English
Rhestru pob cofnod yn ôl:

Casgliad o gyfweliadau a ffotograffau a gofnodwyd gan Archif Menywod Cymru yn 2013-14

Rhestru pob cofnod yn ôl:
Chwilio
Chwilio uwch

Pori'r cyfweliadau


Trefnwyd yn ôl enw'r cywelai

VSE062 Edith Williams, OP Chocolates, Merthyr;Kayser Bondor, Merthyr

Gadawodd Edith yr ysgol yn 14+oed (1946) a dechrau yn Ffatri Kayser Bondor, yn sodli sanau. Gwaith ar dasg. Aeth i Balas ? Buckingham (San Steffan) i geisio cadw’r ffatri ar agor yn 1977. Roedd yn ferch yr undeb ('Hosiery Workers’ Union') - cafwyd llawer o anghydfodau am arian a byddai’n rhaid iddi hi negydu rhwng y ddwy ochr. Cymerwyd y ffatri drosodd gan Courtaulds - yr ysgrifen ar y mur. Aeth hi i OP Chocolates yna yn gwneud peli caws a’u rhoi mewn tuniau. Dywed stori am lastig ei throwser yn torri a gorfod aros i rywun ddod i gymryd ei lle ar y llinell gynhyrchu. Gweithiodd yno am 6½ mlynedd. Yn Kayser Bondor byddai’r dynion yn gweithio ar shifftiau ond nid y menywod. Cyfleusterau chwaraeon: tennis bwrdd a thennis. Dawnsfeydd Nadolig yn Neuadd y Ddinas, Caerdydd. Côr y ffatri. Roedd gwnïo semau mewn sanau yn waith crefftus.

VSW018 Enid Davies a Bronwen Williams, Deva Dogware, Gwynfe;Croydon Asbestos, Aberddaugleddau

Gadwodd Enid yr ysgol yn 16 oed (1965) a Bronwen yn 16 oed (1964). Diffyg trafnidiaeth - felly anodd cael gwaith os byw yn y wlad. Aeth Enid at ei brawd yn Aberdaugleddau a bu’n tynnu tatws ac yna yn Croydon Asbestos (tua 1966 tan 1968/9). Roedd hi’n cau menig lledr. Targed - cau 3200 (ansicr) o fenig yr wythnos. Munud y faneg. Gweld grwpiau fel yr Hollies yn y Masonic Hall. Ennill 'premium bond' at eu cyflog. Amodau gwaith da- dim sgil effeithiau asbestos. Bu Bronwen yn gofalu am blant cyn dechrau yn Deva Dogwear ac roedd wedi gorffen yno cyn i Enid ddechrau (c. 1966-68). Roedd yr amodau yn wael yn DD ond roedd y gweithwyr yn hwyluso’r gwaith. Gwneud coleri slip i gŵn yr oedd Enid. Hoffai’r annibendod. Cofia weldio gyda nwy; allforio’r coleri, gwrando ar Wimbeldon ar y radio. Bu Enid yn gwerthu coleri yn Crufts - pobl bwysig yno. Amodau gwael yn DD. Gadawodd Enid i gael babi, a dychwelodd nes i’r ffatri gau (tua 1968/9-1972).

VSE051 Jill Williams, Lewis & Tylor Ltd, Gripoly Mills

Gadawodd Jill yr ysgol yn 16 oed (1968) a dechrau yn Lewis and Tylor. Roedd y sŵn yn anghredadwy (Gwyddiau trydanol a’n gweithio â llaw). Bu’n crïo wrth feddwl am aros yno. Bu yno am 10+ mlynedd. At hyn gweithiai gartref yn trwsio beltiau. Disgrifia ac eglura’r gwaith crefftus yn fanwl iawn. Caledenau ar y dwylo - dim menig. Roedd fel rhwyfo. Agwedd garedig - anrhegion priodas. Gwnâi un grŵp feltiau o rwber ar wyddiau bach. Gwnâi’r dynion bibau a phibelli ar gyfer awyrennau. Ar ôl cael y plant bu’n gweithio yno’n rhan amser. Y stori am y fforman a’i gi. Gwaith ar dasg a gwneud eich cwota o feltiau. Rhai yn rhuthro a safon wael y beltiau. Disgrifia fownsio fyny ac i lawr yn gwehyddu. Rhai peryglon - baglu, pwysau’n syrthio. Helpu’i gilydd. Roedden nhw i gyd yn hoffi un gwŷdd - gwnâi well beltiau. Roedd hi eisiau cadw’i gwifrau ei hun felly byddai’r fforman yn eu cadw iddi dros y gwyliau. Patrymau gwahanol: plaen, o chwith, pwyth pennog a.y.y.b. Âi hi â’i chwaraewr recordiau i’r gwaith. Ei rhif clocio i mewn oedd 60.Tripiau a llawer o hwyl. Yn ddiweddarach daeth llawer o weithwyr Indiaidd (Kenya) yno - y diclein yn broblem a chaeodd y ffatri am gyfnod. Sonia am briodas wedi’i threfnu. Bu’n gweithio fel menyw ginio hefyd - stori’r bag o arian. Gwaith ei mam a’i thad. Dengys y mesur a’r nodwyddau oedd ganddi. Effaith y gwaith ar ei chlyw. Rhagor o fanylion am dechneg y gwaith.
Mae rhan o'r cyfweliad hwn ar gael fel ffeil sain
Jill Williams, ar y dde, yn hyfforddi gweithwraig ifanc yn Ffatri Lewis and Tylor

VSW068 Mair Williams, Anglo-Celtic Watch Co. (Ffatri 'Tic Toc'), Ystradgynlais

Lluniau o Anglo Celtic Watch Co. (Ffatri 'Tic Toc'), 1950au
Mair Jones (Williams), Netta Thomas & Ann Gosling, Ffatri 'Tic Toc', 1955Sally Evans, Eileen Evans, Netta Thomas & Pat (?) Ffatri 'Tic Toc', 1955Gweithwyr Anglo Celtic Watch Co. ('Tic Toc') amser  Nadolig 1954

VN018 Mair Williams, Dolgarrog Aluminium, Dolgarrog

Roedd teulu Mair wedi symud i Ddolgarrog o'r cymoedd tua 1925; dechreuodd hi yn y ffatri yn 1936, yn y felin ysgafn. Roedd hi'n 17 oed yn mynd i'r ffatri. Chafodd hi ddim cyfweliad swyddogol, dim ond mynd lawr i ofyn. Aeth ewythr â hi i lawr i weld rhyw Mr Oswin, a oedd yn gyfrifol am dai'r gweithwyr ac am bwy oedd yn dod i mewn i'r gwaith, ac aeth hi i’w weld o "a beth nesaf, on i'n cael job.” Mae’n dweud tasai hi wedi aros yn y siop losin, lle roedd hi wedi bod yn gweithio, basai hi wedi cael ei galw i fyny, ond achos roedd hi wedi mynd i'r gwaith ffatri roedd hi o dan reolau arbennig, achos roedd y gwaith yn gwneud pethau i'r rhyfel. Yn ystod y rhyfel roedd rhaid i ferched y felin ysgafn fynd i'r felin fawr i weithio efo'r dynion oedd ddim wedi mynd i ymladd. Roedd y gwaith hwn yn drwm iawn. Daeth Mair yn rheolwraig yn nes ymlaen a dywedodd nad oedd hynny'n hawdd, gan ei bod hi wedi bod yn gweithio efo'r merched yr oedd hi'n awr yn eu rheoli. Roedd ei gŵr yn gweithio yno hefyd a pharhaodd hi i weithio ar ôl priodi, tan y cymerodd hi gynnig diswyddiad yn 1968.

VSE030 Maureen Williams, Kayser Bondor, Merthyr

Gadawodd Maureen yr ysgol ramadeg yn 15 oed (1950) a mynd i’r coleg technegol, yna i weithio i fasnachwr glo a chafodd brofiad helaeth o waith yno. Symudodd i adran gyflogau Kayser Bondor a hyfforddi i ddefnyddio 'comptometer'. Talu merched ar waith ar dasg. Cadw manylion pob un ar gerdyn. Tua 1,000 o gyflogeion ac roedd hi’n gyfrifol am gofnodion 200 yr wythnos. Defnyddio System Kalamazoo. Gweithiodd yno am 9 mlynedd a bu yn yr adran gyfrifon hefyd, ac yna’n oruchwylwraig. Symudodd y cynhyrchu i Ddowlais – bu yno am 1 flwyddyn cyn mynd yn feichiog. Câi cyflogau staff eu cadw’n gyfrinachol. Byddai eitemau 'Not Quite Perfect' a gwastraff yn cael eu gwerthu yn siop y ffatri. Roedd dillad isaf y ffatri yn fendigedig. Hi oedd yn cadw cyfrifon y siop hefyd. Casglent docynnau oddi wrth y merched ar lawr y ffatri - cerdyn cofnod personol. Gwnïo dillad duon yn cael eu prisio yn uchel. Câi’r clerc fonws am weinyddu ffioedd yr undeb. Roedd cyfleusterau ar wahân yn y cantîn a’r toiledau i’r goruchwylwyr. Talu ar ddydd Gwener a gweithio’n hwyr ar nos Iau. Dawnsfeydd - rhwng ffatrïoedd. Gweithiodd am fis yn Hoover’s - llawer mwy strict yn yr adran gyflogau. Naw mlynedd yn ddiweddarach, tua 1969, aeth i TBS - doedd dim cyfrifianellau yno! Bu yno am 25 mlynedd. Gwnâi’r costio, y cyflogau a’r cyfrifon.

VN015 Pegi Lloyd Williams, Metcalfes, Blaenau Ffestiniog

Roedd Pegi yn y 'naffi' yn ystod y rhyfel ond daeth yn ôl i Blaenau wedyn a chafodd swydd mewn ffatri yn Nhrawsfynydd: “Un o freintiau mwya mywyd i oedd cael bod yn ysgrifenyddes i Dafydd Tudor.” Bu hi efo fe am ddeng mlynedd nes iddi briodi a doedd ei gŵr ddim yn licio llawer ei bod hi fel gwraig briod yn dal bys am hanner awr wedi saith a dod adre am chwech gyda’r nos, a hithau â gofal cartre, a gofal gwneud bwyd. Cafodd gynnig swydd fel ysgrifenyddes i Mr Metcalf – mewn ffatri a oedd wedi’i hadeiladu i bwrpas gan Gyngor Tref Ffestiniog i ddarparu gwaith i’r hogia. Roedd hi wedi datblygu ei diddordeb mewn gwaith peirianyddol trwy wneud cwrs ar sut i brynu fel prynwr. Ond ysgrifenyddes fu hi yn y ffatri. Roedd y ffatri yn cynhyrchu peiriannau i bario tatws, i wneud 'chips', i dorri pob math o gig, a pheiriannau mawr i gymysgu bwyd. Dechreuodd hi weithio iddyn nhw yn 1955 a bu yno am 40 mlynedd – roedd yn 69 oed yn ymddeol.

VN056 Sali (Sarah) Williams, Ffatri baco E. Morgan & Co, Amlwch

Yn syth o'r ysgol, aeth Sali i weithio yn ffatri faco E. Morgan & Co, yn pwyso'r baco, o 1938 tan 1942, pan gafodd ei galw i fyny i ymuno â'r Fyddin Dir. Ei swydd hi oedd gwneud yr 'ounces' crwn, pwyso'r baco mewn 'ounces' ar fwrdd gyda thair merch arall. Roedd rhaid pwyso'r baco yn gywir er mwyn i rywun arall ei bacio fo mewn pecynnau crwn. Roedd y gwaith yn ddiddorol, meddai, ac ar ôl cael eu pwyso a'u pacio, aent i siopau dros Gymru. Roedd 'HMS customs' yn dod weithie, heb roi gwybod, i destio'r baco ac i weld a oedd ‘na ormod o ddŵr ynddo fe. Os oedd yn rhy wlyb, roedd pobl yn talu gormod amdano. Roedd 'supervisor' yn dod at Sali efo archebion. Yr un baco oedd yn mynd i bob 'wrapper', meddai, ac er bod yr enwau yn wahanol yr un un baco oedd o. Roedd y berthynas yn iawn rhwng y merched 'pawb yn gytun.' Doedd na ddim byd 'hygienic' am y lle, dim ond tipyn o ddŵr i olchi'r dwylo mewn bwced, dim tap, a dim 'water toilets'. Roedd hi'n wrth ei bodd yn y Fyddin Dir a dychwelodd i'r ffatri am ychydig o fisoedd ar ôl y rhyfel tan iddi briodi a chael ei phlentyn cyntaf. Aeth hi ddim yn ôl i weithio ond bu'n wraig tŷ am weddill ei hoes.

VSW044 Vanda Williams, Metal Box, Castell Nedd

Gadawodd Vanda yr ysgol yn 14 (1942) a dechrau gwaith gyda’r argraffwyr D. W. Jones, Port Talbot. Dechreuodd weithio yn Metal Box yn 1946 - patrwm y shifftiau. Cafodd ei rhoi ar y presys - yn bwydo 4 peiriant. Cyn hynny yn yr adran lacer ond roedd y gwynt yn ei gwneud yn sâl. Ar y presys roedd yn rhaid codi shîts trwchus o fetel, eu rhoi mewn slot - a’u stampio gyda pheiriant. Yna bu’n pacio topiau’r tuniau. Roedd y sŵn yn erchyll - byddai’n gweiddi ar ôl dod adre. Os oedd hi ar y shift nos byddai’n gwneud gwaith tŷ i’r teulu cyn mynd i’r gwely. Nid oedd yn hoffi gwaith ffatri. Arhosodd yno am 3 blynedd 5 mis. Bu’n gweithio mewn sawl lle arall cyn mynd i nyrsio c.1968. Cafodd boen yn ei chefn oherwydd y ffatri. Roedd iaith y dynion a’r menywod yn fras yno. Ni fyddai’n gweithio ar y Sul oherwydd y capel a’r dosbarth Ysgol Sul. Cafodd ei chanmol yn Metal Box am nad oedd ganddi lawer o fetel sgrap.

VSE022 Margaret Anne Amblin (nee Williams), Thorns, Merthyr;Kayser Bondor, Merthyr

Gadawodd Anne yr ysgol yn 16 oed (1957) ac aeth yn syth i Kayser Bondor - yn gwneud dillad isaf. Roedd ysgol hyfforddi yno - dysgu gweithio’r peiriannau a’u glanhau. Lle pert i weithio ynddo. Ei pheiriant ei hun - agorai’r bwndel a thynnu’r tocyn, gwnïo ac yna ail-glymu’r bwndel. Gwaith ar dasg. Gweithiodd yno nes geni’i mab cyntaf 1966. Aeth yn rhan amser yn ddiweddarach. Roedd M&S yn mynnu safon. Glân iawn. Byddai’r merched yn gwneud sioeau ffasiwn - o’r dillad isaf. Prynu dillad ar gerdyn yn siopau Merthyr. Byddai’r goruchwylwragedd a’r rheolwyr yn eu gwylio. Canu - roc a rôl a jeifio. Un 'machinist' gwrywaidd - tynnu ei goes. Bywyd cymdeithasol - dawnsfeydd. Mae’n sôn am offer newydd yn y cartref. Doedd ei hewyrth ddim yn fodlon i’w wraig ddefnyddio’r peiriant golchi hebddo fe. Digwyddiadau rhyng-ffatri ym Merthyr. Aeth ar ei thrip cyntaf dramor i’r Eidal gyda ffrindiau tua 1958-9. Yn ystod ei hyfforddiant byddent yn mynd allan i wneud ymarferion cadw’n heini. Y ffatri yn symud i Ddowlais. Gadawodd yno tua 1968/9. Pan oedd y plant yn hŷn aeth i ffatri Thorn’s - shifft gyda’r nos, yn gwneud bylbiau golau. Llwytho bylbiau i dyllau yn y felt gynhyrchu. Bu’n gweithio yno hefyd ar shift ran amser yn y dydd.

Administration