English
Rhestru pob cofnod yn ôl:

Casgliad o gyfweliadau a ffotograffau a gofnodwyd gan Archif Menywod Cymru yn 2013-14

Rhestru pob cofnod yn ôl:
Chwilio
Chwilio uwch

Pori'r cyfweliadau


Trefnwyd yn ôl enw'r cywelai

VSW047 Madge Sinclair, Mettoys, Fforestfach

Lluniau o Ffatri Mettoys, Fforestfach, Abertawe, 1960au
Gweithwyr nos Mettoys ar noson allan, 1960auGweithwyr nos Mettoys ar noson allan, 1960au

VSE083 Violet Skillern, Ffatri Deganau HG Stone, Pontypŵl

Disgrifia Violet ei phlentyndod ym Mhont-y-pöwl a sut y cafodd ei thad anhawster i gael gwaith wedi'r rhyfel. Yn ei rhes o fythynnod roedden nhw'n rhannu toiledau ond roedd pawb yn gyfeillgar. Dechreuodd yn y ffatri deganau yn 15 a chofia gael ei hanfon i nôl 'glass washers' - ei phryfocio hi. Disgrifia symud o'r storfa i wnïo - cwblhau'r tedi bêrs, gwnïo eu llygaid a brodweithio'u trwynau. 'Dyddiau hapus' ar y lein. Byddai'n mynd â gwaith adre hefyd. Ar ôl priodi gadawodd y ffatri. Mae'n trafod y tâl. Cofia orfod gorffen rhyw Dedi Ber anferth ar gyfer Llundain. Menywod oedd yn gweithio yno'n bennaf ac roedd un o'r cynllunwyr yn fenyw. Dawnsfeydd blynyddol. Roedd pawb yn perthyn i'r undeb ond roedd yno awyrgylch hapus. Roedd yno 'gamaraderi'. Cerddai i'r gwaith ond daliai'r bws adre ac âi â'i bwyd ei hun er bod cantîn da yno. Nid oedd yn hoffi pan gyflwynwyd system gludfelt. Byddent yn gwrando ar y radio dros y Tannoy. Cofia wyliau gyda'i chydweithwyr yn Bournemouth. Doedd dim llawer o weithgareddau cymdeithasol ynghlwm a'r ffatri.
Ffatri tegannau H G Stone, Pont y P?l

VN023 Kathy Smith, Hotpoint, Llandudno

Roedd Kathy yn adran bersonél Hotpoint o'r dechrau yn 1947 ac, ar wahân i egwyl o 15 mlynedd pan oedd hi'n edrych ar ôl ei theulu neu'n gweithio ar longau, gan gynnwys y Queen Elizabeth, arhosodd yno nes ei diswyddo'n wirfoddol yn 1991, pan oedd yn 62 oed. Roedd hi wedi mwynhau gweithio yn y ffatri, yn nabod pawb , ac yn disgrifio'r lle bron fel teulu. Dywedodd ei fod yn lle 'aruthrol' i weithio, er ei bod yn cyfaddef nad oedd hi'n gorfod dioddef undonedd y llinell gynhyrchu. Yn ei swydd, roedd rhywbeth gwahanol bob dydd ac roedd yn gyffrous, doedd hi byth yn gwybod beth y byddai'n ei wynebu nesaf, ac roedd pobl yn arfer dod ati hi gyda phob math o broblemau. Gwnaeth amrywiaeth o dasgau yn sgil ei rôl fel swyddog personél, gan gynnwys amser ar y llinell gynhyrchu i geisio deall sut y gallai gweithwyr wneud diwrnod gwaith mor undonog ddydd ar ôl dydd.
Tu mewn i Ffatri Hotpoint, c.1980, © HotpointPwyllgor Adloniant Hotpoint, c.1950Gweithwyr ar lawr ffatri Hotpoint, c.1980  © Hotpoint

VSE034 Shirley Smith, Burlington, Caerffili;Burry Son & Company Ltd, Trefforest

Bu Shirley mewn coleg masnachol cyn gadael yn 17 oed. Yna gweithiodd mewn siop cyn symud i Burry’s yn 1957 (tan 1982) - ffatri decstilau a hithau’n deipydd llaw-fer yn y swyddfa. Roedd peiriant hynafol yno i gyfrif y cyflogau. Mae’n trafod ei chyflog a chyflog un oruchwylwraig - yn gyfartal â’r dynion. Roedd hi’n swnllyd iawn ar lawr y ffatri a’r gweithwyr ar eu traed drwy’r dydd. Roedd yr amodau’n wael yn y swyddfa a’r ffatri yn boeth drwy’r flwyddyn. Mae’n enwi’r ffatrïoedd oedd ar agor ar Stad Trefforest yn y cyfnod hwn. Bu farw’r bos yn sydyn a chymerwyd y ffatri drosodd gan Burlington’s Gloves. Cafodd ei diswyddo yn 1989.
Mae rhan o'r cyfweliad hwn ar gael fel ffeil sain

VSE042 Yvonne Smith, Polikoff's, Treorci

Aeth Yvonne i’r Coleg Masnachol ar ôl gadael yr ysgol a dechreuodd weithio yn 17 oed (1959) mewn swyddfa cyfrifydd. Ar ôl blwyddyn (1960-1) aeth i Polikoff’s yn gynorthwyydd i’r Swyddog Personél. Roedden nhw’n gwneud dillad dynion. Ei job hi oedd tsiecio’r cardiau clocio. Os yn hwyr - eglurhad. Rhybudd, yna diswyddo. Dynion oedd y 'presser's, y pacwyr a’r torwyr yn bennaf. Gweddill - tua1700 yn fenywod. Menywod yn oruchwylwragedd, dynion yn fformyn - ni allai menywod ddringo’r ysgol. Anodd disgyblu. Hanes y ddwy nyrs yno. Disgrifia’r ffatri - yr adran dillad gwely ar wahân. Deuai 40 bws â gweithwyr yno ac yn ôl a blaen amser cinio. Cantîn enfawr. Chwarae cardiau. Adloniant amser cinio. Noswyl Nadolig - doedd y gweithwyr ddim yn casglu’u pae tan 4-5 o’r gloch. Roedd y clwb cymdeithasol mewn hen ficerdy. Siarad a chanu. Roedd hi’n tsiecio geirda a diswyddo gweithwyr. Âi i ymweld â chleifion e.e. i’r Ysbyty Meddwl. Casglu parseli o fwyd ar gyfer dioddefwyr mewn llifogydd o’r ffatri. Y frech wen yn torri allan yn 1961 - imiwneiddio yn y ffatri. Hefyd y diclein. Dim tâl salwch i weithwyr llawr y ffatri. Câi menywod lai o dâl na’r dynion am yr un gwaith. Problemau personol e.e. arogl annifyr. Anghydfodau am gyflogau. Trip trên i Lundain. Nosweithiau allan yng Nghaerdydd - Bill Hailey and the Comets Gadawodd pan oedd yn feichiog yn 1964-5. Symudon nhw i Coventry a nôl i Gastell Nedd. Bu’n glerc i’r heddlu am 15-16 mlynedd. Roedd un rheolwr yn harasio merched ifanc.Llawer o dynnu coes y ddwy ffordd. .

VN047 Margaret Stanyer, Courtaulds, Y Fflint

Swydd gyntaf Margaret ôl gadael yr ysgol oedd yn Courtaulds, ar yr adran lapio cacen 'rayon'. Aeth i lawr i gael cyfweliad a dechreuodd ar unwaith.Dim ond tair ar ddeg oedd hi, yn 1940, dair wythnos cyn ei phenblwydd yn 14. O'r lapio cacennau, symudodd ymlaen at y trolïau, a oedd yn dod â'r cacennau i mewn i'r merched ac yn mynd â nhw i ffwrdd eto pan roedden nhw wedi'u gorchuddio. Roedd rhaid iddi fod yn gyflym, meddai, gan fod y merched ar 'piecework' ac yn gweithio'n gyflym iawn. Roedd yn rhaid i'r cacennau gael eu trin yn ofalus oherwydd os oeddent yn cael eu difrodi, neu'u taro, byddent yn cael eu gwrthod. Roedd gweithwyr Courtaulds yn gallu mynd ar 'day release' i Ysgol Uwchradd Fodern Fflint, a dysgodd Margaret wniadwaith. Byddent yn mynd yno am y diwrnod cyfan, yn hytrach na mynd i weithio. Roedd hi'n ennill tua phum punt yr wythnos ac roedd codiadau cyflog yn aml. Gan ei bod yn ystod y rhyfel, nid oedd llawer i'w brynu gyda'i chyflog, roedd cwponau ar gyfer popeth, felly dyna pam roedd hi'n gwneud ei dillad ei hun yn yr ysgol. Roedd ENSAs yn yr ystafell fwyta amser cinio, ond nid oedd cerddoriaeth ar lawr y ffatri. Roedd y dirwnod gwaith yn ddeg awr. Roedd Margaret yn mwynhau'r cwmni yno ond yn 1946, pan oedd y cyfyngiadau wedi mynd ac y gallai pobl adael y ffatri, penderfynodd ymuno â'r Fyddin Dir, gan ei bod yn awyddus i fynd i weithio yn yr awyr agored. Aeth i fferm yn Nhremeirchion am hyfforddiant am fis ac arhosodd yno tan 1949, er y gallai fod wedi dewis mynd i rannau eraill o'r wlad.

VN003 Yvonne Stevens, Ffatri deganau B.S.Bacon, Llanrwst;Dolgarrog Aluminium, Dolgarrog;Hotpoint, Llandudno;Danline, Llanrwst

Gweithiodd Yvonne yn y ffatri deganau yn Llanrwst ar ôl gadael yr ysgol yn 15 oed, lle bu'n paentio teganau pren. Roedd hi un o'r ifancaf ac roedd yn gweithio efo dwy fenyw hŷn ac roedd yn eu galw yn Anti Lena ac Anti Martha. Roedd hi'n hoffi'r teganau, wedi'u gwneud o bren, pethau fel tai doliau, garejys, a ffermydd, ond doedd hi byth yn gallu eu fforddio nhw. Roedd hi'n mwynhau gweithio yno ond roedd eisiau ennill mwy o arian, felly gadawodd y ffatri am swydd yn Nolgarrog fel 'inspector', yn gwirio'r alwminiwm am ddiffygion. Roedden nhw'n gwneud darnau o alwminiwm ar gyfer llawer o bethau, o sosbanau i doeau. Roedd y lle yn enfawr, gyda dros fil o weithwyr, ac roedd hi'n dal y bws yno o Lanrwst. Cyfarfu â'i gŵr Mark yn y ffatri a bu yno nes i'w mab gael ei eni ddwy flynedd ar ôl priodi. Aeth hi fyth yn ôl i waith ffatri, ond i waith glanhau.

VSE001 Rita Spinola (nee Stevens), Ffatri ledr Mr Spencer, Caerdydd;Horrock's, Caerdydd

Gadawodd Rita yr ysgol yn 15 (1954) a gweithiodd mewn londri tra’n aros am le yn Horrock’s. Y dasg gyntaf - gwnïo â llaw, yna’n machinist - gwneud rhan o ddilledyn. Roeddent yn gwneud ffrogiau â sgerti llawn a gynau tŷ. Bywyd cymdeithasol; canu gyda’r radio. Roedd y torwyr a’r pacwyr yn fenywod hefyd. Caeodd y ffatri tua 1958/9. Agwedd at waith ffatri. Arwerthiannau o gynhyrchion eraill Horrock’s hefyd. Undeb - y tymheredd yn y ffatri. Nodwydd drwy’r bys. Gweithiai Lorna Lesley (cantores - enw llwyfan Irene Spetti, gwraig David Dickinson) yno. Symudodd i’r ffatri ledr - 2/3 peiriant gwnïo yno yn gwneud bagiau ysgol a.y.b. Rhoi olew ar beiriannau - cael impetigo, diffyg glendid a dim cyfleusterau. Dim hwyl yno. Arhosodd 18 mis ac yna aeth i’r Almaen gyda’i gŵr. Cafodd hi blentyn. Dychwelodd a gweithiodd yn ysgol St Paul’s fel menyw ginio am 38 mlynedd.
Gweithwyr Horrocks mewn dawns  a chinio yn y Connaught Rooms, 1955. Mae Rita ar y dde

VSE041 Janet Taylor, Distillers, Y Barri;Guest, Keen and Nettlefold (GKN)

Gadawodd Janet yr ysgol ramadeg yn 16-7oed (1958) a gweithiodd yn Labordy Nettlefolds. Pasiodd 8 Lefel O. Roedd yn mesur elfennau gwahanol yn y dur. Gwnaeth gwrs rhyddhau am ddydd mewn Cemeg. Y bechgyn yn brentisiaid a’r merched y gwneud y gwaith caled. Dadansoddi rwtîn. Cantinau gwahanol ar gyfer lefelau gwahanol o staff. Gweithio ar samplau o shafins dur, tua 60 ar y tro. Enwa’r elfennau. Cotiau gwynion llawn tyllau. Sandalau oherwydd y gwres a dim dillad isaf. Disgrifia’r broses. Menig rwber – cafodd glefyd y croen. Peryglus oherwydd llosgiadau asid sylffwrig. Cafodd un dyn ei losgi’n ddifrifol. Câi’r bechgyn fwy o dâl. Dim undeb. Glanhau popeth yn ystod y gwyliau blynyddol. Mewn tywydd poeth byddent yn torheulo ar do fflat y ffatri ym mwrllwch y gweithfeydd dur. Roed menywod yn y swyddfeydd hefyd ond nid ar lawr y ffatri, lle roedd y ffwrneisi a’r melinau rolio. Clybiau cymdeithasol a chwaraeon. Chwarae ceulys. Ciniawau a dawnsfeydd. Parti Nadolig y lab. Digwyddiadau gwahanol I’r staff a’r gweithfeydd. Gweithiodd yno am 5 mlynedd, yna toriad ac yna yn Distillers yn y lab am gwpwl o flynyddoedd. Gwneud PVC – ei brofi a ffindio defnydd iddo. Talu’n fisol - posh. Roedd yn gweithio yno yn 1963. Dychwelodd I’r gwaith dur am rai blynyddoedd ac yna bu’n y Weinyddiaeth Amaeth am 21 mlynedd ac yn adran gyllid y Swyddfa Gymreig am 10 mlynedd.

VN044 John Taylor, Pilkingtons-Pilkin Elmer, Llanelwy

Gadawodd John yr ysgol yn bedair ar ddeg. Dywed nad oedd yn ddigon da i fynd ymlaen i ysgol ramadeg a chael ysgoloriaethau, er bod hyn wedi siomi ei rieni, ond doedd e ddim eisiau mynd beth bynnag. Dilynodd ei dad i faes peirianneg, yn gweithio yn Cammell Laird yn y swyddfa. Yn un ar bymtheg, arwyddodd i fod yn brentis 'pattern maker' yn y iard longau ei hun, a bu'n brentis am bum mlynedd, ac wedyn dwy flynedd arall fel 'journey man' cyn mynd i mewn i'r Llu Awyr Brenhinol i wneud ei Wasanaeth Cenedlaethol 1955-1957. Wrth adael y Llu Awyr, aeth i weithio yng nghwmni awyrennau De Havilland yn Nghaer, gan weithio ar y prif awyrennau, sef y 'Comet' ar y pryd, fel 'wood-chip maker'. Agorodd y Llu Awyr ei lygaid, roedd o'n sylweddoli am y tro cyntaf bod y byd yn lle mawr, llawn posibiliadau gwaith. Ar ôl dirywiad yn y fasnach awyrennau, aeth John i weithio i'r heddlu am ychydig o flynyddoedd, ond roedd yn awyddus i ddychwelyd i fyd peirianneg, ac aeth i weithio yn Hotpoint, yn gwneud peiriannau golchi yng Nghyffordd Llandudno. Roedd ffatri Pilkington yn dechrau cael ei hadeiladu a gwnaeth gais am, a chael, swydd yno fel 'tool inspector' yn Pilkington Perkin Elmer, fel oedd bryd hynny. Arhosodd yn y ffatri hon nes iddo ymddeol yn 55 oed yn 1987.

Administration