Cyflwyniad
Ffrwyth prosiect cyffrous gan Archif Menywod Cymru yw 'Lleisiau o Lawr y Ffatri'. Mae hanes menywod ar hyd y canrifoedd wedi cael ei esgeuluso a nod yr Archif yw codi ymwybyddiaeth o hanes menywod yng Nghymru ac achub a diogelu ffynonellau'r hanes hwnnw.Dyma a geir yma felly, sef dros 200 adysgrif o gyfweliadau gan fenywod (ac ambell ddyn) a fu'n gweithio yn y diwydiannau gweithgynhyrchu rhwng tuag 1945 ac 1975. Yn ystod y cyfnod hwn roedd cannoedd o ffatrïoedd mawr a bach yng Nghymru, yn cynhyrchu pob math o nwyddau ac yn cyflogi miloedd o fenywod. Erbyn heddiw mae'r mwyafrif wedi cau. Roedd angen cofnodi hanesion y gweithwyr hyn cyn ei bod yn rhy hwyr.
Recordiwyd siaradwyr a fu'n gweithio mewn tua 208 o ffatrïoedd gwahanol. Mae gan bob un ei stori unigol ac unigryw. Pleser a braint fu cael rhoi eu hatgofion ar gof a chadw. At hyn, yn sgil yr holi casglwyd a sganiwyd c. 400 o luniau i ddarlunio'r prosiect.
Ariannwyd y prosiect gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri gyda chefnogaeth yr Ashley Family Foundation, undebau llafur Unite a Community Union a chyfraniadau aelodau'r gymdeithas. Caniataodd hyn i'r Archif gyflogi tair Swyddog Maes i wasanaethu’r gogledd, y de-orllewin a'r de-ddwyrain ac i hyfforddi gwirfoddolwyr i helpu gyda’r recordio a’r adysgrifio.
Mae'r prosiect cyflawn, yn cynnwys y cyfweliadau gwreiddiol, y darluniau a'r adysgrifau ar adnau yn yr Archif Sgrin a Sain Genedlaethol Cymru yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth.
Mae'r Adroddiad Terfynol (Cymraeg) ar gael fel pdf ac hefyd fel Fersiwn Dwyieithog cyflawn.