English
Rhestru pob cofnod yn ôl:

Casgliad o gyfweliadau a ffotograffau a gofnodwyd gan Archif Menywod Cymru yn 2013-14

Rhestru pob cofnod yn ôl:
Chwilio
Chwilio uwch

Pori'r cyfweliadau


Trefnwyd yn ôl cyfeirnod y cyfweliad

VSE011 Maisie Taylor, Horrock's, Caerdydd;Peggy Anne, Cardydd

Gweithiai mam Maisie yn Ffatri Curran’s adeg y rhyfel. Gadawodd Maisie yr ysgol yn 15 oed (1948/9) a dechreuodd yn Horrocks - gelwid yn Peggy Ann ar y pryd, yn gwneud dillad plant. Cymerodd Horrocks drosodd - yn gwneud dillad gwely a ffrogiau a.y.b. Roedd gan y cwmni ffatrïoedd eraill a cheid arwerthiannau o’u holl gynnyrch. Bu yno am 10 mlynedd. Disgrifia leoliad y ffatri. Byd gwahanol. Roedd y menywod yn gegog iawn. Aeth i siarad yn uchel oherwydd y sŵn yno. Gweithiai ar y fainc arbennig yn gwneud sawl tasg - yna ar yr 'overlocker', a daliodd ei bys yn y peiriant tyllau botymau. Roedd ei mislifoedd yn ei heffeithio - mynd i’r ystafell seibiant. Byddai hyn yn effeithio’r cynhyrchu ar y lein. Edrych ar ôl eu peiriannau. Roedd gwaith y fainc arbennig yn fwy medrus. Disgrifia’r prosesau. Yr oerfel a phlygu dros y peiriant wedi effeithio ar ei chefn. Parti Nadolig i’r plant - dewis anrhegion. Gwaith ar dasg - dal yn ôl pan oedd yn cael ei hamseru e.e. gwneud un ffrog mewn 4 munud yn werth 50c. Gwnïo ac altro dillad gartref i ychwanegu at ei hincwm. Y goruchwylwragedd ‘fel mamau’ iddynt. Torrai cerddoriaeth ar yr undonedd. Stori am weithio’n hwyr a mynd adre mewn niwl heb olau. Mynd allan yn y Barri a Chaerdydd. Sôn am Irene Spetti (enw llwyfan - Lorne Lesley yn y ffatri, priododd David Dickinson) a Rose Roberts - dwy gantores gabaret dalentog a weithiai yn Horrocks. Adrodd stori am ei goruchwylwraig (Miss Grünfeldt) yn cynnig gwneud ei gwisg briodas iddi yn y ffatri. Mae’r wisg ganddi o hyd. Gadawodd am ei bod yn feichiog (1959). Gweithiodd mewn caffes a.y.b. wedyn. Y ffatri oedd ‘amser gorau ei bywyd’.

VSW011 Augusta Davies, Cardwells, Llanbedr Pont Steffan;Slimma-Dewhirst, Llanbedr Pont Steffan

Gadawodd Augusta yr ysgol yn 16 oed (1961), bu'n glanhau a phriododd a chael plentyn, cyn dechrau yn Cardwells' yn 1965. Bu yno am 2 flynedd cyn cael plentyn arall a mynd nôl i Slimma (1976-2002). Teimlodd hiraeth ar ôl y merched. Yn Slimma pawb â thargedi ac roedden nhw'n tsiecio bob dwy awr. Dim undeb yn Cardwells' ond un yn Slimma. Erbyn y diwedd lot o fois ifanc o'r ysgol yn 'machinists' yno - tynnu'u coesau. Canu gyda'r miwsig o'r radio. Dim amser i siarad. Trafod newid o dalu arian i dalu trwy'r banc. Tripiau o'r ddwy ffatri, Parti Nadolig a chael twrci a gwin fel bonws yn Slimma. Prynu 'seconds'. Bu creche gan Slimma - ar y bws i Aberteifi (c. 1990??) Bu hi yn ffatrïoedd Llanymddyfri ac Abertawe hefyd. Gadawodd am fod 'arthritis' arni.
Augusta Davies gyda gweithwyr Cardwell's, Llambed, ar noson allan

VN012 Myfi Powell Jones, Ffatri Staes, Caernarfon

Gweithiodd Myfi yn y Ffatri Staes am bum mlynedd, a mwynhau yn fawr iawn. Roedd ei mam eisiau iddi fynd i'r coleg ond roedd yn well gan Myfi fynd i weithio, felly wnaeth hi ddim dweud wrth ei mam ei bod hi'n mynd i'r ffatri i ofyn am waith. Cychwynnodd yn y ffatri yn gwneud 'ends', sef gorffen y corsedau. Roedd hi a'i ffrind wedi dechrau'r un amser ond cawson nhw eu gwahanu gan y rheolwyr am siarad gormod. Aeth Myfi i'r ystafell bwytho ac roedd hi wrth ei bodd yno, ac yn gallu gwneud y gwaith yn gyflym iawn. Roedd hi'n teimlo'n bwysig achos roedd hi'n gweithio ac yn ennill punt ac un deg chwe swllt yr wythnos a dyna sut enillodd hi gymeradwyaeth ei mam, meddai, achos roedd hi’n gallu helpu i dalu'r rhent. Roedd cant pedwar deg pedwar yn gweithio yno yn 1956, meddai Myfi, ond aeth i lawr o dan bum deg wedyn. Roedd hi'n ffodus i gadw ei swydd gan fod llai o bobl yn gwisgo staes erbyn hynny. Newidiodd y ffatri i wneud 'bra-slips'. Aeth hi yno yn 1955 ac roedd hi yno tan iddi briodi yn 1960. Gadawodd hi'r ffatri i gael plentyn ac aeth hi ddim yn ôl, er ei bod wedi gwneud gwaith gwnïo arall, e.e., yn ffatri Laura Ashley, Caernarfon, ar ddiwedd y 1970au /y 1980au cynnar.

VSE012 Margaret Chislett, The Bag factory, Llwynypia;Polikoff's, Treorci

Gadawodd Margaret yr ysgol yn 15oed (1937) a gweithiodd fel nani am flwyddyn yn Llundain cyn ymuno â Polikoff’s yn 1938. Yno roedd yn cwblhau archeb yr Arglwyddes Churchill - cotiau mawr i fyddin Rwsia. Trwm iawn - eu gwisgo at eu pigyrnau. Hefyd gwneud iwnifform byddin Montgomery yng Ngogledd Affrica. Cyfrannai 2g at y Groes Goch a 2g at gronfa’r Arglwyddes Churchill o’i phae. Gallai weithio unrhyw le ar y lein. Roedd yn rhoi hemiau ar yr archeb Rwsiaidd. 2,500 o weithwyr yno pan yn ei fri. Daeth ENSA i’w diddanu. Bu yno am 9½ mlynedd. Prynodd ei mam sidan parasiwt i wneud peisiau a nicers. Cyfarfodydd Undeb yn erbyn gweithio ar y Sul. Gwisgai bib a bresys a throwser am y tro cyntaf. Nodwydd yn ei bys. Y radio’n canu caneuon Vera Lynn. Glanhau eu peiriannau ar brynhawn Gwener, balchder ynddynt. Adeiladwyd y ffatri ar gyfer gweithwyr o ddwyrain Llundain. Gadawodd pan yn feichiog. Doedd menywod ddim i fod i weithio ar y Sul. Byddai llinellau gwahanol yn trefnu digwyddiadau cymdeithasol. Gwyliau â thâl o 1948 ymlaen. Rhaid cyfrannu at dâl Gwyliau Banc. Ar ôl y rhyfel roedden nhw’n gwneud siwtiau de-mob. Gadawodd yn 1949. Mwynhaodd yno gan ei bod yn cwrdd â menywod gwahanol - capelwyr Bethany Gelli â’u dramâu a chlwb hoci a merched y tafarnau â’u dawnsfeydd. Yn ddiweddarach bu’n gweithio yn y ffatri fagiau - gwneud bagiau i M&S - yn eu gwnïo â pheiriannau. Yna caeodd y ffatri ar ôl tua 2 flynedd.
Mae rhan o'r cyfweliad hwn ar gael fel ffeil sain

VSW012 Melva Jones, HJ Hargreaves (Pop), Llanelli;Spitfire Factory, Castle Bromwich

Gadawodd Melva yr ysgol yn 14 oed (1938). Adeg y rhyfel aeth hi a’i chwaer i Birmingham – cael 'digs' – gwaith yn ffatri Spitfire. Gweithio oriau mawr – ‘o’r gwaith i’r gwely’. Y bomio a’r ofn. Roedd yn gwneud y 'cogs' a’r sgriwiau fwyaf – darnau o’r adenydd. Amodau gwael y 'digs –bread and dripping' a dim lle i olchi. Gofyn iddynt ganu am eu bod yn Gymry. Stopio’r peiriannau adeg y cyrchoedd awyr. Anfon eu tâl adre. Cymysgu gyda’r Albanwyr. Blwyddyn yno (tua 1940) a chafodd Melva TB. Shrapnel i lygad ei chwaer – colli’i llygad. Shifftiau nos. Bu’n Ysbyty TB Craig y nos. Yna i ffatri bop Hargreaves (c. 1943) – golchi’r poteli a phacio’r 'crates'. Mathau o bop a chreision. Ffatri fach. Melva yn canu gyda band. Gadael oherwydd ei hiechyd.

VN013 Gwlithyn Rowlands, Laura Ashley, Carno;Laura Ashley, Y Drenewydd

Pan agorodd Laura Ashley yng Ngharno, aeth Gwlithyn yno i weithio yn y swyddfa, yn gwneud y cyflogau. Yn 1964 yr oedd hynny. Gadawodd hi yn 1966 i gael ei mab ac wedyn roedd hi'n gwneud 'outwork' i Laura Ashley, tan i'w mab fynd i'r ysgol yn 1970-1, ac wedyn aeth hi i mewn i'r ffatri o 9am tan 3pm. Roedd Laura Ashley yn mynnu bod y mamau a oedd yn gweithio yn mynd â'u plant i'r ysgol a’u casglu nhw yn y pnawn. Cafodd Gwlithyn ei hyfforddi sut i wneud dillad fel ffrogiau, sgertiau, blowsys, pan ail-ddechreuodd hi yn y ffatri. Dywedodd iddi ei dysgu ei hun wrth wneud yr 'outwork', efo menig ffwrn a llieiniau sychu llestri. Mae'n disgrifio’r cyfnod y bu hi’n gwnïo yn y ffatri fel yr amser gorau erioed. Roedd nifer o aelodau'r teulu yn gweithio yno hefyd ac roedd ei brawd, Meirion, wedi codi o lawr y ffatri i fod yn gyfarwyddwr yn y cwmni. Bu'n gweithio fel peiriannydd yn Laura Ashley nes iddi gael ei ddiswyddo yn 1990, pan newidiodd y ffatri i wneud llenni. Erbyn y cyfnod hwn, roedd hi'n oruchwylwraig. Cafodd hi alwad oddi wrth y ffatri yn gofyn iddi ddod yn ôl, a dyna beth wnaeth hi, yn gyntaf yng Ngharno ac wedyn yn y Drenewydd, tan iddi ymddeol yn 2011.
Mae rhan o'r cyfweliad hwn ar gael fel ffeil sain
Darllenwch gyfieithiad Saesneg o'r clip sain hwn
Sioe Carno, Gwlithyn fel babi, c.1980Laura Ashley, 'It's a knockout' gyda Gwlithyn mewn pinc. Mab Laura Ashley, Nick,  yn y cefndir, 1970auPen-blwydd Gwlithyn yn y ffatri, 1970auLaura Ashley, 'It's a knockout' gyda Gwlithyn mewn pinc, 1970auMerched Laura Ashley, gyda Gwlithyn isod ar y chwith, 1960au

VSE013 Jacqueline Susan Jenkins, Staedtler Pencil Factory, Pontyclun

Ei mam yw cyfwelai VSE012. Gweithiodd Susan mewn ffatri bensiliau am chwe mis yn 1968, tra roedd yn aros i ddechrau ei gyrfa nyrsio. Ei job gyntaf oedd rhoi capiau gwynion ar bensiliau dyddiaduron - pothelli ar ei llaw. Cymerodd Staetdler drosodd pan oedd hi yno. Bu’n tsiecio paent ar y pensiliau ac yn rhoi min arnynt hefyd. Roedd ei chyd-weithwraig yn gwisgo cyrlers a sgarff. Achosodd hi i’r lein ddod i stop. Roedd gweithio yno’n agoriad llygad go-iawn. Cyflog cyntaf £7 a phrynodd gôt ledr. Peth harasio - dynion yn cymryd mantais o fenywod. Stori am gael toriad i gael sigarét yn y toiledau. Cwrddodd â’i gŵr yno - cemegydd diwydiannol. Gwynt cryf yn y siop baent. Chwarae cerddoriaeth a chanu - Beatles a Mary Hopkin. Rhy brysur i siarad. Aeth i ginio a dawns ym Mhorth-cawl. Rhoddodd y ffatri ‘bont i fyd gwaith i mi … profiad da ar gyfer hyfforddi’n nyrs.’

VSW013 Di-enw, Slimma-Dewhirst, Aberteifi

Gadawodd y siaradwraig yr ysgol yn 15 oed (1968) a dechreuodd yn Slimma’s. Calders oedd yno cyn hynny. Slimma’n gwneud trowseri sgïo. Ei swydd gyntaf oedd pacio, yna labelu. Teimlai’n hen ffasiwn o’i gymharu â’r merched eraill - sgerti mini, esgidiau platform, smocio a mynd i’r dafarn. Dim targedau, Dim undeb. Yna cymerodd Dewhirst drosodd (ar ôl sawl cwmni arall), roedd targedau anodd ac undebau. Cofia ferched Slimma’n smwddio’u gwalltiau! Miwsig metel trwm. Pan oedd rhywun yn disgwyl babi byddent yn gweithio o fewn wythnosau i’r geni ac yn dod yn ôl o fewn wythnosau - cadw’ch swydd yn agored. Gadawodd pan oedd yn feichiog (tua 1972) a dychwelyd tua 1980. Hollol wahanol: dysgu sgiliau newydd, tâl yn dibynnu ar gyrraedd targedau; ac iawndal am wnïo drwy fys. Noda’r system Eaton o tsiecio perfformiad - ofnadwy; twyllo; tâl goramser da; enw da/ drwg merched y ffatri; bechgyn yn 'machinists' - problemau; sut câi goruchwylwyr eu swyddi; rhegi a’r undeb a rhai’n dwyn dillad. Cafodd syndrom twnnel y carpws wrth hemio - bu’n archwilio ond dychwelodd yn beiriannydd. Clwb cymdeithasol a thripiau e.e. i Iwerddon. Cafodd ei diswyddo yn 2002.

VN014 Margaret Willams, Ffatri Staes, Caernarfon

Dechreuodd Margaret yn y Ffatri Staes yn 15 oed. Chafodd hi ddim dewis ond mynd i'r ffatri, meddai. ''Ond roedd mam wedi deud 'straight away', 'Unwaith ti'n 15, ti'n chwilio am waith.' Felly, roeddech chi'n gorfod gwneud beth oedd eich mam yn deud, felly, lawr i'r ffatri, ynte." Felly aeth hi lawr i'r ffatri corsedau efo ffrind a gofyn am waith. Roedd hi'n ennill 'papur punt, papur chweugian, hanner coron.' Os oedden nhw'n gweithio 'overtime', roedden nhw'n cael swllt ychwanegol. Roedd hi'n cael ei hyfforddi sut i wnïo yn syth, i wneud 'binding' a 'hems', roedd rhaid iddynt wnïo'n 'absolutely straight', ac roedd y defnydd i gyd wedi'i dorri yn gyntaf, 'joinio fo efo ei gilydd.' Roedd yr hyfforddi yn parhau tan roedd rhywun yn gallu handlo'r mashîn. Roedd chwaer Margaret yn ddall, ond cafodd Margaret swydd iddi yn y ffatri. Cafodd Margaret swydd fel 'supervisor' pan aeth un o'r 'supervisors', Nansi Fawr, i ffwrdd yn sal. Roedd llawer o sŵn o'r peiriannau ond mae'n deud bod y lle yn iawn i weithio ynddo. Amser cinio roedden nhw'n mynd i gael sglodion o'r siop ac achos ei bod hi'n agos i'r drws, roedd hi'n cael 'orders' gan y genod i'w nôl nhw. Roedd Margaret yn y ffatri staes am chwe mlynedd yn y lle cyntaf, ac am chwe mis bedair blynedd ar ôl priodi. Roedd hi gartref gyda'r plant ac wedyn ar ôl iddynt fynd i'r ysgol yn gwneud swyddi a oedd yn gweithio o’u cwmpas nhw, e.e. yn glanhau tai pobl, mewn ysgol, y 'cottage hosptial', ac wedyn fel cymorth cartref, ac yn y diwedd, roedd hi'n gweithio efo pobl anabl.

VSW014 Gwen Evans, Morris Motors, Llanelli

Gadawodd Gwen yr ysgol yn 14 oed (1936) a bu’n gweithio ar fferm ac yna’n glanhau. Adeg y rhyfel cafodd waith yn Morris Motors - roedd yn rhaid i bob ffatri gyflogi un gweithiwr anabl am bob 100 abl. Roedd gwendid ar ei braich hi. Cyflog da (tua 1940) - arian poced ohono. Roedd y gwaith ar y gwresogyddion ceir ac awyrennau yn drwm. Gan fod labrwr yn gorfod ei helpu hi roedd yn cael llai o arian na’r lleill. Ffỳs pan ddaeth yr undeb yno- talu grôt ond yn anhysbys. Cofia’r merched yn prynu nwyddau o gatalogau. Gwrthododd symud i waith caletach - dangosodd ei cherdyn anabledd. Cleisiau o handlo’r blocs gwresogyddion. Ffatri swnllyd - effaith ar y clyw. Lot o jocan a chanu. Mynd ar wyliau gyda’r merched, hwyl y Nadolig. Adeg y rhyfel sêr byd adloniant yn ymweld. Priododd hi (1953) - cloc yn anrheg. Gorffennodd tua 1981.

Administration