyfranwyr ysgoloriaethau i’r ysgol ramadeg ond oherwydd eu cefndir dosbarth gweithiol bu’n rhaid iddynt adael a dechrau gweithio yn ffatri Sidroy’s. Dim siarad ond canu yno. Gwaith ar dasg a sut yr oedd yn cael ei weinyddu. Helyntion sefydlu’r undeb llafur - y 'National Taylor and Garment Workers’ Union' yn y ffatri. Ffurfiwyd cangen gyda y cyfranwyr yn y Gadair ac yn Ysgrifennydd. Mynychu cyfarfodydd y Gyngres Undebau Llafur - siarad yn gyhoeddus yn 1953. Gadawsant ar ôl priodi a buont yn trefnu cylchoedd chwarae yn eu cymuned leol. Cofiant y gwmnïaeth a gwerthfawrogant y sgiliau gwnïo a ddysgon nhw yn Sidroy’s.
VSW059 Hilda Glenys Rees (Glenys), Louis Marx, Abertawe;Smiths Crisps, Abertawe;Mettoys, Fforestfach
Gadawodd Glenys yr ysgol yn 14 oed (1946) a dilynodd ei ffrindiau i’r ffatrïoedd. Gweithiodd dros ruthr y Nadolig yn Mettoys (1947) ac yna aeth i ffatri newydd Louis Marx. Ei rhif oedd 312. Roedd staff y swyddfa ‘ychydig yn well’ na nhw – llieiniau ar eu byrddau yn y cantîn. Roedd hi’n gwneud gynnau pop a Daleks. Gwaith ar dasg. Byddai’r dyn amser a symud yn nodi’r targedi. Gadawodd pan oedd yn feichiog (gweithio yno 1948-54). Cael budd-dal mamolaeth os gweithio nes hyd at chwe mis. Canu ar y bws. Undebau yn eu stopio rhag gweithio os yn rhy boeth. Gwaith amrywiol. Timau pêl-droed a phêl-rwyd a chyngherddau yn y cantîn. Paentio ceir tegan â llaw. Glendid. Aeth rhywbeth i’w llygad – i’r ysbyty. Pawb yn helpu pawb. Swyddogion diogelwch wrth y giât. Iaith gref. Yn Mettoys clywsant hanes priodas y Frenhines dros y 'tannoy'. Munud o dawelwch yn Louis Marx pan fu farw’r Brenin. Tynnu coes. Dychwelyd i weithio rhan amser yn Louis Marx. Bu hefyd yn Smith’s Crisps cyn dychwelyd i Louis Marx. Ofn y peiriant mawr. Gwynto o greision. Gweithio fel robot yno.
VSW039 Sylvia Poppy Griffiths (Poppy), Ffatri Flax, Aberdaugleddau
Gadawodd Poppy yr ysgol yn 14 oed (1939) a gweithiodd ar fferm, yna’n codi tatws ac yna mewn ffatri lin yn ystod y rhyfel (c. 1942-8). Roedd ofn y peiriannau mawr arni. Teimlai ei bod yn dal i symud ar y felt gynhyrchu ar ôl mynd adre. Cafodd ei symud i’r ystafell hadau. Defnyddid y llin i wneud harneisiau parasiwtiau. Roedd yn helpu gyda’r cynaeafu hefyd. Cafodd ei dal yn ysmygu yn y toiledau - cerydd am ei fod yn beryglus. Ffatri anferthol - ar ol bod yn yr ystafell hadau, ei gwaith oedd cadw’r ysgubau ar y felt gynhyrchu. Brwnt iawn - y llwch fel niwlen. Caent sgarffiau i warchod eu pennau. Damweiniau - collodd bachgen un llygad a rhwygwyd braich ei ffrind gan beiriant. Byddent yn canu’r caneuon rhyfel. Codi byrnau trwm. Y swydd oedd yn talu orau - trin a graddio’r llin a bu’n gwneud hyn. Bu’n King’s Lynn yn hyfforddi. Helpu ymdrech y rhyfel. Caeodd y ffatri yn 1948. Aeth i Berkshire i weithio mewn cantîn. Diswyddwyd hi am siarad allan yn ystod streic. Daeth adre.
VSE064 Martha Irene Lewis (Rene), Bernard and Lakin, Aberpennar;Alexon Steinberg, Trefforest
Gadawodd Irene yr ysgol yn 14oed (1941) ac arhosodd gartref yn helpu ei mam am 4 blynedd cyn dechrau yn Ffatri Steinberg yn 1946 (ffatri newydd). Gweithiai ar y botymau - ar gyfer sgerti a siwtiau. Arferai fodelu’r dillad ar gyfer y rheolwr. Âi llawer o’r dillad i America - roeddent yn ddillad drud. Ar ddydd Sadyrnau caent ddiwrnodau agored - gallai pobl ddod i brynu dillad eilradd. Cafodd ei chwaer chwalfa nerfol tra roedd yn gweithio yno ond rhoddwyd job ysgafn iddi nes ei bod yn well (arhosodd yno am 50 mlynedd arall a chafodd wats aur!) Cerddoriaeth a chanu. Doedd hi ddim yn gallu fforddio dillad y ffatri. Roedd y ffatri yn sych oherwydd y dwst o’r dillad. Roedd yn boeth oherwydd eu bod yn gwneud dillad gaeaf trwm yn yr haf. Arhosodd yno tan 1952 a gadawodd pan oedd yn feichiog. Ar ddechrau’r 1960au aeth i weithio mewn ffatri ddillad arall - Bernard and Lakin. Bu yno am tua 3 blynedd.
VSE047 Hilary Adams, Burlington Gloves, Trefforest;Ffatri KLG (Kenelm Lee Guinness), Trefforest
Gadawodd Hilary yr ysgol yn 15 oed a dechrau yn Burlington’s yn 1953. Gweithiai yn yr adran ffabrigau; roedden nhw’n gwneud menig lledr a diwydiannol hefyd. Deuai bysys â’r gweithwyr i holl ffatrïoedd y stad. Gwnaent waith ar dasg, gwrando ar 'Housewives’ Choice' ac roedd rhai yn gweithio gartref. Blinodd yno ar ôl tua 9 mlynedd ac aeth i ffatri KLG i wneud plygiau tanio. Smith’s Industries oedd yn rhedeg hon - cwmni teuluol da yn talu tal salwch ac yn rhoi gwyliau ychwanegol ar ôl deng mlynedd. Cymerodd Ford’s y ffatri drosodd a dyblodd y gyflog - cawson nhw gyflog cyfartal. Gweithiodd am 10 mlynedd i KLG a 44 mewn ffatrïoedd. Noda’r bywyd cymdeithasol.
VSE055 Caroline Isina Aylward, Louis Edwards, Maesteg;Christie and Tyler's, Glyncorrwg
Gadawodd Caroline yr ysgol yn 15oed (1952) a dechrau yn Louis Edwards. Gweithiodd yno nes iddi gael ei mab -1959. Cyn iddi ddechrau yno roedden nhw’n gwneud iwnifformau’r fyddin ond bu hi’n gwneud ffrogiau min nos a llawer i M&S. Roedd yn gwnïo coleri yn bennaf. Disgrifia gynllun y ffatri. Y cydbwysedd dynion / menywod. Dim siarad. Dawnsio. Manteision y ffatri - prynu ffrogiau â namau arnynt. Perthyn i’r 'Garment Workers’ Union' a thalu ffioedd ddydd Gwener. Llafur caled. Amser a symud ar steiliau newydd - prisio’r gwaith. Nodwyddau mewn bysedd. Daliodd ei sgert mewn peiriant - felly cawsant oferôls i’w gwisgo. Bu’n chwarae pêl-rwyd ar ôl gwaith ambell dro. Dychwelodd am gwpwl o flynyddoedd (tua 1967-9) - ffatri hapusach. Y tro cyntaf roedd y gweithlu’n anniddig. Bu’n gweithio hefyd mewn ffatrïoedd dodrefn - Colonial/ Christie Tyler yn rhan-amser pan oedd ei mab yn fach. Defnydd mwy trwchus ond arian da. Y gwnïo’n haws - ddim mor ffyslyd. Disgrifia’r prosesau. Symud i Drefforest (1980s?) pan oedd prinder gwaith yng Nglyncorrwg. Yr un cwmni ond enwau gwahanol ar y ffatrïoedd. Gofynnwyd iddi weithio gyda chynllunydd fel 'machinist' yn datblygu dodrefn. Gwnâi waith preifat i un o’r dynion yn y ffatri. Yn ddiweddarach caeodd y ffatri yng Nglyncorrwg ac aethant i Bendragon ym Mhen-y-bont. Cafodd ei diswyddo ac aeth i weithio i’r Gwasanaethau Cymdeithasol.
VSE059 Esther Baitup, Revlon, Maesteg;The Rubber Factory, Maesteg;Cymer Bookbinding, Maesteg;Louis Edwards, Maesteg
Gadawodd Esther yr ysgol yn 15oed (1965) a dechrau yn Ffatri Edwards, gyda’r tocynnau a’r arolygu. Doedd y 'machinists' ddim yn hoffi ail-wneud eu gwaith. Gwnaent ffrogiau i M&S. Roedd y gweithwyr - y torwyr, smwddwyr a.y.y.b. wedi’u rhannu’n gaetsys. Doedd hi ddim yn gwneud gwaith ar dasg - câi ambell fonws. Defnyddiodd ei chyflog i brynu peiriant gwnïo. Bu yna am tua 3 blynedd. Roedd yn rhaid gorchuddio popeth yn y ffatri dros nos â phapur a ddwywaith gymaint adeg y gwyliau blynyddol. Gadawo'dd pan oedd yn disgwyl (ansicr o ba ffatri). Gweithiodd dros dro yn Cymer Bookbinding ar waith shifft gyda 'machinist' yn gwnïo catalogau. Aeth i Ffatri Revlon yn 1988 - shifft nos, rhan amser ond ar ôl 3 blynedd yn llawn amser. Newidiodd ei shifftiau. Gwnâi bob math o dasgau yno - labelu, llenwi, a.y.y.b. Ar y dechrau roedd yn yr adran aerosol - peryglus oherwydd gallai can diffygiol ffrwydro. Ofnai gweithwyr eraill y job hon. Hefyd y dŵr berwedig yn yr adran bersawr. Doedd llawer o’r gweithwyr ddim yn hoffi’r ffatri. Noda rai menywod a oedd yn cymryd mantais a ddim yn gwneud eu gwaith. Rheolaeth wael. Cymerwyd Revlon drosodd ?gan Cozy. Bu yno 15 mlynedd + 5 arall nôl a blaen. Câi fonws o £200 y flwyddyn am beidio â bod yn sâl. Dim ond am rai wythnosau y bu yn y ffatri rwber oherwydd y gwynt - byddent yn trimio’r rwber o gwmpas ffenestri ceir. Trafoda sefyllfaoedd annheg. Fodd bynnag roedd yr arian yn dda.
VSE066 Alice Jill Baker, St Margaret's Clothing Factory, Aberbargoed
Gadawodd Jill yr ysgol yn 16oed (1953) a dechrau yn y ffatri ddillad, yn gwneud dillad i M&S. Roedden nhw’n gwneud blowsys, pyjamas dynion, a 'liberty bodices'. Mae’n trafod y jobs gwahanol. Cafodd hi bolio pan oedd yn blentyn ac yn y ffatri cafodd troedlath y peiriant gwnïo ei addasu ar ei chyfer. Gwaith ar dasg - byddai coleri yn 2/6 y dwsin. Roedd hi’n dda am wneud coleri a sips. Gallai wneud 10 dwsin o sips y dydd. Eglura gymhlethdodau gweithio am fonysau. Amser a symud. Roedd prynwyr M&S yn drwyadl iawn. Roedd yn mwynhau’r cwmni ond yn casáu gwnïo. Er bod rhai yn gwrs braidd ac yn rhegi bydden nhw’n barod i helpu eraill petai angen. Roedd ffatrïoedd eraill yn Lloegr a byddai cystadleuaeth brenhines harddwch ym Margod ei hun. Roedd ganddynt gylchlythyr hefyd. Cyflog - i’w mam a chael arian poced. Ni châi fynd ar fwyd a llety tan ei bod yn 18 oed. Mae’n sôn am y raddfa 'fall-back' newydd a olygai lai o arian a cherddodd allan am ei bod yn annheg ac am fod y goruchwyliwr wedi bod yn anghwrtais wrthi. Roedd wedi gweithio yno am 10 mlynedd. Dychwelodd yn rhan-amser yn ddiweddarach ond erbyn hynny doedd pethau ddim yr un fath. Roedd gwaith ffatri yn brofiad iddi.
VSE072 Marguerite Barber, Polythene Factory, Cardiff;Stamina, Caerdydd
Gadawodd Marguerite yr ysgol yn 15oed (1958) a dechrau yn Ffatri Stamina, yn gwnïo botymau a bachau a thyllau botymau ar oferôls. Dillad gwaith diwydiannol oedd y rhain. Rhaid gofyn caniatâd i fynd i’r toiled. Arhosodd yno am lai na blwyddyn. Roedd y 'machinists' ar waith ar dasg ond doedd hi ddim. Prynodd gramoffon i’w weindio â llaw gyda’i harian. Symudodd i’r ffatri bolythen ac arhosodd yno am 9 mlynedd. Roedd yn selio bagiau - eu torri, eu selio a’u rhoi mewn bwndeli. Roedd hi fel teulu yno. Sonia am gondemnio’r tai yn Sgwâr Loudon yn Butetown. Cantîn ac un toiled. Cwynion am yr oerfel (roedd yn rhy boeth yn yr haf!) ond dim streiciau. Trip ar gwch unwaith y flwyddyn. Y diwrnod cyn y Nadolig âi pawb i’r dafarn am 12 o’r gloch. Gadawodd pan oedd 7 mis yn feichiog. Yn ddiweddarach bu’n forwyn mewn gwesty.