Cyfweliad ar Hap
VN036 Anita Roberts, Ffatri cynwysorau a ffatrioedd eraill, Wrecsam
Aeth Anita i weithio yn y ffatri yn 15oed ond doedd hi ddim yn hoffi'r lle a gadawodd hi ar ôl wythnos. Roedd ei mam, Nesta yn gweithio yn yr un ffatri, ond dywedodd Anita fod y gwaith yn rhy gyflym a doedd hi ddim yn gallu ymdopi. Ar ôl gwneud swydd mewn siop anifeiliaid anwes egsotig, a oedd hi'n hoffi'n fawr, dychwelodd i'r gwaith ffatri, mewn ffatri yn gwneud 'capacitors', a daeth hi'n dda iawn wrth ei gwaith. Gadawodd hi ar ôl sbel a bu'n gweithio mewn ffatrïoedd eraill, rhai gwneud llenni a serameg, cyn symud i waith gofal. Mae'n deud bod gwaith gofal yn llawer caletach na gwaith ffatri. Mae Anita yn meddwl bod ei hiechyd wedi dioddef wrth weithio yn y ffatri serameg, lle roedd hi'n glanhau, achos y llwch trwchus yr oeddynt yn ei anadlu, heb fygydau iawn.Mae rhan o'r cyfweliad hwn ar gael fel ffeil sain