English
Rhestru pob cofnod yn ôl:

Casgliad o gyfweliadau a ffotograffau a gofnodwyd gan Archif Menywod Cymru yn 2013-14

Rhestru pob cofnod yn ôl:
Chwilio
Chwilio uwch

Pori'r cyfweliadau


Trefnwyd yn ôl enw'r cywelai

VSE071 Veronica (Vera) Diane Lena Battle, Ffatri Sigarau JR Freeman, Caerdydd;Ffatri ddillad Ralph Mathers, Caerdydd;Ffatri ddillad, Caerdydd

Roedd tad Vera yn gerddor jazz adnabyddus - amlinella’i chefndir a’i yrfa ef. Gadawodd Vera yr ysgol yn 14oed (1948) a dechreuodd yn y ffatri wnïo, yn gwnïo botymau a chynfas yn llabedi siacedi’r dynion. Symudodd i’r ffatri sigarau yn Clive Street, y trip blynyddol i Lundain. Byddai’n mynd â’r sigarau i lawr i’r llawr isaf i sychu. Oherwydd i’r ffatri symud i Heol Penarth aeth hi i weithio mewn ffatri deilwra yn gwneud dillad i fenywod. Roedd hi ar y peiriant 'overlocker' a gwneud tyllau botymau. Roedden nhw’n canu. Roedd llawer o ferched o wlad Groeg yno. Enwa’i chydweithwyr. Câi ddillad wedi’u gwneud i’w merched yno. Rhain oedd y teilwriaid gorau meddai. Symudodd i Toulouse gyda’i darpar-ŵr ond dychwelodd hi i Gaerdydd ac aeth ef adre i America. Roedd hi’n ddawnswraig hefyd a pherfformiodd yn y corws mewn sioe Negro Americanaidd ac aeth ar daith (Llundain, yr Alban a.y.y.b.). Mae wedi gweithio mewn ysgol gynradd hefyd.

VSW064 Keith Battrick, London Transformers Factory, Penybont

Disgrifia Keith y profiad trawmatig yn 16 oed pan aeth yn offerwr gobeithiol i ffatri London Transformers yn 1966. Profodd ddefod dderbyn a olygai ei ddadwisgo a gorchuddio’i gorff ag olew a blawd llif. Roedd y gweithwyr gwrywaidd a benywaidd yn rhan o hyn. Y darn gwaetha oedd methu glanhau ei hun ar ôl y seremoni. Gadawodd y ffatri am na allen nhw gynnig prentisiaeth iddo. Mae’n drydanwr llawrydd heddiw.

VSW035 Grace Beaman, Unit Superheaters, The Strand;Mettoys, Fforestfach

Gadawodd Grace yr ysgol yn 15 oed (1963) gan nad oedd ei thad yn credu ei bod yn werth addysgu merched. Gweithiodd mewn siopau ac yna yn Mettoys am 3 blynedd. Roedd menywod yn ddeheuig ar y llinell gynhyrchu. Roedd y dynion diogelwch yn chwilio bagiau’r gweithwyr. Gallai menywod drwsio eu peiriannau eu hunain petaent yn torri. Symudodd i ffatri Unit Superheaters yn gyrru nenbont craen gyda 13 o fenywod eraill . Ymunodd â’r Undeb gan i swyddog ddweud wrthi y collai ei swydd os na wnâi. Mewn adran yn Unit Superheaters roedd pelydrau 'Gamma' ac nid oedd menywod yn cael gweithio yno. Pan oedd yn Mettoys ai i glwb cymdeithasol yn yr Hafod a dechreuodd gynghrair ddartiau. Yn y pen draw prynodd swyddfa bost yng Nglandŵr ac enillodd radd yn 2000.

VSW034 Averil Berrell, ICI, Waunarlwydd;Lightening Zips (Fasteners), Waunarlwydd

Pan oedd tua 14 oed aeth Averill i ysgol dysgu pynciau masnachol ond gan nad oedd ei mam yn cefnogi hyn gadawodd a mynd i weithio yn Ffatri Lightning Zips fel clerc swyddfa, 1954-. Roedd yn cael mynd i goleg technegol bob wythnos. Roedd yn ffatri wych a glân; doedd neb eisiau gadael. Disgrifia sut y byddid yn pryfocio bechgyn ifanc a bod rhai menywod ffit a bras eu hiaith yno. Sonia am y clwb cymdeithasol a’r adnoddau chwaraeon. Rhoddai ei phecyn pae cyfan i’w mam a byddai hi heb ddim. Byddai’r cwmni yn rhoi cyfranddaliadau i’r gweithwyr. Gadawodd yn 1967 i gael babi. Mae’n crybwyll peth harasio rhywiol a bod rhai yn ‘dwyn’ zips.
Mae rhan o'r cyfweliad hwn ar gael fel ffeil sain
Darllenwch gyfieithiad Saesneg o'r clip sain hwn

VSE031 Maureen Howard Boiarde, Polikoff's, Treorci;Sobell's TV and Radio, Rhigos'

Gadawodd Maureen yr ysgol yn 15oed (1962) a dechrau yn Polikoff’s. Dywed stori am ei mam ar ei diwrnod cyntaf yn bygwth y byddai yn cael ei throi allan petai’n colli ei swydd. Sŵn - yr haearnau enfawr a’r 'presses'. Roedd e’n rhyfeddol. Roedd adran y dynion braidd yn ddi-liw. Disgrifia dorri trwch 2 droedfedd o ddefnydd yn fanwl gywir ar yr un pryd. Rhywiaeth - menywod yn gwneud y gwaith undonog. Bu’n gweithio fel ‘floater’ - cyflog uwch ond ni allai ennill bonws. Cost siswrn yn dod allan o’i chyflog. Gorfod rhoi ei holl bae i’w mam gweithio tuag at dalu llety a bwyd yn unig. Pan orffennodd yn Polikoff’s roedd yn gwnïo â llaw. Gweithio dros amser. Roedd dynion bob amser yn ennill mwy. Llawer o dynnu coes rhywiol - y dynion yn pinsio penolau ond y menywod yn talu’n ôl. ‘Bull week’ - Nadolig a chyn gwyliau blynyddol - ennill bonysau ychwanegol. Gallai wneud ffrog am 30c. Nodwydd trwy ei bys sawl gwaith - defod bywyd. Cadwai bad ger ei pheiriant i sychu’r gwaed. Bu’n gwnïo dillad i’r fyddin hefyd. Byddent yn ysgythru enwau ar eu sisyrnau. Gwrando ar y radio dair gwaith yr wythnos. Bu’n rhaid iddi adael a mynd i Lundain gyda’i mam tua1963. Dychwelodd yn fuan i Sobell’s - gweithiodd yno am 1 flwyddyn. Roedd pobl Aberdâr yn ddieithr iddynt. Byddai gweithwyr Polikoff's yn trefnu llawer o ddigwyddiadau cymdeithasol. Chwaraeodd tîm pêl-droed y menywod yn erbyn EMI. Dysgodd gwaith ffatri iddi fod yn annibynnol a rhoddodd stamina iddi.
Mae rhan o'r cyfweliad hwn ar gael fel ffeil sain

VSW023 Caroline Bowen, Slimma-Dewhirst, Wdig

Gadawodd Caroline yr ysgol yn 15oed (1983) a gweithiodd mewn sawl lle - yn garddio, yn rheoli gwestai ac ar y fferi cyn ateb hysbyseb Slimma (tua 1993). Teimlai fod y menywod yno yn gas a bod cliciau yn y ffatri. Gweithiai ar jîns ond câi anhawster i gwblhau ei chwota. Cafodd stŵr am hyn. Darparai ei siswrn drud ei hunan - £12 bob 4 wythnos. Aeth ei dwylo’n dost - roedd pawb yn rhwymo’u dwylo. Cafodd ei symud i wneud siorts boxer. Syrthiodd yn y ffatri a chollodd ei swydd. Dychwelodd i weithio yn y cantîn. Pennau tost ac afiechydon y frest ar lawr y ffatri. Roedd yn casáu’r gwaith. Hi oedd yr isaf o ran statws. Bydden nhw’n cynnal partïon babanod a rhoi rhubanau i ddynodi amser. Caent focs o siocledi’r Nadolig. Roedd hi’n rhy boeth neu’n rhy oer yno. Canent ar y cyd â Radio 2. Tair wythnos o wyliau blynyddol. Deuent ag hamperau i mewn i ddathlu’r Nadolig. Collodd sawl baban - effaith straen yn y ffatri? Roedd hi’n ‘uffern’ yno.

VSW063 Yvonne Bradley, Morris Motors, Llanelli

Gadawodd Yvonne yr ysgol yn 14 (1963). Aeth i ffatri Morris Motors yn 1967 i weldio distawyddion (dimai yr un). Cwrdd â’i gŵr yno. Riportio bwlis i’r swyddfa. Gwrthod bod yn gynrychiolydd undeb na 'forewoman' - ansicr o’i sgiliau ysgrifennu. Ond sgiliau eraill - awgrymu dulliau i wella plygiau a drysau’r peiriannau. Rheolwyr yn cymryd mantais achos doedd hi ddim yn gallu rhoi’i syniadau ar bapur. Rheolau annheg - menywod yn colli’u swyddi oherwydd cyfnod mamolaeth. Cafodd ei mab yn 1971, a dychwelodd yn rhan-amser (am 5 mlynedd) yna’n llawn amser ac yna cafodd ei diswyddo, yna ar gytundeb dros dro. Agwedd at ferched ffatri - dysgodd hi regi. Menywod yn well gweithwyr na dynion. Dynion yn fwy milwriaethus. Gwneud seti yn waith trwm - gwynegon heddiw. Niweidio’i chlustiau - tinnitus. Gwisgo 'visor' a sbats a.y.y.b. i weldio. Ffrwydrad nwy yn llosgi gwallt. Dal ei braich yn y felt gynhyrchu. Talu ffioedd undeb yn y toiledau cyn ei sefydlu, siop gaeedig. Bu yno 40 mlynedd. Seremoni derbyn bechgyn newydd trwy eu ‘goglais’. Os oedd unrhyw un yn priodi - eu gorchuddio â llanast. Streiciau. Gan y gweithwyr yr oedd y llaw uchaf. 25% oddi ar bris car newydd ond methu ei fforddio! Chwarae jôcs. Roedd hi’n filwriaethus iawn. Addurno peiriannau at y Nadolig a llawer o ddiod. Bu yn y tîm saethu. Nosweithiau dartiau a chystadleuaeth Miss Morris Motors. Gadawodd yn 2006.

VSW005 Gloria Brain, Ffatri Chloride, Ponthenri

Gadawodd Gloria yr ysgol yn 15 a bu’n cadw’r cartref ar ôl marw ei mam. Yna priododd yn 1954 (21 oed) a magu pump o blant. Yna dechreuodd yn y ffatri ar shifft yn 1972. Dechreuodd ar yr 'assembly' ac yna bu ar y 'process' – oedd yn fwy swnllyd oherwydd y peiriannau. Roedden nhw’n gwneud batris gwahanol. Doedd menywod ddim yn cael gweithio shifft nos. Roedd llwch yn yr adran 'process - cadmium'. Cafodd ddamwain ar ei bys. Lot o dynnu coes. Gadawodd yn 1979 gan fod y ffatri’n cau. Cofia sawl fflôt yn y carnifal. Bu’i mab yn gweithio yno a’i merched adeg y gwyliau.

VSE048 Mary Brice, Guest, Keen and Nettlefold (GKN);Silouette Underwear, Caerdydd

Ar ôl gadael yr ysgol yn 14, cafodd Mary sawl swydd (mewn caffe, David Morgan’s, Welsh Mills a.y.y.b.) cyn priodi ac aros gartre gyda’r plant am ddeng mlynedd. Yna gweithiodd i asiantaeth cyn ymuno ag adran gyflogau Silhouettes. Roedd merched llawr y ffatri yn gymdeithasol iawn ac yn ei chynnwys hi. Roedd y ffatri’n cynhyrchu dillad isaf a gwisgoedd nofio. Roedd y nyrs yno’n delio â phroblemau personol a mân anafiadau. Tâl sylfaenol + gwaith ar dasg oedd y pae. Câi’r ffatri ei rhedeg o’r Amwythig. Cofia’r gefnogaeth a roddodd merched y ffatri i fam ddibriod. Rhedai bysys arbennig yno o’r Barri. Byddai hi’n trefnu siocledi i’r gweithwyr adeg y Nadolig. Ar ôl pedair blynedd symudodd i weithio i’r Bwrdd Trydan.

VN050 Sandra Brockley, Shotton Steel Works, Shotton;De Haviland Aircraft Co, Broughton;Courtaulds, Y Fflint

Dechreuodd Sandra yn Courtaulds yn 1960, yn y lle cyntaf ar y 'perning', yn gwneud 'gwallt doliau' cyn symud ymlaen i'r 'cacennau'. Roedd y merched ar 'piecework', a doedd Sandra fyth yn ddigon cyflym. Roedd gan y ffatri do gwydr ac roeddent yn ei baentio'n wyrdd i gadw'r haul allan, ond roeddent yn dal i ferwi, meddai Sandra. Ond gallai fod yn oer iawn yn y gaeaf. Roedd hi'n byw bedair milltir i ffwrdd ac ai i'r gwaith ar y bws. Aeth hi ar 'day release. Gadawodd ar ôl chwe mlynedd, pan oedd hi tua 21, oherwydd roed'd hi wedi cael llond bol. Un dirwnod, gyrrodd hi'n syth heibio'r fffatri yn lle mynd i mewn ac aeth hi i Rhyl am y diwrnod! Ychydig yn ddiweddarach, cafodd hi swydd gyda De Havilands yn gyrru craen ar linell gynhyrchu yr Hawker Sidley 125 (awyrennau bach). Roedd hi'n gwybod am y pethau hyn oherywdd byddai ei thad yn siarad am 'slingers'. Gadawodd y swydd hon ar ôl blwyddyn i gael babi, ac yna dychwelyd i'r gwaith yn John Summers (Shotton Steel) a gwneud swyddi gyrru a gwerthu gwahanol, o 1971 nes iddi ymddeol yn 1998.

Administration