English
Rhestru pob cofnod yn ôl:

Casgliad o gyfweliadau a ffotograffau a gofnodwyd gan Archif Menywod Cymru yn 2013-14

Rhestru pob cofnod yn ôl:
Chwilio
Chwilio uwch

Pori'r cyfweliadau


Trefnwyd yn ôl cyfeirnod y cyfweliad

VN053 Dilys Pritchard, Austin Taylor, Bethesda;Ferranti, Bangor

Gweithiodd Dilys yn Woolworth's am bedair blynedd ar ôl gadael yr ysgol. Symudodd hi i Ferranti's pan oedd tua 19 oed, yn 1961-1962, ond dim ond am chwe mis yn unig y bu yno, cyn newid i Austin Taylors, lle daeth hi yn un o'r 'gweithwyr allweddol' - yn dysgu sut i reoli pobl a rhoi hyfforddiant iddynt ar yr hyn yr oedd y ffatri yn ei gynhyrchu. Mae'n cofio un ferch yn dal ei gwallt yn y peiriant. Roedd Dilys yn gyflym i ddiffodd y peiriant ac roedd rhaid iddynt dorri rhan o'i gwallt i'w chael hi'n rhydd. Ar ôl wyth mlynedd yno, aeth hi'n sal a dywedodd y ffatri wrthi y byddai'n rhaid mynd i dribiwnal i gael ei swydd yn ôl, felly heb undeb i'w helpu hi, collodd hi ei swydd yn 1970.

VSE053 Betty Probert, Hoover, Merthyr;OP Chocolate Factory, Merthyr

Gadawodd Betty yr ysgol yn 16oed (1946) a dechrau yn O P Chocolates (tan 1954) gyda’i hefeilles. Roedd yn yr adran bacio, hefyd yn y llawr isaf yn gwneud siocledi neu losin wedi’u berwi. Gwaith trwm. Gwnaent fisgedi crimp hefyd. Gallech fwyta faint fynnech chi. Caent fisgedi briwedig mewn bag. Cefnogodd yr Undeb hi pan wrthododd wneud gwaith rhy drwm. Recordiau, siarad a chanu. Anfon negeseuo gyda’r siocledi: ‘If married, pass us by, if single, please reply.’ Cwrddodd ei chwaer â dyn o’r Iseldiroedd fel hyn! Dwstio’r siocledi â dwster plu. Symudodd y ffatri i Ddowlais. Symudodd llawer o’r merched i Hoover’s. Disgrifia’r tasgau gwahanol a wnâi yno. Hyfforddi yn Llundain. Menywod ar y llinell gynhyrchu. Cafodd ddamwain ac iawndal £60 – bu gerbron tribiwnlys. Yr undeb – ei ffrind yn 'shop steward'. Bonysau misol a Nadolig. Cafodd beiriant golchi, sychwr dillad a glanhawr (yn rhatach) tra bu yno. Gall gael hyn heddiw. Streic tâl cyfartal – menywod ar y peiriannau trwm. Nid oedd yn ymwybodol ar y pryd o streic Dagenham. Dawnsio yn y cantîn a chyfleusterau tennis bwrdd. Diwrnod Mabolgampau – ffatrïoedd yn cystadlu. Cyngherddau – noda’r cantorion. Ysmygu ar lawr y ffatri. Gwyliau. Dalient i gwrdd - clwb criced. Gadawodd Hoover’s yn 1989. Wats aur – nodi 25 ml. + £30; £100 am 35 ml. Pensiwn misol a thâl diswyddiad. ‘Cartref oddi cartref’.

VSW053 Meiryl James, Hufenfa Bwrdd Marchnata Llaeth, Felinfach

Roedd Meiryl yn 19 oed yn gadael yr ysgol a dechreuodd weithio yn labordy’r ffatri laeth yn 1957 - tan 1968 (pan oedd yn feichiog). Sonia am yr oferôls a llosgiadau’r asid arnyn nhw ac ar y croen Disgrifia’r gwaith o brofi’r llaeth a gwynt arbennig llaeth y ffermydd. Roedd yn rhaid i’r ffatri fod ar agor bob dydd. Roedd sbort yno a byddai hi’n cyfansoddi penillion ar gyfer y parti Nadolig. Prynodd gar ar ôl pum mlynedd ac eisteddfota. Sonia am ennill gwobr Sydney Foster. Disgrifia broblemau tywydd poeth. Byddent yn mynd i briodasau ei gilydd i ffurfio ‘guard of honour’.
Priodas un o'r gweithwyr a'r 'guard of honour' o'r hufenfa yn Mydroilyn MydrolynMerched y labordy Hufenfa Felinfach, c. 1960Meiryl James a'i ffrind Nan yn profi llaeth ar y 'deck' yn Hufenfa Felinfach, c. 1959

VN054 Sandra Owen, AustinTaylor, Bethesda;High Speed Plastics, Llandygái

Yn syth ar ol gadael yr ysgol, yn 1970, aeth Sandra i'r ffatri blastig i wneud 'sun visors' a chaniau dŵr. Roedden nhw ar 'time and motion' ac roedd y cyflog yn dibynnu ar faint o’r 'sun visors' oedden nhw'n ei wneud. Ar ôl dwy flynedd, cafodd hi waith yn Austin Taylors, Bethesda, lle roedd hi'n gallu cerdded i'r gwaith. Roedd yr ail ffatri yn cynyrchu pethau electronig ac roedd hi ar y peiriannau: "Ar ôl cyrraedd landiodd hi yn y mashîn siop ‘ a rhyw anfarth o fashîn fawr. Mi oedd golwg y mashîn yn ddigon ar wneud neb redag allan oddi yna. Ond mi oedd ‘na ddynion yn gweithio yn y mashîn siop, ac yn dysgu ni. A fi oedd yr unig un, geithon ni’n gwahanu i gyd i wahanol adranna yn y ffatri. Ymhen dau, dri dirwnod on i ‘di dod yn real boi ar y mashîn ac on i’n ddigon hapus." Roedd y gweithwyr yn gweithio 56 awr yr wythnos weithiau er mwyn cyrraedd eu targedau. Wedyn, daeth Sandra yn oruchwylwraig. Gadawodd hi yn 1998 pan oedd y ffatri yn cau a dechreuodd hi ei busnes ei hun, yn darparu cywion ieir i gigyddion led led Cymru .

VSE054 Doreen Lillian Maggie Bridges (nee Moses), Valeo, Ystrad Mynach;Golmets, Pontllan-ffraith;Switchgear, Pontllan-ffraith;Cora Crafts, Pengam

Gadawodd Doreen yr ysgol yn 15+ oed (1957) a dechrau yn y storfa yn Ffatri Cora Crafts, oedd yn gwneud gemwaith. Deuai dynion i mewn i nôl cerrig. Byddai’n helpu pwyso powdwr aur ar gyfer y platio aur hefyd. Roedd yn defnyddio’i hymennydd i wneud yr archebion. Roedd ei thad yn strict iawn am fynd allan - dim minlliw. Âi ei ffrindiau ar y mynci- pared. Bu yno am 6 mis yn unig cyn symud i Switchgear - ffatri reit fawr, drilio, gwrthsoddi (gwneud gwrymiau i’r sgriwiau) a 'de-burring'. Gwnâi’r ffatri switshis. Ei mam a’i phecyn pae. Cefnogodd yr undeb hi ar fater codi pwysau trwm. Cafodd ei symud o’r swydd hon. Radio a chanu i’w hunain. Effeithiodd y sŵn ar ei chlyw. Roedd y dynion yn cael eu hyfforddi ac yn cael tâl uwch - annhegwch. Erbyn cyfnod y Ddeddf Tâl Cyfartal (1970), roedd yn gweithio’n Valeo. Ond nid oeddent yn cael tâl cyfartal. Arhosodd yn Switshgear am flwyddyn, ac aeth i Golmets. Gadawodd i gael ei phlentyn cyntaf yn 1965. Gwnâi’r ffatri fyrddau smwddio a stolion cegin. Am gyfnod bu’n torri asbestos gwyn - dim mygydau. Gallai ‘ei weld e yn yr awyr’. Aeth i Valeo yn 1977. Bu’n gynrychiolydd undeb yno gyda’r GMB - brwydr yn erbyn defnyddio dip arbennig oedd yn achosi cancr. Gwnâi armatyrau ar gyfer golchwyr sgriniau car. Bu’n rhaid iddi negydu codiadau cyflog hefyd. Cynghorodd y menywod i dalu stamp llawn. Roedd menywod yn cael eu trin yn annheg. Carnifal Nadolig ar lorri Switchgear - canu mewn côr. Ymddeolodd Doreen yn 1995.
Mae rhan o'r cyfweliad hwn ar gael fel ffeil sain
Sled Nadolig Ffatri Switchgear a chôr carolau'r cwmni

VSW054 Evana Lloyd, Hufenfa Bwrdd Marchnata Llaeth, Felinfach

Dechreuodd Evana weithio yn y Ffatri Laeth yn 1971 (tan 1979 ar eni ei mab). Roedd hi eisiau mynd yn athrawes ond cafodd ei mam waith iddi yn labordy’r ffatri. Eto mwynhaodd y gwaith yn profi’r llaeth a’r glanweithdra yno. Roedd gwaith gweinyddol hefyd. Sonia am addasu’r oferôls yn fyr iawn, cael caniatâd i wisgo trowseri, peryglon yr asid, cyrsiau i wella sgiliau, yr ystafell chwaraeon, tynnu coes, y 'spot checks', ffurfio 'guard of honour' mewn priodasau a’r gweithwyr hŷn yn dadol tuag atynt. Gwelodd golli’r gwmnïaeth yn fawr iawn ar ôl gadael.

VN055 Beryl Buchanan, Ferranti, Bangor;Hotpoint, Llandudno;Mona Products, Porthaethwy

Aeth Beryl i Mona Products yn syth o'r ysgol yn 1958. Roedd y ffatri hon yn gwneud dillad i Marks & Spencers. Gwnïo coleri yn sownd i’r crysau T a hefyd y llewys, a rhoi lastig yn y nicyrs, a gwnïo 'gussets' roedd hi’n ei wneud. “Doedd na’m basic wage. Ac felly oedd rhaid i chdi fynd fel coblyn ar y mashîn ‘de i neud cyflog i fyny.” Doedd dim rheolau iechyd a diogelwch yr adeg honno. Roedd cantîn bach yno. Dim ond rhyw ddau ddyn oedd yn pacio ac un ar dractor bach oedd yn cario pethau, y rheolwr ei hun a dau fecanic. Byddai'r ffatri yn canu miwsig – radio ac uchelseinydd. Y dynion oedd yn dewis beth oedd arno – tebyg i 'Workers’ Playtime' a'r newyddion. Gadawodd Beryl yn 1960 i fynd i Ferranti's. Roedd teirgwaith mwy yn gweithio yn Ferranti’s nag ym Mona Products. Bu’n gweithio yn 'laminations' Ferranti yn gwneud topiau 'sports cars' a chyfars lledar iddyn nhw. Roedd hi'n llawer hapusach yn Ferranti – roedd llawer mwy o hwyl yno. Llawer gwell lle a chael cyflog a bonus. Bu hi yno tan 1968, pan aeth i Hotpoint am rai misoedd. Ond doedd hi ddim yn hoffi Hotpoint a dychwelodd i Ferranti. Priododd Beryl yn ystod y cyfnod hwn a stopiodd hi weithio pan gafodd hi blant.

VSE055 Caroline Isina Aylward, Louis Edwards, Maesteg;Christie and Tyler's, Glyncorrwg

Gadawodd Caroline yr ysgol yn 15oed (1952) a dechrau yn Louis Edwards. Gweithiodd yno nes iddi gael ei mab -1959. Cyn iddi ddechrau yno roedden nhw’n gwneud iwnifformau’r fyddin ond bu hi’n gwneud ffrogiau min nos a llawer i M&S. Roedd yn gwnïo coleri yn bennaf. Disgrifia gynllun y ffatri. Y cydbwysedd dynion / menywod. Dim siarad. Dawnsio. Manteision y ffatri - prynu ffrogiau â namau arnynt. Perthyn i’r 'Garment Workers’ Union' a thalu ffioedd ddydd Gwener. Llafur caled. Amser a symud ar steiliau newydd - prisio’r gwaith. Nodwyddau mewn bysedd. Daliodd ei sgert mewn peiriant - felly cawsant oferôls i’w gwisgo. Bu’n chwarae pêl-rwyd ar ôl gwaith ambell dro. Dychwelodd am gwpwl o flynyddoedd (tua 1967-9) - ffatri hapusach. Y tro cyntaf roedd y gweithlu’n anniddig. Bu’n gweithio hefyd mewn ffatrïoedd dodrefn - Colonial/ Christie Tyler yn rhan-amser pan oedd ei mab yn fach. Defnydd mwy trwchus ond arian da. Y gwnïo’n haws - ddim mor ffyslyd. Disgrifia’r prosesau. Symud i Drefforest (1980s?) pan oedd prinder gwaith yng Nglyncorrwg. Yr un cwmni ond enwau gwahanol ar y ffatrïoedd. Gofynnwyd iddi weithio gyda chynllunydd fel 'machinist' yn datblygu dodrefn. Gwnâi waith preifat i un o’r dynion yn y ffatri. Yn ddiweddarach caeodd y ffatri yng Nglyncorrwg ac aethant i Bendragon ym Mhen-y-bont. Cafodd ei diswyddo ac aeth i weithio i’r Gwasanaethau Cymdeithasol.

VSW055 Eirwen Jones, Y Bwrdd Marchnata Llaeth, Ffatri Laeth Pont Llanio

Gadawodd Eirwen yr ysgol yn 17oed (1969) a chan fod blwyddyn i aros cyn mynd i nyrsio cafodd waith yn ffatri laeth Pont Llanio. Mynd oddi cartre’ i Aberystwyth i ddysgu nyrsio - swil iawn a ddim yn siarad Saesneg. Yn ei chartref doedd dim dŵr yn rhedeg na bath. Roedd hi’n rheoli’r caffeteria yn y ffatri laeth heb unrhyw brofiad. Staff o tua 80 a dim ond 4 menyw yn y labordy. Lot o sbort gyda’r dynion - ceisio cael Eirwen i eistedd yn eu côl. Pwyslais mawr ar lendid. Rhai o’r teulu e.e. ei thad yn gyrru lori, yn gweithio yno. Caeodd y ffatri yn 1974. Cyflog o £6 yr wythnos yn arian mawr. Cyfarwyddo â’r dynion yn tynnu ei choes. Y cwmni yn rhoi hamper o fenyn, caws a.y.y.b. i’w thad bob Nadolig a thalu am ginio Nadolig. Dim rheolau - os byddai'n cwympo - ‘tyff’. Pan oedd yn nyrsio teimlai dan anfantais nad oedd ei Saesneg yn well. Yn y ffatri laeth roedd yn ymwybodol fod ei thad yno’n gefn iddi os byddai’r dynion yn rhy ddireidus.

VN056 Sali (Sarah) Williams, Ffatri baco E. Morgan & Co, Amlwch

Yn syth o'r ysgol, aeth Sali i weithio yn ffatri faco E. Morgan & Co, yn pwyso'r baco, o 1938 tan 1942, pan gafodd ei galw i fyny i ymuno â'r Fyddin Dir. Ei swydd hi oedd gwneud yr 'ounces' crwn, pwyso'r baco mewn 'ounces' ar fwrdd gyda thair merch arall. Roedd rhaid pwyso'r baco yn gywir er mwyn i rywun arall ei bacio fo mewn pecynnau crwn. Roedd y gwaith yn ddiddorol, meddai, ac ar ôl cael eu pwyso a'u pacio, aent i siopau dros Gymru. Roedd 'HMS customs' yn dod weithie, heb roi gwybod, i destio'r baco ac i weld a oedd ‘na ormod o ddŵr ynddo fe. Os oedd yn rhy wlyb, roedd pobl yn talu gormod amdano. Roedd 'supervisor' yn dod at Sali efo archebion. Yr un baco oedd yn mynd i bob 'wrapper', meddai, ac er bod yr enwau yn wahanol yr un un baco oedd o. Roedd y berthynas yn iawn rhwng y merched 'pawb yn gytun.' Doedd na ddim byd 'hygienic' am y lle, dim ond tipyn o ddŵr i olchi'r dwylo mewn bwced, dim tap, a dim 'water toilets'. Roedd hi'n wrth ei bodd yn y Fyddin Dir a dychwelodd i'r ffatri am ychydig o fisoedd ar ôl y rhyfel tan iddi briodi a chael ei phlentyn cyntaf. Aeth hi ddim yn ôl i weithio ond bu'n wraig tŷ am weddill ei hoes.

Administration