English
Rhestru pob cofnod yn ôl:

Casgliad o gyfweliadau a ffotograffau a gofnodwyd gan Archif Menywod Cymru yn 2013-14

Rhestru pob cofnod yn ôl:
Chwilio
Chwilio uwch

Pori'r cyfweliadau


Trefnwyd yn ôl lleoliad y ffatri

Abertawe: Windsmoor

VSW052 Cynthia Rix, Mettoys, Fforestfach;Windsmoor, Abertawe;Llamas, Abertawe

Disgrifia Cynthia Abertawe adeg y rhyfel. Gadawodd yr ysgol yn 14 oed (1952) roedd Iddewon yn chwilio am ferched ifanc (rhad) i weithio yn eu ffatrïoedd. Dechreuodd yn Llamas yn gwneud nicers a chrysau pêl-droed, ond cafodd ei diswyddo ar ôl pythefnos. Doedd hi ddim yn gallu gwnïo a chuddiodd ddilledyn roedd wedi’i ddifetha. Roedd hysbyseb tu allan i ffatri Windsmoor (dillad menywod) am weithwyr. Cafodd ei hanfon i nôl cotwm streipiog a bwced o stêm! Yn Windsmoor galwodd cynrychiolydd yr Undeb hwy allan ar streic a chafodd 17 ohonynt eu diswyddo. Yna symudodd i Mettoys a ‘dyna ble dechreuodd fy mywyd.’ Hwyl fawr a gweithio mewn tîm. Gweithiodd ar y llinell gynhyrchu - jobs gwahanol - ac yn pacio. Cafodd un ffrind ei diswyddo am geisio dwyn roced tegan. Gadawodd Cynthia a gweithiodd mewn caffes a siopau. Yn Mettoys collodd un fenyw ei llaw - cafodd swydd ysgafn a iawndal. Dim llawer o iaith fras yno. Yn Llamas roeddent yn cael eu trin y wael. Mettoys oedd y gorau. Cafodd dyllau yn ei chlustiau yn y toiled yno. Cafodd ei brawd ei godi a’i hongian ar beg yn Windsmoor. Anfonid gweithwyr newydd i nôl sgriwdreifer heb lafn. Pawb ynghyd.

Aberteifi: Slimma

VSW038 Di-enw, Slimma, Aberteifi

Gadawodd y siaradwraig yr ysgol yn 16 oed (1964) a mynd yn syth i ffatri Slimma, fel 'machinist', yn gwneud ffrogiau merched a beltiau. Yna aeth ei golwg yn wan ac ni allai wneud y beltiau felly gadawodd. Aeth I weithio mewn gwesty. Yn y ffatri doedden nhw ddim yn cael siarad ac roedd hi’n reit swnllyd. Roedd yr oruchwylwraig yn eu gwylio drwy’r amser. Câi gweithwyr neilltuol gynnig gwaith dros amser. Roedd yn well ganddi weithio yn y gwesty.

Aberteifi: Slimma-Dewhirst

VSW013 Di-enw, Slimma-Dewhirst, Aberteifi

Gadawodd y siaradwraig yr ysgol yn 15 oed (1968) a dechreuodd yn Slimma’s. Calders oedd yno cyn hynny. Slimma’n gwneud trowseri sgïo. Ei swydd gyntaf oedd pacio, yna labelu. Teimlai’n hen ffasiwn o’i gymharu â’r merched eraill - sgerti mini, esgidiau platform, smocio a mynd i’r dafarn. Dim targedau, Dim undeb. Yna cymerodd Dewhirst drosodd (ar ôl sawl cwmni arall), roedd targedau anodd ac undebau. Cofia ferched Slimma’n smwddio’u gwalltiau! Miwsig metel trwm. Pan oedd rhywun yn disgwyl babi byddent yn gweithio o fewn wythnosau i’r geni ac yn dod yn ôl o fewn wythnosau - cadw’ch swydd yn agored. Gadawodd pan oedd yn feichiog (tua 1972) a dychwelyd tua 1980. Hollol wahanol: dysgu sgiliau newydd, tâl yn dibynnu ar gyrraedd targedau; ac iawndal am wnïo drwy fys. Noda’r system Eaton o tsiecio perfformiad - ofnadwy; twyllo; tâl goramser da; enw da/ drwg merched y ffatri; bechgyn yn 'machinists' - problemau; sut câi goruchwylwyr eu swyddi; rhegi a’r undeb a rhai’n dwyn dillad. Cafodd syndrom twnnel y carpws wrth hemio - bu’n archwilio ond dychwelodd yn beiriannydd. Clwb cymdeithasol a thripiau e.e. i Iwerddon. Cafodd ei diswyddo yn 2002.

Amlwch: Ffatri baco E. Morgan & Co

VN056 Sali (Sarah) Williams, Ffatri baco E. Morgan & Co, Amlwch

Yn syth o'r ysgol, aeth Sali i weithio yn ffatri faco E. Morgan & Co, yn pwyso'r baco, o 1938 tan 1942, pan gafodd ei galw i fyny i ymuno â'r Fyddin Dir. Ei swydd hi oedd gwneud yr 'ounces' crwn, pwyso'r baco mewn 'ounces' ar fwrdd gyda thair merch arall. Roedd rhaid pwyso'r baco yn gywir er mwyn i rywun arall ei bacio fo mewn pecynnau crwn. Roedd y gwaith yn ddiddorol, meddai, ac ar ôl cael eu pwyso a'u pacio, aent i siopau dros Gymru. Roedd 'HMS customs' yn dod weithie, heb roi gwybod, i destio'r baco ac i weld a oedd ‘na ormod o ddŵr ynddo fe. Os oedd yn rhy wlyb, roedd pobl yn talu gormod amdano. Roedd 'supervisor' yn dod at Sali efo archebion. Yr un baco oedd yn mynd i bob 'wrapper', meddai, ac er bod yr enwau yn wahanol yr un un baco oedd o. Roedd y berthynas yn iawn rhwng y merched 'pawb yn gytun.' Doedd na ddim byd 'hygienic' am y lle, dim ond tipyn o ddŵr i olchi'r dwylo mewn bwced, dim tap, a dim 'water toilets'. Roedd hi'n wrth ei bodd yn y Fyddin Dir a dychwelodd i'r ffatri am ychydig o fisoedd ar ôl y rhyfel tan iddi briodi a chael ei phlentyn cyntaf. Aeth hi ddim yn ôl i weithio ond bu'n wraig tŷ am weddill ei hoes.

Bala: Ackroyd & Sons

VN004 Greta Davies, Ackroyd & Sons, Bala

Gweithiodd Greta mewn ffatri laeth cyn mynd i Ackroyds yn 1982, lle arhosodd hi am 12 mlynedd, yn gwirio'r dillad am ddifrod nodwydd yn gyntaf ac yn ddiweddarach yn eu smwddio. Yr oedd yn rhaid iddi sefyll am 8 awr y dydd ar fat arbennig. Roedd hi'n mwynhau'r ffatri fel lle i weithio: “Roedden ni'n cael rhyw brêc bach, roedden ni'n cael pum munud bob awr i fynd allan i gael smôc a mynd â phaned o de neu goffi o'r 'vending machines'. Mi oedd 'na gantîn da iawn yna, roedden nhw'n wneud tost yn y boreau, amser cinio roedden nhw'n gwneud cinio poeth. Roedden ni'n cael cinio Nadolig a phwdin Nadolig bob blwyddyn yna. Roedden nhw wedi addurno y cantîn i fyny yn smart iawn, "'atmosphere' neis iawn amser Dolig.” Roedd 'na fywyd cymdeithasol da iawn yno hefyd, gyda thripiau i lefydd fel Tywyn. Cafodd hi ei diswyddo yn 1994, pan benderfynodd y cwmni fewnforio pyjamas o Tsieina, ond mae wedi mynd yn ôl i Ackroyds yn achlysurol ers hynny i helpu yn ystod cyfnodau prysur.

VN001 Cath Parry, Ackroyd & Sons, Bala

Roedd Cath yn gweithio yn ffatri Ackroyd's yn gwneud 'hems' ar gyfer y pyjamas, yn gyntaf yn y ffatri wreiddiol ar y Stryd Fawr yna yn yr adeilad newydd ar yr ystad ddiwydiannol. Dechreuodd yn y ffatri yn 1974 a chafodd ei gwneud yn ddi-waith yn 62 oed, pan newidiodd y ffatri i'w ffurf bresennol - h.y. yn mewnforio dillad o Tsieina ar gyfer eu dosbarthu yn y DU. Mae'n disgrifio'r gwaith fel proses o weithio gyda'r cloc: “O'r munud roedd wyth o'r gloch yn dod, roeddech yn gwnïo trwy'r adeg tan amser brêc. Pob peth yn mynd efo'r cloc. Roeddech chi'n gorfod gwneud saith deg pump o byjamas mewn hanner awr, a beth bynnag oedd eich job chi ar hwnnw, roedd rhaid i chi wneud e mewn hanner awr. Roedd tua chwech ohonon ni'n gweithio mewn rhes. Roedd un yn dechrau off, os oedd ei mashîn hi yn torri, roedden ni i gyd yn aros. Ond roedd rhaid i chi neud y saith deg pump yna bob hanner awr erbyn diwedd y dydd, neu roedd o eisiau gwbod pam.”

Bangor: Ferranti

VN055 Beryl Buchanan, Ferranti, Bangor;Hotpoint, Llandudno;Mona Products, Porthaethwy

Aeth Beryl i Mona Products yn syth o'r ysgol yn 1958. Roedd y ffatri hon yn gwneud dillad i Marks & Spencers. Gwnïo coleri yn sownd i’r crysau T a hefyd y llewys, a rhoi lastig yn y nicyrs, a gwnïo 'gussets' roedd hi’n ei wneud. “Doedd na’m basic wage. Ac felly oedd rhaid i chdi fynd fel coblyn ar y mashîn ‘de i neud cyflog i fyny.” Doedd dim rheolau iechyd a diogelwch yr adeg honno. Roedd cantîn bach yno. Dim ond rhyw ddau ddyn oedd yn pacio ac un ar dractor bach oedd yn cario pethau, y rheolwr ei hun a dau fecanic. Byddai'r ffatri yn canu miwsig – radio ac uchelseinydd. Y dynion oedd yn dewis beth oedd arno – tebyg i 'Workers’ Playtime' a'r newyddion. Gadawodd Beryl yn 1960 i fynd i Ferranti's. Roedd teirgwaith mwy yn gweithio yn Ferranti’s nag ym Mona Products. Bu’n gweithio yn 'laminations' Ferranti yn gwneud topiau 'sports cars' a chyfars lledar iddyn nhw. Roedd hi'n llawer hapusach yn Ferranti – roedd llawer mwy o hwyl yno. Llawer gwell lle a chael cyflog a bonus. Bu hi yno tan 1968, pan aeth i Hotpoint am rai misoedd. Ond doedd hi ddim yn hoffi Hotpoint a dychwelodd i Ferranti. Priododd Beryl yn ystod y cyfnod hwn a stopiodd hi weithio pan gafodd hi blant.

VN052 Enid Jones, Cooper Webb, Bethesda;Ferranti, Bangor

Swydd gyntaf Enid oedd yn Injaroc, yn 1955, a chafodd y swydd hon trwy ffrind ei mam, Mrs Morris, a oedd yn gwneud injaroc 8 gartref cyn gwerthu'r resipi i ffatri leol. Symudodd Enid i Ferrantis, ffatri electronics, ar ôl rhyw chwech mis a bu hi yno am 14 o flynyddoedd. Dywedodd: "Fuo fi ar y 'meter testing' am flynyddoedd. Hwnnw oedd y swydd fwyaf ges i. Testio 'meters' yn barod i fynd allan i Manweb. Cynhyrchu 'meters' electrig a beth oeddan ni yn ei alw yn 'ear defenders' i roi ar glustiau i fynd ar 'aeroplanes' a lot o ryw bethau bach oeddan nhw yn ei wneud yna. Roedd 'na ychydig o 'engineering' yna." Roedd llawer o sbort yno ac mae'n cofio sawl streic hefyd : “Llawer i streic am ryw ddiwrnod neu ddau. Achos y streic oedd tâl neu rywun wedi cael ei stopio a ddim yn haeddu cael ei sacio. Gadawodd hi i gael ei merch gyntaf yn 1970, ac roedd hyn yn drist iddi. Yr adeg honno, doeddech chi ddim yn mynd nôl ar ôl cael babi. Doedd na neb i warchod y plant i chi gael mynd yn ôl, meddai, er ei bod hi eisiau dychwelyd.

VN006 Dilys Wyn Jones, Ffatri Staes, Caernarfon;Ffatri cocos, Caernarfon;Ferranti, Bangor

Gweithiodd Dilys yn y Ffatri Staes o pan oedd yn 15 oed, yn syth o'r ysgol. Bu'n gweithio ar wahanol linellau, ar wahanol rannau o'r corsedau. Roedd hi'n mwynhau gweithio yno, ond ar y cyfan yn meddwl bod gwaith ffatri yn ddiflas. Roedd y ffatri yn 'basic' iawn: “Llawr concrit oedd o, ac oedd ‘na lwch yna, calch oddiwrth y corsets, ‘sti. Oedden ni'n cael X-ray, bob blwyddyn. Roedd o (dyn) yn dod â dŵr i mewn mewn 'watering can', oedd o'n mynd rownd y lle fel na a watero'r llawr, i gadw'r llwch i lawr. Roedd 'na ffenestri fel oedd ar dŷ gwydr i fyny'r grisiau, a pan oedd hi'n haf, oedd hi'n berwi, oeddet ni'n cael dy gwcio'n fyw.” Bu hefyd yn gweithio yn ddiweddarach mewn ffatrïoedd eraill, megis y ffatri gocos yng Nghaernarfon ac yn Ferranti ym Mangor.

VN053 Dilys Pritchard, Austin Taylor, Bethesda;Ferranti, Bangor

Gweithiodd Dilys yn Woolworth's am bedair blynedd ar ôl gadael yr ysgol. Symudodd hi i Ferranti's pan oedd tua 19 oed, yn 1961-1962, ond dim ond am chwe mis yn unig y bu yno, cyn newid i Austin Taylors, lle daeth hi yn un o'r 'gweithwyr allweddol' - yn dysgu sut i reoli pobl a rhoi hyfforddiant iddynt ar yr hyn yr oedd y ffatri yn ei gynhyrchu. Mae'n cofio un ferch yn dal ei gwallt yn y peiriant. Roedd Dilys yn gyflym i ddiffodd y peiriant ac roedd rhaid iddynt dorri rhan o'i gwallt i'w chael hi'n rhydd. Ar ôl wyth mlynedd yno, aeth hi'n sal a dywedodd y ffatri wrthi y byddai'n rhaid mynd i dribiwnal i gael ei swydd yn ôl, felly heb undeb i'w helpu hi, collodd hi ei swydd yn 1970.

Administration