Chwilio'r Casgliad
Defnyddiwch y blychau i gyfyngu eich ymchwiliadDarganfuwyd 15 cofnod.
VSW031 Annest Wiliam, Hodges, Fforestfach;Mettoys, Fforestfach
Tua 1954-55 bu Annest yn gweithio yn ffatrïoedd Mettoys a Hodges dros wyliau’r haf. Gweithiai ar y llinell gynhyrchu yn gwneud teganau metel ac roedd yn rhaid iddi wisgo menig lledr. Roedd yn waith didostur, disgybledig, yn enwedig pan oedd y dyn amser a symud yn dod heibio. Yn ystod haf arall bu’n gweithio ar y switsfwrdd yn Hodges. Yn Mettoys’ teimlai’n falch iddi greu rhywbeth â’i dwylo ei hun.VSW032 Jenny Sabine, Prestcold Fridges, Jersey Marine;Penn Elastic, Fforestfach
Disgrifia Jenny Abertawe wedi bomio’r rhyfel. Penderfynodd fynd yn ysgrifenyddes a gweithiodd yn ffatri Prestcold Fridges am bedwar mis yn 1961. Disgrifia’r daith i’r gwaith a chlocio allan. Doedd dim llawer o waith, ond, fel menyw, gofynnwyd iddi wneud profion sain ar beiriannau golchi. Doedd dim cyswllt â llawr y ffatri. Symudodd i Penn Elastic oedd yn gwneud net lastig ar gyfer corsedau yn 1961. Dynion oedd yn y swyddi rheoli ac roedd peth harasio geiriol a rhywiol yno. Gadawodd i weithio yn llyfrgell y brifysgol.VSW035 Grace Beaman, Unit Superheaters, The Strand;Mettoys, Fforestfach
Gadawodd Grace yr ysgol yn 15 oed (1963) gan nad oedd ei thad yn credu ei bod yn werth addysgu merched. Gweithiodd mewn siopau ac yna yn Mettoys am 3 blynedd. Roedd menywod yn ddeheuig ar y llinell gynhyrchu. Roedd y dynion diogelwch yn chwilio bagiau’r gweithwyr. Gallai menywod drwsio eu peiriannau eu hunain petaent yn torri. Symudodd i ffatri Unit Superheaters yn gyrru nenbont craen gyda 13 o fenywod eraill . Ymunodd â’r Undeb gan i swyddog ddweud wrthi y collai ei swydd os na wnâi. Mewn adran yn Unit Superheaters roedd pelydrau 'Gamma' ac nid oedd menywod yn cael gweithio yno. Pan oedd yn Mettoys ai i glwb cymdeithasol yn yr Hafod a dechreuodd gynghrair ddartiau. Yn y pen draw prynodd swyddfa bost yng Nglandŵr ac enillodd radd yn 2000.VSW040 Ann Harrison, Mettoys, Fforestfach
Aeth Ann i goleg technegol i ddysgu teipio a chafodd waith yn y swyddfa yn Mettoys ond roedd yn teimlo bod merched y swyddfa yn well na hi a symudodd i lawr y ffatri. Roedd yn gwneud ceir James Bond. Roedd ganddi spina biffida ond roedd yn gallu cerdded. Roedd ei mam yn gweithio yno hefyd ac eisiau ei hamddiffyn yn erbyn sylwadau digywilydd pobl eraill. Gwaith ar dasg a helpu pobl eraill. Priododd yn 1967VSW041 Patricia Ridd, Addis, Abertawe;Windsmoor, Abertawe;Smith's Crisps, Abertawe;Mettoys, Fforestfach;Corona, Abertawe;Walkers, Abertawe
Gadawodd Patricia Ysgol Dechnegol Abertawe yn 15 oed (1961) i weithio yn ffatri Addis yn gwneud brwsys llaw. Roedd hi ar 'inspection'. Arhosodd 2 flynedd. Yna i ffatri wnïo Windsmoor, yn gwneud dillad i’r fyddin (2 flynedd eto). Yna cafodd fab a dychwelodd i Addis - gwneud brwsys masgara. Yna bu’n Smith’s Crisps - byddai’r creision yn dod i lawr twndish a byddai’n rhoi’r bag glas o halen ym mhob pecyn. Arhosodd yno chwe mis ac yna i ffatri bop Corona, am 26 mlynedd (1966-92). Dechreuodd ar y llinell yn gwylio poteli pop yn mynd nôl a mlaen. Yna bu yn y seler yn gwneud pop a seidr ac yna ar y wagen fforch-godi yn symud 'pallets'. Pan gaeodd y ffatri aeth i Walkers’ eto ar y wagen fforch-godi a gweithio shifftiau nos hefyd. Roedd llawr y ffatri yn brysur iawn. Prynu seconds yn y ffatrïoedd. Yn Walkers’ os nad oedd gwaith - noson i ffwrdd a dim tâl. Damweiniau - bu yn yr ysbyty gyda llosgiadau asid o Corona. Mae ganddi dystysgrifau i yrru wagen fforch-godi. Roedd Walkers’ a Corona yn oer - rhewodd y pop. Prin yn gweld ei gŵr oherwydd shifftiau. Roedd Corona fel teulu - y ffatri orau. Gweithiodd mewn ffatrïoedd 1961-98. Yna gweithiodd yn y brifysgol.VSW043 Margaret Morris, Addis, Abertawe;Mettoys, Fforestfach
Gadawodd Margaret yr ysgol yn 15 oed (1964) a dechrau yn Addis, bu yno nes geni’i mab (1971). Roedd yn gwneud pegiau plastig ond cafodd sawl damwain - briwiau ar ei breichiau. Cafodd ei symud i’r felin yn gorchuddio a dipio pren. Defnyddient 'Bostick' i ludo’r blew - y nwyon yn eu heffeithio. Roedd codi treis yn waith trwm. Bu’n gwneud brwsys masgara hefyd. Cymdeithasu ar y penwythnosau. Byddech yn archebu nwyddau o’r ffatri. Gwnâi’r ffatri goed Nadolig hefyd. Roedd y siop baent y tu allan i’r prif adeiladau - diogelwch. Caech chi ddeng munud yn unig i smygu yn y toiled. Caent eu talu drwy’r banc. Yna symudodd i Mettoys. Hoffai wneud y garejys - ei swydd gyntaf, ond cafodd ei symud ar y llinell gynhyrchu. Gweithiai â’i dwy law yn rhoi olwynion ar geir tegan. Arhosodd yno 2 flynedd. Rhaid cadw i fynd yno. Byddai’r merched yn anfon losin lawr y llinell i’w gilydd. Neu nodyn - GWENA! Dysgon nhw ddarllen gwefusau. Adeg y Nadolig caent brynu bagiau o deganau - eilradd. Roedd yn rhaid gwasgu pedal i nodi faint o geir oedd wedi’u gwneud. Os yn gyflym - ennill bonws. Dynion yn nôl a chario’r cydrannau (ffenestri / drysau) atynt.VSW047 Madge Sinclair, Mettoys, Fforestfach
Lluniau o Ffatri Mettoys, Fforestfach, Abertawe, 1960auNid oes adysgrif ar gael o'r cyfweliad