Pori'r cyfweliadau
Trefnwyd yn ôl enw'r cywelai
VN019 Nancy Denton, Ffatri deganau B.S.Bacon, Llanrwst
Aeth Nancy i lawr i'r ffatri deganau ar ôl gadael yr ysgol i ofyn am swydd, gan fod ei theulu yn disgwyl iddi weithio. Doedd hi ddim yn hoffi'r swydd lawer ond roedd yn waith. Roedd hi'n gwneud y byrddau du, ac roedd hi'n hoffi hynny, er gallai'r gwaith fod yn undonog, curo'r hoelion i mewn a sandio'r pren i lawr. Roedd hefyd yn gorfod defnyddio gynnau stwffwl, ac roedd rhain ychydig yn frawychus, gan eu bod yn 'neidio.' Roedd y teganau o safon uchel, o'r enw Valley Toys, mae'n meddwl. Os oedd 'rejects' doedd dim hawl i'r gweithwyr eu cael nhw a doedd dim y fath beth a bonws Nadolig. Roedd y ffatri yn sylfaenol iawn ond roedd hi'n mwynhau'r cyfeillgarwch yno. Gadawodd y ffatri yn 17 oed a phriodi yn fuan wedyn. Bu'n gweithio wedi hynny ond nid mewn ffatri.VSE078 Margaret Duggan, Ffatri Sigarau JR Freeman, Caerdydd
Cafodd Margaret ei geni yn Iwerddon a gadawodd yr ysgol yn 17oed(1964) ar ôl gwneud cwrs mewn coleg technegol. Gweithiodd fel cogydd i ddechrau. Rhwng 1966 ac 1970 gweithiodd i General Electric (EI) ac yna priododd a symud i Gymru. Dechreuodd yn Freeman’s. Disgrifia wneud y sigarau. Daliodd ei llaw mewn peiriant - 8 pwyth. Cafodd iawndal trwy’r undeb. Newidiodd ei swydd - yn pwyso a tsiecio’r sigarau. Targedau - e.e. faint y gellid eu cael allan o un ddeilen. Gallai hi gerdded o gwmpas a siarad. Câi dâl penodol. Gwynt cryf y baco, gwellodd yr amodau a chawsant fwgwd i’w wisgo. Niwl mân i gadw’r baco’n llaith. Talu treth ar sigarau, roedd hi’n gwneud yr awdit terfynol. Gadawodd yn 2002 yn 55oed. Cafodd wats am 30 mlynedd o wasanaeth. Tâl da bonysau bob Nadolig a Phasg. Gwyliau ychwanegol yn dibynnu ar hyd y gyflogaeth. 'Undeb y Tobacco Worker’s Union' - anghydfod am orffen gweithio am 1.30 ar ddydd Gwener - enillodd yr undeb. Cafodd dâl diswyddo. Ar y dechrau marchnad y gweithwyr oedd hi. Cylchlythyr - 'Smoke Signals.' Manteision - sigarau a sigarennau am ddim bob mis. Clybiau cymdeithasol e.e. golff a badminton. Talodd y cwmni iddi wneud cwrs cyfrifiaduron. Cinio a raffl Nadolig. Lle teuluol.VN045 Joyce Edwards, Ffatri losin, Llanelwy
Roedd Joyce yn gweithio mewn siop groser am ddwy flynedd cyn mynd i weithio yn y ffatri losin, yn 1952 pan oedd yn 17 oed. Bu yno am ddwy flynedd. Roedd y ffatri yn gwneud losin Spearmint a lolipops ar gyfer gwyliau haf ac roedd y gwaith yn dymhorol. O fis Tachwedd tan fis Mawrth, roedd y ffatri ar gau a'r gweithwyr allan o waith. Roedd hi'n lapio'r losin drwy troelli darn o bapur o'u cwmpas, ac yr oedd dau ddyn yn y cefn a oedd yn cymysgu y gymysgedd mewn powlenni mawr, ac roedd peiriant yn pwyso'r losin cnoi. Os oedd rhywbeth yn digwydd a'r peiriant yn torri, ni allent gadw i fyny gyda'r losin na gwneud eu cwota llawn. Nid oedd unrhyw ddrysau rhwng y cefn a'r brif ystafell ac roedd yr asid yn y lolis yn mynd i mewn i fysedd Joyce. Roedd y briwiau'n troi yn bothelli a byddai hi'n eu torri a'u glanhau a rhoi plastar arnynt. Ond torrodd un allan o dan ei hewin, ac roedd rhaid iddi fynd at y meddyg. Roedd ganddi'r gwaith hefyd o dacluso'r storfa gan fod tipyn o lanast yno Roedd y merched yn gafael yn y bocsys ac yn gollwng pethau ym mhob man. Roedd cyfeillgarwch da yno, a llawer o hwyl wrth weithio. Roedd yr oriau'n hir a doedd dim modd chwarae o gwmpas. Ar ôl gadael y ffatri losin, gweithiodd Joyce yn y 'Milk Bar' yn Llanelwy ac wedyn mewn ysbyty, gan ddod yn oruchwylwraig ffreutur.VN049 Mavis Coxe and Sheila Edwards, Graessers Salicylates, Sandycroft
Dechreuodd Mavis yn ffatri fferyllol Graessors yn 1954 fel clerc yn y swyddfa. Roedd hi yng ngofal y post, yn dechrau ar y gwaelod ac yn gweithio ei ffordd i fyny. Roedd hi'n mwynhau yno gan ei bod yn mynd rownd y ffatri, gan gymryd post o amgylch gwahanol adrannau ac yn cofnodi'r holl lythyrau a anfonid, rhoi stampiau arnynt ac ati, a gwneud te a choffi i'r penaethiaid. Roedd hi yn y swydd hon am tua deg mis, yna daeth cyfle i fyny yn y swyddfa yn yr Adran Wasanaethau, a symudodd hi i'r adran honno. Bu yno tan 1965. Cafodd Sheila y swydd drwy ei chwaer, ond yn yr adran bacio, a oedd yn golygu rhywfaint o waith pacio, ond hefyd rhywfaint o waith clerigol. Gadawodd y ddwy ar ôl deng mlynedd, yn 1964-1965: Sheila am swydd â mwy o arian a Mavis ar ôl anghydfod gyda'i bos. Roedd Mavis gartref am chwech mlynedd yn magu ei phlant cyn dychwelyd i wneud gwaith gweinyddol gyda chwmni arall.VSW025 Beryl Evans, Ina Bearings, Bynea
Gadawodd Beryl yr ysgol yn 14 oed, a bu’n gweithio ym mragdy Felin-foel, 1941-8, cyn priodi. Doedd ei gŵr ddim yn hoffi menywod yn gweithio mewn ffatri. Yna collodd ei gŵr yn 1966 a bu’n rhaid mynd i INA Bearings i gynnal ei theulu. Roedd hi ar ‘inspection’ yno. Mae’n sôn am y nyrs yn y ffatri, sŵn y peiriannau, cloco miwn, partïon Nadolig y plant, cael cloc am hir-wasanaeth a thripiau. Gadawodd y ffatri yn 1982.Mae rhan o'r cyfweliad hwn ar gael fel ffeil sain