English
Rhestru pob cofnod yn ôl:

Casgliad o gyfweliadau a ffotograffau a gofnodwyd gan Archif Menywod Cymru yn 2013-14

Rhestru pob cofnod yn ôl:
Chwilio
Chwilio uwch

Pori'r cyfweliadau


Trefnwyd yn ôl lleoliad y ffatri

Aberdaugleddau: Ffatri Teledu ITT

VSW037 Marina McGowan, Ffatri Teledu ITT, Aberdaugleddau

Gadawodd Marina yr ysgol yn 15 oed (1949) a bu’n forwyn yn gwagio potiau piso (2 flynedd) cyn symud ymlaen i’r Dociau i wneud rhwydi pysgotwyr ar gyfer y treill-longau. Ar ol priodi a chael plant aeth i ffatri fawr ITT ym Mharc Thornton (1970au) Roeddent yn gwneud setiau teledu. Gwrando ar y radio a chanu gyda’r miwsig. Darparent gotiau ar eu cyfer. Roedd damweiniau weithiau fel torri eu bysedd. Roedd ei gŵr ar y môr felly ni allai fynychu nosweithiau cymdeithasol gyda’r merched eraill. Gadawodd pan aeth yn feichiog eto.

Aberdâr: Sobells

VSE015 Luana Dee, Sobells, Aberdâr;TBS South Wales Ltd, Merthyr;NATO clothing factory, Rhymni;Guest Keen and Nettlefold (GKN), Merthyr;Thorns, Merthyr;Berlei Bras, Dowlais;Lines (Triang), Merthyr

Mae Luana yn sôn am ei chefndir teuluol lliwgar a dychwelyd i Ferthyr o dramor. Gadawodd yr ysgol yn 15 oed (1967) ac yn fuan wedyn dechreuodd weithio yn Berlei Bras fel 'machinist' (2 flynedd). Cymysgedd o ferched swil a chryf yno. Peiriannau gwych Almaenig Pfaff. Sioeau ffasiwn gyda’r cyflogeion yn modelu dillad isaf. Gwaith ar dasg - talu am bob bra. Taflu’r 'seconds' mewn biniau - trwsio a ddim yn ennill cyflog wedyn. Ei golwg yn dda ac roedd yn gyflym -felly ei rhoi ar y bras duon. Gwaith mwy anodd a cholli arian. Cafodd ei symud i’w stopio rhag creu trwbwl. Rhaid gofyn i fynd i’r toiled a’r oruchwylwraig yn curo’r drws. Yn cael eu gwylio drwy’r amser. Diswyddo - ansawdd ei gwaith? Neu rhy fyrbwyll? Yn syth i swydd arall. Yn BB roedd y sioeau ffasiwn ar lawr y ffatri - cystadleuaeth Miss Berlei Bra? Disgrifia’r ffatri. Ensyniadau rhywiol yn gyffredin. Dawnsfeydd Nadolig a thripiau. Nesaf - i ffatri Triang - gwnïo clustogwaith trwm (arhosodd 1 flwyddyn). Cael hwyl gyda bois y ffatri ym Mharc Cyfarthfa ar bnawniau Gwener. Deuai rhai dynion â lluniau pornograffig i’r ffatri - agoriad llygad. Gadael oherwydd dim dyfodol yno. Ymlaen i Thorn’s yn gwneud ffilamentau bylbiau golau. Disgrifia’r broses. Siapaneaid yn cymryd drosodd - mwy o straen ac arhosodd lai na blwyddyn. Symud i ffatri yn gwneud dillad diwydiannol i NATO - gwnïo trwm, mwy o ddynoliaeth yma. Yn ffatri TSB roedden nhw’n gwneud cabinetiau ffeilio ac roedd yn cyfathrebu’n dda gyda'i chydweithwyr. Roedd hi yn y swyddfa nawr. Dim ond am wythnosau y bu hi’n Sobell’s - lle enfawr, diwydiannol ac estron.
Mae rhan o'r cyfweliad hwn ar gael fel ffeil sain

VSE029 Patricia Howard, Harwin's Electronics Factory, Treorci;Ffatri fatris Ray-O-Vac, Treorci;Winchester Sausage Factory, Treorci;Sobells, Aberdâr;EMI, Treorci;Polikoff's, Treorci

Gweithiodd tad Patricia yn löwr am 51 mlynedd. Gadawodd hi’r ysgol yn 15oed (1958) a dechrau yn Polikoff’s ond roedd yn casáu gwnïo. Ar ôl wythnos (dychwelodd yno’n ddiweddarach) aeth Sobell’s . Cloch yn rheoli ei bywyd. Gwneud setiau teledu - rhoi gwydr ffibr ar lewys, yna sodro. Gwelai’r cantîn yn lle ofnus. Ysmygu wrth eu gwaith. Mae gwaith ffatri yn gofyn am hunanddisgyblaeth. Menywod oedd ar y beltiau cynhyrchu. Arhosodd 2 flynedd ac yna i EMI - gweithio gyda nodwydd a weiren aur. Dim beltiau cynhyrchu. Streic oherwydd oerfel. Cael bonws oherwydd y Beatles. Gwneud darnau i chwaraewyr recordiau. Nosweithiau allan yn y Shack, cerddoriaeth fyw. Wedyn aeth hi a’i chwaer i Winchester. Ond dychwelon nhw’n ar ôl 2 flynedd i ffatri Ray-o-vacs. Gwaith brwnt oherwydd y carbon. Gwneud batris. Yna’n feichiog a dychwelodd ar ôl 2 flynedd i EMI (yr un cwmni). Roedd yn 21 oed nawr. Bu’n byw ar arian poced tan ei bod yn 29. Arhosodd yn EMI am 9 mlynedd. Cafodd ei hatal o’i gwaith - hwyl Nadolig, ond aeth y ffatri ar streic a chafodd ei gwaith yn ôl. Clwb cymdeithasol EMI. Tynnu coes hwyliog. Yn ddiweddarach bu’n Harwin’s am 11 mlynedd. Diswyddwyd hi’n 53 oed (1996). Roedd y gwaith yn Harwin’s yn fân iawn - sodro eto. Dim undeb ond cael eu trin yn dda. Mae’n dal i weithio ym maes gofal yn 71 oed. Pan oedd yn EMI bu’n chwarae pêl-droed yn erbyn Polikoff’s -ar gyfer Cronfa Trychineb y Cambrian (1965). Enillon nhw - cryn stŵr.

VSE016 Phyllis Powell, Sobells, Aberdâr

Gadawodd Phyllis yr ysgol yn 16oed (1942), a dechreuodd yn Sobell’s yn 1944 - roedd ei mam yn anhapus oherwydd yr enw oedd gan ferched ffatri. Cafodd ei rhoi ar y llinell - yn rhoi gromedau mewn tyllau. Cafodd ei gwneud yn arolygwr. Helpodd yr undeb nhw i gael tâl ychwanegol am allu ar ben eu pae. Gweithiai’r gwneuthurwyr coiliau ar y llinell. Disgrifia’r prosesau. Gofynnwyd iddi helpu gwneud coiliau arbennig cyfrinachol (microsglodion?) ar gyfer y pencadlys yn Slough. Gweithiai nifer o Wlad Pŵyl yno. Roedd wrth ei bodd yn y ffatri - amodau gwych, chwarae cerddoriaeth a chanu. Roedd merched o Lyn Nedd yn chwarae o gwmpas yn y toiledau. Gangiau o weithwyr. Dawnsio mewn neuaddau lleol. Partïon Nadolig - rhedeg ar ôl dynion! Caeodd Sobell’s a chafwyd diswyddiadau tua 1956, yna ail-agorodd. Pe caech anaf - ystyrid mai’ch bai chi oedd e. Gadawodd pan yn feichiog yn 1956. Yn ddiweddarach bu’n ofalwraig.

Aberddaugleddau: Croydon Asbestos

VSW018 Enid Davies a Bronwen Williams, Deva Dogware, Gwynfe;Croydon Asbestos, Aberddaugleddau

Gadwodd Enid yr ysgol yn 16 oed (1965) a Bronwen yn 16 oed (1964). Diffyg trafnidiaeth - felly anodd cael gwaith os byw yn y wlad. Aeth Enid at ei brawd yn Aberdaugleddau a bu’n tynnu tatws ac yna yn Croydon Asbestos (tua 1966 tan 1968/9). Roedd hi’n cau menig lledr. Targed - cau 3200 (ansicr) o fenig yr wythnos. Munud y faneg. Gweld grwpiau fel yr Hollies yn y Masonic Hall. Ennill 'premium bond' at eu cyflog. Amodau gwaith da- dim sgil effeithiau asbestos. Bu Bronwen yn gofalu am blant cyn dechrau yn Deva Dogwear ac roedd wedi gorffen yno cyn i Enid ddechrau (c. 1966-68). Roedd yr amodau yn wael yn DD ond roedd y gweithwyr yn hwyluso’r gwaith. Gwneud coleri slip i gŵn yr oedd Enid. Hoffai’r annibendod. Cofia weldio gyda nwy; allforio’r coleri, gwrando ar Wimbeldon ar y radio. Bu Enid yn gwerthu coleri yn Crufts - pobl bwysig yno. Amodau gwael yn DD. Gadawodd Enid i gael babi, a dychwelodd nes i’r ffatri gau (tua 1968/9-1972).

Aberpennar: Bernard and Lakin

VSE064 Martha Irene Lewis (Rene), Bernard and Lakin, Aberpennar;Alexon Steinberg, Trefforest

Gadawodd Irene yr ysgol yn 14oed (1941) ac arhosodd gartref yn helpu ei mam am 4 blynedd cyn dechrau yn Ffatri Steinberg yn 1946 (ffatri newydd). Gweithiai ar y botymau - ar gyfer sgerti a siwtiau. Arferai fodelu’r dillad ar gyfer y rheolwr. Âi llawer o’r dillad i America - roeddent yn ddillad drud. Ar ddydd Sadyrnau caent ddiwrnodau agored - gallai pobl ddod i brynu dillad eilradd. Cafodd ei chwaer chwalfa nerfol tra roedd yn gweithio yno ond rhoddwyd job ysgafn iddi nes ei bod yn well (arhosodd yno am 50 mlynedd arall a chafodd wats aur!) Cerddoriaeth a chanu. Doedd hi ddim yn gallu fforddio dillad y ffatri. Roedd y ffatri yn sych oherwydd y dwst o’r dillad. Roedd yn boeth oherwydd eu bod yn gwneud dillad gaeaf trwm yn yr haf. Arhosodd yno tan 1952 a gadawodd pan oedd yn feichiog. Ar ddechrau’r 1960au aeth i weithio mewn ffatri ddillad arall - Bernard and Lakin. Bu yno am tua 3 blynedd.

Abertawe: Addis

VSW043 Margaret Morris, Addis, Abertawe;Mettoys, Fforestfach

Gadawodd Margaret yr ysgol yn 15 oed (1964) a dechrau yn Addis, bu yno nes geni’i mab (1971). Roedd yn gwneud pegiau plastig ond cafodd sawl damwain - briwiau ar ei breichiau. Cafodd ei symud i’r felin yn gorchuddio a dipio pren. Defnyddient 'Bostick' i ludo’r blew - y nwyon yn eu heffeithio. Roedd codi treis yn waith trwm. Bu’n gwneud brwsys masgara hefyd. Cymdeithasu ar y penwythnosau. Byddech yn archebu nwyddau o’r ffatri. Gwnâi’r ffatri goed Nadolig hefyd. Roedd y siop baent y tu allan i’r prif adeiladau - diogelwch. Caech chi ddeng munud yn unig i smygu yn y toiled. Caent eu talu drwy’r banc. Yna symudodd i Mettoys. Hoffai wneud y garejys - ei swydd gyntaf, ond cafodd ei symud ar y llinell gynhyrchu. Gweithiai â’i dwy law yn rhoi olwynion ar geir tegan. Arhosodd yno 2 flynedd. Rhaid cadw i fynd yno. Byddai’r merched yn anfon losin lawr y llinell i’w gilydd. Neu nodyn - GWENA! Dysgon nhw ddarllen gwefusau. Adeg y Nadolig caent brynu bagiau o deganau - eilradd. Roedd yn rhaid gwasgu pedal i nodi faint o geir oedd wedi’u gwneud. Os yn gyflym - ennill bonws. Dynion yn nôl a chario’r cydrannau (ffenestri / drysau) atynt.

VSE008 Yvonne Morris, Miles Laboratories, Penybont;Addis, Abertawe

Gadawodd Yvonne yr ysgol yn 16 oed (1962) a gweithiodd fel teipydd llaw-fer - 'bored'. Cyn hir aeth i ffatri Addis (1963). Daeth ei chydweithwyr yn deulu dirprwyol iddi - anhapus gartre. Dechreuodd yn pacio’r nwyddau ar lein. Symudodd i weithio ar y peiriannau - yna i hyfforddi. Roedd y peiriannau yn tocio’r brwshys a gludo’r blew. Rhy boeth / rhy oer. Casáu ymweliadau’r person amser a symud. Ymunodd ag undeb y TGWU - anghydfodau am amodau nid tâl. Mislifoedd poenus a gorfod sefyll drwy’r dydd. Siarad â’i gilydd yn eu cadw’n gall. Roedd ysmygu’n broblem enfawr - ffag sydyn yn y toiledau. Nadolig- mynd i glwb gyda’i gilydd. Gadael i weithio gyda gwneuthurwr hetiau ac yna i’r fyddin. Dychwelyd i Addis am tua 2 flynedd - wnaeth hi ddim dangos ei bod yn hoyw yn y ffatri - ystyrid hynny’n ffiaidd. Pan symudodd at ei phartner aeth i weithio i Miles Laboratories (1972-4) yn potelu moddion ar lein. Dim amser i siarad. Cyfleusterau gwych yno. Roedd ffatrïoedd yn rhoi synnwyr o’u hunain fel unigolion i fenywod. Dysgu bod yn ffyddlon a gofalus. Mantais- prynu 'seconds' ond cael eu harchwilio ar fympwy.

VSW041 Patricia Ridd, Addis, Abertawe;Windsmoor, Abertawe;Smith's Crisps, Abertawe;Mettoys, Fforestfach;Corona, Abertawe;Walkers, Abertawe

Gadawodd Patricia Ysgol Dechnegol Abertawe yn 15 oed (1961) i weithio yn ffatri Addis yn gwneud brwsys llaw. Roedd hi ar 'inspection'. Arhosodd 2 flynedd. Yna i ffatri wnïo Windsmoor, yn gwneud dillad i’r fyddin (2 flynedd eto). Yna cafodd fab a dychwelodd i Addis - gwneud brwsys masgara. Yna bu’n Smith’s Crisps - byddai’r creision yn dod i lawr twndish a byddai’n rhoi’r bag glas o halen ym mhob pecyn. Arhosodd yno chwe mis ac yna i ffatri bop Corona, am 26 mlynedd (1966-92). Dechreuodd ar y llinell yn gwylio poteli pop yn mynd nôl a mlaen. Yna bu yn y seler yn gwneud pop a seidr ac yna ar y wagen fforch-godi yn symud 'pallets'. Pan gaeodd y ffatri aeth i Walkers’ eto ar y wagen fforch-godi a gweithio shifftiau nos hefyd. Roedd llawr y ffatri yn brysur iawn. Prynu seconds yn y ffatrïoedd. Yn Walkers’ os nad oedd gwaith - noson i ffwrdd a dim tâl. Damweiniau - bu yn yr ysbyty gyda llosgiadau asid o Corona. Mae ganddi dystysgrifau i yrru wagen fforch-godi. Roedd Walkers’ a Corona yn oer - rhewodd y pop. Prin yn gweld ei gŵr oherwydd shifftiau. Roedd Corona fel teulu - y ffatri orau. Gweithiodd mewn ffatrïoedd 1961-98. Yna gweithiodd yn y brifysgol.
Merched Ffatri  Windsmoor ar noson allanPatricia Ridd a ffrind ar noson allan Ffatri WindsmoorPatricia Ridd yn y gwaith yn Ffatri Corona, Abertawe

Abertawe: Corona

VSW041 Patricia Ridd, Addis, Abertawe;Windsmoor, Abertawe;Smith's Crisps, Abertawe;Mettoys, Fforestfach;Corona, Abertawe;Walkers, Abertawe

Gadawodd Patricia Ysgol Dechnegol Abertawe yn 15 oed (1961) i weithio yn ffatri Addis yn gwneud brwsys llaw. Roedd hi ar 'inspection'. Arhosodd 2 flynedd. Yna i ffatri wnïo Windsmoor, yn gwneud dillad i’r fyddin (2 flynedd eto). Yna cafodd fab a dychwelodd i Addis - gwneud brwsys masgara. Yna bu’n Smith’s Crisps - byddai’r creision yn dod i lawr twndish a byddai’n rhoi’r bag glas o halen ym mhob pecyn. Arhosodd yno chwe mis ac yna i ffatri bop Corona, am 26 mlynedd (1966-92). Dechreuodd ar y llinell yn gwylio poteli pop yn mynd nôl a mlaen. Yna bu yn y seler yn gwneud pop a seidr ac yna ar y wagen fforch-godi yn symud 'pallets'. Pan gaeodd y ffatri aeth i Walkers’ eto ar y wagen fforch-godi a gweithio shifftiau nos hefyd. Roedd llawr y ffatri yn brysur iawn. Prynu seconds yn y ffatrïoedd. Yn Walkers’ os nad oedd gwaith - noson i ffwrdd a dim tâl. Damweiniau - bu yn yr ysbyty gyda llosgiadau asid o Corona. Mae ganddi dystysgrifau i yrru wagen fforch-godi. Roedd Walkers’ a Corona yn oer - rhewodd y pop. Prin yn gweld ei gŵr oherwydd shifftiau. Roedd Corona fel teulu - y ffatri orau. Gweithiodd mewn ffatrïoedd 1961-98. Yna gweithiodd yn y brifysgol.
Merched Ffatri  Windsmoor ar noson allanPatricia Ridd a ffrind ar noson allan Ffatri WindsmoorPatricia Ridd yn y gwaith yn Ffatri Corona, Abertawe

Administration