English
Rhestru pob cofnod yn ôl:

Casgliad o gyfweliadau a ffotograffau a gofnodwyd gan Archif Menywod Cymru yn 2013-14

Rhestru pob cofnod yn ôl:
Chwilio
Chwilio uwch

Pori'r cyfweliadau


Trefnwyd yn ôl lleoliad y ffatri

Caerdydd: Ffatri Sigarau JR Freeman

VSE049 Sandra Cox, Ffatri Sigarau JR Freeman, Caerdydd

Gadawodd Sandra yr ysgol yn 14 oed ond wnaeth hi ddim dechrau yn y ffatri tan 1973 pan oedd hi’n 22. Disgrifia wneud y sigarau a’r gwynt ar ei dwylo. Collodd un ferch dop ei bys ar y peiriant torri. Roedd yn rhaid iddynt gael gymaint o sigarau â phosibl o un ddeilen. Bu un streic yno am y gwres. Roedd eu targedau ar fwrdd du yn y ffatri. Teithiai i’r gwaith ar sgwter Vespa. Roedd dynion diogelwch yno i rwystro’r staff rhag dwyn. Caent 10 sigarét yr wythnos am ddim ac ar y Nadolig 5 sigâr a sigarennau. Cystadlodd i fod yn Miss Freeman, nid mewn gwisg nofio ond roedden nhw’n cael eu cyfweld. Gadawodd am iddi gael y sac (neu ymddiswyddodd hi).

VSE032 Violet Ann Davies, Ffatri Sigarau JR Freeman, Caerdydd;Currans, Caerdydd

Gadawodd Ann yr ysgol yn 15 oed (1955) ac aeth yn syth i’r ffatri sigarau yn Clive Street. Roedd y peiriannau yn beryglus - dim gardiau. Canu a chwarae triciau. Gwynt y baco yn glynu wrthych. Mae’n enwi’r merched y bu’n gweithio gyda nhw. Cael 200 sigarét y mis. Gwaith ar dasg. Disgrifia’r prosesau. Gwneud 3000-4000 o sigarau'r dydd rhwng dau beiriant. Yn falch ei bod yn gwneud sigarau King 60s ac Indian Sticks. Bu’r cwmni’n gefnogol pan aeth ei mam yn wael a phan fu’n rhaid iddi hi gael amser i ffwrdd. Tal salwch. Symud i’r ffatri newydd yn 1960 - un ystafell fawr. Radio a cherddoriaeth. Gadawodd pan oedd yn feichiog yn 1962 ond dychwelodd i’r shifft gyda’r nos yn 1963 tan iddi fynd yn dost. Tlodi a dim esgidiau i’w gwisgo. Dywed hanes Pat Perks - gymnastwraig fu’n cystadlu yng ngemau’r Gymanwlad. Casglodd y ffatri arian i dalu am ei dillad a.y.b. Gweithiodd Ann yn rhan amser yn Curran’s, ffatri sosbenni a baddonau yn 1976-78. Roedd yn gweithio ar sosbenni a gâi eu dychwelyd. Gwrthododd weithio allan yn yr iard. Gweithiai ei thad yno adeg y rhyfel - llosgiadau difrifol o’r plwm berwedig. Yn ddiweddarach bu hi’n ofalwraig yn y cartref am 23 mlynedd.
Ann Davies yn y gwaith yn Ffatri Sigarau J.R. Freeman,  1957

VSE078 Margaret Duggan, Ffatri Sigarau JR Freeman, Caerdydd

Cafodd Margaret ei geni yn Iwerddon a gadawodd yr ysgol yn 17oed(1964) ar ôl gwneud cwrs mewn coleg technegol. Gweithiodd fel cogydd i ddechrau. Rhwng 1966 ac 1970 gweithiodd i General Electric (EI) ac yna priododd a symud i Gymru. Dechreuodd yn Freeman’s. Disgrifia wneud y sigarau. Daliodd ei llaw mewn peiriant - 8 pwyth. Cafodd iawndal trwy’r undeb. Newidiodd ei swydd - yn pwyso a tsiecio’r sigarau. Targedau - e.e. faint y gellid eu cael allan o un ddeilen. Gallai hi gerdded o gwmpas a siarad. Câi dâl penodol. Gwynt cryf y baco, gwellodd yr amodau a chawsant fwgwd i’w wisgo. Niwl mân i gadw’r baco’n llaith. Talu treth ar sigarau, roedd hi’n gwneud yr awdit terfynol. Gadawodd yn 2002 yn 55oed. Cafodd wats am 30 mlynedd o wasanaeth. Tâl da bonysau bob Nadolig a Phasg. Gwyliau ychwanegol yn dibynnu ar hyd y gyflogaeth. 'Undeb y Tobacco Worker’s Union' - anghydfod am orffen gweithio am 1.30 ar ddydd Gwener - enillodd yr undeb. Cafodd dâl diswyddo. Ar y dechrau marchnad y gweithwyr oedd hi. Cylchlythyr - 'Smoke Signals.' Manteision - sigarau a sigarennau am ddim bob mis. Clybiau cymdeithasol e.e. golff a badminton. Talodd y cwmni iddi wneud cwrs cyfrifiaduron. Cinio a raffl Nadolig. Lle teuluol.

VSE023 Frances Francis, Ffatri Sigarau JR Freeman, Caerdydd

Gweithiai mam Frances yn yr hen ffatri sigarau yn North Clive Street yn eu gwneud â llaw. Ar ôl gadael yr ysgol tua 15 oed gweithiodd Frances mewn siopau ac yna yn Ffatri newydd Freeman’s - yn eu gwneud gyda pheiriant. Roedd y gwynt yno’n afiach. Pan oedd yn hyfforddi torrodd y pres - rhoddon nhw e mewn cas gwydr. Ffatri fodern. Roedd y merched o’r cymoedd yn gwisgo rolyrs - ac yn cuddio sigarau ynddyn nhw! Tsiecio’n ddirybudd. Amseru mynd i’r toiled. Roedd sŵn torri’r sigarau yn echrydus. Yn ddiweddarach bu’n gweithio mewn siop am 30 mlynedd. Gwaith ar dasg. Ei rhif ffatri oedd 344. Mae ei holl slipiau pae ganddi. Gwyddai am y gystadleuaeth Miss Manikin. Roedd ei rhieni’n dlawd - stori’r esgidiau. Gallent archebu sigarennau a sigarau unwaith y mis e.e. 4 owns o Old Holborn. NId yw Frances wedi ysmygu erioed.

VSE080 Margaret Gerrish, Cora Garment Factory, Pengam;Spirellas Corset Factory, Caerdydd;Ffatri Sigarau JR Freeman, Caerdydd

Mae Margaret yn siarad am undebaeth ei thad: NACODS ac am adael yr ysgol yn 13-4oed (1944-5). Dechreuodd weithio mewn ysgol breswyl yn Yeovil ac yna dychwelodd i Gymru. Gweithiodd yn ffatri Freeman’s. Byddent yn teithio yno o Dredegar ar y trên. Roedd yn fyd newydd iddi. Byddai’n cynilo gyda sieciau provident. Ennill arian oedd pwrpas y gwaith. Radio a chanu. Arferai Shirley Bassey weithio yno. Cyn Freeman’s dywed iddi weithio yn Spirella’s. Roedd hi wedi gwneud prentisiaeth yn Y siop deilwra yn Nhredegar Newydd sef gyda Parry’s. Doedd hi ddim yn mynd i mewn i’r ffatri ei hun ond yn ffitio staes am bobl yn eu cartrefi. Yn tua1949-50 dechreuodd yn Cora’s, yn gwneud dillad i M&S, yn yr ystafell dorri. Câi goruchwylwyr eu hyfforddi yng Nghaerlŷr. Yna daeth goruchwyliwr newydd a dechrau diswyddo pobl. Roedd hi'n archwilio’r cynnyrch ac am fod un pentwr i gyd yn wallus cafodd pawb eu diswyddo. Daeth yr undeb i’w cefnogi ac ail-gyflogwyd hwy. Ar ôl priodi fu hi ddim yn gweithio mewn ffatri.
Margaret Gerrish, ar y chwith, a chydweithwyr ffatri ddillad Cora

VSE074 Tryphena Jones, Ffatri Sigarau JR Freeman, Port Talbot;Ffatri Sigarau JR Freeman, Caerdydd

Gadawodd Tryphena yr ysgol yn 16oed (1966) a dechrau yn Freeman’s. Cafodd gyfweliad a phrawf IQ. Roedd yn yr adran gwneud sigarau a rhaid oedd cael hyn a hyn o doriadau o un ddeilen. Gwisgai rhai merched rholyrs a rhwydi gwallt. Stopiodd hyn ar ôl 2 flynedd. Disgrifia ddiwrnod gwaith. Canu a sgwrsio. Targedau. Disgrifia sut i wneud sigâr - gweithio mewn parau ar yr un cyflymder. Eglura’r gwaith yn yr ystafell stripio. Hefyd rheoli ansawdd - os oedd 5 diffygiol roeddech mewn trwbl. Eglura sut y gweithient eu targedau. Swydd yn talu’n dda. Gweithiai am yr arian. Roedd hi’n anodd i fenywod gael dyrchafiad - newidiodd hyn. Dysgodd i drwsio ei pheiriant ei hun a theimlai ei bod yn annheg bod peirianwyr yn cael mwy o dâl na’r menywod. Y person amser a symud - disgrifia sut y byddent yn ymddwyn pan oedd e’n gwylio. Tri rhybudd am fethu targedau ac allan â chi. Peryglon - collodd y ferch nesaf ati 2 fys. Ddechreuodd yr undeb ddim am 2 flynedd - problemau gyda sŵn a gwres. Trafoda harasio. Roedd hi’n cymryd rhan mewn chwaraeon ac yn cael diwrnodau i ffwrdd yn ddi-dâl. Dywed stori am ei chyfweliad teledu. Digwyddiadau cymdeithasol: 'It’s a knockout', sgitls a dawnsfeydd a.y.y.b. Miss Manikin - peth cenfigen ac eraill yn gwrthwynebu. Mae’r sŵn wedi effeithio ar glyw y gweithwyr. Newidiadau oherwydd mecaneiddio. Edrych ar eich ôl os yn sâl. Pedwar cantîn a bwyd gwahanol. Bu’n ffatri Port Talbot am 3 blynedd hefyd; 12 mlynedd yng Nghaerdydd. Llwyddodd i basio profion mewn gymnasteg tra yno. Bu’n addysg dda.
Tîm 'It's a Knockout' Ffatri Sigarau J.R. Freeman, Tryphena Jones yn y rhes blaen ar y chwith

VSE020 Jenny Kendrick, Ffatri Sigarau JR Freeman, Caerdydd;Smith's Crisps, Abertawe

Gweithiodd Jenny yn Smith’s Crisps, Abertawe yn ystod gwyliau’r haf ar ol gorffen yn y Brigfysgol yn1970 (yn 25 oed). Bu yno am dri mis. Roedd y ffatri’n gwneud Quavers a Chopitos. Rhoi 14 pecyn mewn bag. Roedd yn rhaid I’w ffrind godi Quavers drwg allan o’r saim sur ar y llinell gynhyrchu – yn sal bob hanner awr. Cafodd Jenny ei dyrchafu i tsiecio pwysau – gyda chlipfwrdd – yn pwyso samplau ac yn addasu’r peiriannau. Y berthynas â’r menywod eraill yn wych. Ail-bacio Chopitos o wastraff – gwaith annifyr. Sefyll drwy’r dydd a’i thraed yn brifo. Swnllyd iawn a chanu I ganeuon llawn hwyl fel Lola gan y Kinks. Clustnodi amserau toiledau. Haf poeth iawn. Dim diddordeb mewn undebaeth gan y menywod. Yn drewi o olew - defnyddio Cologne. Tân ond dim safonau iechyd a diogelwch. Menywod cryf iawn – yn rhedeg cartrefi a gweithio. Tynnu coes ond dim harasio rhywiol fel y profodd yn swyddfeydd Llundain. Dwyn pecynnau o greision. Yn ddiweddarach gweithiodd yn Freeman’s (rhwng 1966 a1970) lle câi sigarennau a sigars yn rhad. Yn y swyddfa yr oedd hi. Roedd gwaith swyddfa’n gofyn am ddim sgiliau ond cryfder mawr. Dylanwadodd ar ei ffeministiaeth. Roedd mwyafrif y menywod yn mwynhau’r gwaith a’r gallu i brynu mwy o bethau. Mae ganddi barch mawr at fenywod dosbarth gwaith.

VSE021 Doreen Lawson, Ffatri Sigarau JR Freeman, Caerdydd;Elkes Biscuits, Caerdydd;Avana Bakery, Caerdydd

Gadawodd Doreen yr ysgol yn 15oed (1955) a gweithiodd yng nghaffe Littlewood’s cyn mynd i Avana’s (1958). Bu’n rhoi cnau ar gacennau Dundee - gwisgo oferôls a thwrban. Newid swyddi ond anodd cadw i fyny â’r felt gynhyrchu. Ar ddydd Sadwrn gwisgai rolyrs o dan y twrban - dweud wrthi am eu tynnu. Arwain y drygioni. Siarad am y gweithwyr tramor yn y ffatri. Canu gyda’r radio. Cacennau i M&S. Dawnsio a sglefr-rolio yng Nghaerdydd. Drygioni: cael ei herio i fynd lawr y felt gynhyrchu i’r bae llwytho; clymu careiau sgidiau. Y dynion oedd yn gweithio’r ffyrnau. Gwnaethon nhw gacen ben-blwydd 21 oed iddi yno. Gadawodd i briodi. Arhosodd 2 fis yn ffatri Lyonite, Treganna, yn gwneud blychau miwsig, ond gwynt glud. Yna bu mewn londris am fisoedd ac yna i Freeman’s tua 1965-6. Gweithio ar yr hopran . Rhoi’r ddeilen olaf ar y sigâr. Yna’n feichiog a gadael (1968). Os yn hwyr collai ei pheiriant. Mae mewn rhaglen ddogfen am hyfforddiant yn y ffatri sigâr. Wedyn bu mewn bwyty am 21 mlynedd. Bu yn Elke’s Biscuits am tua 8 mis rhwng Avana a Freeman’s. Ceisiodd arwain streic yno oherwydd y gwres. Yn Arana collodd person ei fys mewn peiriant ond rhoddwyd e’n ôl yn ei le. Mwynhaodd yn y ffatrïoedd.

Caerdydd: Ffatri wydr

VSE070 Michele Ryan, Ffatri wydr, Caerdydd

Gweithiodd Michele yn y ffatri yn ystod ei blwyddyn gyntaf yn y brifysgol (tua1969-70). Y gaeaf oedd hi ac roedd mewn sied frics â llawer o ffenestri wedi torri. Gwisgai fenig i symud y platiau gwydr o gwmpas. Roedd awydd arni i fod yn rhan o fywyd y dosbarth gweithiol. Roedd gan y menywod (30-40% o’r gweithlu) ddulliau i reoli’r lle a’r dynion yno. Noda fod Caerdydd yn yr 1960au yn dref ddiwydiannol a gweithgynhyrchu. Roedd y menywod yn ‘Bolshie’ - disgrifia ddefod derbyn un dyn ifanc i’r gwaith (pinsio a chythru amdano). Roedd hyn yn sicrhau na fyddai'r menywod yn cael eu dibrisio na'u herio. Gwaith gwahanol i’r dynion a’r menywod. Teimlai na châi’r menywod weithio ar y peiriannau - tâl uwch am hynny. Pan oedd yn y brifysgol, fel ffeminydd adain chwith, gwerthai gopïau o 'Women’s Voice' a’r 'Socialist Worker' y tu allan i Ffatri deledu Baird’s yn Bradford. Ar ôl y rhyfel buddsoddodd menywod lawer i gadw hunan-falchder y dynion - derbyniai menywod eu ffawd. Cyfleusterau amrwd. Arhosodd yno am rai wythnosau. Roedd rhyw ymdeimlad o berthyn yno. Noda sbeit rhai menywod ond hefyd eu haelioni a’u cefnogaeth dorfol. Nid oedd gweithwyr ffatri Caerdydd yn wleidyddol iawn.

Caerdydd: Gweithdy gwnio Whitakers (Giles)

VSE019 Pauline Moss, Gweithdy gwnio Whitakers (Giles), Caerdydd

Gadawodd Pauline yr ysgol yn 15 oed (1956) a dechreuodd yn y gweithdy. Roedd mewn tŷ ac roedd yn rhaid cynnau’r tân bob bore. Daeth yn 'machinist'. Gweithiai gyda Harris Tweed - deuai pobl bwysig yno. Roedden nhw’n tynnu’i choes. Daliai’r trên adre i Senghennydd. Cafodd ei hanfon allan am rolyn o ddefnydd - aeth ar goll. Roedd llinell gynhyrchu yno er mai lle bach oedd e. Gadawodd (1959) pan briododd a chael ei merch. Hoffai liwio’i gwallt yn felyn fel Diana Dors. Nodwydd trwy’i bys. Chwarae gyda hwla-hŵp yn yr iard gefn. Radio a thripiau. Wedyn bu’n helpu mewn ysgol. Roedd y gweithdy’n gwneud siacedi safon uchel a 'blazers'. Gweithiai tua 8-9 merch (+dynion) yno.

Administration