English
Rhestru pob cofnod yn ôl:

Casgliad o gyfweliadau a ffotograffau a gofnodwyd gan Archif Menywod Cymru yn 2013-14

Rhestru pob cofnod yn ôl:
Chwilio
Chwilio uwch

Pori'r cyfweliadau


Trefnwyd yn ôl enw'r ffatri

Hufenfa Bwrdd Marchnata Llaeth, Felinfach

VSW054 Evana Lloyd, Hufenfa Bwrdd Marchnata Llaeth, Felinfach

Dechreuodd Evana weithio yn y Ffatri Laeth yn 1971 (tan 1979 ar eni ei mab). Roedd hi eisiau mynd yn athrawes ond cafodd ei mam waith iddi yn labordy’r ffatri. Eto mwynhaodd y gwaith yn profi’r llaeth a’r glanweithdra yno. Roedd gwaith gweinyddol hefyd. Sonia am addasu’r oferôls yn fyr iawn, cael caniatâd i wisgo trowseri, peryglon yr asid, cyrsiau i wella sgiliau, yr ystafell chwaraeon, tynnu coes, y 'spot checks', ffurfio 'guard of honour' mewn priodasau a’r gweithwyr hŷn yn dadol tuag atynt. Gwelodd golli’r gwmnïaeth yn fawr iawn ar ôl gadael.

ICI, Waunarlwydd

VSW034 Averil Berrell, ICI, Waunarlwydd;Lightening Zips (Fasteners), Waunarlwydd

Pan oedd tua 14 oed aeth Averill i ysgol dysgu pynciau masnachol ond gan nad oedd ei mam yn cefnogi hyn gadawodd a mynd i weithio yn Ffatri Lightning Zips fel clerc swyddfa, 1954-. Roedd yn cael mynd i goleg technegol bob wythnos. Roedd yn ffatri wych a glân; doedd neb eisiau gadael. Disgrifia sut y byddid yn pryfocio bechgyn ifanc a bod rhai menywod ffit a bras eu hiaith yno. Sonia am y clwb cymdeithasol a’r adnoddau chwaraeon. Rhoddai ei phecyn pae cyfan i’w mam a byddai hi heb ddim. Byddai’r cwmni yn rhoi cyfranddaliadau i’r gweithwyr. Gadawodd yn 1967 i gael babi. Mae’n crybwyll peth harasio rhywiol a bod rhai yn ‘dwyn’ zips.
Mae rhan o'r cyfweliad hwn ar gael fel ffeil sain
Darllenwch gyfieithiad Saesneg o'r clip sain hwn

Ina Bearings, Bynea

VSW025 Beryl Evans, Ina Bearings, Bynea

Gadawodd Beryl yr ysgol yn 14 oed, a bu’n gweithio ym mragdy Felin-foel, 1941-8, cyn priodi. Doedd ei gŵr ddim yn hoffi menywod yn gweithio mewn ffatri. Yna collodd ei gŵr yn 1966 a bu’n rhaid mynd i INA Bearings i gynnal ei theulu. Roedd hi ar ‘inspection’ yno. Mae’n sôn am y nyrs yn y ffatri, sŵn y peiriannau, cloco miwn, partïon Nadolig y plant, cael cloc am hir-wasanaeth a thripiau. Gadawodd y ffatri yn 1982.
Mae rhan o'r cyfweliad hwn ar gael fel ffeil sain
Darllenwch gyfieithiad Saesneg o'r clip sain hwn
Gweithwyr Ffatri INA Bearings ar daith i Blackpool, 1975Parti Nadolig y plant, Ffatri Ina Bearings, Llanelli, 1977Tystysgrif Beryl Evans am 10 mlynedd o wasanaeth yn INA BearingsFfatri INA Bearings yn agor yn 1966, Beryl gyda Jim Griffiths AS a'r Rheolwr

John Patterson tablecloth factory (aka John Pattinson and Fairweather works), Ponthenri

VSW003 Glenda & Annie Lewis, Morris Motors (Leyland), Llanelli;John Patterson tablecloth factory (aka John Pattinson and Fairweather works), Ponthenri

Gadawodd Glenda ac Annie yr ysgol yn 14/15 oed. Aeth Glenda i John Patterson (c.1953-), ffatri yn printo llieiniau bwrdd. Roedd Annie ar y torri mas. Yn Morris Motors bu Glenda yn gwneud rheiddiaduron ceir am 35 mlynedd. Caeodd ffatri John Patterson a bu Annie yn y ffatri batris ym Mhont-henri am rai misoedd. Bu hithau yn Morris Motors am 32 mlynedd. Chwarae triciau yn Morris Motors. Cafodd Glenda ford arbennig i weithio am ei bod yn llaw chwith. Ceisiodd Annie am job gyda’r dynion ar y 'presses' ond roedd rhai gweithwyr eraill wedi cwyno. Partïon Nadolig yn y ffatri. Cafodd y ddwy watsh am hir-wasanaeth. Soniant am y menig, rhai’n smygu ac yn gwynto; Yn Morris Motors bydden nhw’n gwerthu cotiau babis roedden nhw wedi’u gwau. Problemau gyda thargedau - y stwff yn wael. Y seremoni wobrwyo am hir-wasanaeth. Glenda yn gadael yn 58 oed, oherwydd bod ei chefn wedi mynd ac Annie yn 56 oed.

John Patterson Tablecloth Factory (aka John Pattinson and Fairweather works), Ponthenri

VSW004 Nanette Lloyd, John Patterson Tablecloth Factory (aka John Pattinson and Fairweather works), Ponthenri

Ar ôl gadael yr ysgol yn 15 aeth yn 'waitress' yna i siop esgidiau cyn dechrau yn y ffatri c.1953, yn printo llieiniau bwrdd. Os byddech chi’n sarnu’r gwaith byddai’n dod allan o’r pae. Sonia am wynt afiach y paent (lliwur); ennill £20 yr wythnos; cario’r rowls trwm yn effeithio ar ei 'periods'. Cafodd ddamwain gas oherwydd doedd hi ddim yn gwisgo 'wellingtons' rwber. Dim undeb. Bwriadwyd ffatri Pont-henri ar gyfer glowyr â silicosis ond roedd gwynt y paent yn rhy gryf. Cred bod gweithwyr cwmni’r ffatri yn Birmingham yn cael mwy o arian na nhw. Anfonid y llieiniau dros y byd a rhoddai merched negeseuon yn yr archebion i gael pen-friends. Byddai’r gweithwyr yn gwynto o 'thinners'. Dwyn 'bleach' i lanhau’u hewinedd. Dysgodd ddawnsio yn y 'cloakroom'. Gadawodd am fod ei mam wedi marw ac angen cadw tŷ ar gyfer ei theulu. Peth harasio geiriol o’r bois ifanc yn y ffatri. Canu ar ddydd Gwener. Mynd â fflôt i garnifal Pont-henri. Diod adeg y Nadolig.
Mae rhan o'r cyfweliad hwn ar gael fel ffeil sain
Darllenwch gyfieithiad Saesneg o'r clip sain hwn
Fflôt ffatri Fairweather Works yng ngharnifal PonthenriNanette Lloyd a'i ffrind fel Indiaid Cochion yng ngharnifal PonthenriNanette Lloyd a chriw yn ffatri Fairweather Works, Ponthenri

John Stanton, Llanelli

VSW062 Sylvia Howell, Salter, Llanelli;John Stanton, Llanelli

Gadawodd Sylvia yr ysgol ramadeg gyda Lefelau O pan oedd yn 17. Bwriadai fynd yn nyrs ond priododd yn lle. Bu’n gweithio mewn siopau ac yn yr Opticals Llanelli ond ar ôl geni ei mab aeth i weithio i ffatri John Stanton fel uwch wniadwraig yn 1967 (tan tua 1969) - ffatri eitha ‘posh’. Roeddent yn gwneud dillad i M&S. Targedau, amser a symud a bonysau. Anafiadau gyda’r peiriant. Doedd dim undeb a phan geision nhw ddi-sgilio’i gwaith symudodd i ffatri Salter’s yn calibro cloriannau. Gweithiai am yr arian ond roedd y cwmni yn dda hefyd. Symudodd i fod ar 'inspection' yn y warws. Roedden nhw’n prynu pethau eilradd yn y ddwy ffatri ac roedd rhywfaint o ‘ddwyn’ Caeodd Salter’s yn 1978.

John Stanton, Swansea

VSW051 Jean Evans, Mettoys, Fforestfach;John Stanton, Swansea

Gadawodd Jean yr ysgol yn 15 oed (1960) a gweithiodd yn siop Home and Colonial, Abertawe, cyn symud ar ôl 8 mis i Mettoys. Gwaith caled, câi popeth ei bwyso a châi hi ei thalu yn unol â’r hyn oedd yn y 'pallets'. Cafodd ei symud o gwmpas - ar y llinell gynhyrchu yn gwneud teganau. Gadawodd pan gafodd ei mab ond dychwelodd ar ôl 8 mis ar y shifft gyda’r nos. Roedd yn yr Adran Ffetlo yn glanhau darnau o geir. Yna bu’n archwilio’r ceir gorffenedig yn barod i’w pacio. Byddai’n nodi gwaith o safon is. Yna cafodd fwy o gyfrifoldeb - yng ngofal eraill. Gadawodd am ei bod wedi blino ar waith gyda’r nos, aeth i ffatri wnïo John Stanton ond o fewn tair wythnos dychwelodd i Mettoys. Yna gadawodd i wneud gwaith domestig. Yn Mettoys byddai’r rheolwr yn tsiecio‘r gwaith yn ddirybudd. Dynion oedd y cotiau gwynion gan amlaf. Daeth allan o’i chragen yn y ffatri. Roedden nhw’n cael hwyl yno.

John White, Rhydaman

VSW019 Patricia Murray, Penclawdd Bandage Factory, Penclawdd;Alan Paine, Rhydaman;John White, Rhydaman

Gadawodd Patricia yr ysgol yn 15 oed (1959) a dechrau gweithio yn y ffatri rwymynnau ym Mhenclawdd, yn gweu’r rhwymynnau. Profiad erchyll. Symudodd y ffatri i Garnant. Cerddodd y gweithwyr allan am ei bod yn rhy oer (1962). Cawsant waith yn syth gyda Corgi’s. Symudodd Pat i Ffatri Alan Paine. Gweithiai fel cysylltwraig ac yna yn cynhyrchu. Daeth yn hyfforddwraig ac yna’n oruchwylwraig. Gwaith crefftus iawn. Nododd y medryddion; dawnsio i ganeuon roc a ròl ar y radio; glanweithdra; codi cyflymder; y dillad yn cael eu hanfon nôl i Surrey i gael eu cwblhau. Roedd Paine’s (1966) yn prosesu’r cyfan. Roedd crèche yn Corgi’s, caewyd oherwydd rheoliadau. Gweithiodd o’i chartref (tua 1968-73) pan oedd y plant yn fach. Rhai jobsys yn talu’n well nag eraill. Fel aelod o staff - dim yn yr undeb. Rheoliadau Iechyd a Diogelwch yn cynyddu. Dathliadau Nadolig - addurno’r llawr a’r peiriannau, cinio. Clwb cymdeithasol a thripiau. Cafodd tinnitus o weithio yno. Ymweliad y Dywysoges Anne. Caeodd y ffatri yn 1998. Bu’n gweithio yno am 33 mlynedd.
Gwobr y Frenhines Alan Paine, © Richard Firstbrook, Ffotografydd, Llandeilo

Johnson & Johnson, Pengam

VSE050 Audrey Gray, Johnson & Johnson, Pengam;British Nylon Spinners, Pontypŵl

Gadawodd Audrey yr ysgol ramadeg (disgrifia’i phrofiadau yn fanwl) yn 17 oed (1953/4) ac er bod bwriad iddi fynd i brifysgol gadawodd priodasau ei brodyr ei mam yn ddi-incwm, ac aeth i weithio yn labordy BNS., yn profi edafedd am ludedd a.y.y.b. Cadw cofnodion a glanhau popeth gyda’r nos. Noda weithio gyda baddonau asbestos a ffyrnau nwyon wrth ddisgrifio’r prosesau. Profi deunyddiau crai hefyd e.e. dŵr a glo. Doedd merched ddim yn gweithio ar y shifft nos. Roedd yn deall y broses gynhyrchu. Noda nad oedd labordai mewn ysgolion i ferched. Nifer o gemegau gwenwynig a pheryglus. Gwisgent gotiau terylen, menig dau gryfder - un o rwber, gorchudd llygaid yn orfodol ar gyfer rhai jobs. Cafodd un ddamwain - berwodd fflasg a saethodd toddiant i’w hwyneb - cymorth cyntaf, nyrsys ac ysbyty. Un streic oherwydd y gwres a’r peiriant awyru wedi torri. Bywyd cymdeithasol gyda gweithwyr y lab. yn bennaf. Clybiau gwahanol - tennis, tennis bwrdd, canŵio a.y.b. Gerddi hardd yno. Basged londri ar gyfer y cotiau lab a ‘r dwsteri. Talu’n fisol. Caent gyfranddaliadau a phensiynau. System shifft saith niwrnod. Perthynai i undeb yr ASTMS- Assoc. of Technical and Management ? Gydag awtomasiwn daeth diswyddiadau. Disgrifia’r clybiau cymdeithasol gwych a’r digwyddiadau. Dawns Nadolig - cyfrifoldeb un shifft, fel set ffilm. Arhosodd yno am 12-3 blynedd ac yna aeth i Johnson’s yn rheoli ansawdd am rai blynyddoedd. Roedd y ffatri’n cynhyrchu 'j cloths'.
Audrey Gray yn labordy British Nylon Spinners  yn derbyn anrheg ffarwel, diwedd y 1960auAudrey Gray yn gweithio yn labordy Johnson and Johnson, Pengam

Johnson's Bottle Top Factory, Port Talbot

VSE044 Maureen Jones, Merlin's Sponge factory, Port Talbot;Wern Aluminium, Port Talbot;Johnson's Bottle Top Factory, Port Talbot

Gadawodd Maureen yr ysgol yn 15oed (1961) a dechrau yn Johnson’s, yn bwydo’r peiriant â thopiau poteli a jobs eraill. Roedd menywod eraill yn torri topiau cylch. Ailgylchu topiau- bu’n gwneud hynny - job frwnt. Eu pacio nhw i focsys. Peryglus - cydiodd llinyn ei ffedog mewn peiriant. Collodd un fenyw un o’i bysedd. Manylion ei diwrnod cyntaf. Gadawodd ac aeth i Waith y Wern - yn rhoi olew ar y shîts pan oedden nhw’n dod allan. Cred mai ar gyfer awyrennau yr oedden nhw. Damwain a chael pedwar pwyth. Bu yno am flwyddyn. Chwarae tric - cyflymu’r peiriant. Casglu metel sgrap. Menig rwber ar gyfer troi’r shîts trwm. Symudodd i Ddyfnaint a dychwelodd yn ddiweddarach i weithio’n ffatri Merlin’s yn gwneud citiau ceir a sbyngau.

Administration