English
Rhestru pob cofnod yn ôl:

Casgliad o gyfweliadau a ffotograffau a gofnodwyd gan Archif Menywod Cymru yn 2013-14

Rhestru pob cofnod yn ôl:
Chwilio
Chwilio uwch

Pori'r cyfweliadau


Trefnwyd yn ôl lleoliad y ffatri

Llanelli: Morris Motors (Nuffields)

VSW007 Di-enw, Morris Motors (Nuffields), Llanelli

Gadawodd y siaradwraig yr ysgol yn 15 oed yn 1959 ac ar ôl gweithio am gyflog isel mewn siop, dechreuodd yn Morris Motors yn 1962; ‘blynyddoedd hapusa mywyd i’. Roedd pobl, meddai, yn dweud ‘merched ffatri – comon’ ond doedd dim ymladd nac iaith anweddus yno. Roedd oriau’r ffatri yn fwy cymdeithasol. Cafodd gynnig mynd i Rydychen i ddysgu sut i hyfforddi cyflogeion ond roedd yn feichiog. Cafodd y rhybudd pan oedd 6½ mis yn feichiog (1969). Roedd sawl aelod o’r teulu’n gweithio yno. Dychwelodd fel goruchwylwrig (1970-4) gyda’r nos. Wedyn gweithiodd yn y Co-op. Yn Morris Motors roedd yn hoffi’r gwaith cyson, y gwyliau a’r awyrgylch hapus. Câi gweithwyr Rhydychen gyflogau uwch am yr un gwaith. Amodau: menig rwber, meddygfa a nyrs; damweiniau; yr oerfel, canu i 'Workers’ Choice'; ei gŵr yn anghymeradwyo’r gwaith. Stopiodd British Leyland y bonysau – targedau wrth yr awr nawr. Hwyl ar Noswyl Nadolig. Teimlai ei bod yn cael ei gwerthfawrogi yn y ffatri oherwydd roedd hi a’i hefeilles (VSW006) yn weithwyr da.

VSW006 Di-enw, Morris Motors (Nuffields), Llanelli

Gadawodd y siaradwraig yr ysgol yn 1959 yn 15 oed a dechrau yn y ffatri yn 1960. Ei mam gafodd y swydd iddi. Roedd yn gweithio ar y rheiddiaduron. Gwaith ar dasg. Doedden nhw ddim yn stopio i siarad. Y targed - ugain mewn awr. Menywod oedd ar y rheiddiaduron yn bennaf - fyddai dynion ddim yn gwneud y gwaith yma. Dim ond bechgyn oedd yn mynd yn brentisiaid. Roedd menywod yn gadael yn feichiog 6½ mis. Doedd y job ddim yn cael ei chadw yn wag - gadawodd yn 1971. Aeth nôl bedair awr y noson ar ôl geni’r plant. Câi merched y tâl llawn yn 18 oed a dynion yn 21 oed - roedd cyflogau dynion bod amser yn fwy na rhai’r menywod. Caent ddisgownt ar gar - Mini efallai. Undebaeth. Amodau: gwisgo menig rwber oherwydd asid; damweiniau - collodd un bachgen ei fys; yr oerfel; 'Workers’ Choic'e ar y radio. Noda weithio mewn ffatri hufen ia ym Mhen-bre lle bu bron iddi lewygu oherwydd y cludfelt. Clwb Morris Motors - partïon Nadolig i’r plant.

Llanelli: Salter

VSW062 Sylvia Howell, Salter, Llanelli;John Stanton, Llanelli

Gadawodd Sylvia yr ysgol ramadeg gyda Lefelau O pan oedd yn 17. Bwriadai fynd yn nyrs ond priododd yn lle. Bu’n gweithio mewn siopau ac yn yr Opticals Llanelli ond ar ôl geni ei mab aeth i weithio i ffatri John Stanton fel uwch wniadwraig yn 1967 (tan tua 1969) - ffatri eitha ‘posh’. Roeddent yn gwneud dillad i M&S. Targedau, amser a symud a bonysau. Anafiadau gyda’r peiriant. Doedd dim undeb a phan geision nhw ddi-sgilio’i gwaith symudodd i ffatri Salter’s yn calibro cloriannau. Gweithiai am yr arian ond roedd y cwmni yn dda hefyd. Symudodd i fod ar 'inspection' yn y warws. Roedden nhw’n prynu pethau eilradd yn y ddwy ffatri ac roedd rhywfaint o ‘ddwyn’ Caeodd Salter’s yn 1978.

Llanelwy: Ffatri losin

VN045 Joyce Edwards, Ffatri losin, Llanelwy

Roedd Joyce yn gweithio mewn siop groser am ddwy flynedd cyn mynd i weithio yn y ffatri losin, yn 1952 pan oedd yn 17 oed. Bu yno am ddwy flynedd. Roedd y ffatri yn gwneud losin Spearmint a lolipops ar gyfer gwyliau haf ac roedd y gwaith yn dymhorol. O fis Tachwedd tan fis Mawrth, roedd y ffatri ar gau a'r gweithwyr allan o waith. Roedd hi'n lapio'r losin drwy troelli darn o bapur o'u cwmpas, ac yr oedd dau ddyn yn y cefn a oedd yn cymysgu y gymysgedd mewn powlenni mawr, ac roedd peiriant yn pwyso'r losin cnoi. Os oedd rhywbeth yn digwydd a'r peiriant yn torri, ni allent gadw i fyny gyda'r losin na gwneud eu cwota llawn. Nid oedd unrhyw ddrysau rhwng y cefn a'r brif ystafell ac roedd yr asid yn y lolis yn mynd i mewn i fysedd Joyce. Roedd y briwiau'n troi yn bothelli a byddai hi'n eu torri a'u glanhau a rhoi plastar arnynt. Ond torrodd un allan o dan ei hewin, ac roedd rhaid iddi fynd at y meddyg. Roedd ganddi'r gwaith hefyd o dacluso'r storfa gan fod tipyn o lanast yno Roedd y merched yn gafael yn y bocsys ac yn gollwng pethau ym mhob man. Roedd cyfeillgarwch da yno, a llawer o hwyl wrth weithio. Roedd yr oriau'n hir a doedd dim modd chwarae o gwmpas. Ar ôl gadael y ffatri losin, gweithiodd Joyce yn y 'Milk Bar' yn Llanelwy ac wedyn mewn ysbyty, gan ddod yn oruchwylwraig ffreutur.

Llanelwy: Pilkingtons Glass

VN043 Christine Jane Jones, Pilkingtons Glass, Llanelwy

Roedd Christine wedi gwneud cais am swyddi yn Llundain, ond yn y diwedd, aeth i weithio'n ffatri Pilkington, a oedd yn gyflogwr mawr yn yr ardal, yn 1964. Roedd hi'n glerc yn yr adran werthu, yn gwneud pethau fel ffeilio a theipio, ond doedd hi ddim yn dda am wneud hyn, ac mae'n disgrifio ei hun fel tipyn o 'dog’s body'. Roedd yn lle da i weithio ac roedd y cwmni yn edrych ar ôl y gweithwyr, gan ddarparu cyrtiau tennis a maes criced a chyfleusterau eraill. Roedd yn waith diogel a dim ond ychydig cyn i'r ffatri gau y dechreuon nhw ddileu swyddi. Roedd Christine yn mwynhau gweithio yno. Gadawodd yn y pen draw, yn ol y disgwyl, i gael ei babi cyntaf yn 1971. Roedd yn rhaid, ar y pryd, meddai, i ferched aros yn y tŷ i fagu plant. Pan oedd ei mab yn hŷn, aeth yn ôl i'r gwaith, yn gwneud swyddi rhan amser fel dynes cinio ysgol ac mewn garejys.

Llanelwy: Pilkingtons-Pilkin Elmer

VN044 John Taylor, Pilkingtons-Pilkin Elmer, Llanelwy

Gadawodd John yr ysgol yn bedair ar ddeg. Dywed nad oedd yn ddigon da i fynd ymlaen i ysgol ramadeg a chael ysgoloriaethau, er bod hyn wedi siomi ei rieni, ond doedd e ddim eisiau mynd beth bynnag. Dilynodd ei dad i faes peirianneg, yn gweithio yn Cammell Laird yn y swyddfa. Yn un ar bymtheg, arwyddodd i fod yn brentis 'pattern maker' yn y iard longau ei hun, a bu'n brentis am bum mlynedd, ac wedyn dwy flynedd arall fel 'journey man' cyn mynd i mewn i'r Llu Awyr Brenhinol i wneud ei Wasanaeth Cenedlaethol 1955-1957. Wrth adael y Llu Awyr, aeth i weithio yng nghwmni awyrennau De Havilland yn Nghaer, gan weithio ar y prif awyrennau, sef y 'Comet' ar y pryd, fel 'wood-chip maker'. Agorodd y Llu Awyr ei lygaid, roedd o'n sylweddoli am y tro cyntaf bod y byd yn lle mawr, llawn posibiliadau gwaith. Ar ôl dirywiad yn y fasnach awyrennau, aeth John i weithio i'r heddlu am ychydig o flynyddoedd, ond roedd yn awyddus i ddychwelyd i fyd peirianneg, ac aeth i weithio yn Hotpoint, yn gwneud peiriannau golchi yng Nghyffordd Llandudno. Roedd ffatri Pilkington yn dechrau cael ei hadeiladu a gwnaeth gais am, a chael, swydd yno fel 'tool inspector' yn Pilkington Perkin Elmer, fel oedd bryd hynny. Arhosodd yn y ffatri hon nes iddo ymddeol yn 55 oed yn 1987.

Llangefni: Ffatri Laeth Llangefni

VN033 Mair Griffiths, Ffatri Laeth Llangefni, Llangefni

Ffermio oedd gwaith ei thad ac roedd Mair yn un o saith o blant. Gwerthwyd fferm y teulu ar ôl marwolaeth ei thad. Roedd rhai o'i chwiorydd yn gweithio mewn ffatri wnïo. Aeth Mair i'r ysgol yn Llangefni, gan adael yn 16 oed, a chwilio am waith. Eisiau bod yn nyrs yr oedd hi ond roedd yn rhaid aros tan iddi gyrraedd 19 oed. Dysgodd hi deipio yn y 'British School' tra’i bod hi'n chwilio am swydd a chafodd hi swydd yn y ffatri llaeth, er ei bod hi'n trïo am swydd yn y ffatri wnïo hefyd. Cafodd hi'r swydd ar ôl cael cyfweliad ac roedd hi'n teimlo'n hapus i gael swydd. Yn 1949 yr oedd hynny a dysgodd hi sut i brofi llaeth trwy wneud y gwaith. Roedd y berthynas rhwng y gweithwyr yn dda. £1, 12 a 6 oedd ei chyflog cyntaf ac roedd yn rhoi’r rhan fwyaf ohono i'w mam. Roedd hi'n byw ym Modffordd ac yn mynd i'r ffatri yn Llangefni ar y bws. Ar un adeg roedd yn rhaid iddi weithio shifft nos, a phrynodd hi feic er mwyn cyrraedd y gwaith. Yn y dechrau, roedd hi'n gweithio o naw tan bump, ond doedd hi ddim yn teimlo ei fod o'n diwrnod hir. Doedd dim cantîn yno ond roedd cwtsh bach lle roedden nhw'n rhoi'u cotiau ac roedd bwrdd yno. Doedd dim tegell yno ac roedden nhw'n cynhesu dŵr ar gyfer paned yn y lab. Yn 1966, diswyddodd y ffatri nifer o wragedd priod o achos diffyg llaeth, ac roedd yn rhaid i Mair orffen yn y flwyddyn honno, a oedd yn dipyn o sioc, a chafodd hi ddim iawndal. Yr arfer oedd 'first in last out' ond doedd hyn ddim wedi digwydd yn yr achos hwn, meddai.
Yn y labordy, Mair, canol, gyda'r rheolwraig Mrs Thomas yn eisteddMair, cefn canol, gyda chydweithwyr, nodir y llosg asid yn yr oferôls

VN032 Rosie Jones, Ffatri Laeth Llangefni, Llangefni

Roedd Rosie yn gweithio yn y lab yn yr hufenfa yn Llangefni, yn syth ar ôl gadael yr ysgol, yn 1957. Cafodd hi hyd i’r swydd ar ôl clywed yn yr ysgol bod swyddi yn mynd yn y ffatri laeth, mae'n credu mai ar ôl y gwasanaeth boreol yr oedd hyn. Roedd hi wedi mynd am swydd arall, mewn banc, ond roedd yn well ganddi wneud swydd y ffatri achos roedd hi eisiau gwneud gwaith yn ymwneud ag amaethyddiaeth. Y Bwrdd Marchnata Llaeth oedd piau'r ffatri. Roedd hi'n nerfus yn mynd i mewn i griw o weithwyr ar ôl bod ar ei phen ei hun ac roedd o dan hyfforddiant ar y cychwyn, yn dysgu'r broses uchod yn y swydd, yn ystod ei thri mis o brawf. Roedd ‘na rai merched hŷn yno, wedi bod yno cyn iddi hi ddechrau, ac roedd y rhai ifancach yn cael llawer o jobsys bach doedd y gweithwyr hŷn ddim eisiau eu gwneud. Roedd y merched hŷn yn dda iawn, meddai, a phawb yn ffrindiau mawr. Roedd yn rhaid i'r merched a oedd yn profi'r llaeth gael 'colour blindness test' gan y meddyg, achos roedden nhw'n defnyddio 'litmus paper' i wneud y profion hyn, ac roedd y papur yma yn newid ei liw fel rhan o'r prawf. Roedd gwahanol lefelau o las er mwyn testio'r llaeth, felly roedd yn rhaid i'r merched gael llygaid da. Roedd yn lle difyr i weithio. Ar un adeg, roedd y brodyr Cadbury's piau'r lle ac roedd y ffatri yn gwneud siocled a bisgedi yn ogystal â llaeth i'r cyhoedd ac i ysgolion. Cwrddodd â'i gŵr yno. Gadawodd hi'r ffatri yn 1967 achos roedd hi am ennill mwy o arian a chafodd hi swydd dda efo'r Cyngor Sir.
Rosie and Mair Griffiths yn y gwaith, 1950au

Llanrwst: Danline

VN003 Yvonne Stevens, Ffatri deganau B.S.Bacon, Llanrwst;Dolgarrog Aluminium, Dolgarrog;Hotpoint, Llandudno;Danline, Llanrwst

Gweithiodd Yvonne yn y ffatri deganau yn Llanrwst ar ôl gadael yr ysgol yn 15 oed, lle bu'n paentio teganau pren. Roedd hi un o'r ifancaf ac roedd yn gweithio efo dwy fenyw hŷn ac roedd yn eu galw yn Anti Lena ac Anti Martha. Roedd hi'n hoffi'r teganau, wedi'u gwneud o bren, pethau fel tai doliau, garejys, a ffermydd, ond doedd hi byth yn gallu eu fforddio nhw. Roedd hi'n mwynhau gweithio yno ond roedd eisiau ennill mwy o arian, felly gadawodd y ffatri am swydd yn Nolgarrog fel 'inspector', yn gwirio'r alwminiwm am ddiffygion. Roedden nhw'n gwneud darnau o alwminiwm ar gyfer llawer o bethau, o sosbanau i doeau. Roedd y lle yn enfawr, gyda dros fil o weithwyr, ac roedd hi'n dal y bws yno o Lanrwst. Cyfarfu â'i gŵr Mark yn y ffatri a bu yno nes i'w mab gael ei eni ddwy flynedd ar ôl priodi. Aeth hi fyth yn ôl i waith ffatri, ond i waith glanhau.

Llanrwst: Ffatri deganau B.S.Bacon

VN019 Nancy Denton, Ffatri deganau B.S.Bacon, Llanrwst

Aeth Nancy i lawr i'r ffatri deganau ar ôl gadael yr ysgol i ofyn am swydd, gan fod ei theulu yn disgwyl iddi weithio. Doedd hi ddim yn hoffi'r swydd lawer ond roedd yn waith. Roedd hi'n gwneud y byrddau du, ac roedd hi'n hoffi hynny, er gallai'r gwaith fod yn undonog, curo'r hoelion i mewn a sandio'r pren i lawr. Roedd hefyd yn gorfod defnyddio gynnau stwffwl, ac roedd rhain ychydig yn frawychus, gan eu bod yn 'neidio.' Roedd y teganau o safon uchel, o'r enw Valley Toys, mae'n meddwl. Os oedd 'rejects' doedd dim hawl i'r gweithwyr eu cael nhw a doedd dim y fath beth a bonws Nadolig. Roedd y ffatri yn sylfaenol iawn ond roedd hi'n mwynhau'r cyfeillgarwch yno. Gadawodd y ffatri yn 17 oed a phriodi yn fuan wedyn. Bu'n gweithio wedi hynny ond nid mewn ffatri.

Administration