Amodau a Thelerau
Gwefan Archif Menywod Cymru yw lleisiaumenywodffatri.cymru.Mae lleisiaumenywodffatri.cymru a factorywomensvoices.wales yn cael eu cynnal at eich defnydd personol. Trwy gyrchu a defnyddio’r wefan hon rydych chi’n derbyn y Telerau a’r Amodau hyn, sy’n dod i rym ar y dyddiad y defnyddiwch y wefan gyntaf.
Hawliau eiddo deallusol (gan gynnwys hawlfraint) yn ein gwefan
Mae’r holl hawliau eiddo deallusol, gan gynnwys hawlfraint, yn y wefan ac ym mhob deunydd a nodwedd a ddarperir gennym fel rhan o’r wefan, yn perthyn i Archif Menywod Cymru. Ni chaniateir i chi gopïo, atgynhyrchu, ailddosbarthu, lawrlwytho na defnyddio’r wefan nac unrhyw ran ohoni ac eithrio fel y caniateir yma. Cedwir pob hawl arall.Defnyddio cynnwys y wefan
Cewch ddefnyddio’r cynnwys ar y wefan at ddibenion preifat, addysgol ac anfasnachol yn unig. Os ydych am ddefnyddio’r wefan, neu gynnwys a nodweddion y wefan, at unrhyw ddiben heblaw am ddefnydd personol, rhaid i chi gysylltu â ni i gael ein caniatâd yn gyntaf.Cydnabod
Dylid cydnabod y wefan trwy gyfeirio ati fel: Archif Menywod Cymru: lleisiaumenywodffatri.cymru. Lle bo cyfeirnod penodol at ffynhonnell ar y wefan dylid defnyddio’r cyfeirnod hwnnw.Polisi tynnu lawr
Os ydych yn ddeiliad hawliau ac yn poeni eich bod wedi dod o hyd i ddeunydd ar ein gwefan, lle nad ydych wedi rhoi caniatâd, cysylltwch â ni drwy’r dudalen ‘Cysylltwch â ni’ yn datgan y canlynol:1. Eich manylion cyswllt.
2. Disgrifiad o’r deunydd.
3. Y dudalen lle rydych wedi dod o hyd i’r deunydd.
4. Natur y gŵyn.
5. Datganiad mai chi yw’r perchennog hawliau neu eich bod wedi eich awdurdodi i weithredu ar ran y perchennog hawl. Efallai y gofynnir i chi ddarparu prawf o’r berchnogaeth hon a fyddai’n ddilys mewn llys barn.
Yna bydd y weithdrefn 'Hysbysiad Tynnu i Lawr' yn cael ei galw i rym fel a ganlyn:
1. Bydd Archif Menywod Cymru yn cydnabod derbyn eich cŵyn trwy e-bost neu lythyr a bydd yn gwneud asesiad cychwynnol o ddilysrwydd a hygrededd y gŵyn.
2. Bydd mynediad at y deunydd yn cael ei dynnu oddi ar y wefan hyd nes y ceir datrysiad y cytunwyd arno.
Caniatâd i ddefnyddio delweddau
Mae Archif Menywod Cymru wedi ymrwymo i barchu hawlfraint deallusol unigolion a sefydliadau.Ffynhonnell delwedd: Daw’r delweddau o amrywiaeth o ffynonellau. Nodwyd yr hyn sy’n hysbys am hawlfraint pob delwedd ar y wefan.
Os oes gennych unrhyw bryderon ynghylch delwedd, cysylltwch â ni.
Os defnyddiwch ddelwedd dan hawlfraint Archif Menywod Cymru dylid cyfeirio ati fel a ganlyn:
Archif Menywod Cymru: lleisiaumenywodffatri.cymru. cyfeirnod penodol