English
Rhestru pob cofnod yn ôl:

Casgliad o gyfweliadau a ffotograffau a gofnodwyd gan Archif Menywod Cymru yn 2013-14

Rhestru pob cofnod yn ôl:
Chwilio
Chwilio uwch

Pori'r cyfweliadau


VSW057 Mair Richards, Y Bwrdd Marchnata Llaeth, Ffatri Laeth Pont Llanio

Gadawodd Mair yr ysgol yn 15 oed (1952) a bu’n gweithio ar fferm perthynas am dair blynedd. Yna cafodd waith yn y labordy ym Mhont Llanio ac o fewn blwyddyn yn y swyddfa. Yn y labordy byddai’n cymryd samplau o’r llaeth. Gwneud llaeth powdwr yr oedd y ffatri. Ystafell i’r gweithwyr chwarae tennis bwrdd. Tâl uwch am waith swyddfa. Paratoi’r cyflogau. Bu streic yno yn y chwedegau - anghydfod am yrrwr yn ffatri Felin-fach. Y rheolwr yn cael car a thŷ gan y Bwrdd Marchnata Llaeth. Ar ddydd ei phriodas daeth lori laeth i lawr ei stryd yn canu corn yr holl ffordd. Gadawodd Mair pan oedd yn feichiog yn 1967. Ers hynny mae wedi gwneud sawl swydd - gofalu mewn cartref hen bobl oedd ei ffefryn. Dysgodd deipio yn swyddfa Pont Llanio. Lle hapus i weithio ynddo.
Debbie Edwards a Marian Gregson yn y gwaith yn Hufenfa Pont Llanio

Administration