Pori'r cyfweliadau
Trefnwyd yn ôl cyfeirnod y cyfweliad
VSE074 Tryphena Jones, Ffatri Sigarau JR Freeman, Port Talbot;Ffatri Sigarau JR Freeman, Caerdydd
Gadawodd Tryphena yr ysgol yn 16oed (1966) a dechrau yn Freeman’s. Cafodd gyfweliad a phrawf IQ. Roedd yn yr adran gwneud sigarau a rhaid oedd cael hyn a hyn o doriadau o un ddeilen. Gwisgai rhai merched rholyrs a rhwydi gwallt. Stopiodd hyn ar ôl 2 flynedd. Disgrifia ddiwrnod gwaith. Canu a sgwrsio. Targedau. Disgrifia sut i wneud sigâr - gweithio mewn parau ar yr un cyflymder. Eglura’r gwaith yn yr ystafell stripio. Hefyd rheoli ansawdd - os oedd 5 diffygiol roeddech mewn trwbl. Eglura sut y gweithient eu targedau. Swydd yn talu’n dda. Gweithiai am yr arian. Roedd hi’n anodd i fenywod gael dyrchafiad - newidiodd hyn. Dysgodd i drwsio ei pheiriant ei hun a theimlai ei bod yn annheg bod peirianwyr yn cael mwy o dâl na’r menywod. Y person amser a symud - disgrifia sut y byddent yn ymddwyn pan oedd e’n gwylio. Tri rhybudd am fethu targedau ac allan â chi. Peryglon - collodd y ferch nesaf ati 2 fys. Ddechreuodd yr undeb ddim am 2 flynedd - problemau gyda sŵn a gwres. Trafoda harasio. Roedd hi’n cymryd rhan mewn chwaraeon ac yn cael diwrnodau i ffwrdd yn ddi-dâl. Dywed stori am ei chyfweliad teledu. Digwyddiadau cymdeithasol: 'It’s a knockout', sgitls a dawnsfeydd a.y.y.b. Miss Manikin - peth cenfigen ac eraill yn gwrthwynebu. Mae’r sŵn wedi effeithio ar glyw y gweithwyr. Newidiadau oherwydd mecaneiddio. Edrych ar eich ôl os yn sâl. Pedwar cantîn a bwyd gwahanol. Bu’n ffatri Port Talbot am 3 blynedd hefyd; 12 mlynedd yng Nghaerdydd. Llwyddodd i basio profion mewn gymnasteg tra yno. Bu’n addysg dda.VSE075 Era Francis, Smith's Crisps, Abertawe
Gadawodd Era yr ysgol yn 15oed (1948) ac ar ôl gweithio mewn londri, dechreuodd yn ffatri Smiths yn 1951/2. Disgrifia adrannau’r ffatri a sut y gweithiai popeth yn ôl chwibanau. Gwisgai sgarff dros ei gwallt. Ei gwaith hi oedd pacio’r bagiau creision. Roedd yn rhaid cael caniatâd i adael y peiriant. Pan oedd yn pigo’r creision â llaw âi’r bysedd yn dost am fod y creision yn finiog. Defnyddiai Nu-skin ar y briwiau. Gweithiodd yno am 5-6 mlynedd. Gwynt creision Smiths. Roedd y rhai fyny grisiau yn y gegin yn gorfod gwisgo clocs am fod y llawr yn llithrig gan olew. Byddent yn glanhau peiriannau eu hadran bob nos. Cylchdroi gwaith yn yr adran. Bagiau o halen a’r ystafell halen. Radio a chanu. Mantais prynu creision yn rhatach. Defnyddient lud i lynu’r pecynnau creision. Targedau a chael bonysau. Roedd rhai yn rhegi yn ofnadwy yno - roedd arni eu hofn. Pan briododd hi cafodd bythefnos i ffwrdd â thâl. Sonia am theatr yr Empire. Roedd yn rhaid iddi roi ei chyflog i’w mam tan ei bod yn 21 - dyna’r rheol. Gadawodd pan briododd (1956) - roedd y teithio yn dreth. Llawer o wthio i fynd ar y bws. Yn ddiweddarach gweithiodd yn Woolworth’s am 20 mlynedd.VSE076 Christine Evans, Sobells, Rhigos
Gadawodd Christine yr ysgol yn 15oed (1964) a dechrau yn Sobell’s lle'r oedd ei thad yn gweithio. Roedd y ffatri yn llewyrchus. Dechreuodd yn sodro a weirio. Doedd y job ddim yn anodd ond roedd ei gwneud yn gyflym yn her. Symudodd i wneud radios transistor - yn browd iawn pan brynodd un ei hun. Deuai bysiau â gweithwyr i’r stad ddiwydiannol. Gwnaeth jobs gwahanol e.e. rhoi cydrannau i mewn. Disgrifia’r prosesau. Yn yr 60au hwyr gweithiai ar deledu lliw. Peryglon - mae creithiau ganddi ar ei bawd (gwydr) a’i choesau o losg sodro am ei bod yn gwisgo sgert fini. Rhoddodd Sobell’s dorrwr a gefail iddi. Roedd hi’n gyffrous yn gweithio ar deledu lliw. Hitachi oedd yn rhedeg y ffatri pan adawodd hi am ei bod yn feichiog yn 1980. Undebaeth a lot o streiciau am gyflogau. Wythnosau tri diwrnod. Dywed sut y cafodd ei rhoi ar beiriant peryglus yn 15 oed - dim gard arno. Peth bwlian - ei symud i linell arall. Cerddoriaeth, recordiau a chanu. Cystadleuaeth Miss GEC yn y Top Rank, Abertawe. Ddiwrnod cyn Nadolig - stopio gwaith, bwyta siocled ac yfed. Yn ddiweddarach gwnaeth CGC mewn arlwyo.VSE077 Jeanette Groves, Western Shirt Company, Caerdydd
Gadawodd Jeanette yr ysgol yn 14oed (1946) a dechrau yn y ffatri wnïo, lle’r arferai ei mam weithio. Dechreuodd yn yr ystafell dorri ac yna aeth yn 'machinist'. Nodwyddau trwy fysedd, y siswrn i’w llygad a chollodd un fenyw ei gwallt (yng nghyfnod ei mam). Teithio i’r gwaith ar y bws neu’r beic. Gwisgo rolyrs i’r gwaith ond yna gwisgo colur a chribo’r gwallt yn ystod toriad y bore. Gwnâi rhai eu dillad eu hunain yn ystod yr amser cinio. Roedd yn rhaid datod unrhyw gamgymeriad a byddent yn helpu ei gilydd rhag colli arian. Ei nod hi oedd: dwsin o grysau mewn awr @ swllt y dwsin. Allan o gwmpas Caerdydd yn ystod amser cinio. Ai tyrfa ohonynt allan gyda’r nos - yn dawnsio. Rhaid aros nes bod golau naturiol cyn gwnïo defnyddiau tywyll. Dim ond crysau a phyjamas yr oeddent yn eu cynhyrchu. Pryfocio'r un peiriannwr trwy ymyrryd â’u peiriannau. Tripiau blynyddol a chael sigarennau. Gadawodd ar ôl 3 blynedd am fod tiwbercwlosis arni. Priododd a symud i Fryste lle cafodd ei gwella ymhen amser.VSE078 Margaret Duggan, Ffatri Sigarau JR Freeman, Caerdydd
Cafodd Margaret ei geni yn Iwerddon a gadawodd yr ysgol yn 17oed(1964) ar ôl gwneud cwrs mewn coleg technegol. Gweithiodd fel cogydd i ddechrau. Rhwng 1966 ac 1970 gweithiodd i General Electric (EI) ac yna priododd a symud i Gymru. Dechreuodd yn Freeman’s. Disgrifia wneud y sigarau. Daliodd ei llaw mewn peiriant - 8 pwyth. Cafodd iawndal trwy’r undeb. Newidiodd ei swydd - yn pwyso a tsiecio’r sigarau. Targedau - e.e. faint y gellid eu cael allan o un ddeilen. Gallai hi gerdded o gwmpas a siarad. Câi dâl penodol. Gwynt cryf y baco, gwellodd yr amodau a chawsant fwgwd i’w wisgo. Niwl mân i gadw’r baco’n llaith. Talu treth ar sigarau, roedd hi’n gwneud yr awdit terfynol. Gadawodd yn 2002 yn 55oed. Cafodd wats am 30 mlynedd o wasanaeth. Tâl da bonysau bob Nadolig a Phasg. Gwyliau ychwanegol yn dibynnu ar hyd y gyflogaeth. 'Undeb y Tobacco Worker’s Union' - anghydfod am orffen gweithio am 1.30 ar ddydd Gwener - enillodd yr undeb. Cafodd dâl diswyddo. Ar y dechrau marchnad y gweithwyr oedd hi. Cylchlythyr - 'Smoke Signals.' Manteision - sigarau a sigarennau am ddim bob mis. Clybiau cymdeithasol e.e. golff a badminton. Talodd y cwmni iddi wneud cwrs cyfrifiaduron. Cinio a raffl Nadolig. Lle teuluol.VSE079 Madeline Sedgwick, Slumberland, Caerdydd;Spillers and Bakers, Caerdydd;Lionites Spectacles Cases, Caerdydd;Currans, Caerdydd
Gadawodd Madeline yr ysgol yn 14oed (1943). Sonia am gysgodi dan Gastell Caerdydd yn ystod cyrchoedd awyr ac am y peryglon. Gweithiodd fel triniwr gwallt cyn dechrau yn Curran’s yn 1948. Roedd ganddynt enw am fod yn hiliol. Dywed am ei phrofiad gyda Littlewood’s. Gweithiai yn enamlo, yn gwneud potiau piso (eu dolenni) a mygiau. Sonia am y gwahanol ardaloedd yng Nghaerdydd. Prynai ddillad, sbarion pysgod ac âi i ddawnsfeydd gyda’i harian poced. Dim ond am dri mis y bu hi yno ac aeth i Spillers, ar y blawd a’r bisgedi cŵn. Prynon nhw beiriant mawr a newid i weithio shifftiau. Llygod mawr. Ffatri fach. Câi’r grawn ei ddadlwytho o longau i lawr y grisiau. Gwisgent dwrbanau. Roedd yn hoffi’r peiriannau gwnïo. Canu a sgwrsio. Gadawodd oherwydd y gwaith shifft a symudodd i ffatri Slumberland - roedd yn llychlyd yno. Disgrifia ymweliad â Llundain. Disgrifia ei gwaith yno a dywed bod gweithwyr y cwmni yn Paisley (Birmingham) yn cael mwy o gyflog na nhw. Yn y gaeaf byddai’i bysedd yn gwaedu oherwydd y ffibrau a’r oerfel. Bwriodd ei choes a gadawodd. Yna aeth i Fletcher's, ond yn y swyddfa - gwisgo’n smart, ateb y ffôn ac anfonebu. Dywed y stori am herio bos Slumberland am weithio tan 6 ar nos Wener.Mae rhan o'r cyfweliad hwn ar gael fel ffeil sain