English
Rhestru pob cofnod yn ôl:

Casgliad o gyfweliadau a ffotograffau a gofnodwyd gan Archif Menywod Cymru yn 2013-14

Rhestru pob cofnod yn ôl:
Chwilio
Chwilio uwch

Pori'r cyfweliadau


Trefnwyd yn ôl enw'r ffatri

Cora Crafts, Pengam

VSE054 Doreen Lillian Maggie Bridges (nee Moses), Valeo, Ystrad Mynach;Golmets, Pontllan-ffraith;Switchgear, Pontllan-ffraith;Cora Crafts, Pengam

Gadawodd Doreen yr ysgol yn 15+ oed (1957) a dechrau yn y storfa yn Ffatri Cora Crafts, oedd yn gwneud gemwaith. Deuai dynion i mewn i nôl cerrig. Byddai’n helpu pwyso powdwr aur ar gyfer y platio aur hefyd. Roedd yn defnyddio’i hymennydd i wneud yr archebion. Roedd ei thad yn strict iawn am fynd allan - dim minlliw. Âi ei ffrindiau ar y mynci- pared. Bu yno am 6 mis yn unig cyn symud i Switchgear - ffatri reit fawr, drilio, gwrthsoddi (gwneud gwrymiau i’r sgriwiau) a 'de-burring'. Gwnâi’r ffatri switshis. Ei mam a’i phecyn pae. Cefnogodd yr undeb hi ar fater codi pwysau trwm. Cafodd ei symud o’r swydd hon. Radio a chanu i’w hunain. Effeithiodd y sŵn ar ei chlyw. Roedd y dynion yn cael eu hyfforddi ac yn cael tâl uwch - annhegwch. Erbyn cyfnod y Ddeddf Tâl Cyfartal (1970), roedd yn gweithio’n Valeo. Ond nid oeddent yn cael tâl cyfartal. Arhosodd yn Switshgear am flwyddyn, ac aeth i Golmets. Gadawodd i gael ei phlentyn cyntaf yn 1965. Gwnâi’r ffatri fyrddau smwddio a stolion cegin. Am gyfnod bu’n torri asbestos gwyn - dim mygydau. Gallai ‘ei weld e yn yr awyr’. Aeth i Valeo yn 1977. Bu’n gynrychiolydd undeb yno gyda’r GMB - brwydr yn erbyn defnyddio dip arbennig oedd yn achosi cancr. Gwnâi armatyrau ar gyfer golchwyr sgriniau car. Bu’n rhaid iddi negydu codiadau cyflog hefyd. Cynghorodd y menywod i dalu stamp llawn. Roedd menywod yn cael eu trin yn annheg. Carnifal Nadolig ar lorri Switchgear - canu mewn côr. Ymddeolodd Doreen yn 1995.
Mae rhan o'r cyfweliad hwn ar gael fel ffeil sain
Sled Nadolig Ffatri Switchgear a chôr carolau'r cwmni

Cora Garment Factory, Pengam

VSE080 Margaret Gerrish, Cora Garment Factory, Pengam;Spirellas Corset Factory, Caerdydd;Ffatri Sigarau JR Freeman, Caerdydd

Mae Margaret yn siarad am undebaeth ei thad: NACODS ac am adael yr ysgol yn 13-4oed (1944-5). Dechreuodd weithio mewn ysgol breswyl yn Yeovil ac yna dychwelodd i Gymru. Gweithiodd yn ffatri Freeman’s. Byddent yn teithio yno o Dredegar ar y trên. Roedd yn fyd newydd iddi. Byddai’n cynilo gyda sieciau provident. Ennill arian oedd pwrpas y gwaith. Radio a chanu. Arferai Shirley Bassey weithio yno. Cyn Freeman’s dywed iddi weithio yn Spirella’s. Roedd hi wedi gwneud prentisiaeth yn Y siop deilwra yn Nhredegar Newydd sef gyda Parry’s. Doedd hi ddim yn mynd i mewn i’r ffatri ei hun ond yn ffitio staes am bobl yn eu cartrefi. Yn tua1949-50 dechreuodd yn Cora’s, yn gwneud dillad i M&S, yn yr ystafell dorri. Câi goruchwylwyr eu hyfforddi yng Nghaerlŷr. Yna daeth goruchwyliwr newydd a dechrau diswyddo pobl. Roedd hi'n archwilio’r cynnyrch ac am fod un pentwr i gyd yn wallus cafodd pawb eu diswyddo. Daeth yr undeb i’w cefnogi ac ail-gyflogwyd hwy. Ar ôl priodi fu hi ddim yn gweithio mewn ffatri.
Margaret Gerrish, ar y chwith, a chydweithwyr ffatri ddillad Cora

Corgi Hosiery, Rhydaman

VSW065 Margaret Young, Corgi Hosiery, Rhydaman

Gadawodd Margaret yr ysgol yn 15 ac ymuno â Corgi’s. Mae wedi gweithio yno am tua 53 mlynedd. Disgrifia’r cynnyrch: sanau i gychwyn (gyda phatrymau gwahanol), yna siwmperi a dillad tapestri. Enillai gyflog + bonysau. Doedd dim undebaeth na streiciau yno. Symudodd o wneud sanau i weuwaith. Disgrifia sut y bydden nhw’n trin merched ar eu pen-blwyddi ac wrth briodi. Roedd hi’n oer iawn yno ac roedd mynd i’r toiled yn cael ei amseru. Roedden nhw’n prynu recordiau i’w chwarae dros y tanoi. Pan oedd ei phlant yn fach benthycodd beiriant a gweithio gartre. Tripiau allan. Mae’n trwsio â llaw yn y ffatri nawr.
Ffatri Corgi Hosiery, 1950au

Corona, Abertawe

VSW041 Patricia Ridd, Addis, Abertawe;Windsmoor, Abertawe;Smith's Crisps, Abertawe;Mettoys, Fforestfach;Corona, Abertawe;Walkers, Abertawe

Gadawodd Patricia Ysgol Dechnegol Abertawe yn 15 oed (1961) i weithio yn ffatri Addis yn gwneud brwsys llaw. Roedd hi ar 'inspection'. Arhosodd 2 flynedd. Yna i ffatri wnïo Windsmoor, yn gwneud dillad i’r fyddin (2 flynedd eto). Yna cafodd fab a dychwelodd i Addis - gwneud brwsys masgara. Yna bu’n Smith’s Crisps - byddai’r creision yn dod i lawr twndish a byddai’n rhoi’r bag glas o halen ym mhob pecyn. Arhosodd yno chwe mis ac yna i ffatri bop Corona, am 26 mlynedd (1966-92). Dechreuodd ar y llinell yn gwylio poteli pop yn mynd nôl a mlaen. Yna bu yn y seler yn gwneud pop a seidr ac yna ar y wagen fforch-godi yn symud 'pallets'. Pan gaeodd y ffatri aeth i Walkers’ eto ar y wagen fforch-godi a gweithio shifftiau nos hefyd. Roedd llawr y ffatri yn brysur iawn. Prynu seconds yn y ffatrïoedd. Yn Walkers’ os nad oedd gwaith - noson i ffwrdd a dim tâl. Damweiniau - bu yn yr ysbyty gyda llosgiadau asid o Corona. Mae ganddi dystysgrifau i yrru wagen fforch-godi. Roedd Walkers’ a Corona yn oer - rhewodd y pop. Prin yn gweld ei gŵr oherwydd shifftiau. Roedd Corona fel teulu - y ffatri orau. Gweithiodd mewn ffatrïoedd 1961-98. Yna gweithiodd yn y brifysgol.
Merched Ffatri  Windsmoor ar noson allanPatricia Ridd a ffrind ar noson allan Ffatri WindsmoorPatricia Ridd yn y gwaith yn Ffatri Corona, Abertawe

Corona, Porth

VSE003 Maureen Jones, Creeds, Trefforest;Corona, Porth;Swiss Embroidery, Rhondda

Gadawodd Maureen yr ysgol yn 15 oed (1955) a dechreuodd weithio yn Swiss Embroidery. Cael sac os yn siarad a dim ond wythnos y bu yno. Symud i Ffatri Welsh Hills Works Corona Pop. Gwisgo clocs oherwydd y gwydr toredig – roedd eu sŵn yn nodi gweithwyr Corona. Disgrifia’r broses ac fel y ffrwydrai rhai poteli. Gwneud syrop o siwgr- gorfod gwthio whilberi. Gwaith caled. Gwneud sgwash hefyd. Roeddent yn cael briwiau ‘anghredadwy’. Canu. Dychwelyd potel bop i gael arian. Gorffen yno yn 1959. Roedd cafn i olchi poteli. Blasau gwahanol. Yn oer iawn yn y gaeaf – poteli oer. Yn delifro Smiths Crisps hefyd. Bywyd cymdeithasol: YMCA; pictiwrs a dawnsfeydd. Siopau dillad y Porth. Golchi dwylo mewn soda costig cyn dawns y ffatri yn Bindles, Y Barri. Gadael am na châi ganiatâd i fynd i briodas ei chwaer. Cafodd ei chwaer swydd iddi yn ffatri sanau Bellito’s yn St Alban’s. Dychwelodd i weithio yn Creeds, Ystad Trefforest (tua1960-63), yn gwneud capstanau, gwynt ofnadwy. Roedd ar y llinell gynhyrchu. Rhuthr am y bysys ar ôl gwaith. Roedd ei gŵr yn gweithio yno hefyd. Ffatri boeth iawn.
Mae rhan o'r cyfweliad hwn ar gael fel ffeil sain

Courtaulds, Merthyr

VSE025 Mair Richards, Forma, Merthyr;Kayser Bondor, Merthyr;Courtaulds, Merthyr;Chard's, Llundain;AB Metals, Abercynon;Barton's, Merthyr

Gadawodd Mair yr ysgol ramadeg oherwydd salwch ei thad, yn 15½ oed, gweithiodd yn W.H. Smiths cyn ymuno â Kayser Bondor tua 1952. Roedd ei mam yn gwrthwynebu iddi weithio mewn ffatri. Mae’n disgrifio’r cyfweliad, y ffatri lân - amseru mynd i’r toiledau; torri allan â llaw - lliwiau a meintiau gwahanol; cynhyrchu bras a pheisiau mewn archebion enfawr; pwysigrwydd KB i Ferthyr. Yn Nowlais ( 1960 ymlaen) roedden nhw’n gwneud sanau sidan a dillad eraill. Cofia godi arian yn y ffatri wedi trychineb Aberfan. Noda ddathliadau’r Nadolig; y raddfa dâl; undebau; un streic am dâl a sut roedd Courtaulds yn eu trin. Sonia am ddamweiniau gyda’r cyllyll torri allan. Doedd hi ddim yn hoffi gweithio’n A.B. Metals - budr a merched gwahanol. Dychwelodd i KB a phan gaeodd honno aeth i Barton’s ac yna Forma - lle bu’n goruchwylio’r ystafell dorri allan. Gorffennodd yno yn 1995.

Courtaulds, Y Fflint

VN050 Sandra Brockley, Shotton Steel Works, Shotton;De Haviland Aircraft Co, Broughton;Courtaulds, Y Fflint

Dechreuodd Sandra yn Courtaulds yn 1960, yn y lle cyntaf ar y 'perning', yn gwneud 'gwallt doliau' cyn symud ymlaen i'r 'cacennau'. Roedd y merched ar 'piecework', a doedd Sandra fyth yn ddigon cyflym. Roedd gan y ffatri do gwydr ac roeddent yn ei baentio'n wyrdd i gadw'r haul allan, ond roeddent yn dal i ferwi, meddai Sandra. Ond gallai fod yn oer iawn yn y gaeaf. Roedd hi'n byw bedair milltir i ffwrdd ac ai i'r gwaith ar y bws. Aeth hi ar 'day release. Gadawodd ar ôl chwe mlynedd, pan oedd hi tua 21, oherwydd roed'd hi wedi cael llond bol. Un dirwnod, gyrrodd hi'n syth heibio'r fffatri yn lle mynd i mewn ac aeth hi i Rhyl am y diwrnod! Ychydig yn ddiweddarach, cafodd hi swydd gyda De Havilands yn gyrru craen ar linell gynhyrchu yr Hawker Sidley 125 (awyrennau bach). Roedd hi'n gwybod am y pethau hyn oherywdd byddai ei thad yn siarad am 'slingers'. Gadawodd y swydd hon ar ôl blwyddyn i gael babi, ac yna dychwelyd i'r gwaith yn John Summers (Shotton Steel) a gwneud swyddi gyrru a gwerthu gwahanol, o 1971 nes iddi ymddeol yn 1998.

VN029 Gaynor Hughes, Courtaulds, Y Fflint

Roedd Gaynor yn Courtaulds am 4 blynedd ac roedd hi'n gweithio ar y 'coning' yr holl amser. Cafodd hi gyfweliad ond ni all hi ei gofio ac ni all hi gofio ei diwrnod cyntaf, er bod y ffatri yn llawer mwy na'r felin bapur lle y bu hi'n gweithio cyn hynny, yn syth o'r ysgol. Yn Courtaulds, roedd tair ffatri - Glannau Dyfrdwy, Castell ac Aber; Aber oedd yr un fwyaf dymunol ac roedd hi'n yn honno. Doedd hi ddim wedi gwneud y math hwnnw o waith cyn hynny ac roedd ganddi ychydig o ddyddiau o hyfforddiant pan ddechreuodd hi. Dysgodd hi'r gwaith yn gyflym iawn ac roedd wrth ei bodd yno, oherwydd ei fod yn rhywbeth y mae hi wedi ei gyflawni, gan gadw ei phen hi o'r gwaith i fyny a chadw'r conau yn mynd. Roedd ganddynt beiriant yr un ac bu'n gweithio mewn tîm gyda dwy arall a oedd yn hŷn na hi ac wedi dechrau o'i blaen hi. Dechreuodd Gaynor ar beiriannau gosod conau normal ac, achos ei bod hi'n gyflym, cafodd ei symud i fod ar y gwlân. Gadawodd hi yn 20 oed a phriododd yn fuan ar ôl hynny. Dychwelodd hi i waith ffatri yn nes ymlaen ond nid i Courtaulds. Yn 1970, ymddangosodd yn ffotograff swyddogol y ffatri a oedd yng nghylchgrawn Courtaulds.
Gaynor ar y peiriant, 1970au, ©CourtauldsGaynor ar y peiriant, 1970auGaynor, ar y dde, gyda chydweithwyr tu fas i'r ffatri 1970au

VN042 Vera Jones, Courtaulds, Y Fflint

Gweithiodd Vera yn Courtaulds yn syth ar ôl gadael yr ysgol, yn 1941. Aeth i lawr i ofyn am swydd, o achos doedd dim byd arall roedd hi eisiau ei wneud ar y pryd, a doedd dim 'capabilities' ganddi i wneud dim byd arall. Mae'n cofio bod y nrys yn edrych ar ei gwallt am 'nits.' Roedd ei mam yn mynd â hi at arosfan y bws achos roedd hi'n dywyll yn y bore a dim ond 14 oed oedd hi. Wedyn oedd hi'n dal y bws efo gweithwyr eraill. Roedd rhaid iddynt wisgo ffrogiau du, roedden nhw wedi’u gwneud, neu roedd rhywun arall wedi’u gwneud allan o lenni du, ac roedd y dillad yn dangos pob darn o gotwm. Aeth Vera o'r 'cakewrapping' i mewn i'r swyddfa, ar ôl i'r cwmni ofyn iddi wneud y cyfrifon. Ond, gan fod y merched ar lawr y ffatri yn ennill mwy o arian trwy ennill bonws, aeth yn ôl i'r rhan gynhyrchu, yn gwneud y 'coning.' Roedd hi yno nes iddi briodi ym 1950 a gadawodd Courtaulds wedyn i gael babi. Dychwelodd i'r gwaith wedyn ac aeth i mewn i lywodraeth leol, yn casglu rhent ac yn adennill dyledion, lle bu tan iddi ymddeol yn 66 oed.
Gweithwyr Ffatri Courtaulds adeg parti plant Nadolig y ffatri, 1940auY Pwyllgor Gwaith Courtaulds, 1940au

VN031 Eddie and Sharon Parry, Courtaulds, Y Fflint

Fel llawer o ffatrioedd, roedd gan Courtaulds dîm pêl-droed menywod. Mae'r llun hwn yn dyddio o tua 1969. Mae wedi'i roi gan Eddie Parry, roedd ei wraig Sharon yn gweithio yn y ffatri, ond nid yw yn y llun.
Tîm pel droed menywod ffatri Courtaulds, 1968-9

Administration