English
Rhestru pob cofnod yn ôl:

Casgliad o gyfweliadau a ffotograffau a gofnodwyd gan Archif Menywod Cymru yn 2013-14

Rhestru pob cofnod yn ôl:
Chwilio
Chwilio uwch

Pori'r cyfweliadau


Trefnwyd yn ôl cyfeirnod y cyfweliad

VN008 Mary Evans, Compactau James Kaylor, Caernarfon

Dechreudd Mary yn Kaylors yn 16 oed, ac roedd hi'n hoffi'r gwaith a'r cwmni. Ei gwaith hi oedd rhoi sglein ar y compactau ar ôl iddynt gael eu dipio mewn asid, a rhoi'r 'gems' ynddyn. Hefyd roedd hi'n gwneud y tiwb sy'n gwthio'r 'lipstick' i fyny. Roedden nhw'n cael y 'rejects' am ddim. Gwnaeth gwaith ffatri agor ei llygaid hefyd: “On i'n wrth fy modd yna. Odd pawb mwy at ei gilydd, odd ‘na genod 'rough and ready' ond on i'n licio nhw, on i'n rîli licio nhw. On i'n cael gwrando ar eu hanesion nhw, pethau on i ddim yn cael clywed adre, Arglwydd!” Ond roedd y pres yn wael - "dwy bunt a rhywbeth oedd o" - a gadawodd hi i fynd i Waterworth's. Cwrddodd hi â'i gŵr yn Waterworth's a gadawodd yn 1961 i gael plentyn ond dychwelodd flwyddyn yn ddiweddarach ac arhosodd yno tan 1962, pan wnaeth hi roi'r gorau i'r gwaith ffatri a mynd i weithio mewn swyddfa er mwyn ennill mwy o arian.

VSE008 Yvonne Morris, Miles Laboratories, Penybont;Addis, Abertawe

Gadawodd Yvonne yr ysgol yn 16 oed (1962) a gweithiodd fel teipydd llaw-fer - 'bored'. Cyn hir aeth i ffatri Addis (1963). Daeth ei chydweithwyr yn deulu dirprwyol iddi - anhapus gartre. Dechreuodd yn pacio’r nwyddau ar lein. Symudodd i weithio ar y peiriannau - yna i hyfforddi. Roedd y peiriannau yn tocio’r brwshys a gludo’r blew. Rhy boeth / rhy oer. Casáu ymweliadau’r person amser a symud. Ymunodd ag undeb y TGWU - anghydfodau am amodau nid tâl. Mislifoedd poenus a gorfod sefyll drwy’r dydd. Siarad â’i gilydd yn eu cadw’n gall. Roedd ysmygu’n broblem enfawr - ffag sydyn yn y toiledau. Nadolig- mynd i glwb gyda’i gilydd. Gadael i weithio gyda gwneuthurwr hetiau ac yna i’r fyddin. Dychwelyd i Addis am tua 2 flynedd - wnaeth hi ddim dangos ei bod yn hoyw yn y ffatri - ystyrid hynny’n ffiaidd. Pan symudodd at ei phartner aeth i weithio i Miles Laboratories (1972-4) yn potelu moddion ar lein. Dim amser i siarad. Cyfleusterau gwych yno. Roedd ffatrïoedd yn rhoi synnwyr o’u hunain fel unigolion i fenywod. Dysgu bod yn ffyddlon a gofalus. Mantais- prynu 'seconds' ond cael eu harchwilio ar fympwy.

VSW008 Sally Cybluski, Parsons Pickles, Porth Tywyn;Yr Optical, Cydweli

Gadawodd Sally yr ysgol yn 1935 yn 14 oed. Pan oedd yn ddeunaw cafodd ei galw i fyny a gweithiodd ar fferm - gwerthu llaeth yng Nghaerfyrddin. Syrthiodd a thorri ei chefn. Yna bu mewn siop wlân. Sôn am ei gŵr - carcharor gyda’r Almaenwyr - ac yna draw i Gymru. Priododd yn 1946. Bu yn y ffatri gocos - lle ofnadwy. Pacio cregyn gleision yr oedd hi. Gwelodd ddarn o bapur gan Parsons yn dweud bod merched y ffatri i gyd yn ddiog. Cwynodd hi a chafodd y sac. Bu’n gweithio gyda 'cleaners' am 10 mlynedd. Yna i’r Optical lle'r oedd ei gŵr yn gweithio. Gwneud lensys - disgrifia’r broses. Yr oerfel - y lensys mewn oergell enfawr. Gorfod gwneud 11 troli'r dydd. Roedd yn waith trwm - ei hysgwyddau a’i choesau wedi’u heffeithio. Sŵn rhyfedda yna - mae hi’n fyddar nawr. Roedden nhw’n gorfod prynu Swarfega i lanhau’u dwylo o’r gwaith - stori Eidalwr yn ei ddwyn. Hanes Wadic, ei gŵr, yn dost.

VN009 Beti Davies, Ffatri wlan, Glyn Ceiriog

Gweithiodd Beti yn Ffatri Wlân Glyn Ceiriog yn syth ar ôl gadael yr ysgol, yn 14 oed. Roedd hefyd yn cadw tŷ i'w thad, ar ôl i'w mam farw. Ar ôl dechrau ar y 'bobbins', aeth ymlaen i weithio ar ddefnydd ar gyfer cotiau smart iawn, o safon uchel, a oedd mewn ffasiwn ar y pryd. Cafodd hi gyfle i brynu un: “Camel oedd un, a fel rhyw 'duck egg blue', o liw neis, a gaethon ni gynnig prynu côt am bum punt. Roedden nhw'n cadw pum swllt yr wythnos o'n cyflog ni nes on ni wedi talu'r pum punt. A mi ddedodd rhywun wrtha i bod y cotiau 'na yn werth pum punt ar hugain yn y siopau.” Roedd ei chwaer, Marion, yn gweithio yno hefyd. Gadawodd Beti flwyddyn cyn i'r ffatri gau yn 1951 ac aeth hi i weithio i'r Comisiwn Coedwigaeth. Priododd hi a chael mab ryw bedair blynedd ar ôl hynny a wnaeth hi ddim dychwelyd i'r gwaith. Roedd hi'n edrych ar ôl ei thad tan iddo farw. Aeth hi i lanhau mewn ysgol yn rhan amser am dipyn.
Beti gyda'i chwaer Marion a'u cyfnither yn Neganwy, yn gwisgo'r cotiau gwlan £5, 1950au

VSE009 Sheila Hughes, British Nylon Spinners, Pontypŵl

Gadawodd Sheila yr ysgol ramadeg yn 16 oed (1953) a dechrau yn British Nylon Spinners (Courtaulds) - 4000-5000 yn gweithio yno. Ffatri newydd (1947-) ac yn datblygu. Dechreuodd yn y labordy brofi ffisegol. Swnllyd iawn - darllen gwefusau. Disgrifia’r prosesau. Yn y labordy byddai’n mynd o gwmpas y ffatri gyda ‘Albert’, peiriant i brofi tymheredd a lleithder. Hefyd yn gwau paneli i brofi’r lliwurau. Hefyd profi faint o gordeddu yn y neilon a’i gryfder. Chwilio am feiau - slybiau. Felly roedd yn ganolfan reoli i tsiecio bod y peiriannau yn gweithio’n iawn. Roedd y ffatri yn cynhyrchu deunydd crai nid y cynnyrch gorffenedig. Doedden nhw ddim yn hoffi menywod yn gweithio shifft nos. Galw’r dynion yn y labordy yn ‘y merched’! Llif cyson o fysys. Hyfforddiant trwy osmosis. Yn raddol gweithiodd ei hun i fyny yn bennaeth adran. Gweithio yn yr adran datblygu tecstilau - yn profi dillad hyd at eu dinistrio - 'bri-nylon'. Anfonwyd cynorthwywyr labordy i ffatri Doncaster - cafodd yr hofrennydd ddamwain ddifrifol. Cynnal arddangosfa i hybu’r ffatri. Enillion - dau bâr o sanau neilon y flwyddyn. Perygl - aeth gwallt un ferch i’r peiriant. Caniatáu 10 munud yn y toiled i dwtio’ch hun. Graddau o gantinau. Roedd hi’n aelod o staff. Un bywyd cymdeithasol hir: tŷ clwb, dawnsfa; lle saethu; jiwdo; cyngherddau gyda bandiau mawr a ffilmiau, partïon. Y Frenhines yn ymweld. Byth yn 'bored' - canu. Gadawodd pan yn feichiog - 1967. ICI bellach yn rhedeg y lle - ddim yr un fath. Yn ddiweddarach bu’n ymchwilydd marchnad - 23 mlynedd. Roedd mewn ffilm hyfforddi yn y 1960au. Cylchlythyr y cwmni - 'The Signpost'.
Mae rhan o'r cyfweliad hwn ar gael fel ffeil sain

VSW009 Helena Gregson, Slimma-Dewhirst, Llanbedr Pont Steffan

Gadawodd Helena yr ysgol yn 15oed yn 1970. Wedi arfer gwnïo i’r teulu. Aeth yn syth I Slimma ac aros 32 mlynedd (2002). Cafodd ‘machine test’. £10 yr wythnos. Cofio sŵn y peiriannau, 'piecework', targedi a ‘tickets’; I M&S yr oedd y dillad yn mynd. Ysgol dda - hi’n hyblyg fel ‘floater’. Dim amser i gloncan. Clwb Cymdeithasol yno. Gadawodd i gael ei phlentyn cyntaf (1982) a nôl rhan amser. Dysgu bod yn oruchwylwraig yn Llundain. Bu’n ‘shop steward’ hefyd. Rhai’n gwisgo rolyrs i'r gwaith. Damweiniau gyda nodwyddau. Gwallt merch yn mynd mewn i’r peiriant. Dyfalu enwau caneuon ar y radio - 'Golden Oldies.' Chwarae triciau amser priodi. Bonws o dwrci a siampên at y Nadolig. Prynu ‘seconds’. Menywod yn chwarae pêl-droed. Roedd Slimma Queen. Wedi gadael sefydlodd ei busnes gwnïo ei hun. Symudodd y ffatri i Morocco. Tristwch mawr.
Mae rhan o'r cyfweliad hwn ar gael fel ffeil sain
Darllenwch gyfieithiad Saesneg o'r clip sain hwn

VN010 Marion Davies, Ffatri wlan, Glyn Ceiriog;Ffatri frics, Newbridge

Gweithiodd Marion yn Ffatri Wlân Glyn Ceiriog yn syth ar ôl gadael yr ysgol, yn 14 oed, fel ei chwaer Beti. Roedd hi ar y 'bobbins' drwy'r amser. Gadawodd hi ar ôl i'r ffatri gau yn 1952, ac aeth i weithio mewn ffatri gwneud brics yn Newbridge, ger y Waun. Roedd y gwaith yn drwm iawn, yn gosod y clai ac yn troi olwyn i'w wasgu. Roedd merched a dynion yn gweithio yno, dynion gan amlaf oedd yn gweithio yn y 'kilns' a'r merched, gyda rhai bechgyn, yn gwneud y gwaith gwasgu a throi'r olwyn. Roedd mwy o bobl yn gweithio yno nag yn y ffatri wlân ac roedd y cyflog yn well hefyd, dydy hi ddim yn cofio faint oedd ei chyflog hi. O ran cyfleusterau, roedd gan y ffatri frics ryw fath o gantîn, gyda dynes yn gwneud paned o de i'r gweithwyr, ac roedden nhw'n dod â’u bwyd eu hunain neu’n talu am ginio yno. Roedd y gwaith yn eithaf peryglus, roedd perygl colli bys os oeddech yn rhy araf gyda'r 'presses', wrth roi'r clai i mewn a throi'r olwyn. Roedd hyn wedi digwydd i un neu ddwy, meddai, ond nid iddi hi. Gadawodd hi waith ffatri toc wedyn ac aeth i weithio yn Boots Chemist tan iddi ymddeol.

VSE010 Brenda Mary Farr, Thorn Electrics, Henffordd;Ffatri Gynau Tŷ, Blaenafon;Ffatri Deganau HG Stone, Pontypŵl

Gadawodd Mary yr ysgol yn 15 oed (1956). Doedd hi ddim eisiau gweithio mewn ffatri ond mewn swyddfa. Ond cafodd ei hun yn ffatri HG Stone yn gwneud teganau meddal - tedis a phandas a.y.b. Gweithiai ar y lein fel 'machinist'. Gwaith ar dasg. Roedd yn enfawr, swnllyd a llychlyd. Stwffio â gwellt a ffloc. Y person amser a symud yn prisio'r amser ar bob tegan. 'Worker’s Playtime' ar y radio. Gorffennodd yno yn 1964. Roedd y menywod yn cynhyrchu tedis yn cael mwy na’r lleill - swydd arbenigol. Chafodd hi mo’i dyrchafu am ei bod yn siarad gormod. Roedden nhw’n gwneud doliau hefyd - cyrff plastig a gwnïo’u gwalltiau. Hefyd cŵn ar olwynion. Nodwyddau trwy fysedd. Gwaith y dynion - ar y plastig a’r peiriannau. Dawnsfeydd Nadolig a bandiau byw.Ar ôl 8 mlynedd yn HG Stone treuliodd 6 wythnos yn y ffatri gwneud gynau tŷ ym Mlaenafon. Ni allai ddioddef gwynt y defnydd pabwyrgotwm. Pan briododd symudodd i swydd Henffordd a gweithiodd yn Thorn Electrics yn gwneud lampau stryd. Roedd llawer o deuluoedd yn gweithio yn ffatri HG Stone (Chad Valley yn ddiweddarach).
Mae rhan o'r cyfweliad hwn ar gael fel ffeil sain

VSW010 Phyllis Eldrige & Olga Thomas, Cardwells, Llanbedr Pont Steffan;Cardwells, Machynlleth

Gadawodd Phyllis yr ysgol yn 16 (c.1959) ac arhosodd gartre ar y fferm am 3 blynedd cyn gweld hysbyseb yn y papur am 'machinist' yn Cardwells' .Bws yn mynd â nhw i Fachynlleth. Lodgins yno. Gadawodd Olga yn 15 oed (1959), bu mewn ffatri pacio wyau yna i Cardwells' Machynlleth. Teithio ar y trên hefyd. £4 yr wythnos + lodgins + teithio. Yno am flwyddyn yn aros i ffatri Llambed gael ei gorffen. Ffatri Llambed ar gau am wythnosau yn 1963 achos yr eira - dim tal. Merched o'r pentrefi o gwmpas. Ffrogiau menywod roedden nhw'n eu gwneud fwyaf. Dim cofio undeb - 'grin and bear it'. Cael yr 'off-cuts'. Nodwydd trwy'r bys. Gwaith 'skilled' V smwddio. Cymraeg oedd yr iaith fwya. Gadael pan oedden nhw'n disgwyl babi. Phyllis wedi prynu peiriant a gwnïo gartre. Boddhad o weld dilledyn roedden nhw wedi'i wneud am rywun.

VN011 Marian Roberts, Cookes Explosives, Penrhyndeudraeth

Gweithiodd Marian yn gyntaf fel nyrs blant ar ôl gadael yr ysgol, ac yna dychwelodd i Benrhyndeudraeth. Gofynnodd ei thad, a oedd eisoes yn gweithio yn y ffatri bowdwr, i'r rheolwr a oedd swydd i'w ferch. Bu'n gweithio yn y ffreutur, yn gweini a glanhau am bedair blynedd, ac mae'n cofio'n dda y ffrwydriad mawr yn 1957: “On i wrth y crwc, a dyma 'na glec, a dyma'r crwc, a'r gadair 'ma, yn llithran ar hyd y cantîn fel 'na, a dim dropyn o ddŵr yn disgyn ohoni. A dyma ni i gyd yn rhedeg am y ffenestr, a Mrs Williams yn gweiddi, 'Peidiwch â mynd i'r ffenestr, mae peryg gwydrau.' Cafodd pedwar eu lladd y diwrnod hwnnw, yn y cwt 'na. Roedd o'n lle peryglus, ond doeddech chi ddim yn meddwl am hynny pan oeddech chi yno.” Mae hefyd yn cofio'r adeg roedden nhw'n ffilmio 'Inn of the Sixth Happiness' a llithrodd hi a ffrind allan o'r gwaith i gael llofnod Ingrid Bergman! Priododd hi ddyn a oedd yn gweithio yno hefyd a gadawodd hi i gael ei phlentyn cyntaf, yn 1959. Ddychwelodd hi ddim i'r ffatri ond dywedodd hi mai ei hamser yn Cookes oedd yr hapusaf yn ei bywyd gwaith.
Marian gyda gweithwyr y ffatri bowdwr. Mae ei gŵr hefyd yn y llun, ar y dde, 1950s

Administration