English
Rhestru pob cofnod yn ôl:

Casgliad o gyfweliadau a ffotograffau a gofnodwyd gan Archif Menywod Cymru yn 2013-14

Rhestru pob cofnod yn ôl:
Chwilio
Chwilio uwch

Pori'r cyfweliadau


Trefnwyd yn ôl cyfeirnod y cyfweliad

VSW066 Enid Thomas, Fisher & Ludlow, Llanelli

Gadawodd Enid yr ysgol ramadeg yn 17 oed (1954) ac aeth i hyfforddi’n nyrsio. Aeth i weithio yn un o nyrsys Fisher a Ludlow yn 1980. Mân anafiadau fel cytiau neu bethau yn mynd i’r llygaid oedd yno’n bennaf. Doctor yn galw unwaith yr wythnos i asesu a oedd gweithwyr yn ffit i ddychwelyd i’r gwaith. Roedd ganddi ystafell fawr ac ystafelloedd bach ohoni. Gwisgai iwnifform chwaer mewn ysbyty. Gweithiai o 6-10 o’r gloch gyda’r nos. Nyrs gwrywaidd yn gweithio’r shifft nos. Anafiadau eraill: llosgi, troi pigwrn, anafu arddwrn wrth godi llwyth rhy drwm. Os angen pwythau - i’r ysbyty. Bu yno tua12 mlynedd. Ffeil ar gyfer pob gweithiwr. Nabod y 'shirkers' ond rhai o’r 'foremen' yn disgwyl gormod yn enwedig gan y menywod.

VSE067 Christine Chapman, Roller Blind Factory, Llwynypia;Gainsborough Flowers, Porth

Gweithiai mam Christine mewn ffatrïoedd e.g. Flex Fasteners a byddai’n ffeindio jobs gwyliau rhan amser iddi. Gweithiai yn Ffatri Gainsborough Flowers pan oedd yn y chweched dosbarth, yn gwneud blodau artiffisial ar beiriannau hen ffasiwn. Byddai’n defnyddio cannwyll hyd yn oed! Pan oedd hi yn y brifysgol gweithiodd mewn ffatri gwneud llenni rholer. Teimlai fod rhai menywod yn gas - yn chwarae triciau arnyn nhw. Daeth yn effeithlon iawn wrth ei gwaith yn y ffatri rholeri a gofynnodd person yr undeb iddi arafu. Roedd math o fwlian yno. Byddai’r bosys yn siarad i lawr â’r menywod. Gweithiai hi ar y 'presses'. Roedd yn rhaid cael caniatâd i fynd i’r toiled. Gweithiai yn y ffatri flodau tua1973-4. Byddai’r radio ymlaen a thynnu coes drwy’r amser. Arferai hi freuddwydio a chynllunio ymlaen. Sonia am y straeon amheus ac mae’n dweud un. Sonia am beth harasio. Dim ond pasio drwy’r ffatri yr oedd hi. Dysgodd lawer am fygythiadau hefyd - bu hynny o fudd iddi fel gwleidydd. Roedd sut y câi’r menywod eu trin gan y rheolwyr yn wers ffeministaidd gynnar. Roedd hi wedi bod yn y byd real. Mae’n sôn am ei gyrfa fel gwleidydd Llafur.

VSW067 Mirandy (Mandy) Jones, Davies Steel, Doc Penfro;Pembroke Woollen Company, Doc Penfro

Gadawodd Mandy yr ysgol yn 15 oed (1969) a dechreuodd yn y ffatri wlân yn fuan wedyn. Roedd ystafell y gwyddiau yn swnllyd ond symudodd i’r ystafell gyweirio. Roedd tua 100 yn gweithio yno - fel teulu. Roedd yn rhaid tynnu 'bobbles' o’r defnydd. Arhosodd yno 6 mis - roedd y sŵn yn rhy gyson. Roedd y defnydd cras yn gwneud ei bysedd yn dost. Symudodd i Davies Steel am well cyflog - £15, sef cyflog dyn. Roedd yn golchi llafnau esgidiau rolio ag olew ac yn pwnsho enw’r cwmni arnynt. Gallent brynu esgidiau rolio am bris gostyngol. Roedd menywod smart iawn yno. Cemegau fel cyanid yn y ffatri. Byddent yn cyd-ganu weithiau. Anfonid bachgen newydd i nôl 'sky hook'. Byddent yn galw gweithwyr hŷn yn Mr a Mrs. Caeodd y ffatri ar ôl blwyddyn. Roedd rhaid bod yn gryf i weithio yno. Dysgodd sgiliau cymdeithasol ac ymarferol yno.

VSE068 Di-enw, Louis Edwards, Maesteg;Esgidiau George Webb, Penybont

Gadawodd y siaradwraig yr ysgol yn 15oed (1964) a dechrau yn Ffatri Louis Edwards, yn gwneud dillad menywod. Mae hi’n ddislecsig ond gallai basio unrhyw brawf ar beiriant gwnïo. Roedd yn gwneud coleri a chyffiau. Roedd yn ennill dwywaith cyflog ei gŵr yn y lofa. Gadawodd pan gafodd ei babi cyntaf. Dychwelodd i Louis Edwards ond yna aeth i weithio yn y ffatri esgidiau. Roedd yn casáu yno - gwnïo gwahanol iawn. Yna bu’n nyrsio am 10 mlynedd. Mae’n sôn am gerdded allan o’r ffatri ac eistedd ar y ffordd. Bydden nhw’n casglu ar gyfer pen-blwyddi a babanod newydd. Prynu ffrogiau diffygiol am £1. Gwaith ar dasg. Gwneud ffrogiau tebyg ar gyfer tripiau blynyddol. Helpu eraill i orffen eu gwaith ac ennill dwywaith y pae am hynny. Os byddech yn gwneud camgymeriad byddech yn dod i mewn yn gynnar i’w gywiro. Prynu losin ar brynhawn Gwener - dim gwaith. Arhosodd yn ffatri George Webb am chwe wythnos. Rhwng cael y plant bu’n gweithio yn ffatrïoedd Revlon a (Silent) Channel. Nodwyddau trwy fysedd - dim gwaith dim tâl.

VSW068 Mair Williams, Anglo-Celtic Watch Co. (Ffatri 'Tic Toc'), Ystradgynlais

Lluniau o Anglo Celtic Watch Co. (Ffatri 'Tic Toc'), 1950au
Mair Jones (Williams), Netta Thomas & Ann Gosling, Ffatri 'Tic Toc', 1955Sally Evans, Eileen Evans, Netta Thomas & Pat (?) Ffatri 'Tic Toc', 1955Gweithwyr Anglo Celtic Watch Co. ('Tic Toc') amser  Nadolig 1954

VSE069 Kath Mathias, AB Metals, Abercynon;Kayser Bondor, Merthyr;Pentrebach polish factory, Merthyr

Gadawodd Kathleen yr ysgol yn 15oed (1955) a dechrau yn y swyddfa yn y ffatri gwneud polish - bu yno 9 mis. Roedd yn dywyll a diflas felly symudodd i ffatri Kayser Bondor. Gweithiai yn y swyddfa 'ticketograph' - telid y cyflogau yn ôl y tocynnau a gesglid. Yna aeth ar gwrs comptomedr a symud i’r adran gyflogau. Eglura’r comptomedr. Talodd y cwmni am y cwrs. Symudodd y ffatri i Ddowlais. Bws am ddim adre. Daeth yn oruchwylwraig (1960). Tan ei bod yn 18 oed cymerai ei mam ei holl bae (arian poced yn unig) ond yna aeth ar fwyd a llety. Mynd i ddawnsio. Gadawodd am Lundain (chwe mis) ond dychwelodd i Ffatri AB Metals, ac yna i Kayser Bondor (adran gyfrifon) eto ac yna cafodd fabi. Os oeddech chi’n gyflym ac yn gywir gallech ennill llawer o arian yn KB. Stori am ei modryb a’i dallineb ac yn prynu tafarn gyda’r arian enillodd hi. Roedd y rhai ar lawr y ffatri’n ennill mwy na merched y swyddfa. Enillai’r dynion fwy na’r merched. Fel goruchwylwraig byddai’n archebu’r arian cyflog - e.e. hyn o hyn o bapurau £1. Gweithien nhw’r system Kalamazoo. Trafferth am oferôls staff y swyddfa. Gweithio blwyddyn cyn bod hawl i gael tâl gwyliau. Noda lle bu ar wyliau - o Blackpool i’r Eidal. Dawns Nadolig yn Neuadd y Ddinas Caerdydd - gyda thrên arbennig. Bu yn gweithio yn ffatrïoedd eraill KB hefyd e.e. yn Brighton - math o brofiad gwaith. Bu’n gweithio hefyd mewn ffatri dillad wedi’u gwau yng Nghaerlŷr am 5 mlynedd a bu’n rhedeg tafarn hefyd.

VSW069 Carol Price, Calsonic Kansei, Felin-foel, Llanelli;Llanelli Radiators, Felin-foel, Llanelli;Morris Motors, Felin-foel, Llanelli

Roedd Carol yn 16 oed pan ddechreuodd weithio yn Morris Motors, Felin-foel, Llanelli yn 1966. Enillai £6 yr wythnos a theimlai ei bod yn filiwnydd. Gweithiodd yn y ffatri am 37 mlynedd nes ei bod yn 53 mlwydd oed. Ar y dechrau gweithiai ar lawr y ffatri yn cydosod rheiddiaduron copr-pres ar gyfer ceir Mini, Maxi a Marina. Pan adawodd yn 2003 roedd yn profi systemau oeri olew ceir Audi i gwmni Calconic Kansei. Gweithiodd Carol yn yr un ffatri i Morris Motors, Llanelli Radiators (1987) a Calsonic Kansei (1989-)
Llawr ffatri Moris Motors yn dangos cydosod rheiddiaduron copr-pres; tua 1970. Mae Carol Price yn yr ail res mewn sbectol.
Gweithwyr ar lawr ffatri Morris Motors yn cydosod rheiddiaduron.
Gweithwyr ar lawr ffatri Morris Motors yn cydosod rheiddiaduron.
Parti gadael un o'r gweithwyr yn Morris Motors yn yr wythdegau. Ar flaen y llun gwelwn jig - câi'r copr-pres ei osod yn hwn i greu rheiddiadur. 
 
Gweithwyr yn gweithio system newydd o gydosod yn ffatri cwmni Calsonic Kansei yn 1995; gweler yr hetiau Jac yr Undeb i goffáu hanner canmlwyddiant ers diwedd yr Ail Ryfel Byd. 
Carol Price yn profi oerydd olew y car Audi mewn rhan wahanol o ffatri Calsonic Kansei yn 2003. Os byddai'r profwr yn troi'n las golygai fod yr oerydd wedi pasio'r prawf.

VSE070 Michele Ryan, Ffatri wydr, Caerdydd

Gweithiodd Michele yn y ffatri yn ystod ei blwyddyn gyntaf yn y brifysgol (tua1969-70). Y gaeaf oedd hi ac roedd mewn sied frics â llawer o ffenestri wedi torri. Gwisgai fenig i symud y platiau gwydr o gwmpas. Roedd awydd arni i fod yn rhan o fywyd y dosbarth gweithiol. Roedd gan y menywod (30-40% o’r gweithlu) ddulliau i reoli’r lle a’r dynion yno. Noda fod Caerdydd yn yr 1960au yn dref ddiwydiannol a gweithgynhyrchu. Roedd y menywod yn ‘Bolshie’ - disgrifia ddefod derbyn un dyn ifanc i’r gwaith (pinsio a chythru amdano). Roedd hyn yn sicrhau na fyddai'r menywod yn cael eu dibrisio na'u herio. Gwaith gwahanol i’r dynion a’r menywod. Teimlai na châi’r menywod weithio ar y peiriannau - tâl uwch am hynny. Pan oedd yn y brifysgol, fel ffeminydd adain chwith, gwerthai gopïau o 'Women’s Voice' a’r 'Socialist Worker' y tu allan i Ffatri deledu Baird’s yn Bradford. Ar ôl y rhyfel buddsoddodd menywod lawer i gadw hunan-falchder y dynion - derbyniai menywod eu ffawd. Cyfleusterau amrwd. Arhosodd yno am rai wythnosau. Roedd rhyw ymdeimlad o berthyn yno. Noda sbeit rhai menywod ond hefyd eu haelioni a’u cefnogaeth dorfol. Nid oedd gweithwyr ffatri Caerdydd yn wleidyddol iawn.

VSE071 Veronica (Vera) Diane Lena Battle, Ffatri Sigarau JR Freeman, Caerdydd;Ffatri ddillad Ralph Mathers, Caerdydd;Ffatri ddillad, Caerdydd

Roedd tad Vera yn gerddor jazz adnabyddus - amlinella’i chefndir a’i yrfa ef. Gadawodd Vera yr ysgol yn 14oed (1948) a dechreuodd yn y ffatri wnïo, yn gwnïo botymau a chynfas yn llabedi siacedi’r dynion. Symudodd i’r ffatri sigarau yn Clive Street, y trip blynyddol i Lundain. Byddai’n mynd â’r sigarau i lawr i’r llawr isaf i sychu. Oherwydd i’r ffatri symud i Heol Penarth aeth hi i weithio mewn ffatri deilwra yn gwneud dillad i fenywod. Roedd hi ar y peiriant 'overlocker' a gwneud tyllau botymau. Roedden nhw’n canu. Roedd llawer o ferched o wlad Groeg yno. Enwa’i chydweithwyr. Câi ddillad wedi’u gwneud i’w merched yno. Rhain oedd y teilwriaid gorau meddai. Symudodd i Toulouse gyda’i darpar-ŵr ond dychwelodd hi i Gaerdydd ac aeth ef adre i America. Roedd hi’n ddawnswraig hefyd a pherfformiodd yn y corws mewn sioe Negro Americanaidd ac aeth ar daith (Llundain, yr Alban a.y.y.b.). Mae wedi gweithio mewn ysgol gynradd hefyd.

VSE072 Marguerite Barber, Polythene Factory, Cardiff;Stamina, Caerdydd

Gadawodd Marguerite yr ysgol yn 15oed (1958) a dechrau yn Ffatri Stamina, yn gwnïo botymau a bachau a thyllau botymau ar oferôls. Dillad gwaith diwydiannol oedd y rhain. Rhaid gofyn caniatâd i fynd i’r toiled. Arhosodd yno am lai na blwyddyn. Roedd y 'machinists' ar waith ar dasg ond doedd hi ddim. Prynodd gramoffon i’w weindio â llaw gyda’i harian. Symudodd i’r ffatri bolythen ac arhosodd yno am 9 mlynedd. Roedd yn selio bagiau - eu torri, eu selio a’u rhoi mewn bwndeli. Roedd hi fel teulu yno. Sonia am gondemnio’r tai yn Sgwâr Loudon yn Butetown. Cantîn ac un toiled. Cwynion am yr oerfel (roedd yn rhy boeth yn yr haf!) ond dim streiciau. Trip ar gwch unwaith y flwyddyn. Y diwrnod cyn y Nadolig âi pawb i’r dafarn am 12 o’r gloch. Gadawodd pan oedd 7 mis yn feichiog. Yn ddiweddarach bu’n forwyn mewn gwesty.

Administration