Gwrando ar y Lleisiau
Gwrandewch ar ddyfyniadau byr o rai o'r cyfweliadau.VSW001 Moira Morris, Anglo-Celtic Watch Co. Ltd. (inc. Smith's Industries ac Ingersoll aka 'Tic Toc'), Ystradgynlais;Ffatri Geir, Cae'r Bont
Dechreuodd Moira yn ffatri Tic Toc ar ôl gadael yr ysgol yn 15 oed (?1963). Ffatri Gymraeg iawn. Noda’r hyfforddiant; canu ar y gwaith; dal yr ‘eyeglass’ yn y llygad; targedi; a‘r straen ar y llygad i wneud wats menyw. Gadawodd i gael y plant (c.1970) ond dychwelodd i weithio ar watshys poced dynion. Yna bu’n gwneud clociau ceir yn Enfield. Yn Tic Toc - doedd dim llwch a gwisgent esgidiau rwber. Dynion oedd ar ‘inspection’ a bechgyn oedd yn brentisiaid. Sonia am chwarae triciau ar ferched a bechgyn oedd yn priodi ac ar ferched newydd, gwisgo rolyrs i fynd allan nos Wener. Dyma ‘yr ysgol ore’. Roedd Clwb yn trefnu tripiau, partïon Nadolig i’r plant, a chystadleuaeth Miss Tic Toc. Glanhau popeth pan fyddai’r rheolwr yn dod o amgylch. Symudodd i ffatri clociau ceir yng Nghae’r Bont wedyn (?1985) - gwaith mwy brwnt. Bu hi yno 28 mlynedd.Mae rhan o'r cyfweliad hwn ar gael fel ffeil sain
VSE003 Maureen Jones, Creeds, Trefforest;Corona, Porth;Swiss Embroidery, Rhondda
Gadawodd Maureen yr ysgol yn 15 oed (1955) a dechreuodd weithio yn Swiss Embroidery. Cael sac os yn siarad a dim ond wythnos y bu yno. Symud i Ffatri Welsh Hills Works Corona Pop. Gwisgo clocs oherwydd y gwydr toredig – roedd eu sŵn yn nodi gweithwyr Corona. Disgrifia’r broses ac fel y ffrwydrai rhai poteli. Gwneud syrop o siwgr- gorfod gwthio whilberi. Gwaith caled. Gwneud sgwash hefyd. Roeddent yn cael briwiau ‘anghredadwy’. Canu. Dychwelyd potel bop i gael arian. Gorffen yno yn 1959. Roedd cafn i olchi poteli. Blasau gwahanol. Yn oer iawn yn y gaeaf – poteli oer. Yn delifro Smiths Crisps hefyd. Bywyd cymdeithasol: YMCA; pictiwrs a dawnsfeydd. Siopau dillad y Porth. Golchi dwylo mewn soda costig cyn dawns y ffatri yn Bindles, Y Barri. Gadael am na châi ganiatâd i fynd i briodas ei chwaer. Cafodd ei chwaer swydd iddi yn ffatri sanau Bellito’s yn St Alban’s. Dychwelodd i weithio yn Creeds, Ystad Trefforest (tua1960-63), yn gwneud capstanau, gwynt ofnadwy. Roedd ar y llinell gynhyrchu. Rhuthr am y bysys ar ôl gwaith. Roedd ei gŵr yn gweithio yno hefyd. Ffatri boeth iawn.Mae rhan o'r cyfweliad hwn ar gael fel ffeil sain
VSW004 Nanette Lloyd, John Patterson Tablecloth Factory (aka John Pattinson and Fairweather works), Ponthenri
Ar ôl gadael yr ysgol yn 15 aeth yn 'waitress' yna i siop esgidiau cyn dechrau yn y ffatri c.1953, yn printo llieiniau bwrdd. Os byddech chi’n sarnu’r gwaith byddai’n dod allan o’r pae. Sonia am wynt afiach y paent (lliwur); ennill £20 yr wythnos; cario’r rowls trwm yn effeithio ar ei 'periods'. Cafodd ddamwain gas oherwydd doedd hi ddim yn gwisgo 'wellingtons' rwber. Dim undeb. Bwriadwyd ffatri Pont-henri ar gyfer glowyr â silicosis ond roedd gwynt y paent yn rhy gryf. Cred bod gweithwyr cwmni’r ffatri yn Birmingham yn cael mwy o arian na nhw. Anfonid y llieiniau dros y byd a rhoddai merched negeseuon yn yr archebion i gael pen-friends. Byddai’r gweithwyr yn gwynto o 'thinners'. Dwyn 'bleach' i lanhau’u hewinedd. Dysgodd ddawnsio yn y 'cloakroom'. Gadawodd am fod ei mam wedi marw ac angen cadw tŷ ar gyfer ei theulu. Peth harasio geiriol o’r bois ifanc yn y ffatri. Canu ar ddydd Gwener. Mynd â fflôt i garnifal Pont-henri. Diod adeg y Nadolig.Mae rhan o'r cyfweliad hwn ar gael fel ffeil sain
VSE006 Sylvia Ann Reardon, AB Metals, Abercynon;Copygraph, Trefforest
Disgrifia Sylvia ei mam yn gweithio fel glanhawraig ac yn croesawu faciwîs. Yna aeth i fyw mewn tŷ capel - caethwasanaeth. Roedd ei thad yn Gomiwnydd. Aeth Sylvia i Goleg Masnachol Clarke’s, gadael yn 18 (1966), gweithiodd i’r bwrdd trydan, yna’n ffatri Copygraph, Trefforest, roedd yn casáu yno a bu’n chwarae triwant. Yna aeth at gyflogwr mwya’r ardal AB Metals - i’r adran anfonebu lle gweithiai fel ci. Bu yno o 1959-1966. Teimlo fel cocsen bwysig yn yr olwyn. Ugain bws AB, er gorfod talu. Gwnaeth un camgymeriad enfawr gyda’r dogfennau allforio. Gwnâi’r ffatri diwnwyr ar gyfer teledu ac offer electronig arall. Manylion y swydd. Roedd rhai menywod yn gorfod arwyddo’r Ddeddf Gyfrinachau Swyddogol. Prosesau cymhleth. Nifer enfawr o gwsmeriaid. 4000 o weithwyr - diswyddiadau. Helpu ffrind i gael swydd mewn pwll glo. Ffyddlondeb i bobl ar eich llinell, ac yn eich swyddfa. Diwrnod cyntaf swyddfa orlawn ac ysmygu Woodbines. Lle gwych i weithio - rhoddodd hyder a medrau iddi. Cwyno am ddiffyg lle - tynnon nhw’r nenfwd lawr. Dim undeb i staff swyddfa - trefnu talu’n gyfrinachol. Dynion yn cael 75% yn fwy o gyflog na menywod. Bu’n gynrychiolydd Undeb. Cynilo gyda National Savings. Stori am roi 'dexadrine' ac amffetaminau i gyd-weithwyr i hybu cynhyrchiant. Symptomau diddyfnu wedyn. Cantinau ar wahân - swyddfa/llawr y ffatri. Bywyd cymdeithasol: mynd i glybiau; sgetsys. Cymryd gofal o fam ddi-briod. Doedd hi ddim yn cymysgu gyda merched llawr y ffatri. Rhoddodd y ffatri ryddid i fenywod. Miss AB. Cinio ysblennydd AB yng Nghaerdydd. Gadawodd gyntaf pan aeth ei gŵr i Huddersfield. Yr ail dro - dim pensiwn felly i weithio i lywodraeth leol.Mae rhan o'r cyfweliad hwn ar gael fel ffeil sain
VSE009 Sheila Hughes, British Nylon Spinners, Pontypŵl
Gadawodd Sheila yr ysgol ramadeg yn 16 oed (1953) a dechrau yn British Nylon Spinners (Courtaulds) - 4000-5000 yn gweithio yno. Ffatri newydd (1947-) ac yn datblygu. Dechreuodd yn y labordy brofi ffisegol. Swnllyd iawn - darllen gwefusau. Disgrifia’r prosesau. Yn y labordy byddai’n mynd o gwmpas y ffatri gyda ‘Albert’, peiriant i brofi tymheredd a lleithder. Hefyd yn gwau paneli i brofi’r lliwurau. Hefyd profi faint o gordeddu yn y neilon a’i gryfder. Chwilio am feiau - slybiau. Felly roedd yn ganolfan reoli i tsiecio bod y peiriannau yn gweithio’n iawn. Roedd y ffatri yn cynhyrchu deunydd crai nid y cynnyrch gorffenedig. Doedden nhw ddim yn hoffi menywod yn gweithio shifft nos. Galw’r dynion yn y labordy yn ‘y merched’! Llif cyson o fysys. Hyfforddiant trwy osmosis. Yn raddol gweithiodd ei hun i fyny yn bennaeth adran. Gweithio yn yr adran datblygu tecstilau - yn profi dillad hyd at eu dinistrio - 'bri-nylon'. Anfonwyd cynorthwywyr labordy i ffatri Doncaster - cafodd yr hofrennydd ddamwain ddifrifol. Cynnal arddangosfa i hybu’r ffatri. Enillion - dau bâr o sanau neilon y flwyddyn. Perygl - aeth gwallt un ferch i’r peiriant. Caniatáu 10 munud yn y toiled i dwtio’ch hun. Graddau o gantinau. Roedd hi’n aelod o staff. Un bywyd cymdeithasol hir: tŷ clwb, dawnsfa; lle saethu; jiwdo; cyngherddau gyda bandiau mawr a ffilmiau, partïon. Y Frenhines yn ymweld. Byth yn 'bored' - canu. Gadawodd pan yn feichiog - 1967. ICI bellach yn rhedeg y lle - ddim yr un fath. Yn ddiweddarach bu’n ymchwilydd marchnad - 23 mlynedd. Roedd mewn ffilm hyfforddi yn y 1960au. Cylchlythyr y cwmni - 'The Signpost'.Mae rhan o'r cyfweliad hwn ar gael fel ffeil sain
VSW009 Helena Gregson, Slimma-Dewhirst, Llanbedr Pont Steffan
Gadawodd Helena yr ysgol yn 15oed yn 1970. Wedi arfer gwnïo i’r teulu. Aeth yn syth I Slimma ac aros 32 mlynedd (2002). Cafodd ‘machine test’. £10 yr wythnos. Cofio sŵn y peiriannau, 'piecework', targedi a ‘tickets’; I M&S yr oedd y dillad yn mynd. Ysgol dda - hi’n hyblyg fel ‘floater’. Dim amser i gloncan. Clwb Cymdeithasol yno. Gadawodd i gael ei phlentyn cyntaf (1982) a nôl rhan amser. Dysgu bod yn oruchwylwraig yn Llundain. Bu’n ‘shop steward’ hefyd. Rhai’n gwisgo rolyrs i'r gwaith. Damweiniau gyda nodwyddau. Gwallt merch yn mynd mewn i’r peiriant. Dyfalu enwau caneuon ar y radio - 'Golden Oldies.' Chwarae triciau amser priodi. Bonws o dwrci a siampên at y Nadolig. Prynu ‘seconds’. Menywod yn chwarae pêl-droed. Roedd Slimma Queen. Wedi gadael sefydlodd ei busnes gwnïo ei hun. Symudodd y ffatri i Morocco. Tristwch mawr.Mae rhan o'r cyfweliad hwn ar gael fel ffeil sain
VSE010 Brenda Mary Farr, Thorn Electrics, Henffordd;Ffatri Gynau Tŷ, Blaenafon;Ffatri Deganau HG Stone, Pontypŵl
Gadawodd Mary yr ysgol yn 15 oed (1956). Doedd hi ddim eisiau gweithio mewn ffatri ond mewn swyddfa. Ond cafodd ei hun yn ffatri HG Stone yn gwneud teganau meddal - tedis a phandas a.y.b. Gweithiai ar y lein fel 'machinist'. Gwaith ar dasg. Roedd yn enfawr, swnllyd a llychlyd. Stwffio â gwellt a ffloc. Y person amser a symud yn prisio'r amser ar bob tegan. 'Worker’s Playtime' ar y radio. Gorffennodd yno yn 1964. Roedd y menywod yn cynhyrchu tedis yn cael mwy na’r lleill - swydd arbenigol. Chafodd hi mo’i dyrchafu am ei bod yn siarad gormod. Roedden nhw’n gwneud doliau hefyd - cyrff plastig a gwnïo’u gwalltiau. Hefyd cŵn ar olwynion. Nodwyddau trwy fysedd. Gwaith y dynion - ar y plastig a’r peiriannau. Dawnsfeydd Nadolig a bandiau byw.Ar ôl 8 mlynedd yn HG Stone treuliodd 6 wythnos yn y ffatri gwneud gynau tŷ ym Mlaenafon. Ni allai ddioddef gwynt y defnydd pabwyrgotwm. Pan briododd symudodd i swydd Henffordd a gweithiodd yn Thorn Electrics yn gwneud lampau stryd. Roedd llawer o deuluoedd yn gweithio yn ffatri HG Stone (Chad Valley yn ddiweddarach).Mae rhan o'r cyfweliad hwn ar gael fel ffeil sain
VSE012 Margaret Chislett, The Bag factory, Llwynypia;Polikoff's, Treorci
Gadawodd Margaret yr ysgol yn 15oed (1937) a gweithiodd fel nani am flwyddyn yn Llundain cyn ymuno â Polikoff’s yn 1938. Yno roedd yn cwblhau archeb yr Arglwyddes Churchill - cotiau mawr i fyddin Rwsia. Trwm iawn - eu gwisgo at eu pigyrnau. Hefyd gwneud iwnifform byddin Montgomery yng Ngogledd Affrica. Cyfrannai 2g at y Groes Goch a 2g at gronfa’r Arglwyddes Churchill o’i phae. Gallai weithio unrhyw le ar y lein. Roedd yn rhoi hemiau ar yr archeb Rwsiaidd. 2,500 o weithwyr yno pan yn ei fri. Daeth ENSA i’w diddanu. Bu yno am 9½ mlynedd. Prynodd ei mam sidan parasiwt i wneud peisiau a nicers. Cyfarfodydd Undeb yn erbyn gweithio ar y Sul. Gwisgai bib a bresys a throwser am y tro cyntaf. Nodwydd yn ei bys. Y radio’n canu caneuon Vera Lynn. Glanhau eu peiriannau ar brynhawn Gwener, balchder ynddynt. Adeiladwyd y ffatri ar gyfer gweithwyr o ddwyrain Llundain. Gadawodd pan yn feichiog. Doedd menywod ddim i fod i weithio ar y Sul. Byddai llinellau gwahanol yn trefnu digwyddiadau cymdeithasol. Gwyliau â thâl o 1948 ymlaen. Rhaid cyfrannu at dâl Gwyliau Banc. Ar ôl y rhyfel roedden nhw’n gwneud siwtiau de-mob. Gadawodd yn 1949. Mwynhaodd yno gan ei bod yn cwrdd â menywod gwahanol - capelwyr Bethany Gelli â’u dramâu a chlwb hoci a merched y tafarnau â’u dawnsfeydd. Yn ddiweddarach bu’n gweithio yn y ffatri fagiau - gwneud bagiau i M&S - yn eu gwnïo â pheiriannau. Yna caeodd y ffatri ar ôl tua 2 flynedd.Mae rhan o'r cyfweliad hwn ar gael fel ffeil sain
VN013 Gwlithyn Rowlands, Laura Ashley, Carno;Laura Ashley, Y Drenewydd
Pan agorodd Laura Ashley yng Ngharno, aeth Gwlithyn yno i weithio yn y swyddfa, yn gwneud y cyflogau. Yn 1964 yr oedd hynny. Gadawodd hi yn 1966 i gael ei mab ac wedyn roedd hi'n gwneud 'outwork' i Laura Ashley, tan i'w mab fynd i'r ysgol yn 1970-1, ac wedyn aeth hi i mewn i'r ffatri o 9am tan 3pm. Roedd Laura Ashley yn mynnu bod y mamau a oedd yn gweithio yn mynd â'u plant i'r ysgol a’u casglu nhw yn y pnawn. Cafodd Gwlithyn ei hyfforddi sut i wneud dillad fel ffrogiau, sgertiau, blowsys, pan ail-ddechreuodd hi yn y ffatri. Dywedodd iddi ei dysgu ei hun wrth wneud yr 'outwork', efo menig ffwrn a llieiniau sychu llestri. Mae'n disgrifio’r cyfnod y bu hi’n gwnïo yn y ffatri fel yr amser gorau erioed. Roedd nifer o aelodau'r teulu yn gweithio yno hefyd ac roedd ei brawd, Meirion, wedi codi o lawr y ffatri i fod yn gyfarwyddwr yn y cwmni. Bu'n gweithio fel peiriannydd yn Laura Ashley nes iddi gael ei ddiswyddo yn 1990, pan newidiodd y ffatri i wneud llenni. Erbyn y cyfnod hwn, roedd hi'n oruchwylwraig. Cafodd hi alwad oddi wrth y ffatri yn gofyn iddi ddod yn ôl, a dyna beth wnaeth hi, yn gyntaf yng Ngharno ac wedyn yn y Drenewydd, tan iddi ymddeol yn 2011.Mae rhan o'r cyfweliad hwn ar gael fel ffeil sain
VSE015 Luana Dee, Sobells, Aberdâr;TBS South Wales Ltd, Merthyr;NATO clothing factory, Rhymni;Guest Keen and Nettlefold (GKN), Merthyr;Thorns, Merthyr;Berlei Bras, Dowlais;Lines (Triang), Merthyr
Mae Luana yn sôn am ei chefndir teuluol lliwgar a dychwelyd i Ferthyr o dramor. Gadawodd yr ysgol yn 15 oed (1967) ac yn fuan wedyn dechreuodd weithio yn Berlei Bras fel 'machinist' (2 flynedd). Cymysgedd o ferched swil a chryf yno. Peiriannau gwych Almaenig Pfaff. Sioeau ffasiwn gyda’r cyflogeion yn modelu dillad isaf. Gwaith ar dasg - talu am bob bra. Taflu’r 'seconds' mewn biniau - trwsio a ddim yn ennill cyflog wedyn. Ei golwg yn dda ac roedd yn gyflym -felly ei rhoi ar y bras duon. Gwaith mwy anodd a cholli arian. Cafodd ei symud i’w stopio rhag creu trwbwl. Rhaid gofyn i fynd i’r toiled a’r oruchwylwraig yn curo’r drws. Yn cael eu gwylio drwy’r amser. Diswyddo - ansawdd ei gwaith? Neu rhy fyrbwyll? Yn syth i swydd arall. Yn BB roedd y sioeau ffasiwn ar lawr y ffatri - cystadleuaeth Miss Berlei Bra? Disgrifia’r ffatri. Ensyniadau rhywiol yn gyffredin. Dawnsfeydd Nadolig a thripiau. Nesaf - i ffatri Triang - gwnïo clustogwaith trwm (arhosodd 1 flwyddyn). Cael hwyl gyda bois y ffatri ym Mharc Cyfarthfa ar bnawniau Gwener. Deuai rhai dynion â lluniau pornograffig i’r ffatri - agoriad llygad. Gadael oherwydd dim dyfodol yno. Ymlaen i Thorn’s yn gwneud ffilamentau bylbiau golau. Disgrifia’r broses. Siapaneaid yn cymryd drosodd - mwy o straen ac arhosodd lai na blwyddyn. Symud i ffatri yn gwneud dillad diwydiannol i NATO - gwnïo trwm, mwy o ddynoliaeth yma. Yn ffatri TSB roedden nhw’n gwneud cabinetiau ffeilio ac roedd yn cyfathrebu’n dda gyda'i chydweithwyr. Roedd hi yn y swyddfa nawr. Dim ond am wythnosau y bu hi’n Sobell’s - lle enfawr, diwydiannol ac estron.Mae rhan o'r cyfweliad hwn ar gael fel ffeil sain
VN021 Carol Morris, Ferodo, Caernarfon
Ar ôl gadael yr ysgol, aeth Carol i weithio yn y ffatri staes ond symudodd hi i Ferodo ar ôl blwyddyn achos roedd y cyflog yn llawer gwell. Yn Ferodo, roedd hi'n paentio rhifau ac enw'r cwmni ar y 'break linings' a'r 'stair treads'. Roedd ffatri Ferodo yn enfawr, efo rhannau gwahanol a llwybr i gerdded rownd pob un ohonynt. Doedd y gweithwyr ddim yn cael mynd i mewn i lefydd arbennig oni bai eu bod nhw'n gwisgo'r dillad addas, achos roedd peiriannau yno ac roedd yn beryglus o bosib. Roedd tai bach i'r dynion ac i'r merched a roedd y rheina'n enfawr, meddai, nid fel y tai bach hen ffasiwn 'Edwardaidd' yn y ffatri corsedau. Roedd gan y gweithwyr locars eu hunain efo agoriadau, rhywbeth modern iawn. Roedd cawodydd yno ac roedd y genod yn dod â dillad glân i mewn ar ddydd Gwener, yn golchi eu gwallt yno, ac yn mynd allan i'r dafarn yn syth o'r gwaith. Roedd 'na stafell gymorth cyntaf fawr yn yr 'office block' ac roedd y cantîn tu fas i'r ffatri, un mawr, gyda dau eisteddiad. Roedd pawb yn teimlo fel teulu yno, meddai. Roedd Carol yn mwynhau gweithio yno ond gadawodd hi ar ôl ffrae efo'r rheolwr personel. Aeth hi i Ferranti i weithio ond yn fuan gadawodd y gwaith ffatri i briodi, gan ddychwelyd i waith yn ffatri Laura Ashley yn yr 1980au.Mae rhan o'r cyfweliad hwn ar gael fel ffeil sain
VN022 Megan Owen, Compactau James Kaylor, Caernarfon
Roedd Megan yn y ffatri gompactau am ugain mlynedd, gan ddechrau yno yn 15 oed. Doedd hi ddim wedi gadael yr ysgol yn swyddogol ond roedd ffrind ganddi, roedd wedi pasio’r ysgoloriaeth ac yn cael mynd i ysgol ramadeg, ond doedd hi ddim eisiau mynd, a dywedodd honno wrth Megan ei bod hi'n mynd i drio am swydd yn y ffatri compactau. Aeth y ddwy ohonynt i lawr i ofyn am swydd a llwyddon nhw, a chafodd Megan 'row' gan ei mam wedyn. Ar ei diwrnod cyntaf, roedden nhw wedi mynd yno "fel plant bach, socs bach gwyn a' ponytails', fath yn union â plant ysgol, ac yn giglan gwirion a ddim y gwbod be' i ddisgwyl." Roedden nhw'n rhoi’r rhai ifanc mewn ystafell efo'i gilydd lle roedden nhw'n rhoi’r pethau bach crwn yng nghanol y compactau i ddal y powdwr, a rhoi'r 'satin' o’i gwmpas o. Wedyn, roedd Megan yn dysgu gwaith arall, gweithio yn yr adran brintio am y rhan fwyaf o'r amser, yn rhoi'r patrwm ar y compactau mewn paent. Gadawodd hi am 12 mlynedd i fagu'i merch, ac yna dychwelyd tan i'r ffatri gau, tua 1984.Mae rhan o'r cyfweliad hwn ar gael fel ffeil sain
VSW025 Beryl Evans, Ina Bearings, Bynea
Gadawodd Beryl yr ysgol yn 14 oed, a bu’n gweithio ym mragdy Felin-foel, 1941-8, cyn priodi. Doedd ei gŵr ddim yn hoffi menywod yn gweithio mewn ffatri. Yna collodd ei gŵr yn 1966 a bu’n rhaid mynd i INA Bearings i gynnal ei theulu. Roedd hi ar ‘inspection’ yno. Mae’n sôn am y nyrs yn y ffatri, sŵn y peiriannau, cloco miwn, partïon Nadolig y plant, cael cloc am hir-wasanaeth a thripiau. Gadawodd y ffatri yn 1982.Mae rhan o'r cyfweliad hwn ar gael fel ffeil sain
VN028 Vicky Perfect, Courtaulds, Y Fflint
Gweithiodd Vicky yn Courtaulds o pan oedd yn 15 oed, am 11 mlynedd. Byddai hi wedi hoffi aros ymlaen yn yr ysgol a mynd i'r coleg ond roedd ei mam yn disgwyl iddi fynd allan i weithio. Roedd hi wedi bod yn gweithio eisoes mewn caffi yn y Rhyl o 13 oed ymlaen. Dechreuodd hi mewn ffatri o'r enw Mayfair, a oedd yn gwneud cotiau 'duffle' ar lawr uchaf safle Courtaulds ond yn annibynnol ar y cwmni. Caeodd y ffatri hon a chymerwyd hi drosodd gan Courtaulds, ac aeth y gweithlu bach i Courtaulds hefyd. Roedd Vicky ar y gwaith 'coning' ac, yn nes ymlaen, daeth hi'n gynrychiolydd undeb. Symudodd i fod yn staff yn 20 oed, i'r adran astudio gwaith. Dydy hi ddim yn gallu cofio faint oedd hi'n ei ennill pan oedd hi ar lawr y ffatri, ond yn yr adran astudio gwaith roedd ei chyflog yn £ 23, mewn arian parod, a rhoddai'r pecyn pae heb ei agor i'w mam, a fyddai'n cadw'r £ 20 a rhoi £ 3 yn ôl iddi. Roedd hi'n dal i fod yn gweithio yn y caffi ar y penwythnosau a'r gwyliau banc ac yn ystod gwyliau o'r ffatri a bu'n rhaid iddi roi'r cyflog hwn i'w mam hefyd, heb ei agor. Roedd Vicky yn hoffi bod ar y staff ac roedd yn gwneud y swydd honno hyd nes iddi adael i gael ei phlant yn 1976.Mae rhan o'r cyfweliad hwn ar gael fel ffeil sain
VSE031 Maureen Howard Boiarde, Polikoff's, Treorci;Sobell's TV and Radio, Rhigos'
Gadawodd Maureen yr ysgol yn 15oed (1962) a dechrau yn Polikoff’s. Dywed stori am ei mam ar ei diwrnod cyntaf yn bygwth y byddai yn cael ei throi allan petai’n colli ei swydd. Sŵn - yr haearnau enfawr a’r 'presses'. Roedd e’n rhyfeddol. Roedd adran y dynion braidd yn ddi-liw. Disgrifia dorri trwch 2 droedfedd o ddefnydd yn fanwl gywir ar yr un pryd. Rhywiaeth - menywod yn gwneud y gwaith undonog. Bu’n gweithio fel ‘floater’ - cyflog uwch ond ni allai ennill bonws. Cost siswrn yn dod allan o’i chyflog. Gorfod rhoi ei holl bae i’w mam gweithio tuag at dalu llety a bwyd yn unig. Pan orffennodd yn Polikoff’s roedd yn gwnïo â llaw. Gweithio dros amser. Roedd dynion bob amser yn ennill mwy. Llawer o dynnu coes rhywiol - y dynion yn pinsio penolau ond y menywod yn talu’n ôl. ‘Bull week’ - Nadolig a chyn gwyliau blynyddol - ennill bonysau ychwanegol. Gallai wneud ffrog am 30c. Nodwydd trwy ei bys sawl gwaith - defod bywyd. Cadwai bad ger ei pheiriant i sychu’r gwaed. Bu’n gwnïo dillad i’r fyddin hefyd. Byddent yn ysgythru enwau ar eu sisyrnau. Gwrando ar y radio dair gwaith yr wythnos. Bu’n rhaid iddi adael a mynd i Lundain gyda’i mam tua1963. Dychwelodd yn fuan i Sobell’s - gweithiodd yno am 1 flwyddyn. Roedd pobl Aberdâr yn ddieithr iddynt. Byddai gweithwyr Polikoff's yn trefnu llawer o ddigwyddiadau cymdeithasol. Chwaraeodd tîm pêl-droed y menywod yn erbyn EMI. Dysgodd gwaith ffatri iddi fod yn annibynnol a rhoddodd stamina iddi.Mae rhan o'r cyfweliad hwn ar gael fel ffeil sain
VSE034 Shirley Smith, Burlington, Caerffili;Burry Son & Company Ltd, Trefforest
Bu Shirley mewn coleg masnachol cyn gadael yn 17 oed. Yna gweithiodd mewn siop cyn symud i Burry’s yn 1957 (tan 1982) - ffatri decstilau a hithau’n deipydd llaw-fer yn y swyddfa. Roedd peiriant hynafol yno i gyfrif y cyflogau. Mae’n trafod ei chyflog a chyflog un oruchwylwraig - yn gyfartal â’r dynion. Roedd hi’n swnllyd iawn ar lawr y ffatri a’r gweithwyr ar eu traed drwy’r dydd. Roedd yr amodau’n wael yn y swyddfa a’r ffatri yn boeth drwy’r flwyddyn. Mae’n enwi’r ffatrïoedd oedd ar agor ar Stad Trefforest yn y cyfnod hwn. Bu farw’r bos yn sydyn a chymerwyd y ffatri drosodd gan Burlington’s Gloves. Cafodd ei diswyddo yn 1989.Mae rhan o'r cyfweliad hwn ar gael fel ffeil sain
VSW034 Averil Berrell, ICI, Waunarlwydd;Lightening Zips (Fasteners), Waunarlwydd
Pan oedd tua 14 oed aeth Averill i ysgol dysgu pynciau masnachol ond gan nad oedd ei mam yn cefnogi hyn gadawodd a mynd i weithio yn Ffatri Lightning Zips fel clerc swyddfa, 1954-. Roedd yn cael mynd i goleg technegol bob wythnos. Roedd yn ffatri wych a glân; doedd neb eisiau gadael. Disgrifia sut y byddid yn pryfocio bechgyn ifanc a bod rhai menywod ffit a bras eu hiaith yno. Sonia am y clwb cymdeithasol a’r adnoddau chwaraeon. Rhoddai ei phecyn pae cyfan i’w mam a byddai hi heb ddim. Byddai’r cwmni yn rhoi cyfranddaliadau i’r gweithwyr. Gadawodd yn 1967 i gael babi. Mae’n crybwyll peth harasio rhywiol a bod rhai yn ‘dwyn’ zips.Mae rhan o'r cyfweliad hwn ar gael fel ffeil sain
VN036 Anita Roberts, Ffatri cynwysorau a ffatrioedd eraill, Wrecsam
Aeth Anita i weithio yn y ffatri yn 15oed ond doedd hi ddim yn hoffi'r lle a gadawodd hi ar ôl wythnos. Roedd ei mam, Nesta yn gweithio yn yr un ffatri, ond dywedodd Anita fod y gwaith yn rhy gyflym a doedd hi ddim yn gallu ymdopi. Ar ôl gwneud swydd mewn siop anifeiliaid anwes egsotig, a oedd hi'n hoffi'n fawr, dychwelodd i'r gwaith ffatri, mewn ffatri yn gwneud 'capacitors', a daeth hi'n dda iawn wrth ei gwaith. Gadawodd hi ar ôl sbel a bu'n gweithio mewn ffatrïoedd eraill, rhai gwneud llenni a serameg, cyn symud i waith gofal. Mae'n deud bod gwaith gofal yn llawer caletach na gwaith ffatri. Mae Anita yn meddwl bod ei hiechyd wedi dioddef wrth weithio yn y ffatri serameg, lle roedd hi'n glanhau, achos y llwch trwchus yr oeddynt yn ei anadlu, heb fygydau iawn.Mae rhan o'r cyfweliad hwn ar gael fel ffeil sain
VN040 Margaret Humphreys, Laura Ashley, Y Drenewydd;Laura Ashley, Carno
Mae Margaret o Fetws y Coed yn wreiddiol a bu'n cadw gwely a brecwast yno cyn symud i Garno. Roedd y gŵr yn dod o Garno felly roedd o'n nabod Meirion Rowlands, y 'managing director' yn Laura Ashley, a chawson nhw air efo fo, yn deud bod nhw'n symud ac yn tybio a oedd gwaith iddi yn y ffatri. Dywedodd Margaret ei bod hi'n ddiawledig mynd i mewn i ffatri. “Oedd o ddim yn ddiawledig, ond do, fues i dipyn, cofiwch, yn dod i arfer. Oedd na gymaint yn y ffactri i nabod pawb. Un person on i, ynde, a pawb arall yn nabod un yn syth, fel 'tai, 'Oh, new girl working today, she's from Carno,' ond roedd rhaid i mi nabod pawb ond oedd?, mi gymerodd amser, cofiwch. Do, dipyn. Ac i ddeud y gwir, o bob tŷ, rhywun yn gweithio yn Ashleys, ylwch, gŵr a gwraig a phlant os oedden nhw wedi tyfu i fyny.” Roedd plant ganddi hi a chafodd hi oriau o naw tan dri. Swydd ar yr 'overlocker' oedd ei gwaith cyntaf yn Laura Ashley, er bod ganddi ddim syniad sut i ddefnyddio'r peiriant hwnnw. Wnaethon nhw roi hyfforddiant o chwe wythnos iddi ond mewn chwe wythnos roeddech chi'n gwybod dipyn, meddai. Yn ddiweddarach daeth yn oruchwylwraig pan symudodd y ffatri i'r Drenewydd a newid i gynhyrchu ffabrigau dodrefnu meddal. Ymddeolodd hi yn 60 oed ond aeth yn ôl am ychydig o flynyddoedd, nid ar y peiriannau, ond yn gwneud pethau eraill fel gwasanaeth cwsmeriaid tan iddi ymddeol yn 1999.Mae rhan o'r cyfweliad hwn ar gael fel ffeil sain
VSE040 Isabel Thomas, Gwaith Tin Mansel, Aberafan;Gwaith Aliwminiwm Wern, Aberafan;Metal Box, Castell Nedd
Gadawodd Isabel yr ysgol yn 14oed (1942) ac aeth i weithio i waith Tunplat Mansel (roedd yn amddifad). Roedd ei chwaer yn gweithio yno a dwedodd wrth y rheolwr fod Isabel yn 16 oed. Dysgodd dasgau gwahanol: ar y sheers a'r gilotîn. Twyllodd ynglŷn â’i hoedran eto i fynd i’r Wern. Disgrifia dorri’r tunplat a gweithiai’r menywod y rholer yno hefyd. Yna ai i mewn i ddŵr a byddai’n rhaid ei sythu eto. Gwisgai ddyngarîs â chlytiau. Torri ei bysedd. Lladdwyd menyw yn y gwaith alwminiwm. Roedd Isabel yn gorweithio. Gwaith shifft yn y Wern. Lladdwyd bachgen yn y Mansel hefyd - syrthiodd shîts arno. Yn y Wern roedd yr alwminiwm yn dod allan o’r baddon hallt yn boeth. Gwisgent fenig trwchus. Aelod o undeb. Dysgu rhegi. Stori am roi carthydd i’r fforman. Disgrifia’i gwaith yn y Wern. Crafu alwminiwm - hanner awr yn gweithio, hanner awr i ffwrdd yn yr ystafell dawel. Gwnaeth ei chwaer fat rhacs o got un o’r gweithwyr! Canu gyda’r piano yn y cantîn. Daeth y dynion adre o’r rhyfel a mynd â swyddi’r merched a chael gwell tâl. Dawnsfeydd a cherddoriaeth. Ni châi fynd i Fargam adeg y rhyfel oherwydd yr Americanwyr yno. Noda’r hiliaeth. Arhosodd yn y Wern 5 mlynedd - torron nhw’i chyflog a symudodd i’r cantîn. Bu yn y Mansel am ddwy flynedd. Gweithiodd yn Metal Box am dri mis c. 1952, yn gwneud topiau tuniau tomatos - swydd hawdd.Mae rhan o'r cyfweliad hwn ar gael fel ffeil sain
VSE043 Anita Rebecca Jeffery, Christie-Tyler, Penybont;Polikoffs, Treorci
Disgrifia Anita fyw mewn pre-ffab, gadael yr ysgol yn 15 oed (1954) a dechrau fel 'machinist' yn Polikoff’s. Gwneud dillad i’r fyddin a.y.b. a dillad gwely. Ei job gyntaf - gwneud balog trowseri. Stigma gyda gwaith ffatri. Gwaith ar dasg a chyrraedd targedi. Dyrchafiad i beiriant Pfaff mawr. Cerddoriaeth, canu a chwifio. Defod pan oedd priodas - cribo’r gwallt am yn ôl, sebon siwgr a sialc a rhoi mewn tryc i fynd i adran y dynion. Gwynt llygod mawr - Pawb allan. Pla o chwilod du. Derbyn gweithiwr hoyw. Mantais - siwtiau rhatach a dillad gwely. Dwyn siwtiau! Yn Christie-Tyler roedd yn aelod o’r National Union of Furniture Trade Operatives. Yn Poliakoff’s - anghydfod am amser a symud. Bu hi’n gynrychiolydd undeb - yn sefyll dros y merched. Nhw a ni. Dyrchafu menywod cegog i’w cael ar ochr y rheolwyr. Rolyrs o sbwliau cotwm a sgarff. Damwain ddifrifol gyda 'presser' a nodwydd trwy fysedd. Effaith hir dymor ar ei choesau a’i golwg. Gadawodd pan oedd yn feichiog - 1961. Dechreuodd gwyliau a thâl yn yr 1950au hwyr. Dawnsfeydd yng nghantîn Polikoff’s gyda bandiau byw a dim alcohol. Miss Polikoff - enillodd hi tua 1957. Dychwelodd i waith ffatri yn 1969/70 fel 'machinist' yn gwneud clustogwaith. Symudodd y ffatri o Ben-y-bont i Talbot Green. Bu yno 12mlynedd. Gwaith ar dasg a rhai gweithwyr barus. Stori am y fodrwy ddyweddïo - gonestrwydd. Balchder “Roeddwn i’n weithgynhyrchydd”.Chwarae tric - y peiriannau i gyd yn chwythu. Rhoi cyfeiriadau ym mhocedi iwnifform yr Awyrlu.Mae rhan o'r cyfweliad hwn ar gael fel ffeil sain
VSW046 Mair Matthewson, Metal Box, Castell Nedd
Gadawodd Mair yr ysgol yn 14 a bu’n gweithio adeg y rhyfel mewn siop gig. Yna dechreuodd yn Metal Box yn 1946 yn gwneud topiau tuniau ('open tops'). Roedd disgwyl iddynt wneud 750 top y funud. Yna daeth peiriannau. Disgrifia adrannau’r ffatri, menig arbennig at y gwaith a’r damweiniau. Noda i’r merched gael eu rhwystro rhag gweithio ar rai mashîns a hefyd rhag gweithio shifft nos. Sonia am ddarllen gwefusau achos y swn ofnadwy. Bu’n 'shop steward'. Bu dwy streic yno. Cofia ddathlu’r Nadolig, a’r clybiau cymdeithasol. Bu’n aelod o’r 'jazz band' yno. Cafodd wats aur ar ôl 25 mlynedd.Mae rhan o'r cyfweliad hwn ar gael fel ffeil sain
VSE051 Jill Williams, Lewis & Tylor Ltd, Gripoly Mills
Gadawodd Jill yr ysgol yn 16 oed (1968) a dechrau yn Lewis and Tylor. Roedd y sŵn yn anghredadwy (Gwyddiau trydanol a’n gweithio â llaw). Bu’n crïo wrth feddwl am aros yno. Bu yno am 10+ mlynedd. At hyn gweithiai gartref yn trwsio beltiau. Disgrifia ac eglura’r gwaith crefftus yn fanwl iawn. Caledenau ar y dwylo - dim menig. Roedd fel rhwyfo. Agwedd garedig - anrhegion priodas. Gwnâi un grŵp feltiau o rwber ar wyddiau bach. Gwnâi’r dynion bibau a phibelli ar gyfer awyrennau. Ar ôl cael y plant bu’n gweithio yno’n rhan amser. Y stori am y fforman a’i gi. Gwaith ar dasg a gwneud eich cwota o feltiau. Rhai yn rhuthro a safon wael y beltiau. Disgrifia fownsio fyny ac i lawr yn gwehyddu. Rhai peryglon - baglu, pwysau’n syrthio. Helpu’i gilydd. Roedden nhw i gyd yn hoffi un gwŷdd - gwnâi well beltiau. Roedd hi eisiau cadw’i gwifrau ei hun felly byddai’r fforman yn eu cadw iddi dros y gwyliau. Patrymau gwahanol: plaen, o chwith, pwyth pennog a.y.y.b. Âi hi â’i chwaraewr recordiau i’r gwaith. Ei rhif clocio i mewn oedd 60.Tripiau a llawer o hwyl. Yn ddiweddarach daeth llawer o weithwyr Indiaidd (Kenya) yno - y diclein yn broblem a chaeodd y ffatri am gyfnod. Sonia am briodas wedi’i threfnu. Bu’n gweithio fel menyw ginio hefyd - stori’r bag o arian. Gwaith ei mam a’i thad. Dengys y mesur a’r nodwyddau oedd ganddi. Effaith y gwaith ar ei chlyw. Rhagor o fanylion am dechneg y gwaith.Mae rhan o'r cyfweliad hwn ar gael fel ffeil sain
VSE054 Doreen Lillian Maggie Bridges (nee Moses), Valeo, Ystrad Mynach;Golmets, Pontllan-ffraith;Switchgear, Pontllan-ffraith;Cora Crafts, Pengam
Gadawodd Doreen yr ysgol yn 15+ oed (1957) a dechrau yn y storfa yn Ffatri Cora Crafts, oedd yn gwneud gemwaith. Deuai dynion i mewn i nôl cerrig. Byddai’n helpu pwyso powdwr aur ar gyfer y platio aur hefyd. Roedd yn defnyddio’i hymennydd i wneud yr archebion. Roedd ei thad yn strict iawn am fynd allan - dim minlliw. Âi ei ffrindiau ar y mynci- pared. Bu yno am 6 mis yn unig cyn symud i Switchgear - ffatri reit fawr, drilio, gwrthsoddi (gwneud gwrymiau i’r sgriwiau) a 'de-burring'. Gwnâi’r ffatri switshis. Ei mam a’i phecyn pae. Cefnogodd yr undeb hi ar fater codi pwysau trwm. Cafodd ei symud o’r swydd hon. Radio a chanu i’w hunain. Effeithiodd y sŵn ar ei chlyw. Roedd y dynion yn cael eu hyfforddi ac yn cael tâl uwch - annhegwch. Erbyn cyfnod y Ddeddf Tâl Cyfartal (1970), roedd yn gweithio’n Valeo. Ond nid oeddent yn cael tâl cyfartal. Arhosodd yn Switshgear am flwyddyn, ac aeth i Golmets. Gadawodd i gael ei phlentyn cyntaf yn 1965. Gwnâi’r ffatri fyrddau smwddio a stolion cegin. Am gyfnod bu’n torri asbestos gwyn - dim mygydau. Gallai ‘ei weld e yn yr awyr’. Aeth i Valeo yn 1977. Bu’n gynrychiolydd undeb yno gyda’r GMB - brwydr yn erbyn defnyddio dip arbennig oedd yn achosi cancr. Gwnâi armatyrau ar gyfer golchwyr sgriniau car. Bu’n rhaid iddi negydu codiadau cyflog hefyd. Cynghorodd y menywod i dalu stamp llawn. Roedd menywod yn cael eu trin yn annheg. Carnifal Nadolig ar lorri Switchgear - canu mewn côr. Ymddeolodd Doreen yn 1995.Mae rhan o'r cyfweliad hwn ar gael fel ffeil sain
VSE079 Madeline Sedgwick, Slumberland, Caerdydd;Spillers and Bakers, Caerdydd;Lionites Spectacles Cases, Caerdydd;Currans, Caerdydd
Gadawodd Madeline yr ysgol yn 14oed (1943). Sonia am gysgodi dan Gastell Caerdydd yn ystod cyrchoedd awyr ac am y peryglon. Gweithiodd fel triniwr gwallt cyn dechrau yn Curran’s yn 1948. Roedd ganddynt enw am fod yn hiliol. Dywed am ei phrofiad gyda Littlewood’s. Gweithiai yn enamlo, yn gwneud potiau piso (eu dolenni) a mygiau. Sonia am y gwahanol ardaloedd yng Nghaerdydd. Prynai ddillad, sbarion pysgod ac âi i ddawnsfeydd gyda’i harian poced. Dim ond am dri mis y bu hi yno ac aeth i Spillers, ar y blawd a’r bisgedi cŵn. Prynon nhw beiriant mawr a newid i weithio shifftiau. Llygod mawr. Ffatri fach. Câi’r grawn ei ddadlwytho o longau i lawr y grisiau. Gwisgent dwrbanau. Roedd yn hoffi’r peiriannau gwnïo. Canu a sgwrsio. Gadawodd oherwydd y gwaith shifft a symudodd i ffatri Slumberland - roedd yn llychlyd yno. Disgrifia ymweliad â Llundain. Disgrifia ei gwaith yno a dywed bod gweithwyr y cwmni yn Paisley (Birmingham) yn cael mwy o gyflog na nhw. Yn y gaeaf byddai’i bysedd yn gwaedu oherwydd y ffibrau a’r oerfel. Bwriodd ei choes a gadawodd. Yna aeth i Fletcher's, ond yn y swyddfa - gwisgo’n smart, ateb y ffôn ac anfonebu. Dywed y stori am herio bos Slumberland am weithio tan 6 ar nos Wener.Mae rhan o'r cyfweliad hwn ar gael fel ffeil sain