English
Rhestru pob cofnod yn ôl:

Casgliad o gyfweliadau a ffotograffau a gofnodwyd gan Archif Menywod Cymru yn 2013-14

Rhestru pob cofnod yn ôl:
Chwilio
Chwilio uwch

Pori'r cyfweliadau


Trefnwyd yn ôl cyfeirnod y cyfweliad

VSE061 Gwynedd Lingard, BSA Tools, Caerdydd

Gadawodd Gwynedd yr ysgol ramadeg yn 16 oed (ansicr) (1950) i ddilyn ei breuddwyd o fod yn gymnast. Cafodd ei dewis i dîm gemau Olympaidd 1952. Sonia am ymateb ei hardal - baneri a chasglu arian ar y strydoedd. Bu’n gweithio yn Boots’ Chemist ond wnaen nhw ddim caniatáu amser i ffwrdd iddi felly aeth i weithio i swyddfa BSA Tools, oedd yn gwneud offer gwyddonol a microsgopau. Rhoddon nhw amser i ffwrdd iddi â thâl. Gwnaeth ei thad drawst cydbwyso iddi yn eu lolfa! Noda ei bod yn gorfod mynd â’i chwponau bwyd ei hun pan âi i ffwrdd i ymarfer yn 1952. Roedd dogni dillad hefyd o hyd ac roedd y wisg swyddogol yn ddrud. Byddai’r dynion ar lawr y ffatri’n chwibanu arni pan âi i lawr yno. Roedd hi’n glerc rheoli defnyddiau, yn tsiecio’r storfeydd a chadw’r llyfrau. Doedd y dynion ddim yn gas ond byddent yn ei ‘phoenydio’. Disgrifia ddamwain angheuol yn y ffwrnes yno. Adeilad diflas - sŵn ac arogl. Gadawodd yn 19 oed (1954) - roedd yn disgwyl. Cafodd ddamwain ar y ffordd i’r gwaith - aeth y bos â hi i’r ysbyty. Pan ddechreuodd dyn ei phoeni (y tu allan i’r gwaith) rhoddodd y bos stop arno. Roedd ei thad yn nofiwr da a’i mam yn rhedwraig wych ac yn chwarae pêl-fas dros Gripoly Mill, er nad oedd yn gweithio yno. Yn ddiweddarach aeth yn ôl i weithio, i’r Bwrdd Nwy (1972 tan 1992). Mae’n siarad am y gemau yn Helsinki a bod yn hyfforddwraig gymnasteg ryngwladol.

VSW061 Eirlys Lewis, Vandervell Productions, Caerdydd;Mettoys, Fforestfach;Alan Paine, Rhydaman;Pullmans Flexolators, Rhydaman

Gadawodd Eirlys yr ysgol yn 15 oed (1964) a dechrau yn Pullman’s Flexolators, yn gwneud seddi ceir, sbrings a.y.b. Cyd-dynnu yno. Ysmygu wrth eu gwaith. Talu arian i’r Undeb ond nid % y Blaid Lafur. Gwaith brwnt. Un gwaith peryglus - rhoi cot o baent ar bethau oherwydd asid. Tynnu coes gweithwyr ifanc - nôl 'elbow grease'! Dysgu ffordd o fyw yno. Lot o regi yno. Clywed am drychineb Aberfan yn ffatri Alan Paine. Camgymeriad oedd mynd yno (9 mis yn unig); yna i Mettoys am dair blynedd (tua 1966-9), ar linell gynhyrchu’r ceir bach. Merched ffit yno. Yna gweithiodd ar fferm am 2 flynedd. Yn 1972 aeth i Vandervell Products, Tremorfa, Caerdydd - cynhyrchu cydrannau ceir a loris. Bu yno 10 mlynedd. Adran newydd (tua.1976) a merched yn cael gwneud yr un gwaith â’r dynion. Dyn yn gofyn am ei help. Cyfweliad ar y BBC am y gwaith. Gwaith 'mechanic'. Clwb cymdeithasol - chwarae 'ninepin bowling'. Arian da. Collodd un fenyw ei bysedd mewn peiriant - iawndal. Gwrthododd Eirlys ymuno â streic am y gwres yno yn 1976 - teimlai bod y cwmni wedi gwneud ei orau. Bu yn ‘coventry’ am 4 mis. Menyw yn gwrthwynebu iddi siarad Cymraeg - ateb yn ôl. Y merched ddim yn cael gweithio shifft nos. Yna priododd a threuliodd gyfnodau yn ffatrïoedd llaeth (Llangadog) a chaws ( Caerfyrddin).
Gweithwyr Vandervell Productions, Caerdydd

VSE062 Edith Williams, OP Chocolates, Merthyr;Kayser Bondor, Merthyr

Gadawodd Edith yr ysgol yn 14+oed (1946) a dechrau yn Ffatri Kayser Bondor, yn sodli sanau. Gwaith ar dasg. Aeth i Balas ? Buckingham (San Steffan) i geisio cadw’r ffatri ar agor yn 1977. Roedd yn ferch yr undeb ('Hosiery Workers’ Union') - cafwyd llawer o anghydfodau am arian a byddai’n rhaid iddi hi negydu rhwng y ddwy ochr. Cymerwyd y ffatri drosodd gan Courtaulds - yr ysgrifen ar y mur. Aeth hi i OP Chocolates yna yn gwneud peli caws a’u rhoi mewn tuniau. Dywed stori am lastig ei throwser yn torri a gorfod aros i rywun ddod i gymryd ei lle ar y llinell gynhyrchu. Gweithiodd yno am 6½ mlynedd. Yn Kayser Bondor byddai’r dynion yn gweithio ar shifftiau ond nid y menywod. Cyfleusterau chwaraeon: tennis bwrdd a thennis. Dawnsfeydd Nadolig yn Neuadd y Ddinas, Caerdydd. Côr y ffatri. Roedd gwnïo semau mewn sanau yn waith crefftus.

VSW062 Sylvia Howell, Salter, Llanelli;John Stanton, Llanelli

Gadawodd Sylvia yr ysgol ramadeg gyda Lefelau O pan oedd yn 17. Bwriadai fynd yn nyrs ond priododd yn lle. Bu’n gweithio mewn siopau ac yn yr Opticals Llanelli ond ar ôl geni ei mab aeth i weithio i ffatri John Stanton fel uwch wniadwraig yn 1967 (tan tua 1969) - ffatri eitha ‘posh’. Roeddent yn gwneud dillad i M&S. Targedau, amser a symud a bonysau. Anafiadau gyda’r peiriant. Doedd dim undeb a phan geision nhw ddi-sgilio’i gwaith symudodd i ffatri Salter’s yn calibro cloriannau. Gweithiai am yr arian ond roedd y cwmni yn dda hefyd. Symudodd i fod ar 'inspection' yn y warws. Roedden nhw’n prynu pethau eilradd yn y ddwy ffatri ac roedd rhywfaint o ‘ddwyn’ Caeodd Salter’s yn 1978.

VSE063 Susan Leyshon, Revlon, Maesteg

Gwaith ar gyfer gwyliau o’r Coleg oedd gweithio yn ffatri golur Revlon i Susan. Cafodd sioc enfawr oherwydd yn iaith anweddus yno ar ei diwrnod cyntaf ond daeth i arfer â hyn. Cafodd sioc arall wrth geisio cadw i fyny gyda’r llinell gynhyrchu - yn cau caeadau farnais ewinedd. Roedd hi’n rhwystro’r merched rhag cyrraedd eu targedau i ennill arian. Llenwi i mewn dros wyliau blynyddol y ffatri roedd hi. Yna gofynnwyd iddi symud i weithio i’r swyddfa, Doedd y merched ddim yn gefnogol iawn i’r myfyrwyr dros dro. Roedd hi’n prynu colur yn rhad yn y ffatri. Byddai pawb yn dianc pan ganai’r gloch diwedd dydd. Roedd hi’n parchu’r merched yno am sticio’r swydd.

VSW063 Yvonne Bradley, Morris Motors, Llanelli

Gadawodd Yvonne yr ysgol yn 14 (1963). Aeth i ffatri Morris Motors yn 1967 i weldio distawyddion (dimai yr un). Cwrdd â’i gŵr yno. Riportio bwlis i’r swyddfa. Gwrthod bod yn gynrychiolydd undeb na 'forewoman' - ansicr o’i sgiliau ysgrifennu. Ond sgiliau eraill - awgrymu dulliau i wella plygiau a drysau’r peiriannau. Rheolwyr yn cymryd mantais achos doedd hi ddim yn gallu rhoi’i syniadau ar bapur. Rheolau annheg - menywod yn colli’u swyddi oherwydd cyfnod mamolaeth. Cafodd ei mab yn 1971, a dychwelodd yn rhan-amser (am 5 mlynedd) yna’n llawn amser ac yna cafodd ei diswyddo, yna ar gytundeb dros dro. Agwedd at ferched ffatri - dysgodd hi regi. Menywod yn well gweithwyr na dynion. Dynion yn fwy milwriaethus. Gwneud seti yn waith trwm - gwynegon heddiw. Niweidio’i chlustiau - tinnitus. Gwisgo 'visor' a sbats a.y.y.b. i weldio. Ffrwydrad nwy yn llosgi gwallt. Dal ei braich yn y felt gynhyrchu. Talu ffioedd undeb yn y toiledau cyn ei sefydlu, siop gaeedig. Bu yno 40 mlynedd. Seremoni derbyn bechgyn newydd trwy eu ‘goglais’. Os oedd unrhyw un yn priodi - eu gorchuddio â llanast. Streiciau. Gan y gweithwyr yr oedd y llaw uchaf. 25% oddi ar bris car newydd ond methu ei fforddio! Chwarae jôcs. Roedd hi’n filwriaethus iawn. Addurno peiriannau at y Nadolig a llawer o ddiod. Bu yn y tîm saethu. Nosweithiau dartiau a chystadleuaeth Miss Morris Motors. Gadawodd yn 2006.

VSE064 Martha Irene Lewis (Rene), Bernard and Lakin, Aberpennar;Alexon Steinberg, Trefforest

Gadawodd Irene yr ysgol yn 14oed (1941) ac arhosodd gartref yn helpu ei mam am 4 blynedd cyn dechrau yn Ffatri Steinberg yn 1946 (ffatri newydd). Gweithiai ar y botymau - ar gyfer sgerti a siwtiau. Arferai fodelu’r dillad ar gyfer y rheolwr. Âi llawer o’r dillad i America - roeddent yn ddillad drud. Ar ddydd Sadyrnau caent ddiwrnodau agored - gallai pobl ddod i brynu dillad eilradd. Cafodd ei chwaer chwalfa nerfol tra roedd yn gweithio yno ond rhoddwyd job ysgafn iddi nes ei bod yn well (arhosodd yno am 50 mlynedd arall a chafodd wats aur!) Cerddoriaeth a chanu. Doedd hi ddim yn gallu fforddio dillad y ffatri. Roedd y ffatri yn sych oherwydd y dwst o’r dillad. Roedd yn boeth oherwydd eu bod yn gwneud dillad gaeaf trwm yn yr haf. Arhosodd yno tan 1952 a gadawodd pan oedd yn feichiog. Ar ddechrau’r 1960au aeth i weithio mewn ffatri ddillad arall - Bernard and Lakin. Bu yno am tua 3 blynedd.

VSW064 Keith Battrick, London Transformers Factory, Penybont

Disgrifia Keith y profiad trawmatig yn 16 oed pan aeth yn offerwr gobeithiol i ffatri London Transformers yn 1966. Profodd ddefod dderbyn a olygai ei ddadwisgo a gorchuddio’i gorff ag olew a blawd llif. Roedd y gweithwyr gwrywaidd a benywaidd yn rhan o hyn. Y darn gwaetha oedd methu glanhau ei hun ar ôl y seremoni. Gadawodd y ffatri am na allen nhw gynnig prentisiaeth iddo. Mae’n drydanwr llawrydd heddiw.

VSW065 Margaret Young, Corgi Hosiery, Rhydaman

Gadawodd Margaret yr ysgol yn 15 ac ymuno â Corgi’s. Mae wedi gweithio yno am tua 53 mlynedd. Disgrifia’r cynnyrch: sanau i gychwyn (gyda phatrymau gwahanol), yna siwmperi a dillad tapestri. Enillai gyflog + bonysau. Doedd dim undebaeth na streiciau yno. Symudodd o wneud sanau i weuwaith. Disgrifia sut y bydden nhw’n trin merched ar eu pen-blwyddi ac wrth briodi. Roedd hi’n oer iawn yno ac roedd mynd i’r toiled yn cael ei amseru. Roedden nhw’n prynu recordiau i’w chwarae dros y tanoi. Pan oedd ei phlant yn fach benthycodd beiriant a gweithio gartre. Tripiau allan. Mae’n trwsio â llaw yn y ffatri nawr.
Ffatri Corgi Hosiery, 1950au

VSE066 Alice Jill Baker, St Margaret's Clothing Factory, Aberbargoed

Gadawodd Jill yr ysgol yn 16oed (1953) a dechrau yn y ffatri ddillad, yn gwneud dillad i M&S. Roedden nhw’n gwneud blowsys, pyjamas dynion, a 'liberty bodices'. Mae’n trafod y jobs gwahanol. Cafodd hi bolio pan oedd yn blentyn ac yn y ffatri cafodd troedlath y peiriant gwnïo ei addasu ar ei chyfer. Gwaith ar dasg - byddai coleri yn 2/6 y dwsin. Roedd hi’n dda am wneud coleri a sips. Gallai wneud 10 dwsin o sips y dydd. Eglura gymhlethdodau gweithio am fonysau. Amser a symud. Roedd prynwyr M&S yn drwyadl iawn. Roedd yn mwynhau’r cwmni ond yn casáu gwnïo. Er bod rhai yn gwrs braidd ac yn rhegi bydden nhw’n barod i helpu eraill petai angen. Roedd ffatrïoedd eraill yn Lloegr a byddai cystadleuaeth brenhines harddwch ym Margod ei hun. Roedd ganddynt gylchlythyr hefyd. Cyflog - i’w mam a chael arian poced. Ni châi fynd ar fwyd a llety tan ei bod yn 18 oed. Mae’n sôn am y raddfa 'fall-back' newydd a olygai lai o arian a cherddodd allan am ei bod yn annheg ac am fod y goruchwyliwr wedi bod yn anghwrtais wrthi. Roedd wedi gweithio yno am 10 mlynedd. Dychwelodd yn rhan-amser yn ddiweddarach ond erbyn hynny doedd pethau ddim yr un fath. Roedd gwaith ffatri yn brofiad iddi.

Administration