Roedd Pegi yn y 'naffi' yn ystod y rhyfel ond daeth yn ôl i Blaenau wedyn a chafodd swydd mewn ffatri yn Nhrawsfynydd: “Un o freintiau mwya mywyd i oedd cael bod yn ysgrifenyddes i Dafydd Tudor.” Bu hi efo fe am ddeng mlynedd nes iddi briodi a doedd ei gŵr ddim yn licio llawer ei bod hi fel gwraig briod yn dal bys am hanner awr wedi saith a dod adre am chwech gyda’r nos, a hithau â gofal cartre, a gofal gwneud bwyd. Cafodd gynnig swydd fel ysgrifenyddes i Mr Metcalf – mewn ffatri a oedd wedi’i hadeiladu i bwrpas gan Gyngor Tref Ffestiniog i ddarparu gwaith i’r hogia. Roedd hi wedi datblygu ei diddordeb mewn gwaith peirianyddol trwy wneud cwrs ar sut i brynu fel prynwr. Ond ysgrifenyddes fu hi yn y ffatri. Roedd y ffatri yn cynhyrchu peiriannau i bario tatws, i wneud 'chips', i dorri pob math o gig, a pheiriannau mawr i gymysgu bwyd. Dechreuodd hi weithio iddyn nhw yn 1955 a bu yno am 40 mlynedd – roedd yn 69 oed yn ymddeol.
VSE015 Luana Dee, Sobells, Aberdâr;TBS South Wales Ltd, Merthyr;NATO clothing factory, Rhymni;Guest Keen and Nettlefold (GKN), Merthyr;Thorns, Merthyr;Berlei Bras, Dowlais;Lines (Triang), Merthyr
Mae Luana yn sôn am ei chefndir teuluol lliwgar a dychwelyd i Ferthyr o dramor. Gadawodd yr ysgol yn 15 oed (1967) ac yn fuan wedyn dechreuodd weithio yn Berlei Bras fel 'machinist' (2 flynedd). Cymysgedd o ferched swil a chryf yno. Peiriannau gwych Almaenig Pfaff. Sioeau ffasiwn gyda’r cyflogeion yn modelu dillad isaf. Gwaith ar dasg - talu am bob bra. Taflu’r 'seconds' mewn biniau - trwsio a ddim yn ennill cyflog wedyn. Ei golwg yn dda ac roedd yn gyflym -felly ei rhoi ar y bras duon. Gwaith mwy anodd a cholli arian. Cafodd ei symud i’w stopio rhag creu trwbwl. Rhaid gofyn i fynd i’r toiled a’r oruchwylwraig yn curo’r drws. Yn cael eu gwylio drwy’r amser. Diswyddo - ansawdd ei gwaith? Neu rhy fyrbwyll? Yn syth i swydd arall. Yn BB roedd y sioeau ffasiwn ar lawr y ffatri - cystadleuaeth Miss Berlei Bra? Disgrifia’r ffatri. Ensyniadau rhywiol yn gyffredin. Dawnsfeydd Nadolig a thripiau. Nesaf - i ffatri Triang - gwnïo clustogwaith trwm (arhosodd 1 flwyddyn). Cael hwyl gyda bois y ffatri ym Mharc Cyfarthfa ar bnawniau Gwener. Deuai rhai dynion â lluniau pornograffig i’r ffatri - agoriad llygad. Gadael oherwydd dim dyfodol yno. Ymlaen i Thorn’s yn gwneud ffilamentau bylbiau golau. Disgrifia’r broses. Siapaneaid yn cymryd drosodd - mwy o straen ac arhosodd lai na blwyddyn. Symud i ffatri yn gwneud dillad diwydiannol i NATO - gwnïo trwm, mwy o ddynoliaeth yma. Yn ffatri TSB roedden nhw’n gwneud cabinetiau ffeilio ac roedd yn cyfathrebu’n dda gyda'i chydweithwyr. Roedd hi yn y swyddfa nawr. Dim ond am wythnosau y bu hi’n Sobell’s - lle enfawr, diwydiannol ac estron.
Gadawodd Meriel yr ysgol yn bymtheg oed. Bu’n gweithio mewn siop cyn cael gwaith yn Ffatri Tic Toc. Bu yno o 1955 tan 1980, pan gaeodd y ffatri. Roedd yn rhaid cael prawf llygaid gan fod y gwaith gwneud watshys yn fân iawn. Roedd yn ffatri gartrefol Gymraeg. Doedden nhw ddim yn cael siarad wrth weithio, ond roedden nhw’n canu. Sonia am yr undeb a mynd ar streic oherwydd y gwres a’r oriau hir. Disgrifia bryfocio’r dynion adeg y Nadolig a’r prentisiaid newydd; cystadleuaeth Miss Tic Toc a chymdeithasu.
Dechreuodd Susie yn Cookes Explosives yn 1933 yn 14 oed. Roedd y ffatri yn ddwy ran, y rhan gyntaf yn gwneud 'Mining Safety Explosives' a’r llall yn Cookes. Y criw ieuengaf oedd yn gweithio yn y 'detonators department', nid yn handlo 'dets' ond yn paratoi rhywbeth ar gyfer y 'dets', a doedd y lle dechreuodd hi weithio ddim yn beryglus o gwbl ond roedd y merched yn symud i fyny yn ôl eu hoedran. Symudodd Susie i'r adran 'wiring' a 'sheathing' a phan ddaeth y rhyfel, bu hi’n llenwi 'hand grenades', tair shifft a gwneud llawer o ffrindiau newydd. Ar ôl y rhyfel, roedd yn dal i weithio yn Cookes, yn yr adran bacio ond gan orffen yn y lab, yn testio gwahanol batshys o bowdra, yr unig hogan oedd yn y lab. Roedd hyn yn yr 1960au/70au. Bu’n gweithio yno am 46 mlynedd (ond dau ddiwrnod) - petai wedi aros am y ddau ddiwrnod arall byddai wedi cael blwyddyn yn fwy o bensiwn. Ond pan aeth i holi gwrthodwyd hi. Ymddeolodd yn 1979.
Gadawodd Phyllis yr ysgol yn 16oed (1942), a dechreuodd yn Sobell’s yn 1944 - roedd ei mam yn anhapus oherwydd yr enw oedd gan ferched ffatri. Cafodd ei rhoi ar y llinell - yn rhoi gromedau mewn tyllau. Cafodd ei gwneud yn arolygwr. Helpodd yr undeb nhw i gael tâl ychwanegol am allu ar ben eu pae. Gweithiai’r gwneuthurwyr coiliau ar y llinell. Disgrifia’r prosesau. Gofynnwyd iddi helpu gwneud coiliau arbennig cyfrinachol (microsglodion?) ar gyfer y pencadlys yn Slough. Gweithiai nifer o Wlad Pŵyl yno. Roedd wrth ei bodd yn y ffatri - amodau gwych, chwarae cerddoriaeth a chanu. Roedd merched o Lyn Nedd yn chwarae o gwmpas yn y toiledau. Gangiau o weithwyr. Dawnsio mewn neuaddau lleol. Partïon Nadolig - rhedeg ar ôl dynion! Caeodd Sobell’s a chafwyd diswyddiadau tua 1956, yna ail-agorodd. Pe caech anaf - ystyrid mai’ch bai chi oedd e. Gadawodd pan yn feichiog yn 1956. Yn ddiweddarach bu’n ofalwraig.
Gadawodd Catherine yr ysgol ramadeg yn 16 oed ac ar ôl cyfnod mewn siop aeth, fel pawb arall yn yr ardal, i weithio i Ffatri Tic Toc o tua 1958 tan iddi gael ei phlentyn cyntaf yn 1967. Disgrifia ddysgu’r grefft o gael watsh menyw i ‘anadlu’ a thynnu coes merched newydd. Cofia bartïon Nadolig y ffatri pan oedd yn blentyn a phrynu watshys yn rhatach. Sonia am rôl y fforman – dyn bob amser. Roedd yn lle glân iawn a hapus gyda thipyn o ganu. Cofia hi Gymraeg a Saesneg yno a phawb fel teulu.
Dechreuodd Elfyn yn Nolgarrog yn 26 oed. Roedd ganddo ewythr yn gweithio yno'n barod a helpodd iddo gael y swydd. Ei swydd gyntaf oedd codi'r shîts alwminiwm i fyny a'u rhoi nhw ar y rholiau. Roedd Elfyn yn dal i fyw ym Mhenmachno pan ddechreuodd o yn Nolgarrog ond roedd ganddo gar, felly roedd o'n gyrru yno. Dechreuodd o yn y flwyddyn 1967. Cafodd o ryw wythnos o hyfforddiant ac roedd o'n hapus yn y swydd, meddai, ond ddim yn hoffi gwneud shifftiau felly newidodd o i fod yn 'inspector'. Roedd o'n nabod un neu ddau o'r gweithwyr yno cyn iddo ddechrau ond dim llawer. Roedd y gwaith yn drwm a doedd dim llawer o reolau iechyd a diogelwch, meddai, er bod y gwaith yn gallu bod yn beryglus. Ond daeth rheolau i mewn yn nes ymlaen. Roedd pwll nofio a chyrtiau tennis yno ar un adeg i'r gweithwyr, ond roedd y rhain wedi cau erbyn i Elfyn fynd yno. Adeiladodd y cwmni dai i'r gweithwyr yn Nolgarrog ond wnaeth Elfyn ddim symud i fyw yno erioed, er iddo weithio yn y ffatri am 36 o flynyddoedd. Ymddeolodd yn 2003.
Mae Jim yn siarad am ei gefndir teuluol a’r iaith Gymraeg. Aeth i Gaergrawnt i ddarllen meddygaeth. Yn y gwyliau gweithiodd yn ffatri deganau HG Stone (1956). Roedd tua 8 menyw am bob dyn. Menyw yn gynllunydd. Gweithiai yn y stafell batent - disgrifia’r broses o wneud patent ar gyfer coes tedi. Yna ai at y stampwyr, y torwyr, y pwythwyr ar y llinell, yna at y stwffwyr ac yna i’w archwilio. Merched neis a pharchus yno. Eto roedd peth tynnu coes. Yn Weston’s Biscuits (wedyn Burton's Biscuits) - roedd 'tannoy' yn chwarae 'Housewife’s Choice'. Yn HG Stone roedd cynllun noddwyd gan y llywodraeth ar gyfer gweithwyr anabl - dynion ‘cerdyn gwyrdd’. Gwahaniaethau dosbarth yn y ffatri. Gweithiodd Jim yn y ffatri fisgedi a’r slogan ‘6 million eaten everyday!’ hefyd fel gwas yr iard, yn fflatio tuniau gwag yn fetel sgrap. Cofia'r menywod yn canu; rhaniad dosbarth rhwng gweithwyr y swyddfa a’r llawr. Bu’n Pilkington’s Glassworks hefyd un gwyliau fel gwas yr iard eto; gwaith caled ac undonog. Llawer o dorri gwydr - gwaith peryglus. Trwy weithio yn y ffatrïoedd mae’n gwerthfawrogi sut brofiad yw 'bod ar waelod y pentwr.’ Roedden nhw’n bobl uniongyrchol, ffraeth a ffres. Bu’r profiad o werth iddo yn ei fywyd.
VSW017 Nan Morse, Deva Dogware, Gwynfe;Alan Paine, Rhydaman
Gadawodd Nan yr ysgol yn 15 oed (1965) a dechreuodd yn Deva Dogware yr haf hwnnw. Byddai’n torri cadwynau, weldio a.y.y.b. ar gyfer cadwynau cŵn a chŵn y deillion. Ffatri fach gyda’r perchennog yn un ohonynt. Tipyn o sŵn a chanu. Gwisgo hen ddillad a gogls. Rasio i wneud 50 cadwyn. Dim llawer o gyfleoedd yng nghefn gwlad am waith. Rhai gweithwyr yn mynd i Sioe Crufts. Gwneud beltiau iddynt hwy eu hunain ac ambell gaff dal samwn. Roedd yr adeilad yn gyntefig. Dysgodd sgiliau defnyddio llif a morthwyl a.y.b. Bu ar dripiau yn Blackpool a Llundain, lle prynodd bŵts gwyn. Roedd hi mewn grŵp pop Cymraeg gyda gweithwyr o’r ffatri. Gadawodd tua 1968. Aeth hi i weithio yn ffatri Alan Paine ond nid oedd yn hoffi awyrgylch y ffatri, lle roedden nhw’n gwneud siwmperi. Gadawodd pan oedd yn disgwyl babi.
Roedd teulu Mair wedi symud i Ddolgarrog o'r cymoedd tua 1925; dechreuodd hi yn y ffatri yn 1936, yn y felin ysgafn. Roedd hi'n 17 oed yn mynd i'r ffatri. Chafodd hi ddim cyfweliad swyddogol, dim ond mynd lawr i ofyn. Aeth ewythr â hi i lawr i weld rhyw Mr Oswin, a oedd yn gyfrifol am dai'r gweithwyr ac am bwy oedd yn dod i mewn i'r gwaith, ac aeth hi i’w weld o "a beth nesaf, on i'n cael job.” Mae’n dweud tasai hi wedi aros yn y siop losin, lle roedd hi wedi bod yn gweithio, basai hi wedi cael ei galw i fyny, ond achos roedd hi wedi mynd i'r gwaith ffatri roedd hi o dan reolau arbennig, achos roedd y gwaith yn gwneud pethau i'r rhyfel. Yn ystod y rhyfel roedd rhaid i ferched y felin ysgafn fynd i'r felin fawr i weithio efo'r dynion oedd ddim wedi mynd i ymladd. Roedd y gwaith hwn yn drwm iawn. Daeth Mair yn rheolwraig yn nes ymlaen a dywedodd nad oedd hynny'n hawdd, gan ei bod hi wedi bod yn gweithio efo'r merched yr oedd hi'n awr yn eu rheoli. Roedd ei gŵr yn gweithio yno hefyd a pharhaodd hi i weithio ar ôl priodi, tan y cymerodd hi gynnig diswyddiad yn 1968.