Pori'r cyfweliadau
Trefnwyd yn ôl cyfeirnod y cyfweliad
VSW049 Monica Walters, Smiths Crisps, Fforestfach
Gadawodd Monica yr ysgol yn 15oed (1952) ac aeth i weithio yn Woolworth’s ond o fewn misoedd roedd yn Smith's Crisps. Ar y dechrau roedd yn stampio rhifau ar duniau creision a’u stacio ar gyfer y lorïau. Yna symudodd i’r adran focsio. Yna cawson nhw beiriant a byddai hi’n tynnu tuniau oddi ar y rholeri, rhoi pecynnau oddi ar y treis a rhoi caeadau arnynt. Roedd codi cymaint o becynnau creision yn gwisgo’i bysedd. Byddai nyrs yn archwilio’u bysedd bob bore. Roedd yn rhaid gwneud 800 tun y dydd i gael eich cyflog + bonws am bob cant dros hyn. I fyny’r grisiau gwnaent y creision - gwynt ofnadwy. Prysur iawn yn yr haf, yr amser yn llusgo yn y gaeaf. Gwisgai ffedog fawr drwchus ar gyfer bocsio. Bonws a chinio Nadolig. Darperid twrbanau. Câi’r tuniau eu rhifo. Byddai cerddoriaeth yn chwarae a rhai gweithwyr yn jeifio. Gadawodd pan briododd tua 1957 - doedd ei gŵr ddim yn cymeradwyo’r job. Pryfocio’r gyrwyr. Trip blynyddol. Cafodd gloc taro Westminster ganddynt pan briododd.VN050 Sandra Brockley, Shotton Steel Works, Shotton;De Haviland Aircraft Co, Broughton;Courtaulds, Y Fflint
Dechreuodd Sandra yn Courtaulds yn 1960, yn y lle cyntaf ar y 'perning', yn gwneud 'gwallt doliau' cyn symud ymlaen i'r 'cacennau'. Roedd y merched ar 'piecework', a doedd Sandra fyth yn ddigon cyflym. Roedd gan y ffatri do gwydr ac roeddent yn ei baentio'n wyrdd i gadw'r haul allan, ond roeddent yn dal i ferwi, meddai Sandra. Ond gallai fod yn oer iawn yn y gaeaf. Roedd hi'n byw bedair milltir i ffwrdd ac ai i'r gwaith ar y bws. Aeth hi ar 'day release. Gadawodd ar ôl chwe mlynedd, pan oedd hi tua 21, oherwydd roed'd hi wedi cael llond bol. Un dirwnod, gyrrodd hi'n syth heibio'r fffatri yn lle mynd i mewn ac aeth hi i Rhyl am y diwrnod! Ychydig yn ddiweddarach, cafodd hi swydd gyda De Havilands yn gyrru craen ar linell gynhyrchu yr Hawker Sidley 125 (awyrennau bach). Roedd hi'n gwybod am y pethau hyn oherywdd byddai ei thad yn siarad am 'slingers'. Gadawodd y swydd hon ar ôl blwyddyn i gael babi, ac yna dychwelyd i'r gwaith yn John Summers (Shotton Steel) a gwneud swyddi gyrru a gwerthu gwahanol, o 1971 nes iddi ymddeol yn 1998.VSE050 Audrey Gray, Johnson & Johnson, Pengam;British Nylon Spinners, Pontypŵl
Gadawodd Audrey yr ysgol ramadeg (disgrifia’i phrofiadau yn fanwl) yn 17 oed (1953/4) ac er bod bwriad iddi fynd i brifysgol gadawodd priodasau ei brodyr ei mam yn ddi-incwm, ac aeth i weithio yn labordy BNS., yn profi edafedd am ludedd a.y.y.b. Cadw cofnodion a glanhau popeth gyda’r nos. Noda weithio gyda baddonau asbestos a ffyrnau nwyon wrth ddisgrifio’r prosesau. Profi deunyddiau crai hefyd e.e. dŵr a glo. Doedd merched ddim yn gweithio ar y shifft nos. Roedd yn deall y broses gynhyrchu. Noda nad oedd labordai mewn ysgolion i ferched. Nifer o gemegau gwenwynig a pheryglus. Gwisgent gotiau terylen, menig dau gryfder - un o rwber, gorchudd llygaid yn orfodol ar gyfer rhai jobs. Cafodd un ddamwain - berwodd fflasg a saethodd toddiant i’w hwyneb - cymorth cyntaf, nyrsys ac ysbyty. Un streic oherwydd y gwres a’r peiriant awyru wedi torri. Bywyd cymdeithasol gyda gweithwyr y lab. yn bennaf. Clybiau gwahanol - tennis, tennis bwrdd, canŵio a.y.b. Gerddi hardd yno. Basged londri ar gyfer y cotiau lab a ‘r dwsteri. Talu’n fisol. Caent gyfranddaliadau a phensiynau. System shifft saith niwrnod. Perthynai i undeb yr ASTMS- Assoc. of Technical and Management ? Gydag awtomasiwn daeth diswyddiadau. Disgrifia’r clybiau cymdeithasol gwych a’r digwyddiadau. Dawns Nadolig - cyfrifoldeb un shifft, fel set ffilm. Arhosodd yno am 12-3 blynedd ac yna aeth i Johnson’s yn rheoli ansawdd am rai blynyddoedd. Roedd y ffatri’n cynhyrchu 'j cloths'.VSW050 Beryl Jones, Avon Inflatables, Dafen;Hodges, Fforestfach
Dechreuodd Beryl yn ffatri Hodges yn 1960/1 (tan 1964) ar ôl gadael yr ysgol yn 15. Cnociodd ar ddrws y ffatri gyntaf y daeth ati. Roedd yn gwneud siwtiau dynion: dynion yn torri mas a merched yn gwnïo. Yn y 'cutting room' y bu hi. Sonia am bwysigrwydd undebaeth yn y ddwy ffatri; rhoi ei chyflog i’w mam; merched Abertawe; y 'monkey parade'. Ar ôl priodi a magu’r plant aeth i weithio i Avon Inflatables yn 1980 yn gwneud dinghies. Disgrifia wynt y gliw yno a chŵyn am ei bod yn siarad Cymraeg. Dysgu am fywyd mewn ffatri. Gadawodd yn 1990.VN051 Pat R.D., De Haviland Aircraft Co, Broughton
Dechreuodd Pat yn De Havilands yn syth o'r ysgol, yn 1966, yn yr ystafell bost, lle bu'n delifro'r post. Dywedodd bod hon yn swydd neis iawn a daeth hi i nabod pawb. Wedyn, symudodd ymlaen i waith swyddfa cyffredinol yn y ffatri, lle roedd hi'n gweithio ar y peiriannau Gestetner, ac yn dysgu llawer am waith printio. Yn y diwedd, roedd hi yn yr adran 'Repair and Overhaul'. Roedd hi'n hoffi'r swydd honno yn fawr, gan fod awyrennau yn dod i mewn i gael gwasanaeth, rhai o'r RAF ac eraill o lefydd tramor fel y Swisdir. Bu hi'n gwneud pethau fel mynd i fyny mewn awyren i sicrhau bod digon o bwysau arni ar gyfer yr hedfan, a byddai'n mynd â'i gwaith swyddfa efo hi. Bu yno am ddeng mlynedd ac yna gadawodd i gael ei phlentyn cyntaf yn 1976. Doedd pethau ddim fel heddiw, meddai Pat, ar ôl chwe mis o fod yn feichiog, roedd rhaid i chi adael.VSE051 Jill Williams, Lewis & Tylor Ltd, Gripoly Mills
Gadawodd Jill yr ysgol yn 16 oed (1968) a dechrau yn Lewis and Tylor. Roedd y sŵn yn anghredadwy (Gwyddiau trydanol a’n gweithio â llaw). Bu’n crïo wrth feddwl am aros yno. Bu yno am 10+ mlynedd. At hyn gweithiai gartref yn trwsio beltiau. Disgrifia ac eglura’r gwaith crefftus yn fanwl iawn. Caledenau ar y dwylo - dim menig. Roedd fel rhwyfo. Agwedd garedig - anrhegion priodas. Gwnâi un grŵp feltiau o rwber ar wyddiau bach. Gwnâi’r dynion bibau a phibelli ar gyfer awyrennau. Ar ôl cael y plant bu’n gweithio yno’n rhan amser. Y stori am y fforman a’i gi. Gwaith ar dasg a gwneud eich cwota o feltiau. Rhai yn rhuthro a safon wael y beltiau. Disgrifia fownsio fyny ac i lawr yn gwehyddu. Rhai peryglon - baglu, pwysau’n syrthio. Helpu’i gilydd. Roedden nhw i gyd yn hoffi un gwŷdd - gwnâi well beltiau. Roedd hi eisiau cadw’i gwifrau ei hun felly byddai’r fforman yn eu cadw iddi dros y gwyliau. Patrymau gwahanol: plaen, o chwith, pwyth pennog a.y.y.b. Âi hi â’i chwaraewr recordiau i’r gwaith. Ei rhif clocio i mewn oedd 60.Tripiau a llawer o hwyl. Yn ddiweddarach daeth llawer o weithwyr Indiaidd (Kenya) yno - y diclein yn broblem a chaeodd y ffatri am gyfnod. Sonia am briodas wedi’i threfnu. Bu’n gweithio fel menyw ginio hefyd - stori’r bag o arian. Gwaith ei mam a’i thad. Dengys y mesur a’r nodwyddau oedd ganddi. Effaith y gwaith ar ei chlyw. Rhagor o fanylion am dechneg y gwaith.Mae rhan o'r cyfweliad hwn ar gael fel ffeil sain