English
Rhestru pob cofnod yn ôl:

Casgliad o gyfweliadau a ffotograffau a gofnodwyd gan Archif Menywod Cymru yn 2013-14

Rhestru pob cofnod yn ôl:
Chwilio
Chwilio uwch

Pori'r cyfweliadau


Trefnwyd yn ôl lleoliad y ffatri

Bethesda: Austin Taylor

VN053 Dilys Pritchard, Austin Taylor, Bethesda;Ferranti, Bangor

Gweithiodd Dilys yn Woolworth's am bedair blynedd ar ôl gadael yr ysgol. Symudodd hi i Ferranti's pan oedd tua 19 oed, yn 1961-1962, ond dim ond am chwe mis yn unig y bu yno, cyn newid i Austin Taylors, lle daeth hi yn un o'r 'gweithwyr allweddol' - yn dysgu sut i reoli pobl a rhoi hyfforddiant iddynt ar yr hyn yr oedd y ffatri yn ei gynhyrchu. Mae'n cofio un ferch yn dal ei gwallt yn y peiriant. Roedd Dilys yn gyflym i ddiffodd y peiriant ac roedd rhaid iddynt dorri rhan o'i gwallt i'w chael hi'n rhydd. Ar ôl wyth mlynedd yno, aeth hi'n sal a dywedodd y ffatri wrthi y byddai'n rhaid mynd i dribiwnal i gael ei swydd yn ôl, felly heb undeb i'w helpu hi, collodd hi ei swydd yn 1970.

Bethesda: AustinTaylor

VN054 Sandra Owen, AustinTaylor, Bethesda;High Speed Plastics, Llandygái

Yn syth ar ol gadael yr ysgol, yn 1970, aeth Sandra i'r ffatri blastig i wneud 'sun visors' a chaniau dŵr. Roedden nhw ar 'time and motion' ac roedd y cyflog yn dibynnu ar faint o’r 'sun visors' oedden nhw'n ei wneud. Ar ôl dwy flynedd, cafodd hi waith yn Austin Taylors, Bethesda, lle roedd hi'n gallu cerdded i'r gwaith. Roedd yr ail ffatri yn cynyrchu pethau electronig ac roedd hi ar y peiriannau: "Ar ôl cyrraedd landiodd hi yn y mashîn siop ‘ a rhyw anfarth o fashîn fawr. Mi oedd golwg y mashîn yn ddigon ar wneud neb redag allan oddi yna. Ond mi oedd ‘na ddynion yn gweithio yn y mashîn siop, ac yn dysgu ni. A fi oedd yr unig un, geithon ni’n gwahanu i gyd i wahanol adranna yn y ffatri. Ymhen dau, dri dirwnod on i ‘di dod yn real boi ar y mashîn ac on i’n ddigon hapus." Roedd y gweithwyr yn gweithio 56 awr yr wythnos weithiau er mwyn cyrraedd eu targedau. Wedyn, daeth Sandra yn oruchwylwraig. Gadawodd hi yn 1998 pan oedd y ffatri yn cau a dechreuodd hi ei busnes ei hun, yn darparu cywion ieir i gigyddion led led Cymru .

Bethesda: Cooper Webb

VN052 Enid Jones, Cooper Webb, Bethesda;Ferranti, Bangor

Swydd gyntaf Enid oedd yn Injaroc, yn 1955, a chafodd y swydd hon trwy ffrind ei mam, Mrs Morris, a oedd yn gwneud injaroc 8 gartref cyn gwerthu'r resipi i ffatri leol. Symudodd Enid i Ferrantis, ffatri electronics, ar ôl rhyw chwech mis a bu hi yno am 14 o flynyddoedd. Dywedodd: "Fuo fi ar y 'meter testing' am flynyddoedd. Hwnnw oedd y swydd fwyaf ges i. Testio 'meters' yn barod i fynd allan i Manweb. Cynhyrchu 'meters' electrig a beth oeddan ni yn ei alw yn 'ear defenders' i roi ar glustiau i fynd ar 'aeroplanes' a lot o ryw bethau bach oeddan nhw yn ei wneud yna. Roedd 'na ychydig o 'engineering' yna." Roedd llawer o sbort yno ac mae'n cofio sawl streic hefyd : “Llawer i streic am ryw ddiwrnod neu ddau. Achos y streic oedd tâl neu rywun wedi cael ei stopio a ddim yn haeddu cael ei sacio. Gadawodd hi i gael ei merch gyntaf yn 1970, ac roedd hyn yn drist iddi. Yr adeg honno, doeddech chi ddim yn mynd nôl ar ôl cael babi. Doedd na neb i warchod y plant i chi gael mynd yn ôl, meddai, er ei bod hi eisiau dychwelyd.

Blackmill: Alupac

VSW042 Alison Rees, Alupac, Blackmill

Safodd Alison ei lefel A ac yna mynd i weithio i’r gwasanaeth llyfrgelloedd. Gweithiodd yn Alupac yn ystod y gwyliau(1977). Enillai c. £100 yr wythnos - arian da. Gwaith di-sgil - peiriant pres yn gwasgu llestri alwminiwm allan i fasgedi. Byddai hi’n eu casglu ynghyd a’u pacio. Ai darnau bychain o alwminiwm i’w gwallt a’i dillad gan grafu ei chroen. Rhaid gofyn i’r oruchwylwraig i fynd i’r toiled. Roedd hierarchaeth yno. Teimlai’n wahanol gan fod addysg yn bwysig i’w theulu. Dymuniad y gweithwyr eraill oedd cael swydd a ffitiai o gwmpas eu teuluoedd. Roedd y peiriant yn swnllyd a chyflym. Os nad ar y peiriant rhaid oedd tacluso a.y.b. Byddai sŵn y peiriant yn atseinio yn ei phen yn y nos. Gwnaeth y profiad hi’n benderfynol nad dyma’r yrfa iddi hi.

Blaenafon: Ffatri Gynau Tŷ

VSE010 Brenda Mary Farr, Thorn Electrics, Henffordd;Ffatri Gynau Tŷ, Blaenafon;Ffatri Deganau HG Stone, Pontypŵl

Gadawodd Mary yr ysgol yn 15 oed (1956). Doedd hi ddim eisiau gweithio mewn ffatri ond mewn swyddfa. Ond cafodd ei hun yn ffatri HG Stone yn gwneud teganau meddal - tedis a phandas a.y.b. Gweithiai ar y lein fel 'machinist'. Gwaith ar dasg. Roedd yn enfawr, swnllyd a llychlyd. Stwffio â gwellt a ffloc. Y person amser a symud yn prisio'r amser ar bob tegan. 'Worker’s Playtime' ar y radio. Gorffennodd yno yn 1964. Roedd y menywod yn cynhyrchu tedis yn cael mwy na’r lleill - swydd arbenigol. Chafodd hi mo’i dyrchafu am ei bod yn siarad gormod. Roedden nhw’n gwneud doliau hefyd - cyrff plastig a gwnïo’u gwalltiau. Hefyd cŵn ar olwynion. Nodwyddau trwy fysedd. Gwaith y dynion - ar y plastig a’r peiriannau. Dawnsfeydd Nadolig a bandiau byw.Ar ôl 8 mlynedd yn HG Stone treuliodd 6 wythnos yn y ffatri gwneud gynau tŷ ym Mlaenafon. Ni allai ddioddef gwynt y defnydd pabwyrgotwm. Pan briododd symudodd i swydd Henffordd a gweithiodd yn Thorn Electrics yn gwneud lampau stryd. Roedd llawer o deuluoedd yn gweithio yn ffatri HG Stone (Chad Valley yn ddiweddarach).
Mae rhan o'r cyfweliad hwn ar gael fel ffeil sain

Blaenau Ffestiniog: Metcalfes

VN015 Pegi Lloyd Williams, Metcalfes, Blaenau Ffestiniog

Roedd Pegi yn y 'naffi' yn ystod y rhyfel ond daeth yn ôl i Blaenau wedyn a chafodd swydd mewn ffatri yn Nhrawsfynydd: “Un o freintiau mwya mywyd i oedd cael bod yn ysgrifenyddes i Dafydd Tudor.” Bu hi efo fe am ddeng mlynedd nes iddi briodi a doedd ei gŵr ddim yn licio llawer ei bod hi fel gwraig briod yn dal bys am hanner awr wedi saith a dod adre am chwech gyda’r nos, a hithau â gofal cartre, a gofal gwneud bwyd. Cafodd gynnig swydd fel ysgrifenyddes i Mr Metcalf – mewn ffatri a oedd wedi’i hadeiladu i bwrpas gan Gyngor Tref Ffestiniog i ddarparu gwaith i’r hogia. Roedd hi wedi datblygu ei diddordeb mewn gwaith peirianyddol trwy wneud cwrs ar sut i brynu fel prynwr. Ond ysgrifenyddes fu hi yn y ffatri. Roedd y ffatri yn cynhyrchu peiriannau i bario tatws, i wneud 'chips', i dorri pob math o gig, a pheiriannau mawr i gymysgu bwyd. Dechreuodd hi weithio iddyn nhw yn 1955 a bu yno am 40 mlynedd – roedd yn 69 oed yn ymddeol.

Broughton: De Haviland Aircraft Co

VN050 Sandra Brockley, Shotton Steel Works, Shotton;De Haviland Aircraft Co, Broughton;Courtaulds, Y Fflint

Dechreuodd Sandra yn Courtaulds yn 1960, yn y lle cyntaf ar y 'perning', yn gwneud 'gwallt doliau' cyn symud ymlaen i'r 'cacennau'. Roedd y merched ar 'piecework', a doedd Sandra fyth yn ddigon cyflym. Roedd gan y ffatri do gwydr ac roeddent yn ei baentio'n wyrdd i gadw'r haul allan, ond roeddent yn dal i ferwi, meddai Sandra. Ond gallai fod yn oer iawn yn y gaeaf. Roedd hi'n byw bedair milltir i ffwrdd ac ai i'r gwaith ar y bws. Aeth hi ar 'day release. Gadawodd ar ôl chwe mlynedd, pan oedd hi tua 21, oherwydd roed'd hi wedi cael llond bol. Un dirwnod, gyrrodd hi'n syth heibio'r fffatri yn lle mynd i mewn ac aeth hi i Rhyl am y diwrnod! Ychydig yn ddiweddarach, cafodd hi swydd gyda De Havilands yn gyrru craen ar linell gynhyrchu yr Hawker Sidley 125 (awyrennau bach). Roedd hi'n gwybod am y pethau hyn oherywdd byddai ei thad yn siarad am 'slingers'. Gadawodd y swydd hon ar ôl blwyddyn i gael babi, ac yna dychwelyd i'r gwaith yn John Summers (Shotton Steel) a gwneud swyddi gyrru a gwerthu gwahanol, o 1971 nes iddi ymddeol yn 1998.

VN051 Pat R.D., De Haviland Aircraft Co, Broughton

Dechreuodd Pat yn De Havilands yn syth o'r ysgol, yn 1966, yn yr ystafell bost, lle bu'n delifro'r post. Dywedodd bod hon yn swydd neis iawn a daeth hi i nabod pawb. Wedyn, symudodd ymlaen i waith swyddfa cyffredinol yn y ffatri, lle roedd hi'n gweithio ar y peiriannau Gestetner, ac yn dysgu llawer am waith printio. Yn y diwedd, roedd hi yn yr adran 'Repair and Overhaul'. Roedd hi'n hoffi'r swydd honno yn fawr, gan fod awyrennau yn dod i mewn i gael gwasanaeth, rhai o'r RAF ac eraill o lefydd tramor fel y Swisdir. Bu hi'n gwneud pethau fel mynd i fyny mewn awyren i sicrhau bod digon o bwysau arni ar gyfer yr hedfan, a byddai'n mynd â'i gwaith swyddfa efo hi. Bu yno am ddeng mlynedd ac yna gadawodd i gael ei phlentyn cyntaf yn 1976. Doedd pethau ddim fel heddiw, meddai Pat, ar ôl chwe mis o fod yn feichiog, roedd rhaid i chi adael.

Bynea: Ina Bearings

VSW025 Beryl Evans, Ina Bearings, Bynea

Gadawodd Beryl yr ysgol yn 14 oed, a bu’n gweithio ym mragdy Felin-foel, 1941-8, cyn priodi. Doedd ei gŵr ddim yn hoffi menywod yn gweithio mewn ffatri. Yna collodd ei gŵr yn 1966 a bu’n rhaid mynd i INA Bearings i gynnal ei theulu. Roedd hi ar ‘inspection’ yno. Mae’n sôn am y nyrs yn y ffatri, sŵn y peiriannau, cloco miwn, partïon Nadolig y plant, cael cloc am hir-wasanaeth a thripiau. Gadawodd y ffatri yn 1982.
Mae rhan o'r cyfweliad hwn ar gael fel ffeil sain
Darllenwch gyfieithiad Saesneg o'r clip sain hwn
Gweithwyr Ffatri INA Bearings ar daith i Blackpool, 1975Parti Nadolig y plant, Ffatri Ina Bearings, Llanelli, 1977Tystysgrif Beryl Evans am 10 mlynedd o wasanaeth yn INA BearingsFfatri INA Bearings yn agor yn 1966, Beryl gyda Jim Griffiths AS a'r Rheolwr

Cae'r Bont: Ffatri Geir

VSW001 Moira Morris, Anglo-Celtic Watch Co. Ltd. (inc. Smith's Industries ac Ingersoll aka 'Tic Toc'), Ystradgynlais;Ffatri Geir, Cae'r Bont

Dechreuodd Moira yn ffatri Tic Toc ar ôl gadael yr ysgol yn 15 oed (?1963). Ffatri Gymraeg iawn. Noda’r hyfforddiant; canu ar y gwaith; dal yr ‘eyeglass’ yn y llygad; targedi; a‘r straen ar y llygad i wneud wats menyw. Gadawodd i gael y plant (c.1970) ond dychwelodd i weithio ar watshys poced dynion. Yna bu’n gwneud clociau ceir yn Enfield. Yn Tic Toc - doedd dim llwch a gwisgent esgidiau rwber. Dynion oedd ar ‘inspection’ a bechgyn oedd yn brentisiaid. Sonia am chwarae triciau ar ferched a bechgyn oedd yn priodi ac ar ferched newydd, gwisgo rolyrs i fynd allan nos Wener. Dyma ‘yr ysgol ore’. Roedd Clwb yn trefnu tripiau, partïon Nadolig i’r plant, a chystadleuaeth Miss Tic Toc. Glanhau popeth pan fyddai’r rheolwr yn dod o amgylch. Symudodd i ffatri clociau ceir yng Nghae’r Bont wedyn (?1985) - gwaith mwy brwnt. Bu hi yno 28 mlynedd.
Mae rhan o'r cyfweliad hwn ar gael fel ffeil sain
Darllenwch gyfieithiad Saesneg o'r clip sain hwn

Administration