English
Rhestru pob cofnod yn ôl:

Casgliad o gyfweliadau a ffotograffau a gofnodwyd gan Archif Menywod Cymru yn 2013-14

Rhestru pob cofnod yn ôl:
Chwilio
Chwilio uwch

Pori'r cyfweliadau


Trefnwyd yn ôl enw'r ffatri

Hoover, Merthyr

VSE028 Marion Blanche Jones, Hoover, Merthyr;Teddington Aircraft, Merthyr;Birmingham Small Arms, Dowlais;AB Metals, Abercynon;Kayser Bondor, Merthyr

Gadawodd Marion yr ysgol tua16 oed (1951) a dechreuodd yn Kayser Bondor - tan 1958. Teimla iddi gael ei gyrru o un man i’r llall yno, felly gadawodd. Gan nad oedd ganddi swydd barhaol yno roedd yn anodd ennill arian da. Canu a chwifio i’r hoff ganeuon. Symudodd i AB Metals - yn gwneud tiwnwyr teledu. Cafodd ei diswyddo ar ol 2-3 years - caeodd yr uned deledu. Yn Kayser Bondor deuai adre’n crio am nad oedd yn ennill llawer. Roedd wrth ei bodd yn AB Metals. Rhoddai ei holl bae i’w mam nes iddi farw (1960). Yn nesaf bu yn BSA yn gwneud darnau o ynnau - caeodd o fewn blwyddyn. Yna yn Teddington’s yn gwneud darnau ar gyfer awyrennau. Glanhau coiliau dan chwyddwydr. Yna aeth i Hoover’s yn 1963. £10 yr wythnos a bonysau bob wythnos, mis a Nadolig. Yna dechreuodd mater cydraddoldeb. Roedd hi’n aelod o undeb ac yn 'shop steward.' Gweithiai ar y bagiau gwaredu newydd. Wedi pasio Deddf Tâl Cyfartal,1970 - aeth y dynion yn chwerw. Gwyddai’r menywod bod merched Ford’s (Dagenham) yn cael tâl cyfartal. Cysyllton nhw ag Ann Clwyd am gyngor. Aethant ar y rheolwyr ond dwedodd y 'convenor' nad oedden nhw’n gwneud yr un gwaith â’r dynion. Y dynion ar streic ond bu'n rhaid ildio. - drwg deimlad am flynyddoedd. Nid brwydr yn erbyn y cwmni ond yn erbyn yr undeb. Disgrifia newid yn y peiriannau. Tua 7000 o gyflogeion yn nhair ffatri Merthyr. Hoover yn cydnabod gwasanaeth 5,10,15,20 and 25 mlynedd - mwclis. Disgowntiau da i staff. Blynyddoedd o draul ar ei chorff. Swnllyd ac iawndal. Digwyddiadau gan yr adrannau gwahanol - ond newid pan gymerodd cwmnïau eraill drosodd. Gadawodd yn 1992 ar ôl 29 mlynedd.
Marion Jones (ar y chwith) a chydweithwraig yn Hoover, 1960au cynnarBarbara Vaughan yn y gwaith yn Hoover, 1960au cynnar

VSE053 Betty Probert, Hoover, Merthyr;OP Chocolate Factory, Merthyr

Gadawodd Betty yr ysgol yn 16oed (1946) a dechrau yn O P Chocolates (tan 1954) gyda’i hefeilles. Roedd yn yr adran bacio, hefyd yn y llawr isaf yn gwneud siocledi neu losin wedi’u berwi. Gwaith trwm. Gwnaent fisgedi crimp hefyd. Gallech fwyta faint fynnech chi. Caent fisgedi briwedig mewn bag. Cefnogodd yr Undeb hi pan wrthododd wneud gwaith rhy drwm. Recordiau, siarad a chanu. Anfon negeseuo gyda’r siocledi: ‘If married, pass us by, if single, please reply.’ Cwrddodd ei chwaer â dyn o’r Iseldiroedd fel hyn! Dwstio’r siocledi â dwster plu. Symudodd y ffatri i Ddowlais. Symudodd llawer o’r merched i Hoover’s. Disgrifia’r tasgau gwahanol a wnâi yno. Hyfforddi yn Llundain. Menywod ar y llinell gynhyrchu. Cafodd ddamwain ac iawndal £60 – bu gerbron tribiwnlys. Yr undeb – ei ffrind yn 'shop steward'. Bonysau misol a Nadolig. Cafodd beiriant golchi, sychwr dillad a glanhawr (yn rhatach) tra bu yno. Gall gael hyn heddiw. Streic tâl cyfartal – menywod ar y peiriannau trwm. Nid oedd yn ymwybodol ar y pryd o streic Dagenham. Dawnsio yn y cantîn a chyfleusterau tennis bwrdd. Diwrnod Mabolgampau – ffatrïoedd yn cystadlu. Cyngherddau – noda’r cantorion. Ysmygu ar lawr y ffatri. Gwyliau. Dalient i gwrdd - clwb criced. Gadawodd Hoover’s yn 1989. Wats aur – nodi 25 ml. + £30; £100 am 35 ml. Pensiwn misol a thâl diswyddiad. ‘Cartref oddi cartref’.

Horrock's, Caerdydd

VSE001 Rita Spinola (nee Stevens), Ffatri ledr Mr Spencer, Caerdydd;Horrock's, Caerdydd

Gadawodd Rita yr ysgol yn 15 (1954) a gweithiodd mewn londri tra’n aros am le yn Horrock’s. Y dasg gyntaf - gwnïo â llaw, yna’n machinist - gwneud rhan o ddilledyn. Roeddent yn gwneud ffrogiau â sgerti llawn a gynau tŷ. Bywyd cymdeithasol; canu gyda’r radio. Roedd y torwyr a’r pacwyr yn fenywod hefyd. Caeodd y ffatri tua 1958/9. Agwedd at waith ffatri. Arwerthiannau o gynhyrchion eraill Horrock’s hefyd. Undeb - y tymheredd yn y ffatri. Nodwydd drwy’r bys. Gweithiai Lorna Lesley (cantores - enw llwyfan Irene Spetti, gwraig David Dickinson) yno. Symudodd i’r ffatri ledr - 2/3 peiriant gwnïo yno yn gwneud bagiau ysgol a.y.b. Rhoi olew ar beiriannau - cael impetigo, diffyg glendid a dim cyfleusterau. Dim hwyl yno. Arhosodd 18 mis ac yna aeth i’r Almaen gyda’i gŵr. Cafodd hi blentyn. Dychwelodd a gweithiodd yn ysgol St Paul’s fel menyw ginio am 38 mlynedd.
Gweithwyr Horrocks mewn dawns  a chinio yn y Connaught Rooms, 1955. Mae Rita ar y dde

VSE011 Maisie Taylor, Horrock's, Caerdydd;Peggy Anne, Cardydd

Gweithiai mam Maisie yn Ffatri Curran’s adeg y rhyfel. Gadawodd Maisie yr ysgol yn 15 oed (1948/9) a dechreuodd yn Horrocks - gelwid yn Peggy Ann ar y pryd, yn gwneud dillad plant. Cymerodd Horrocks drosodd - yn gwneud dillad gwely a ffrogiau a.y.b. Roedd gan y cwmni ffatrïoedd eraill a cheid arwerthiannau o’u holl gynnyrch. Bu yno am 10 mlynedd. Disgrifia leoliad y ffatri. Byd gwahanol. Roedd y menywod yn gegog iawn. Aeth i siarad yn uchel oherwydd y sŵn yno. Gweithiai ar y fainc arbennig yn gwneud sawl tasg - yna ar yr 'overlocker', a daliodd ei bys yn y peiriant tyllau botymau. Roedd ei mislifoedd yn ei heffeithio - mynd i’r ystafell seibiant. Byddai hyn yn effeithio’r cynhyrchu ar y lein. Edrych ar ôl eu peiriannau. Roedd gwaith y fainc arbennig yn fwy medrus. Disgrifia’r prosesau. Yr oerfel a phlygu dros y peiriant wedi effeithio ar ei chefn. Parti Nadolig i’r plant - dewis anrhegion. Gwaith ar dasg - dal yn ôl pan oedd yn cael ei hamseru e.e. gwneud un ffrog mewn 4 munud yn werth 50c. Gwnïo ac altro dillad gartref i ychwanegu at ei hincwm. Y goruchwylwragedd ‘fel mamau’ iddynt. Torrai cerddoriaeth ar yr undonedd. Stori am weithio’n hwyr a mynd adre mewn niwl heb olau. Mynd allan yn y Barri a Chaerdydd. Sôn am Irene Spetti (enw llwyfan - Lorne Lesley yn y ffatri, priododd David Dickinson) a Rose Roberts - dwy gantores gabaret dalentog a weithiai yn Horrocks. Adrodd stori am ei goruchwylwraig (Miss Grünfeldt) yn cynnig gwneud ei gwisg briodas iddi yn y ffatri. Mae’r wisg ganddi o hyd. Gadawodd am ei bod yn feichiog (1959). Gweithiodd mewn caffes a.y.b. wedyn. Y ffatri oedd ‘amser gorau ei bywyd’.

Hotpoint, Llandudno

VN055 Beryl Buchanan, Ferranti, Bangor;Hotpoint, Llandudno;Mona Products, Porthaethwy

Aeth Beryl i Mona Products yn syth o'r ysgol yn 1958. Roedd y ffatri hon yn gwneud dillad i Marks & Spencers. Gwnïo coleri yn sownd i’r crysau T a hefyd y llewys, a rhoi lastig yn y nicyrs, a gwnïo 'gussets' roedd hi’n ei wneud. “Doedd na’m basic wage. Ac felly oedd rhaid i chdi fynd fel coblyn ar y mashîn ‘de i neud cyflog i fyny.” Doedd dim rheolau iechyd a diogelwch yr adeg honno. Roedd cantîn bach yno. Dim ond rhyw ddau ddyn oedd yn pacio ac un ar dractor bach oedd yn cario pethau, y rheolwr ei hun a dau fecanic. Byddai'r ffatri yn canu miwsig – radio ac uchelseinydd. Y dynion oedd yn dewis beth oedd arno – tebyg i 'Workers’ Playtime' a'r newyddion. Gadawodd Beryl yn 1960 i fynd i Ferranti's. Roedd teirgwaith mwy yn gweithio yn Ferranti’s nag ym Mona Products. Bu’n gweithio yn 'laminations' Ferranti yn gwneud topiau 'sports cars' a chyfars lledar iddyn nhw. Roedd hi'n llawer hapusach yn Ferranti – roedd llawer mwy o hwyl yno. Llawer gwell lle a chael cyflog a bonus. Bu hi yno tan 1968, pan aeth i Hotpoint am rai misoedd. Ond doedd hi ddim yn hoffi Hotpoint a dychwelodd i Ferranti. Priododd Beryl yn ystod y cyfnod hwn a stopiodd hi weithio pan gafodd hi blant.

VN038 Keith Evans, Hotpoint, Llandudno

Roedd Keith yn döwr cyn iddo fynd i Hotpoint, ar ôl cael llond bol ar y ffordd yr oedd yn colli allan ar fonysau yn y maes adeiladu. Nid oedd yn gwybod a fyddai'n setlo mewn ffatri ar ôl gweithio yn yr awyr agored ond mi wnaeth, ac fel y dywedodd roedd yn rhaid iddo, gan fod pedwar o blant ganddo. Roedd o'n gweithio ar linellau gwahanol a dywedodd bod yr hyfforddiant yn amrywiol iawn, gyda rhai llinellau lle roedden nhw'n dangos iddo beth i wneud unwaith ac wedyn yn gadael iddo ymdopi. Roedd o'n mwynhau gweithio yn ffatri Hotpoint, yn ennill arian da, yn enwedig am weithio shifftiau nos. Roedd o yno hyd nes iddo ymddeol ychydig cyn cyrraedd 65 oed.

VN037 Margaret Evans, Hotpoint, Llandudno

Dechreuodd Margaret weithio yn Hotpoint yn 39 oed. Roedd hi wedi bod yn gweithio cyn hynny ac roedd ganddi deulu. Roedd ei gŵr Keith wedi dechrau yno y flwyddyn gynt. Cafodd wythnos o hyfforddiant, lle roedd hi'n un o ddwy ferch, y gweddill yn ddynion, a dim ond hi oedd y gwneud y tasgiau yn iawn, roedd y dynion yn 'cutting corners', meddai. Roedd hi wir yn hoffi'r ffatri a'r cyfeillgarwch, ac roedd y cyflog yn uchel iawn, yn enwedig ar gyfer shifft nos, a bu hi a Keith yn gwneud shifftiau nos am gyfnod hir, tra bod ei mam yn gofalu am y plant. Roedd awyrgylch teuluol iawn yno, er ei bod hi'n ffatri enfawr, ac roedd llawer o sbort. Bu hi'n arweinydd tîm yn yr adran 'wiring boards' ac yn gynrychiolydd undeb am flynyddoedd lawer. Doedd hi ddim am symud i Hotpoint Kinmel pan gaeodd y ffatri yn 1992 ond nid oedd ganddi ddewis. Roedd y ffatri newydd yn wahanol iawn i'r ffatri yn Llandudno ac nid oedd y gweithwyr yn teimlo eu bod nhw'n perthyn. Ymddeolodd Margaret ym 1998.

VN023 Kathy Smith, Hotpoint, Llandudno

Roedd Kathy yn adran bersonél Hotpoint o'r dechrau yn 1947 ac, ar wahân i egwyl o 15 mlynedd pan oedd hi'n edrych ar ôl ei theulu neu'n gweithio ar longau, gan gynnwys y Queen Elizabeth, arhosodd yno nes ei diswyddo'n wirfoddol yn 1991, pan oedd yn 62 oed. Roedd hi wedi mwynhau gweithio yn y ffatri, yn nabod pawb , ac yn disgrifio'r lle bron fel teulu. Dywedodd ei fod yn lle 'aruthrol' i weithio, er ei bod yn cyfaddef nad oedd hi'n gorfod dioddef undonedd y llinell gynhyrchu. Yn ei swydd, roedd rhywbeth gwahanol bob dydd ac roedd yn gyffrous, doedd hi byth yn gwybod beth y byddai'n ei wynebu nesaf, ac roedd pobl yn arfer dod ati hi gyda phob math o broblemau. Gwnaeth amrywiaeth o dasgau yn sgil ei rôl fel swyddog personél, gan gynnwys amser ar y llinell gynhyrchu i geisio deall sut y gallai gweithwyr wneud diwrnod gwaith mor undonog ddydd ar ôl dydd.
Tu mewn i Ffatri Hotpoint, c.1980, © HotpointPwyllgor Adloniant Hotpoint, c.1950Gweithwyr ar lawr ffatri Hotpoint, c.1980  © Hotpoint

VN003 Yvonne Stevens, Ffatri deganau B.S.Bacon, Llanrwst;Dolgarrog Aluminium, Dolgarrog;Hotpoint, Llandudno;Danline, Llanrwst

Gweithiodd Yvonne yn y ffatri deganau yn Llanrwst ar ôl gadael yr ysgol yn 15 oed, lle bu'n paentio teganau pren. Roedd hi un o'r ifancaf ac roedd yn gweithio efo dwy fenyw hŷn ac roedd yn eu galw yn Anti Lena ac Anti Martha. Roedd hi'n hoffi'r teganau, wedi'u gwneud o bren, pethau fel tai doliau, garejys, a ffermydd, ond doedd hi byth yn gallu eu fforddio nhw. Roedd hi'n mwynhau gweithio yno ond roedd eisiau ennill mwy o arian, felly gadawodd y ffatri am swydd yn Nolgarrog fel 'inspector', yn gwirio'r alwminiwm am ddiffygion. Roedden nhw'n gwneud darnau o alwminiwm ar gyfer llawer o bethau, o sosbanau i doeau. Roedd y lle yn enfawr, gyda dros fil o weithwyr, ac roedd hi'n dal y bws yno o Lanrwst. Cyfarfu â'i gŵr Mark yn y ffatri a bu yno nes i'w mab gael ei eni ddwy flynedd ar ôl priodi. Aeth hi fyth yn ôl i waith ffatri, ond i waith glanhau.

Hufenfa Bwrdd Marchnata Llaeth, Felinfach

VSW053 Meiryl James, Hufenfa Bwrdd Marchnata Llaeth, Felinfach

Roedd Meiryl yn 19 oed yn gadael yr ysgol a dechreuodd weithio yn labordy’r ffatri laeth yn 1957 - tan 1968 (pan oedd yn feichiog). Sonia am yr oferôls a llosgiadau’r asid arnyn nhw ac ar y croen Disgrifia’r gwaith o brofi’r llaeth a gwynt arbennig llaeth y ffermydd. Roedd yn rhaid i’r ffatri fod ar agor bob dydd. Roedd sbort yno a byddai hi’n cyfansoddi penillion ar gyfer y parti Nadolig. Prynodd gar ar ôl pum mlynedd ac eisteddfota. Sonia am ennill gwobr Sydney Foster. Disgrifia broblemau tywydd poeth. Byddent yn mynd i briodasau ei gilydd i ffurfio ‘guard of honour’.
Priodas un o'r gweithwyr a'r 'guard of honour' o'r hufenfa yn Mydroilyn MydrolynMerched y labordy Hufenfa Felinfach, c. 1960Meiryl James a'i ffrind Nan yn profi llaeth ar y 'deck' yn Hufenfa Felinfach, c. 1959

Administration