English
Rhestru pob cofnod yn ôl:

Casgliad o gyfweliadau a ffotograffau a gofnodwyd gan Archif Menywod Cymru yn 2013-14

Rhestru pob cofnod yn ôl:
Chwilio
Chwilio uwch

Pori'r cyfweliadau


Trefnwyd yn ôl lleoliad y ffatri

Llandudno: Hotpoint

VN023 Kathy Smith, Hotpoint, Llandudno

Roedd Kathy yn adran bersonél Hotpoint o'r dechrau yn 1947 ac, ar wahân i egwyl o 15 mlynedd pan oedd hi'n edrych ar ôl ei theulu neu'n gweithio ar longau, gan gynnwys y Queen Elizabeth, arhosodd yno nes ei diswyddo'n wirfoddol yn 1991, pan oedd yn 62 oed. Roedd hi wedi mwynhau gweithio yn y ffatri, yn nabod pawb , ac yn disgrifio'r lle bron fel teulu. Dywedodd ei fod yn lle 'aruthrol' i weithio, er ei bod yn cyfaddef nad oedd hi'n gorfod dioddef undonedd y llinell gynhyrchu. Yn ei swydd, roedd rhywbeth gwahanol bob dydd ac roedd yn gyffrous, doedd hi byth yn gwybod beth y byddai'n ei wynebu nesaf, ac roedd pobl yn arfer dod ati hi gyda phob math o broblemau. Gwnaeth amrywiaeth o dasgau yn sgil ei rôl fel swyddog personél, gan gynnwys amser ar y llinell gynhyrchu i geisio deall sut y gallai gweithwyr wneud diwrnod gwaith mor undonog ddydd ar ôl dydd.
Tu mewn i Ffatri Hotpoint, c.1980, © HotpointPwyllgor Adloniant Hotpoint, c.1950Gweithwyr ar lawr ffatri Hotpoint, c.1980  © Hotpoint

VN003 Yvonne Stevens, Ffatri deganau B.S.Bacon, Llanrwst;Dolgarrog Aluminium, Dolgarrog;Hotpoint, Llandudno;Danline, Llanrwst

Gweithiodd Yvonne yn y ffatri deganau yn Llanrwst ar ôl gadael yr ysgol yn 15 oed, lle bu'n paentio teganau pren. Roedd hi un o'r ifancaf ac roedd yn gweithio efo dwy fenyw hŷn ac roedd yn eu galw yn Anti Lena ac Anti Martha. Roedd hi'n hoffi'r teganau, wedi'u gwneud o bren, pethau fel tai doliau, garejys, a ffermydd, ond doedd hi byth yn gallu eu fforddio nhw. Roedd hi'n mwynhau gweithio yno ond roedd eisiau ennill mwy o arian, felly gadawodd y ffatri am swydd yn Nolgarrog fel 'inspector', yn gwirio'r alwminiwm am ddiffygion. Roedden nhw'n gwneud darnau o alwminiwm ar gyfer llawer o bethau, o sosbanau i doeau. Roedd y lle yn enfawr, gyda dros fil o weithwyr, ac roedd hi'n dal y bws yno o Lanrwst. Cyfarfu â'i gŵr Mark yn y ffatri a bu yno nes i'w mab gael ei eni ddwy flynedd ar ôl priodi. Aeth hi fyth yn ôl i waith ffatri, ond i waith glanhau.

Llandygái: High Speed Plastics

VN054 Sandra Owen, AustinTaylor, Bethesda;High Speed Plastics, Llandygái

Yn syth ar ol gadael yr ysgol, yn 1970, aeth Sandra i'r ffatri blastig i wneud 'sun visors' a chaniau dŵr. Roedden nhw ar 'time and motion' ac roedd y cyflog yn dibynnu ar faint o’r 'sun visors' oedden nhw'n ei wneud. Ar ôl dwy flynedd, cafodd hi waith yn Austin Taylors, Bethesda, lle roedd hi'n gallu cerdded i'r gwaith. Roedd yr ail ffatri yn cynyrchu pethau electronig ac roedd hi ar y peiriannau: "Ar ôl cyrraedd landiodd hi yn y mashîn siop ‘ a rhyw anfarth o fashîn fawr. Mi oedd golwg y mashîn yn ddigon ar wneud neb redag allan oddi yna. Ond mi oedd ‘na ddynion yn gweithio yn y mashîn siop, ac yn dysgu ni. A fi oedd yr unig un, geithon ni’n gwahanu i gyd i wahanol adranna yn y ffatri. Ymhen dau, dri dirwnod on i ‘di dod yn real boi ar y mashîn ac on i’n ddigon hapus." Roedd y gweithwyr yn gweithio 56 awr yr wythnos weithiau er mwyn cyrraedd eu targedau. Wedyn, daeth Sandra yn oruchwylwraig. Gadawodd hi yn 1998 pan oedd y ffatri yn cau a dechreuodd hi ei busnes ei hun, yn darparu cywion ieir i gigyddion led led Cymru .

Llanelli: Fisher & Ludlow

VSW066 Enid Thomas, Fisher & Ludlow, Llanelli

Gadawodd Enid yr ysgol ramadeg yn 17 oed (1954) ac aeth i hyfforddi’n nyrsio. Aeth i weithio yn un o nyrsys Fisher a Ludlow yn 1980. Mân anafiadau fel cytiau neu bethau yn mynd i’r llygaid oedd yno’n bennaf. Doctor yn galw unwaith yr wythnos i asesu a oedd gweithwyr yn ffit i ddychwelyd i’r gwaith. Roedd ganddi ystafell fawr ac ystafelloedd bach ohoni. Gwisgai iwnifform chwaer mewn ysbyty. Gweithiai o 6-10 o’r gloch gyda’r nos. Nyrs gwrywaidd yn gweithio’r shifft nos. Anafiadau eraill: llosgi, troi pigwrn, anafu arddwrn wrth godi llwyth rhy drwm. Os angen pwythau - i’r ysbyty. Bu yno tua12 mlynedd. Ffeil ar gyfer pob gweithiwr. Nabod y 'shirkers' ond rhai o’r 'foremen' yn disgwyl gormod yn enwedig gan y menywod.

Llanelli: HJ Hargreaves (Pop)

VSW012 Melva Jones, HJ Hargreaves (Pop), Llanelli;Spitfire Factory, Castle Bromwich

Gadawodd Melva yr ysgol yn 14 oed (1938). Adeg y rhyfel aeth hi a’i chwaer i Birmingham – cael 'digs' – gwaith yn ffatri Spitfire. Gweithio oriau mawr – ‘o’r gwaith i’r gwely’. Y bomio a’r ofn. Roedd yn gwneud y 'cogs' a’r sgriwiau fwyaf – darnau o’r adenydd. Amodau gwael y 'digs –bread and dripping' a dim lle i olchi. Gofyn iddynt ganu am eu bod yn Gymry. Stopio’r peiriannau adeg y cyrchoedd awyr. Anfon eu tâl adre. Cymysgu gyda’r Albanwyr. Blwyddyn yno (tua 1940) a chafodd Melva TB. Shrapnel i lygad ei chwaer – colli’i llygad. Shifftiau nos. Bu’n Ysbyty TB Craig y nos. Yna i ffatri bop Hargreaves (c. 1943) – golchi’r poteli a phacio’r 'crates'. Mathau o bop a chreision. Ffatri fach. Melva yn canu gyda band. Gadael oherwydd ei hiechyd.

Llanelli: John Stanton

VSW062 Sylvia Howell, Salter, Llanelli;John Stanton, Llanelli

Gadawodd Sylvia yr ysgol ramadeg gyda Lefelau O pan oedd yn 17. Bwriadai fynd yn nyrs ond priododd yn lle. Bu’n gweithio mewn siopau ac yn yr Opticals Llanelli ond ar ôl geni ei mab aeth i weithio i ffatri John Stanton fel uwch wniadwraig yn 1967 (tan tua 1969) - ffatri eitha ‘posh’. Roeddent yn gwneud dillad i M&S. Targedau, amser a symud a bonysau. Anafiadau gyda’r peiriant. Doedd dim undeb a phan geision nhw ddi-sgilio’i gwaith symudodd i ffatri Salter’s yn calibro cloriannau. Gweithiai am yr arian ond roedd y cwmni yn dda hefyd. Symudodd i fod ar 'inspection' yn y warws. Roedden nhw’n prynu pethau eilradd yn y ddwy ffatri ac roedd rhywfaint o ‘ddwyn’ Caeodd Salter’s yn 1978.

Llanelli: Morris Motors

VSW063 Yvonne Bradley, Morris Motors, Llanelli

Gadawodd Yvonne yr ysgol yn 14 (1963). Aeth i ffatri Morris Motors yn 1967 i weldio distawyddion (dimai yr un). Cwrdd â’i gŵr yno. Riportio bwlis i’r swyddfa. Gwrthod bod yn gynrychiolydd undeb na 'forewoman' - ansicr o’i sgiliau ysgrifennu. Ond sgiliau eraill - awgrymu dulliau i wella plygiau a drysau’r peiriannau. Rheolwyr yn cymryd mantais achos doedd hi ddim yn gallu rhoi’i syniadau ar bapur. Rheolau annheg - menywod yn colli’u swyddi oherwydd cyfnod mamolaeth. Cafodd ei mab yn 1971, a dychwelodd yn rhan-amser (am 5 mlynedd) yna’n llawn amser ac yna cafodd ei diswyddo, yna ar gytundeb dros dro. Agwedd at ferched ffatri - dysgodd hi regi. Menywod yn well gweithwyr na dynion. Dynion yn fwy milwriaethus. Gwneud seti yn waith trwm - gwynegon heddiw. Niweidio’i chlustiau - tinnitus. Gwisgo 'visor' a sbats a.y.y.b. i weldio. Ffrwydrad nwy yn llosgi gwallt. Dal ei braich yn y felt gynhyrchu. Talu ffioedd undeb yn y toiledau cyn ei sefydlu, siop gaeedig. Bu yno 40 mlynedd. Seremoni derbyn bechgyn newydd trwy eu ‘goglais’. Os oedd unrhyw un yn priodi - eu gorchuddio â llanast. Streiciau. Gan y gweithwyr yr oedd y llaw uchaf. 25% oddi ar bris car newydd ond methu ei fforddio! Chwarae jôcs. Roedd hi’n filwriaethus iawn. Addurno peiriannau at y Nadolig a llawer o ddiod. Bu yn y tîm saethu. Nosweithiau dartiau a chystadleuaeth Miss Morris Motors. Gadawodd yn 2006.

VSW014 Gwen Evans, Morris Motors, Llanelli

Gadawodd Gwen yr ysgol yn 14 oed (1936) a bu’n gweithio ar fferm ac yna’n glanhau. Adeg y rhyfel cafodd waith yn Morris Motors - roedd yn rhaid i bob ffatri gyflogi un gweithiwr anabl am bob 100 abl. Roedd gwendid ar ei braich hi. Cyflog da (tua 1940) - arian poced ohono. Roedd y gwaith ar y gwresogyddion ceir ac awyrennau yn drwm. Gan fod labrwr yn gorfod ei helpu hi roedd yn cael llai o arian na’r lleill. Ffỳs pan ddaeth yr undeb yno- talu grôt ond yn anhysbys. Cofia’r merched yn prynu nwyddau o gatalogau. Gwrthododd symud i waith caletach - dangosodd ei cherdyn anabledd. Cleisiau o handlo’r blocs gwresogyddion. Ffatri swnllyd - effaith ar y clyw. Lot o jocan a chanu. Mynd ar wyliau gyda’r merched, hwyl y Nadolig. Adeg y rhyfel sêr byd adloniant yn ymweld. Priododd hi (1953) - cloc yn anrheg. Gorffennodd tua 1981.

Llanelli: Morris Motors (British Leyland)

VSW028 Patricia Lewis, Morris Motors (British Leyland), Llanelli

Gadawodd Patricia yr ysgol yn 15 oed (1956) a bu’n gweithio mewn siopau, yna priodi a chael plant, cyn dechrau yn British Leyland (1968). Roedd yn cael 14/6 am wneud cant o 'silencers' (distawyddion) mewn diwrnod. Gwaith peryglus - ffrwydrodd ei gwn a llewygodd. Bu’n weldio seddau hefyd. Help ei rhieni gyda’r plant. Yna cafodd ei hanfon i ffatri yn Dafen i weithio ar wresogyddion ceir. Cafod anaf yn ei chefn a gadawodd. Doedd ei chyd-weithwraig ddim yn tynnu’i phwysau. Gwisgo menig a gorfod talu amdanynt. Y cwmni yn darparu’r ffedogau a’r sbats am eu traed. Ffatri swnllyd iawn - rhai wedi cael iawndal am hyn. Cododd y cyflog ond roedd yn rhaid gwneud 480 distawydd y dydd. Ambell oruchwylwraig wael. Wedi cyrraedd y targed mynd i’r ystafell gotiau - dweud ffortiwn, partïon, trin gwallt. Disgownt ar brynu car (c.£2000) Undeb - wedi mynd yn rhemp - gormod o streiciau. Iaith anweddus yno - addysg iddi. Roedd yn bosibl prynu unrhyw beth yn y ffatri - 'sidelines'. Nyrs yno a rodyn metel yn mynd i fron Pat. Annhegwch wrth ddosbarthu gwaith. Nosweithiau cymdeithasol gwych yn y clwb. Gadawodd yn 1984. Teimla’n falch fod safon ei gwaith yno’n uchel.

Llanelli: Morris Motors (Leyland)

VSW003 Glenda & Annie Lewis, Morris Motors (Leyland), Llanelli;John Patterson tablecloth factory (aka John Pattinson and Fairweather works), Ponthenri

Gadawodd Glenda ac Annie yr ysgol yn 14/15 oed. Aeth Glenda i John Patterson (c.1953-), ffatri yn printo llieiniau bwrdd. Roedd Annie ar y torri mas. Yn Morris Motors bu Glenda yn gwneud rheiddiaduron ceir am 35 mlynedd. Caeodd ffatri John Patterson a bu Annie yn y ffatri batris ym Mhont-henri am rai misoedd. Bu hithau yn Morris Motors am 32 mlynedd. Chwarae triciau yn Morris Motors. Cafodd Glenda ford arbennig i weithio am ei bod yn llaw chwith. Ceisiodd Annie am job gyda’r dynion ar y 'presses' ond roedd rhai gweithwyr eraill wedi cwyno. Partïon Nadolig yn y ffatri. Cafodd y ddwy watsh am hir-wasanaeth. Soniant am y menig, rhai’n smygu ac yn gwynto; Yn Morris Motors bydden nhw’n gwerthu cotiau babis roedden nhw wedi’u gwau. Problemau gyda thargedau - y stwff yn wael. Y seremoni wobrwyo am hir-wasanaeth. Glenda yn gadael yn 58 oed, oherwydd bod ei chefn wedi mynd ac Annie yn 56 oed.

Administration