English
Rhestru pob cofnod yn ôl:

Casgliad o gyfweliadau a ffotograffau a gofnodwyd gan Archif Menywod Cymru yn 2013-14

Rhestru pob cofnod yn ôl:
Chwilio
Chwilio uwch

Pori'r cyfweliadau


Trefnwyd yn ôl cyfeirnod y cyfweliad

VSE074 Tryphena Jones, Ffatri Sigarau JR Freeman, Port Talbot;Ffatri Sigarau JR Freeman, Caerdydd

Gadawodd Tryphena yr ysgol yn 16oed (1966) a dechrau yn Freeman’s. Cafodd gyfweliad a phrawf IQ. Roedd yn yr adran gwneud sigarau a rhaid oedd cael hyn a hyn o doriadau o un ddeilen. Gwisgai rhai merched rholyrs a rhwydi gwallt. Stopiodd hyn ar ôl 2 flynedd. Disgrifia ddiwrnod gwaith. Canu a sgwrsio. Targedau. Disgrifia sut i wneud sigâr - gweithio mewn parau ar yr un cyflymder. Eglura’r gwaith yn yr ystafell stripio. Hefyd rheoli ansawdd - os oedd 5 diffygiol roeddech mewn trwbl. Eglura sut y gweithient eu targedau. Swydd yn talu’n dda. Gweithiai am yr arian. Roedd hi’n anodd i fenywod gael dyrchafiad - newidiodd hyn. Dysgodd i drwsio ei pheiriant ei hun a theimlai ei bod yn annheg bod peirianwyr yn cael mwy o dâl na’r menywod. Y person amser a symud - disgrifia sut y byddent yn ymddwyn pan oedd e’n gwylio. Tri rhybudd am fethu targedau ac allan â chi. Peryglon - collodd y ferch nesaf ati 2 fys. Ddechreuodd yr undeb ddim am 2 flynedd - problemau gyda sŵn a gwres. Trafoda harasio. Roedd hi’n cymryd rhan mewn chwaraeon ac yn cael diwrnodau i ffwrdd yn ddi-dâl. Dywed stori am ei chyfweliad teledu. Digwyddiadau cymdeithasol: 'It’s a knockout', sgitls a dawnsfeydd a.y.y.b. Miss Manikin - peth cenfigen ac eraill yn gwrthwynebu. Mae’r sŵn wedi effeithio ar glyw y gweithwyr. Newidiadau oherwydd mecaneiddio. Edrych ar eich ôl os yn sâl. Pedwar cantîn a bwyd gwahanol. Bu’n ffatri Port Talbot am 3 blynedd hefyd; 12 mlynedd yng Nghaerdydd. Llwyddodd i basio profion mewn gymnasteg tra yno. Bu’n addysg dda.
Tîm 'It's a Knockout' Ffatri Sigarau J.R. Freeman, Tryphena Jones yn y rhes blaen ar y chwith

VSE075 Era Francis, Smith's Crisps, Abertawe

Gadawodd Era yr ysgol yn 15oed (1948) ac ar ôl gweithio mewn londri, dechreuodd yn ffatri Smiths yn 1951/2. Disgrifia adrannau’r ffatri a sut y gweithiai popeth yn ôl chwibanau. Gwisgai sgarff dros ei gwallt. Ei gwaith hi oedd pacio’r bagiau creision. Roedd yn rhaid cael caniatâd i adael y peiriant. Pan oedd yn pigo’r creision â llaw âi’r bysedd yn dost am fod y creision yn finiog. Defnyddiai Nu-skin ar y briwiau. Gweithiodd yno am 5-6 mlynedd. Gwynt creision Smiths. Roedd y rhai fyny grisiau yn y gegin yn gorfod gwisgo clocs am fod y llawr yn llithrig gan olew. Byddent yn glanhau peiriannau eu hadran bob nos. Cylchdroi gwaith yn yr adran. Bagiau o halen a’r ystafell halen. Radio a chanu. Mantais prynu creision yn rhatach. Defnyddient lud i lynu’r pecynnau creision. Targedau a chael bonysau. Roedd rhai yn rhegi yn ofnadwy yno - roedd arni eu hofn. Pan briododd hi cafodd bythefnos i ffwrdd â thâl. Sonia am theatr yr Empire. Roedd yn rhaid iddi roi ei chyflog i’w mam tan ei bod yn 21 - dyna’r rheol. Gadawodd pan briododd (1956) - roedd y teithio yn dreth. Llawer o wthio i fynd ar y bws. Yn ddiweddarach gweithiodd yn Woolworth’s am 20 mlynedd.

VSE076 Christine Evans, Sobells, Rhigos

Gadawodd Christine yr ysgol yn 15oed (1964) a dechrau yn Sobell’s lle'r oedd ei thad yn gweithio. Roedd y ffatri yn llewyrchus. Dechreuodd yn sodro a weirio. Doedd y job ddim yn anodd ond roedd ei gwneud yn gyflym yn her. Symudodd i wneud radios transistor - yn browd iawn pan brynodd un ei hun. Deuai bysiau â gweithwyr i’r stad ddiwydiannol. Gwnaeth jobs gwahanol e.e. rhoi cydrannau i mewn. Disgrifia’r prosesau. Yn yr 60au hwyr gweithiai ar deledu lliw. Peryglon - mae creithiau ganddi ar ei bawd (gwydr) a’i choesau o losg sodro am ei bod yn gwisgo sgert fini. Rhoddodd Sobell’s dorrwr a gefail iddi. Roedd hi’n gyffrous yn gweithio ar deledu lliw. Hitachi oedd yn rhedeg y ffatri pan adawodd hi am ei bod yn feichiog yn 1980. Undebaeth a lot o streiciau am gyflogau. Wythnosau tri diwrnod. Dywed sut y cafodd ei rhoi ar beiriant peryglus yn 15 oed - dim gard arno. Peth bwlian - ei symud i linell arall. Cerddoriaeth, recordiau a chanu. Cystadleuaeth Miss GEC yn y Top Rank, Abertawe. Ddiwrnod cyn Nadolig - stopio gwaith, bwyta siocled ac yfed. Yn ddiweddarach gwnaeth CGC mewn arlwyo.

VSE077 Jeanette Groves, Western Shirt Company, Caerdydd

Gadawodd Jeanette yr ysgol yn 14oed (1946) a dechrau yn y ffatri wnïo, lle’r arferai ei mam weithio. Dechreuodd yn yr ystafell dorri ac yna aeth yn 'machinist'. Nodwyddau trwy fysedd, y siswrn i’w llygad a chollodd un fenyw ei gwallt (yng nghyfnod ei mam). Teithio i’r gwaith ar y bws neu’r beic. Gwisgo rolyrs i’r gwaith ond yna gwisgo colur a chribo’r gwallt yn ystod toriad y bore. Gwnâi rhai eu dillad eu hunain yn ystod yr amser cinio. Roedd yn rhaid datod unrhyw gamgymeriad a byddent yn helpu ei gilydd rhag colli arian. Ei nod hi oedd: dwsin o grysau mewn awr @ swllt y dwsin. Allan o gwmpas Caerdydd yn ystod amser cinio. Ai tyrfa ohonynt allan gyda’r nos - yn dawnsio. Rhaid aros nes bod golau naturiol cyn gwnïo defnyddiau tywyll. Dim ond crysau a phyjamas yr oeddent yn eu cynhyrchu. Pryfocio'r un peiriannwr trwy ymyrryd â’u peiriannau. Tripiau blynyddol a chael sigarennau. Gadawodd ar ôl 3 blynedd am fod tiwbercwlosis arni. Priododd a symud i Fryste lle cafodd ei gwella ymhen amser.
Gweithwragedd y Western Shirt Company, Jeanette Groves yn sefyll ar y chwith, 1940au

VSE078 Margaret Duggan, Ffatri Sigarau JR Freeman, Caerdydd

Cafodd Margaret ei geni yn Iwerddon a gadawodd yr ysgol yn 17oed(1964) ar ôl gwneud cwrs mewn coleg technegol. Gweithiodd fel cogydd i ddechrau. Rhwng 1966 ac 1970 gweithiodd i General Electric (EI) ac yna priododd a symud i Gymru. Dechreuodd yn Freeman’s. Disgrifia wneud y sigarau. Daliodd ei llaw mewn peiriant - 8 pwyth. Cafodd iawndal trwy’r undeb. Newidiodd ei swydd - yn pwyso a tsiecio’r sigarau. Targedau - e.e. faint y gellid eu cael allan o un ddeilen. Gallai hi gerdded o gwmpas a siarad. Câi dâl penodol. Gwynt cryf y baco, gwellodd yr amodau a chawsant fwgwd i’w wisgo. Niwl mân i gadw’r baco’n llaith. Talu treth ar sigarau, roedd hi’n gwneud yr awdit terfynol. Gadawodd yn 2002 yn 55oed. Cafodd wats am 30 mlynedd o wasanaeth. Tâl da bonysau bob Nadolig a Phasg. Gwyliau ychwanegol yn dibynnu ar hyd y gyflogaeth. 'Undeb y Tobacco Worker’s Union' - anghydfod am orffen gweithio am 1.30 ar ddydd Gwener - enillodd yr undeb. Cafodd dâl diswyddo. Ar y dechrau marchnad y gweithwyr oedd hi. Cylchlythyr - 'Smoke Signals.' Manteision - sigarau a sigarennau am ddim bob mis. Clybiau cymdeithasol e.e. golff a badminton. Talodd y cwmni iddi wneud cwrs cyfrifiaduron. Cinio a raffl Nadolig. Lle teuluol.

VSE079 Madeline Sedgwick, Slumberland, Caerdydd;Spillers and Bakers, Caerdydd;Lionites Spectacles Cases, Caerdydd;Currans, Caerdydd

Gadawodd Madeline yr ysgol yn 14oed (1943). Sonia am gysgodi dan Gastell Caerdydd yn ystod cyrchoedd awyr ac am y peryglon. Gweithiodd fel triniwr gwallt cyn dechrau yn Curran’s yn 1948. Roedd ganddynt enw am fod yn hiliol. Dywed am ei phrofiad gyda Littlewood’s. Gweithiai yn enamlo, yn gwneud potiau piso (eu dolenni) a mygiau. Sonia am y gwahanol ardaloedd yng Nghaerdydd. Prynai ddillad, sbarion pysgod ac âi i ddawnsfeydd gyda’i harian poced. Dim ond am dri mis y bu hi yno ac aeth i Spillers, ar y blawd a’r bisgedi cŵn. Prynon nhw beiriant mawr a newid i weithio shifftiau. Llygod mawr. Ffatri fach. Câi’r grawn ei ddadlwytho o longau i lawr y grisiau. Gwisgent dwrbanau. Roedd yn hoffi’r peiriannau gwnïo. Canu a sgwrsio. Gadawodd oherwydd y gwaith shifft a symudodd i ffatri Slumberland - roedd yn llychlyd yno. Disgrifia ymweliad â Llundain. Disgrifia ei gwaith yno a dywed bod gweithwyr y cwmni yn Paisley (Birmingham) yn cael mwy o gyflog na nhw. Yn y gaeaf byddai’i bysedd yn gwaedu oherwydd y ffibrau a’r oerfel. Bwriodd ei choes a gadawodd. Yna aeth i Fletcher's, ond yn y swyddfa - gwisgo’n smart, ateb y ffôn ac anfonebu. Dywed y stori am herio bos Slumberland am weithio tan 6 ar nos Wener.
Mae rhan o'r cyfweliad hwn ar gael fel ffeil sain

VSE080 Margaret Gerrish, Cora Garment Factory, Pengam;Spirellas Corset Factory, Caerdydd;Ffatri Sigarau JR Freeman, Caerdydd

Mae Margaret yn siarad am undebaeth ei thad: NACODS ac am adael yr ysgol yn 13-4oed (1944-5). Dechreuodd weithio mewn ysgol breswyl yn Yeovil ac yna dychwelodd i Gymru. Gweithiodd yn ffatri Freeman’s. Byddent yn teithio yno o Dredegar ar y trên. Roedd yn fyd newydd iddi. Byddai’n cynilo gyda sieciau provident. Ennill arian oedd pwrpas y gwaith. Radio a chanu. Arferai Shirley Bassey weithio yno. Cyn Freeman’s dywed iddi weithio yn Spirella’s. Roedd hi wedi gwneud prentisiaeth yn Y siop deilwra yn Nhredegar Newydd sef gyda Parry’s. Doedd hi ddim yn mynd i mewn i’r ffatri ei hun ond yn ffitio staes am bobl yn eu cartrefi. Yn tua1949-50 dechreuodd yn Cora’s, yn gwneud dillad i M&S, yn yr ystafell dorri. Câi goruchwylwyr eu hyfforddi yng Nghaerlŷr. Yna daeth goruchwyliwr newydd a dechrau diswyddo pobl. Roedd hi'n archwilio’r cynnyrch ac am fod un pentwr i gyd yn wallus cafodd pawb eu diswyddo. Daeth yr undeb i’w cefnogi ac ail-gyflogwyd hwy. Ar ôl priodi fu hi ddim yn gweithio mewn ffatri.
Margaret Gerrish, ar y chwith, a chydweithwyr ffatri ddillad Cora

VSE081 Di-enw, Slumberwear, Y Barri;Sidroy's Lingerie, Y Barri

Ar gytundeb yn Sidroy’s Lingerie, y Barri. Gweithiai y siaradwr i gwmni adeiladu ei dad yn cynnal a chadw (c. 1964-8) adeiladau a.y.b. yn y ffatri. Yn lleol gelwid Sidroy’s yn ‘y ffatri niceri’ ond roeddent yn gwneud pob math o ddillad isaf yno. Roedd e’n ofnus iawn o’r menywod - roedd eu hiaith yn anweddus a byddent yn tynnu dillad dynion a bechgyn a’u gorchuddio â saim/ olew os oedden nhw’n rhy hunan-hyderus. Digwyddodd hynny iddo fe unwaith - roedd ei dad wedi ei rybuddio. Teimlai fod gwaith y merched yn undonog iawn. Roedd y menywod eisiau cadw’r dynion yn eu lle.

VSE082 Mary Patricia (Pat) Howells, Dunlop, Rhigos, Stad Hirwaun;Lastex Yarn and Lactron Threads (LYLT), Rhigos, Hirwaun estate

Cofia Pat ei gwaith ar Stad Ddiwydiannol Rhigos a sut yr oedd ei thad yn beiriannydd yn ffatri Dunlop's yno. Gadawodd yr Ysgol yn bymtheg oed i weithio yn Dunlop's hefyd lle'r oedd yn trimio matresi a chlustogau a.y.b. Byddai'n rhoi ei phecyn pai i'w mam. Fel teulu, roeddent yn byw mewn t? a adeiladwyd ar gyfer gweithwyr y stad. Doedd y gweithwyr ddim yn siarad dim ond gweithio, gweithio, gweithio. Yna symudodd i ffatri Lastex Yarns and Lactron Threads (LYLT) - gwell rhagolygon gyrfa. Daeth yn oruchwylwraig ac yna'r fforman Mae'n cofio colli top ei bys yn Dunlop's. Fel goruchwylwraig roedd yn delio a phroblemau personol, e.e. beichiogrwydd. Roedden nhw'n defnyddio llawer o sialc Ffrengig yr oedd yn rhaid ei chwythu oddi ar eu hoferôls. Caent wrando ar y radio am awr y dydd. Clwb Chwaraeon a chymdeithasol - roedden hi'n chwarae pêl-rwyd a gwneud saethyddiaeth. At hyn roedd dramâu yn y cantîn. Roedd cystadleuaeth Miss Dunlop bob blwyddyn. Priododd löwr a gadawodd y ffatri pan oedd yn disgwyl babi.
Gwqeithwyr Dunlop yn y canteen 1950au. Siaradwraig: Pat Howells, ail o'r chwith, arolygyddCystadleuaeth harddwch Dunlop, 1950au - Pat Howells ail o'r ddeMiss Dunlop 1957. Cystadlaeuaeth yng Nghantîn Dunlop. Pat Howells 4ydd o'r ddeCystadleuwyr Miss Dunlop 1957. Pat Howells 4ydd o'r chwith

VSE083 Violet Skillern, Ffatri Deganau HG Stone, Pontypŵl

Disgrifia Violet ei phlentyndod ym Mhont-y-pöwl a sut y cafodd ei thad anhawster i gael gwaith wedi'r rhyfel. Yn ei rhes o fythynnod roedden nhw'n rhannu toiledau ond roedd pawb yn gyfeillgar. Dechreuodd yn y ffatri deganau yn 15 a chofia gael ei hanfon i nôl 'glass washers' - ei phryfocio hi. Disgrifia symud o'r storfa i wnïo - cwblhau'r tedi bêrs, gwnïo eu llygaid a brodweithio'u trwynau. 'Dyddiau hapus' ar y lein. Byddai'n mynd â gwaith adre hefyd. Ar ôl priodi gadawodd y ffatri. Mae'n trafod y tâl. Cofia orfod gorffen rhyw Dedi Ber anferth ar gyfer Llundain. Menywod oedd yn gweithio yno'n bennaf ac roedd un o'r cynllunwyr yn fenyw. Dawnsfeydd blynyddol. Roedd pawb yn perthyn i'r undeb ond roedd yno awyrgylch hapus. Roedd yno 'gamaraderi'. Cerddai i'r gwaith ond daliai'r bws adre ac âi â'i bwyd ei hun er bod cantîn da yno. Nid oedd yn hoffi pan gyflwynwyd system gludfelt. Byddent yn gwrando ar y radio dros y Tannoy. Cofia wyliau gyda'i chydweithwyr yn Bournemouth. Doedd dim llawer o weithgareddau cymdeithasol ynghlwm a'r ffatri.
Ffatri tegannau H G Stone, Pont y P?l

Administration