VSW056 Catherine (Kitty) Jones, Hancock's Brewery, Abertawe
Gadawodd Kitty yr ysgol yn 14 oed (1944) ac ar ôl gweithio mewn londri aeth i swyddfa archebion bragdy Hancock’s (1947-). Byddai’n rhoi ei phecyn tâl i’w mam ond yna penderfynodd ei gadw iddi hi ei hun. Gallech gerdded i mewn ac allan o swyddi bryd hynny. Y menywod oedd yn poteli’r cwrw. Gwisgent ffedogau cynfas a chlocs ar gyfer rhai jobs. Roedd bragdai eraill gan y cwmni yng Nghaerdydd a Chasnewydd - cwrdd mewn dawnsfeydd. Byddai’n siopa ar ran un dyn oedd yn swyddfa gyda hi. Cwrddodd â’i gŵr yno. Caent dwrci fel rhodd Nadolig. Dim undeb a chafodd y rhai fentrodd ymuno eu diswyddo. Derbyniwyd yr undeb o’r diwedd (c.1948-50). Damweiniau - anafiadau gwael pan ffrwydrai potel - rhaid mynd i’r ysbyty. Caech eich diswyddo am ddwyn cwrw - chwilio’ch bagiau. Llawer o fân-ddwyn - rhai’n feddw yn y gwaith. Cerddoriaeth yn y cantîn a chyd-ganu. Y gyrwyr lori yn gweiddi ar y merched ond dim byd cas. Trip blynyddol i Lundain mewn trên arbennig gyda staff y bragdai eraill. Roedd timau pêl-droed a chriced i’r dynion a phêl-fas i’r merched. Bu yno 17-8 mlynedd (- tua1964-5).