Pori'r cyfweliadau
Trefnwyd yn ôl cyfeirnod y cyfweliad
VN001 Cath Parry, Ackroyd & Sons, Bala
Roedd Cath yn gweithio yn ffatri Ackroyd's yn gwneud 'hems' ar gyfer y pyjamas, yn gyntaf yn y ffatri wreiddiol ar y Stryd Fawr yna yn yr adeilad newydd ar yr ystad ddiwydiannol. Dechreuodd yn y ffatri yn 1974 a chafodd ei gwneud yn ddi-waith yn 62 oed, pan newidiodd y ffatri i'w ffurf bresennol - h.y. yn mewnforio dillad o Tsieina ar gyfer eu dosbarthu yn y DU. Mae'n disgrifio'r gwaith fel proses o weithio gyda'r cloc: “O'r munud roedd wyth o'r gloch yn dod, roeddech yn gwnïo trwy'r adeg tan amser brêc. Pob peth yn mynd efo'r cloc. Roeddech chi'n gorfod gwneud saith deg pump o byjamas mewn hanner awr, a beth bynnag oedd eich job chi ar hwnnw, roedd rhaid i chi wneud e mewn hanner awr. Roedd tua chwech ohonon ni'n gweithio mewn rhes. Roedd un yn dechrau off, os oedd ei mashîn hi yn torri, roedden ni i gyd yn aros. Ond roedd rhaid i chi neud y saith deg pump yna bob hanner awr erbyn diwedd y dydd, neu roedd o eisiau gwbod pam.”VSE001 Rita Spinola (nee Stevens), Ffatri ledr Mr Spencer, Caerdydd;Horrock's, Caerdydd
Gadawodd Rita yr ysgol yn 15 (1954) a gweithiodd mewn londri tra’n aros am le yn Horrock’s. Y dasg gyntaf - gwnïo â llaw, yna’n machinist - gwneud rhan o ddilledyn. Roeddent yn gwneud ffrogiau â sgerti llawn a gynau tŷ. Bywyd cymdeithasol; canu gyda’r radio. Roedd y torwyr a’r pacwyr yn fenywod hefyd. Caeodd y ffatri tua 1958/9. Agwedd at waith ffatri. Arwerthiannau o gynhyrchion eraill Horrock’s hefyd. Undeb - y tymheredd yn y ffatri. Nodwydd drwy’r bys. Gweithiai Lorna Lesley (cantores - enw llwyfan Irene Spetti, gwraig David Dickinson) yno. Symudodd i’r ffatri ledr - 2/3 peiriant gwnïo yno yn gwneud bagiau ysgol a.y.b. Rhoi olew ar beiriannau - cael impetigo, diffyg glendid a dim cyfleusterau. Dim hwyl yno. Arhosodd 18 mis ac yna aeth i’r Almaen gyda’i gŵr. Cafodd hi blentyn. Dychwelodd a gweithiodd yn ysgol St Paul’s fel menyw ginio am 38 mlynedd.VSW001 Moira Morris, Anglo-Celtic Watch Co. Ltd. (inc. Smith's Industries ac Ingersoll aka 'Tic Toc'), Ystradgynlais;Ffatri Geir, Cae'r Bont
Dechreuodd Moira yn ffatri Tic Toc ar ôl gadael yr ysgol yn 15 oed (?1963). Ffatri Gymraeg iawn. Noda’r hyfforddiant; canu ar y gwaith; dal yr ‘eyeglass’ yn y llygad; targedi; a‘r straen ar y llygad i wneud wats menyw. Gadawodd i gael y plant (c.1970) ond dychwelodd i weithio ar watshys poced dynion. Yna bu’n gwneud clociau ceir yn Enfield. Yn Tic Toc - doedd dim llwch a gwisgent esgidiau rwber. Dynion oedd ar ‘inspection’ a bechgyn oedd yn brentisiaid. Sonia am chwarae triciau ar ferched a bechgyn oedd yn priodi ac ar ferched newydd, gwisgo rolyrs i fynd allan nos Wener. Dyma ‘yr ysgol ore’. Roedd Clwb yn trefnu tripiau, partïon Nadolig i’r plant, a chystadleuaeth Miss Tic Toc. Glanhau popeth pan fyddai’r rheolwr yn dod o amgylch. Symudodd i ffatri clociau ceir yng Nghae’r Bont wedyn (?1985) - gwaith mwy brwnt. Bu hi yno 28 mlynedd.Mae rhan o'r cyfweliad hwn ar gael fel ffeil sain
VN002 Morfydd (Mo) Lewis, Laura Ashley, Carno
Roedd Mo Lewis a'i chwaer Rosina yn ddwy o beirianwyr gwnïo cyntaf Laura Ashley. Gweithiodd Mo yn gyntaf yn Cardwells ym Machynlleth, yn gwnïo i Marks and Spencers, a symudodd i Garno pan oedd yn 16 oed i weithio yn Laura Ashley. Bu'n gweithio yn y ffatri wreiddiol ac yna yn yr un newydd, cyn symud i Ogledd Cymru yn 1978. Mae'n disgrifio'r ffatri fel lle teuluol, er yn 'basic' iawn yn y dyddiau cynnar, gyda'r tegell drws nesaf i'r tŷ bach, ac roedd rhaid i'r gweithwyr wneud pob peth, hyd yn oed glanhau. Dywedodd y gallai gymryd tipyn o amser i gael ffrog yn iawn, gyda sawl tro cyn i'r dylunio ddod yn berffaith. Cafodd hi a'i gŵr gyfle i brynu un o'r tai newydd roedd Bernard Ashley wedi eu hadeiladu i'r gweithwyr. Mae Mo bob amser wedi gwneud gwaith gwnïo hyd at heddiw, yn gweithio gartref nawr ei bod wedi ymddeol.VSE002 Sonia Gould, Smith's, Rhymni;Clifford Williams, Tredegar;Denex, Tredegar;Harvey's, Tredegar
Roedd tad (trydanwr) a mam ('machinist') Sonia yn gweithio yn Denex. Cael pre-ffab ger y ffatri i fyw ynddo. Gadawodd hi’r ysgol yn 15 oed (1956), roedd ei thad wedi’i dysgu i ddefnyddio’r peiriannau ar foreau Sadwrn. Cafodd swydd yn y ffatri ond gwrthwynebodd yr Undeb - roedd y ffatri’n diswyddo gweithwyr. Aeth adre ond nôl yno mewn 6 wythnos. Llawer o streiciau ac un cloi allan. Yfed ar y Nadolig ac addurniadau. Dechreuodd ar wneud clytiau, ymlaen i dyllau botymau. Gwneud dillad plant > yna Harvey’s, cotiau dyffl> yna a Clifford Wiilaims and Son. Gweithio yn Smiths, Rhymni ond rhy strict. Denex- gweithwyr yn dwyn darnau o siacedi i wnïo pilyn gartre a riliau cotwm. Llawer o fflwff yno. Radio a chwaraewr recordiau a chanu. Os yn priodi eich clymu at eich peiriant. Cwlwm fel chwiorydd rhyngddynt. Tyllu ei chlustiau yn y toiled. Gadawodd pan yn feichiog. Gallai wneud pob tasg yno. Roedd torri â’r gyllell fawr yn beryglus - gwaith dyn. Bywyd cymdeithasol: dawnsfeydd, cinio ’r plant a charnifal - fflôt 'Rag Trade', a gwneud sioe. Undeb y Tailor and Garment Workers - bathodyn â siswrn arno. Ysmygu’n eistedd yn y toiled. Nodwydd trwy ei bys. Gweithiodd ei mam tan yn 80 oed yn Denex ac wedyn LCR Components. Aduniad merched Denex- cwtsho. Ysgrifennu ‘I Love Elvis’ lawr coes trowsus.VSW002 Elizabeth Mary "May" Lewis, Modern Folding Doors, y Tymbl;Morris Motors, Felinfoel Llanelli
Er iddi basio i'r ysgol ramadeg, aeth May ddim yno ond gadawodd yr ysgol yn 14 oed (1938). Dysgodd grefft gwn?o. Adeg y rhyfel aeth i weithio i Morris Motors (c.1940-5) - arian da am wneud rheiddiaduron ceir. Gweithio ar fore Sadwrn 'yn gwrlin pins i gyd!' Roedd y goruchwylwyr yn strict iawn - dim siarad. Gofyn caniatd y rheolwyr i adael i briodi. Priododd a gadawodd. Yn Morris Motors y dechreuodd wisgo trowser. Dim bath yn y t?. Hwyl amser Nadolig. Bu'n siop Hadfields (c.1958) yn gwneud cyrtens wedyn. Symudodd i ffatri Tymbl tua 1965 (tan 1968?) - oedd yn gwneud drysau yn plygu, roedd hi ar y peiriant yn stitsho'r drysau. Undeb a damwain yno. Ei gwr yn lwr - collodd ei goes. Diswyddo o Ffatri Tymbl. Sn am ei gwrdd ei g?r a'i bywyd priodasol.VN003 Yvonne Stevens, Ffatri deganau B.S.Bacon, Llanrwst;Dolgarrog Aluminium, Dolgarrog;Hotpoint, Llandudno;Danline, Llanrwst
Gweithiodd Yvonne yn y ffatri deganau yn Llanrwst ar ôl gadael yr ysgol yn 15 oed, lle bu'n paentio teganau pren. Roedd hi un o'r ifancaf ac roedd yn gweithio efo dwy fenyw hŷn ac roedd yn eu galw yn Anti Lena ac Anti Martha. Roedd hi'n hoffi'r teganau, wedi'u gwneud o bren, pethau fel tai doliau, garejys, a ffermydd, ond doedd hi byth yn gallu eu fforddio nhw. Roedd hi'n mwynhau gweithio yno ond roedd eisiau ennill mwy o arian, felly gadawodd y ffatri am swydd yn Nolgarrog fel 'inspector', yn gwirio'r alwminiwm am ddiffygion. Roedden nhw'n gwneud darnau o alwminiwm ar gyfer llawer o bethau, o sosbanau i doeau. Roedd y lle yn enfawr, gyda dros fil o weithwyr, ac roedd hi'n dal y bws yno o Lanrwst. Cyfarfu â'i gŵr Mark yn y ffatri a bu yno nes i'w mab gael ei eni ddwy flynedd ar ôl priodi. Aeth hi fyth yn ôl i waith ffatri, ond i waith glanhau.VSE003 Maureen Jones, Creeds, Trefforest;Corona, Porth;Swiss Embroidery, Rhondda
Gadawodd Maureen yr ysgol yn 15 oed (1955) a dechreuodd weithio yn Swiss Embroidery. Cael sac os yn siarad a dim ond wythnos y bu yno. Symud i Ffatri Welsh Hills Works Corona Pop. Gwisgo clocs oherwydd y gwydr toredig – roedd eu sŵn yn nodi gweithwyr Corona. Disgrifia’r broses ac fel y ffrwydrai rhai poteli. Gwneud syrop o siwgr- gorfod gwthio whilberi. Gwaith caled. Gwneud sgwash hefyd. Roeddent yn cael briwiau ‘anghredadwy’. Canu. Dychwelyd potel bop i gael arian. Gorffen yno yn 1959. Roedd cafn i olchi poteli. Blasau gwahanol. Yn oer iawn yn y gaeaf – poteli oer. Yn delifro Smiths Crisps hefyd. Bywyd cymdeithasol: YMCA; pictiwrs a dawnsfeydd. Siopau dillad y Porth. Golchi dwylo mewn soda costig cyn dawns y ffatri yn Bindles, Y Barri. Gadael am na châi ganiatâd i fynd i briodas ei chwaer. Cafodd ei chwaer swydd iddi yn ffatri sanau Bellito’s yn St Alban’s. Dychwelodd i weithio yn Creeds, Ystad Trefforest (tua1960-63), yn gwneud capstanau, gwynt ofnadwy. Roedd ar y llinell gynhyrchu. Rhuthr am y bysys ar ôl gwaith. Roedd ei gŵr yn gweithio yno hefyd. Ffatri boeth iawn.Mae rhan o'r cyfweliad hwn ar gael fel ffeil sain