English
Rhestru pob cofnod yn ôl:

Casgliad o gyfweliadau a ffotograffau a gofnodwyd gan Archif Menywod Cymru yn 2013-14

Rhestru pob cofnod yn ôl:
Chwilio
Chwilio uwch

Pori'r cyfweliadau


Trefnwyd yn ôl enw'r cywelai

VN055 Beryl Buchanan, Ferranti, Bangor;Hotpoint, Llandudno;Mona Products, Porthaethwy

Aeth Beryl i Mona Products yn syth o'r ysgol yn 1958. Roedd y ffatri hon yn gwneud dillad i Marks & Spencers. Gwnïo coleri yn sownd i’r crysau T a hefyd y llewys, a rhoi lastig yn y nicyrs, a gwnïo 'gussets' roedd hi’n ei wneud. “Doedd na’m basic wage. Ac felly oedd rhaid i chdi fynd fel coblyn ar y mashîn ‘de i neud cyflog i fyny.” Doedd dim rheolau iechyd a diogelwch yr adeg honno. Roedd cantîn bach yno. Dim ond rhyw ddau ddyn oedd yn pacio ac un ar dractor bach oedd yn cario pethau, y rheolwr ei hun a dau fecanic. Byddai'r ffatri yn canu miwsig – radio ac uchelseinydd. Y dynion oedd yn dewis beth oedd arno – tebyg i 'Workers’ Playtime' a'r newyddion. Gadawodd Beryl yn 1960 i fynd i Ferranti's. Roedd teirgwaith mwy yn gweithio yn Ferranti’s nag ym Mona Products. Bu’n gweithio yn 'laminations' Ferranti yn gwneud topiau 'sports cars' a chyfars lledar iddyn nhw. Roedd hi'n llawer hapusach yn Ferranti – roedd llawer mwy o hwyl yno. Llawer gwell lle a chael cyflog a bonus. Bu hi yno tan 1968, pan aeth i Hotpoint am rai misoedd. Ond doedd hi ddim yn hoffi Hotpoint a dychwelodd i Ferranti. Priododd Beryl yn ystod y cyfnod hwn a stopiodd hi weithio pan gafodd hi blant.

VSW020 Rita Davies & Meirion Campden, Croydon Asbestos, Milford Haven;Myfanwy Products, Gorseinon;Ffatri Grysau Glanarad, Castell Newydd Emlyn

Gadawodd Rita(1945) a Meirion (1949) yr ysgol yn 14oed. Dechreuodd Rita yn syth yn ffatri grysau Glanarad a gadael i briodi (1954), gan ddychwelyd ar ôl tair blynedd. ac ymunodd Meirion (?1949- c 1995). Johnny Morgan oedd y bòs, brawd perchennog warws J T Morgan, Abertawe. Hemo crysau gwlanen oedd y job gyntaf. Arian poced o’r cyflog. Byddai‘r bòs yn eu taro ar eu pennau â phensil neu eu pinsio os oeddent yn siarad. Bu Rita ar y peiriant botymau a Meirion yn gwneud y crysau. Llyfr i gofnodi eu gwaith. Wedyn cymerwyd y gwaith drosodd gan Myfanwy Products, Gorseinon yn gwneud dillad doliau a sioliau am 2-3 blynedd. Yna Croydon Asbestos a gwnïo lledr (gwaith trwm) gyda pheiriannau diwydiannol. Y menywod hŷn yn garedig. Caent anrheg o ddilledyn o warws J T Morgan adeg y Nadolig a thrip i Landrindod fis Mehefin. Rhif y gweithiwr ar y crysau. Bu’n rhaid i Meirion fynd i’r ysbyty ar ôl gwnïo’i bys. Aeth Rita i’r gwaith mewn rolyrs a thwrban. Caeodd Croydon Asbestos c.1996.
Rita a'r merched ar drip Glanarad i Landrindod Wells, 1950, © Rousham RobertsStaff JT Morgan, Glanarad Shirt Factory, © Harold Squibbs

VSE060 Rosalind Catton, Revlon, Maesteg;New Stylo, Penybont;Anglomac, Penybont

Gadawodd Rosalind yr ysgol yn 15oed (1958) a dechreuodd yn fuan yn Ffatri Anglomac, a oedd yn gwneud cotiau glaw. Roedd yn yr ystafell dorri - tan ei bod yn 18 dim ond gosod y defnydd allan y câi’i wneud. Roedd y torwyr i gyd yn fenywod. Caeodd y ffatri ar ôl tua blwyddyn ac aeth hi i’r ffatri esgidiau. Cred bod stigma mewn bod yn ferch ffatri. Gallai’r gyllell dorri fod yn beryglus. Mantais - prynu cotiau glaw a chael riliau cotwm. Yn New Stylo byddai’n addurno’r esgidiau gan ddefnyddio peiriant styffylu i osod yr addurn. Bu yno am flwyddyn. Ffatri fwy a mwy o gyfleusterau. Yn ddiweddarach ar ôl cael y plant aeth i Ffatri Revlon (tua 1969) ar y shifft mamau - 10-2 o'r gloch. Gwaith cyflym iawn ac anniddorol. Un dasg oedd rhoi top potel arno a’i tharo â gordd. Diddiwedd ac roedd yn rhaid i rywun gymryd ei lle petai eisiau mynd i’r toiled. Siaradai rhai o’r menywod hŷn lawer am bethau rhywiol. Gweithiodd yno’n ysbeidiol am gyfnod.

VSE067 Christine Chapman, Roller Blind Factory, Llwynypia;Gainsborough Flowers, Porth

Gweithiai mam Christine mewn ffatrïoedd e.g. Flex Fasteners a byddai’n ffeindio jobs gwyliau rhan amser iddi. Gweithiai yn Ffatri Gainsborough Flowers pan oedd yn y chweched dosbarth, yn gwneud blodau artiffisial ar beiriannau hen ffasiwn. Byddai’n defnyddio cannwyll hyd yn oed! Pan oedd hi yn y brifysgol gweithiodd mewn ffatri gwneud llenni rholer. Teimlai fod rhai menywod yn gas - yn chwarae triciau arnyn nhw. Daeth yn effeithlon iawn wrth ei gwaith yn y ffatri rholeri a gofynnodd person yr undeb iddi arafu. Roedd math o fwlian yno. Byddai’r bosys yn siarad i lawr â’r menywod. Gweithiai hi ar y 'presses'. Roedd yn rhaid cael caniatâd i fynd i’r toiled. Gweithiai yn y ffatri flodau tua1973-4. Byddai’r radio ymlaen a thynnu coes drwy’r amser. Arferai hi freuddwydio a chynllunio ymlaen. Sonia am y straeon amheus ac mae’n dweud un. Sonia am beth harasio. Dim ond pasio drwy’r ffatri yr oedd hi. Dysgodd lawer am fygythiadau hefyd - bu hynny o fudd iddi fel gwleidydd. Roedd sut y câi’r menywod eu trin gan y rheolwyr yn wers ffeministaidd gynnar. Roedd hi wedi bod yn y byd real. Mae’n sôn am ei gyrfa fel gwleidydd Llafur.

VSE012 Margaret Chislett, The Bag factory, Llwynypia;Polikoff's, Treorci

Gadawodd Margaret yr ysgol yn 15oed (1937) a gweithiodd fel nani am flwyddyn yn Llundain cyn ymuno â Polikoff’s yn 1938. Yno roedd yn cwblhau archeb yr Arglwyddes Churchill - cotiau mawr i fyddin Rwsia. Trwm iawn - eu gwisgo at eu pigyrnau. Hefyd gwneud iwnifform byddin Montgomery yng Ngogledd Affrica. Cyfrannai 2g at y Groes Goch a 2g at gronfa’r Arglwyddes Churchill o’i phae. Gallai weithio unrhyw le ar y lein. Roedd yn rhoi hemiau ar yr archeb Rwsiaidd. 2,500 o weithwyr yno pan yn ei fri. Daeth ENSA i’w diddanu. Bu yno am 9½ mlynedd. Prynodd ei mam sidan parasiwt i wneud peisiau a nicers. Cyfarfodydd Undeb yn erbyn gweithio ar y Sul. Gwisgai bib a bresys a throwser am y tro cyntaf. Nodwydd yn ei bys. Y radio’n canu caneuon Vera Lynn. Glanhau eu peiriannau ar brynhawn Gwener, balchder ynddynt. Adeiladwyd y ffatri ar gyfer gweithwyr o ddwyrain Llundain. Gadawodd pan yn feichiog. Doedd menywod ddim i fod i weithio ar y Sul. Byddai llinellau gwahanol yn trefnu digwyddiadau cymdeithasol. Gwyliau â thâl o 1948 ymlaen. Rhaid cyfrannu at dâl Gwyliau Banc. Ar ôl y rhyfel roedden nhw’n gwneud siwtiau de-mob. Gadawodd yn 1949. Mwynhaodd yno gan ei bod yn cwrdd â menywod gwahanol - capelwyr Bethany Gelli â’u dramâu a chlwb hoci a merched y tafarnau â’u dawnsfeydd. Yn ddiweddarach bu’n gweithio yn y ffatri fagiau - gwneud bagiau i M&S - yn eu gwnïo â pheiriannau. Yna caeodd y ffatri ar ôl tua 2 flynedd.
Mae rhan o'r cyfweliad hwn ar gael fel ffeil sain

VSE026 Marjorie Collins, Hitachi, Hirwaun;Lines (Triang), Merthyr;General Electric Company, Merthyr

Ei chefndir teuluol. Aeth Marjorie i goleg technegol a gadael yn 15oed (1943) a gweithiodd yn swyddfa Rediffusion, cyn mynd i ffatri Lines am dri mis a chyn mynd yn feichiog (1949). Gwaith brwnt ond roedd yn mwynhau’r cwmni. Hwyl adeg Nadolig. Dychwelodd yno (1951). Weldio a rhybedu push-chairs tegan. Adfer eu cartref. Dwedwyd wrthi am beidio brysio yn y gwaith - byddai hynny yn difetha graddfa’r dynion yn gweithio. Y dynion yn tynnu ei choes. Roedd ffatri Triang yn gwneud pramiau mawr a.y.b. hefyd. Canu. Yna gweithiodd mewn garej am flynyddoedd. Yna aeth i ffatri GEC yn Merthyr (?pan oedd yn 49 -1977) ac oddi yno i ffatri eithriadol lân Hitachi, Hirwaun - yn llawn amser. Yn Merthyr roedd yn gwneud byrddau cylched - a hefyd yn Hitachi ynghyd â swyddi eraill. Ni châi’r bois o Japan gymysgu â’r gweithwyr lleol. Ar y dechrau dwedai’r Japanwyr bod gormod o 'bennau' gwynion yn y ffatri ond yna sylweddolon nhw eu bod yn weithwyr da. Roedd y gweithwyr iau yn treulio amser yn y toiledau. Disgrifia’r bath sodro yn GEC. Bryd hynny os nad oeddech chi’n gweithio roeddech chi’n bodoli nid yn byw. Gorffennodd yno yn 60 oed (1988).
Cydweithwraig Marjorie Collins yn y gwaith yn Triang, Merthyr Tudful

VSE049 Sandra Cox, Ffatri Sigarau JR Freeman, Caerdydd

Gadawodd Sandra yr ysgol yn 14 oed ond wnaeth hi ddim dechrau yn y ffatri tan 1973 pan oedd hi’n 22. Disgrifia wneud y sigarau a’r gwynt ar ei dwylo. Collodd un ferch dop ei bys ar y peiriant torri. Roedd yn rhaid iddynt gael gymaint o sigarau â phosibl o un ddeilen. Bu un streic yno am y gwres. Roedd eu targedau ar fwrdd du yn y ffatri. Teithiai i’r gwaith ar sgwter Vespa. Roedd dynion diogelwch yno i rwystro’r staff rhag dwyn. Caent 10 sigarét yr wythnos am ddim ac ar y Nadolig 5 sigâr a sigarennau. Cystadlodd i fod yn Miss Freeman, nid mewn gwisg nofio ond roedden nhw’n cael eu cyfweld. Gadawodd am iddi gael y sac (neu ymddiswyddodd hi).

VSW008 Sally Cybluski, Parsons Pickles, Porth Tywyn;Yr Optical, Cydweli

Gadawodd Sally yr ysgol yn 1935 yn 14 oed. Pan oedd yn ddeunaw cafodd ei galw i fyny a gweithiodd ar fferm - gwerthu llaeth yng Nghaerfyrddin. Syrthiodd a thorri ei chefn. Yna bu mewn siop wlân. Sôn am ei gŵr - carcharor gyda’r Almaenwyr - ac yna draw i Gymru. Priododd yn 1946. Bu yn y ffatri gocos - lle ofnadwy. Pacio cregyn gleision yr oedd hi. Gwelodd ddarn o bapur gan Parsons yn dweud bod merched y ffatri i gyd yn ddiog. Cwynodd hi a chafodd y sac. Bu’n gweithio gyda 'cleaners' am 10 mlynedd. Yna i’r Optical lle'r oedd ei gŵr yn gweithio. Gwneud lensys - disgrifia’r broses. Yr oerfel - y lensys mewn oergell enfawr. Gorfod gwneud 11 troli'r dydd. Roedd yn waith trwm - ei hysgwyddau a’i choesau wedi’u heffeithio. Sŵn rhyfedda yna - mae hi’n fyddar nawr. Roedden nhw’n gorfod prynu Swarfega i lanhau’u dwylo o’r gwaith - stori Eidalwr yn ei ddwyn. Hanes Wadic, ei gŵr, yn dost.

VSW011 Augusta Davies, Cardwells, Llanbedr Pont Steffan;Slimma-Dewhirst, Llanbedr Pont Steffan

Gadawodd Augusta yr ysgol yn 16 oed (1961), bu'n glanhau a phriododd a chael plentyn, cyn dechrau yn Cardwells' yn 1965. Bu yno am 2 flynedd cyn cael plentyn arall a mynd nôl i Slimma (1976-2002). Teimlodd hiraeth ar ôl y merched. Yn Slimma pawb â thargedi ac roedden nhw'n tsiecio bob dwy awr. Dim undeb yn Cardwells' ond un yn Slimma. Erbyn y diwedd lot o fois ifanc o'r ysgol yn 'machinists' yno - tynnu'u coesau. Canu gyda'r miwsig o'r radio. Dim amser i siarad. Trafod newid o dalu arian i dalu trwy'r banc. Tripiau o'r ddwy ffatri, Parti Nadolig a chael twrci a gwin fel bonws yn Slimma. Prynu 'seconds'. Bu creche gan Slimma - ar y bws i Aberteifi (c. 1990??) Bu hi yn ffatrïoedd Llanymddyfri ac Abertawe hefyd. Gadawodd am fod 'arthritis' arni.
Augusta Davies gyda gweithwyr Cardwell's, Llambed, ar noson allan

VN009 Beti Davies, Ffatri wlan, Glyn Ceiriog

Gweithiodd Beti yn Ffatri Wlân Glyn Ceiriog yn syth ar ôl gadael yr ysgol, yn 14 oed. Roedd hefyd yn cadw tŷ i'w thad, ar ôl i'w mam farw. Ar ôl dechrau ar y 'bobbins', aeth ymlaen i weithio ar ddefnydd ar gyfer cotiau smart iawn, o safon uchel, a oedd mewn ffasiwn ar y pryd. Cafodd hi gyfle i brynu un: “Camel oedd un, a fel rhyw 'duck egg blue', o liw neis, a gaethon ni gynnig prynu côt am bum punt. Roedden nhw'n cadw pum swllt yr wythnos o'n cyflog ni nes on ni wedi talu'r pum punt. A mi ddedodd rhywun wrtha i bod y cotiau 'na yn werth pum punt ar hugain yn y siopau.” Roedd ei chwaer, Marion, yn gweithio yno hefyd. Gadawodd Beti flwyddyn cyn i'r ffatri gau yn 1951 ac aeth hi i weithio i'r Comisiwn Coedwigaeth. Priododd hi a chael mab ryw bedair blynedd ar ôl hynny a wnaeth hi ddim dychwelyd i'r gwaith. Roedd hi'n edrych ar ôl ei thad tan iddo farw. Aeth hi i lanhau mewn ysgol yn rhan amser am dipyn.
Beti gyda'i chwaer Marion a'u cyfnither yn Neganwy, yn gwisgo'r cotiau gwlan £5, 1950au

Administration