Pori'r cyfweliadau
Trefnwyd yn ôl cyfeirnod y cyfweliad
VSE018 Gwen Richardson, Wella, Pontyclun;Fiona Footwear, Penybont;Planet Gloves, Llantrisant;London Pride, Penybont
Gadawodd Gwen yr ysgol yn 15 oed (1958) (Cafodd ei thad ei ladd mewn damwain yn y pwll glo) a dechreuodd yn London Pride fel 'machinist'. 'Strict' iawn - Llaw i fyny i fynd i’r toiled, dim rhegi na siarad. Canu gyda’r radio. Gwneud blowsys drud. Gweithwyr yn prynu candelabra arian i’r perchennog! Gallent brynu’r defnydd. Gadael ar ôl 2 flynedd. Gwaith ar dasg yn y ffatri fenig. Peiriannau arbenigol. Y lledr yn staenio’r dwylo. Ei ffrind yn cael ei hanfon adre am regi. Gwynt yr ysmygu yn y toiledau. Gweithiai Iris Williams y gantores yno - canai emynau. Gwen - yn un o’r prif weithwyr. Triciau gwirion. Cinio a dawns y Nadolig. Eto gadawodd ar ôl 2 flynedd - i ffatri gwneud esgidiau i M&S. Ar ôl cael plant bu’n gweithio gyda’r nos i Wella’s - oriau anghymdeithasol ond pae da a bywyd cymdeithasol gwych. Cyflogwyr ardderchog - anrhegion Nadolig. Peryglon gyda’r poteli gwydr yn ffrwydro a’r cemegau. Gwisgo gogls. Streic a phicedu - cystadleuaeth rhwng gweithwyr gyda’r nos a dydd. Bu’n arwain y lein yno. Roedd amser a symud yn bwysig yn enwedig yn y ffatri esgidiau. Yna bu’n wniadyddes >rheolwraig ym Mhrifysgol Morgannwg. Mae’n difaru na chafodd addysg dda.VSW018 Enid Davies a Bronwen Williams, Deva Dogware, Gwynfe;Croydon Asbestos, Aberddaugleddau
Gadwodd Enid yr ysgol yn 16 oed (1965) a Bronwen yn 16 oed (1964). Diffyg trafnidiaeth - felly anodd cael gwaith os byw yn y wlad. Aeth Enid at ei brawd yn Aberdaugleddau a bu’n tynnu tatws ac yna yn Croydon Asbestos (tua 1966 tan 1968/9). Roedd hi’n cau menig lledr. Targed - cau 3200 (ansicr) o fenig yr wythnos. Munud y faneg. Gweld grwpiau fel yr Hollies yn y Masonic Hall. Ennill 'premium bond' at eu cyflog. Amodau gwaith da- dim sgil effeithiau asbestos. Bu Bronwen yn gofalu am blant cyn dechrau yn Deva Dogwear ac roedd wedi gorffen yno cyn i Enid ddechrau (c. 1966-68). Roedd yr amodau yn wael yn DD ond roedd y gweithwyr yn hwyluso’r gwaith. Gwneud coleri slip i gŵn yr oedd Enid. Hoffai’r annibendod. Cofia weldio gyda nwy; allforio’r coleri, gwrando ar Wimbeldon ar y radio. Bu Enid yn gwerthu coleri yn Crufts - pobl bwysig yno. Amodau gwael yn DD. Gadawodd Enid i gael babi, a dychwelodd nes i’r ffatri gau (tua 1968/9-1972).VN019 Nancy Denton, Ffatri deganau B.S.Bacon, Llanrwst
Aeth Nancy i lawr i'r ffatri deganau ar ôl gadael yr ysgol i ofyn am swydd, gan fod ei theulu yn disgwyl iddi weithio. Doedd hi ddim yn hoffi'r swydd lawer ond roedd yn waith. Roedd hi'n gwneud y byrddau du, ac roedd hi'n hoffi hynny, er gallai'r gwaith fod yn undonog, curo'r hoelion i mewn a sandio'r pren i lawr. Roedd hefyd yn gorfod defnyddio gynnau stwffwl, ac roedd rhain ychydig yn frawychus, gan eu bod yn 'neidio.' Roedd y teganau o safon uchel, o'r enw Valley Toys, mae'n meddwl. Os oedd 'rejects' doedd dim hawl i'r gweithwyr eu cael nhw a doedd dim y fath beth a bonws Nadolig. Roedd y ffatri yn sylfaenol iawn ond roedd hi'n mwynhau'r cyfeillgarwch yno. Gadawodd y ffatri yn 17 oed a phriodi yn fuan wedyn. Bu'n gweithio wedi hynny ond nid mewn ffatri.VSE019 Pauline Moss, Gweithdy gwnio Whitakers (Giles), Caerdydd
Gadawodd Pauline yr ysgol yn 15 oed (1956) a dechreuodd yn y gweithdy. Roedd mewn tŷ ac roedd yn rhaid cynnau’r tân bob bore. Daeth yn 'machinist'. Gweithiai gyda Harris Tweed - deuai pobl bwysig yno. Roedden nhw’n tynnu’i choes. Daliai’r trên adre i Senghennydd. Cafodd ei hanfon allan am rolyn o ddefnydd - aeth ar goll. Roedd llinell gynhyrchu yno er mai lle bach oedd e. Gadawodd (1959) pan briododd a chael ei merch. Hoffai liwio’i gwallt yn felyn fel Diana Dors. Nodwydd trwy’i bys. Chwarae gyda hwla-hŵp yn yr iard gefn. Radio a thripiau. Wedyn bu’n helpu mewn ysgol. Roedd y gweithdy’n gwneud siacedi safon uchel a 'blazers'. Gweithiai tua 8-9 merch (+dynion) yno.VSW019 Patricia Murray, Penclawdd Bandage Factory, Penclawdd;Alan Paine, Rhydaman;John White, Rhydaman
Gadawodd Patricia yr ysgol yn 15 oed (1959) a dechrau gweithio yn y ffatri rwymynnau ym Mhenclawdd, yn gweu’r rhwymynnau. Profiad erchyll. Symudodd y ffatri i Garnant. Cerddodd y gweithwyr allan am ei bod yn rhy oer (1962). Cawsant waith yn syth gyda Corgi’s. Symudodd Pat i Ffatri Alan Paine. Gweithiai fel cysylltwraig ac yna yn cynhyrchu. Daeth yn hyfforddwraig ac yna’n oruchwylwraig. Gwaith crefftus iawn. Nododd y medryddion; dawnsio i ganeuon roc a ròl ar y radio; glanweithdra; codi cyflymder; y dillad yn cael eu hanfon nôl i Surrey i gael eu cwblhau. Roedd Paine’s (1966) yn prosesu’r cyfan. Roedd crèche yn Corgi’s, caewyd oherwydd rheoliadau. Gweithiodd o’i chartref (tua 1968-73) pan oedd y plant yn fach. Rhai jobsys yn talu’n well nag eraill. Fel aelod o staff - dim yn yr undeb. Rheoliadau Iechyd a Diogelwch yn cynyddu. Dathliadau Nadolig - addurno’r llawr a’r peiriannau, cinio. Clwb cymdeithasol a thripiau. Cafodd tinnitus o weithio yno. Ymweliad y Dywysoges Anne. Caeodd y ffatri yn 1998. Bu’n gweithio yno am 33 mlynedd.VN020 Vanda MacMillan, Ffatri deganau B.S.Bacon, Llanrwst
Gadawodd Vanda yr ysgol yn bymtheg oed ac aeth i weithio mewn siop groser, yn gwasanaethu y tu ôl i'r cownter, ond nid oedd yn hapus gan fod llawer o waith papur, ac roedd pobl yn arfer rhoi eu nwyddau i lawr ar fil a thalu ar ddydd Gwener. Roedd hi wedi priodi yn ddwy ar bymtheg oed. Ar ôl y siop, aeth i weithio mewn melin wlân yn Nhrefriw, a oedd yn waith caled. Roedd hi ar y gwŷdd ychydig cyn iddi adael - yn gwneud cwiltiau gwlân. Roedd hi'n ennill tua £ 4, ac roedd hi'n prynu dillad o gatalog gyda'i chyflog, ac yn mynd i'r sinema. Dydy hi ddim yn cofio pa oedran oedd hi pan aeth i'r ffatri ond roedd tri o blant ganddi ac roedd angen arian ychwanegol ar y teulu. Roedd hi wedi clywed bod angen pobl yn y ffatri deganau a threfnodd gyda'i mam i gael ei phlentyn ieuengaf, a rhoddodd hanner ei chyflog i'w mam. Gweithiodd Vanda fel gweithiwr tymor-byr yn ffatri deganau, Llanrwst, yn y cyfnod cyn y Nadolig. Bu'n gweithio ar baentio blodau ar y tai doliau pren ac yn wir roedd yn mwynhau'r gwaith. Gadawodd oherwydd bod y lle yn mynd ar i lawr ac yn diswyddo' r gweithwyr tymhorol. Bu'n gweithio fel glanhawraig am ychydig cyn iddi gael swydd mewn cartref gofal.VSE020 Jenny Kendrick, Ffatri Sigarau JR Freeman, Caerdydd;Smith's Crisps, Abertawe
Gweithiodd Jenny yn Smith’s Crisps, Abertawe yn ystod gwyliau’r haf ar ol gorffen yn y Brigfysgol yn1970 (yn 25 oed). Bu yno am dri mis. Roedd y ffatri’n gwneud Quavers a Chopitos. Rhoi 14 pecyn mewn bag. Roedd yn rhaid I’w ffrind godi Quavers drwg allan o’r saim sur ar y llinell gynhyrchu – yn sal bob hanner awr. Cafodd Jenny ei dyrchafu i tsiecio pwysau – gyda chlipfwrdd – yn pwyso samplau ac yn addasu’r peiriannau. Y berthynas â’r menywod eraill yn wych. Ail-bacio Chopitos o wastraff – gwaith annifyr. Sefyll drwy’r dydd a’i thraed yn brifo. Swnllyd iawn a chanu I ganeuon llawn hwyl fel Lola gan y Kinks. Clustnodi amserau toiledau. Haf poeth iawn. Dim diddordeb mewn undebaeth gan y menywod. Yn drewi o olew - defnyddio Cologne. Tân ond dim safonau iechyd a diogelwch. Menywod cryf iawn – yn rhedeg cartrefi a gweithio. Tynnu coes ond dim harasio rhywiol fel y profodd yn swyddfeydd Llundain. Dwyn pecynnau o greision. Yn ddiweddarach gweithiodd yn Freeman’s (rhwng 1966 a1970) lle câi sigarennau a sigars yn rhad. Yn y swyddfa yr oedd hi. Roedd gwaith swyddfa’n gofyn am ddim sgiliau ond cryfder mawr. Dylanwadodd ar ei ffeministiaeth. Roedd mwyafrif y menywod yn mwynhau’r gwaith a’r gallu i brynu mwy o bethau. Mae ganddi barch mawr at fenywod dosbarth gwaith.VSW020 Rita Davies & Meirion Campden, Croydon Asbestos, Milford Haven;Myfanwy Products, Gorseinon;Ffatri Grysau Glanarad, Castell Newydd Emlyn
Gadawodd Rita(1945) a Meirion (1949) yr ysgol yn 14oed. Dechreuodd Rita yn syth yn ffatri grysau Glanarad a gadael i briodi (1954), gan ddychwelyd ar ôl tair blynedd. ac ymunodd Meirion (?1949- c 1995). Johnny Morgan oedd y bòs, brawd perchennog warws J T Morgan, Abertawe. Hemo crysau gwlanen oedd y job gyntaf. Arian poced o’r cyflog. Byddai‘r bòs yn eu taro ar eu pennau â phensil neu eu pinsio os oeddent yn siarad. Bu Rita ar y peiriant botymau a Meirion yn gwneud y crysau. Llyfr i gofnodi eu gwaith. Wedyn cymerwyd y gwaith drosodd gan Myfanwy Products, Gorseinon yn gwneud dillad doliau a sioliau am 2-3 blynedd. Yna Croydon Asbestos a gwnïo lledr (gwaith trwm) gyda pheiriannau diwydiannol. Y menywod hŷn yn garedig. Caent anrheg o ddilledyn o warws J T Morgan adeg y Nadolig a thrip i Landrindod fis Mehefin. Rhif y gweithiwr ar y crysau. Bu’n rhaid i Meirion fynd i’r ysbyty ar ôl gwnïo’i bys. Aeth Rita i’r gwaith mewn rolyrs a thwrban. Caeodd Croydon Asbestos c.1996.VN021 Carol Morris, Ferodo, Caernarfon
Ar ôl gadael yr ysgol, aeth Carol i weithio yn y ffatri staes ond symudodd hi i Ferodo ar ôl blwyddyn achos roedd y cyflog yn llawer gwell. Yn Ferodo, roedd hi'n paentio rhifau ac enw'r cwmni ar y 'break linings' a'r 'stair treads'. Roedd ffatri Ferodo yn enfawr, efo rhannau gwahanol a llwybr i gerdded rownd pob un ohonynt. Doedd y gweithwyr ddim yn cael mynd i mewn i lefydd arbennig oni bai eu bod nhw'n gwisgo'r dillad addas, achos roedd peiriannau yno ac roedd yn beryglus o bosib. Roedd tai bach i'r dynion ac i'r merched a roedd y rheina'n enfawr, meddai, nid fel y tai bach hen ffasiwn 'Edwardaidd' yn y ffatri corsedau. Roedd gan y gweithwyr locars eu hunain efo agoriadau, rhywbeth modern iawn. Roedd cawodydd yno ac roedd y genod yn dod â dillad glân i mewn ar ddydd Gwener, yn golchi eu gwallt yno, ac yn mynd allan i'r dafarn yn syth o'r gwaith. Roedd 'na stafell gymorth cyntaf fawr yn yr 'office block' ac roedd y cantîn tu fas i'r ffatri, un mawr, gyda dau eisteddiad. Roedd pawb yn teimlo fel teulu yno, meddai. Roedd Carol yn mwynhau gweithio yno ond gadawodd hi ar ôl ffrae efo'r rheolwr personel. Aeth hi i Ferranti i weithio ond yn fuan gadawodd y gwaith ffatri i briodi, gan ddychwelyd i waith yn ffatri Laura Ashley yn yr 1980au.Mae rhan o'r cyfweliad hwn ar gael fel ffeil sain